Cart Achau (i’r teulu)

Arbrawf i gyflwyno Cart Achau ar gyfer y teuluoedd ‘rwy’n gysylltiedig â hwynt. (Fel y gwelir, nid yw’r isod yn gyflawn. Croesawir derbyn ychwanegiadau a chywiriadau !)

Dosbarthir isod yn ôl “enwau teulu” cenhedlaeth fy hen-hen-hen deidiau (geni tua 1800). Bras yw’r disgrifiad daearyddol. Y dyddiad yw dyddiad priodas y ferch gyntaf yn y llinach (ac, felly colli’r “enw teulu”).

Mae gennyf wefan ddata ar Ancestry.com o’r enw Achres Morgan (ar ddechrau 2023 mae bron 1900 o enwau arno).