Cymdeithas Wyddonol Gwynedd

Gwybodaeth am weithgareddau Cymdeithas Wyddonol Gwynedd

Sefydlwyd y Gymdeithas ym Mangor yn yr 1970au, fel un o rwydwaith cysylltiedig Y Gymdeithas Wyddonol Genedlaethol. Cynhaliwyd cyfarfodydd (cyflwyniadau llafar yn bennaf) yn ddi-dor ers bron i hanner can mlynedd. Diben y gymdeithas yw diddanu, addysgu a hyrwyddo gwyddoniaeth, technoleg, mathemateg ac ati trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae aelodaeth yn agored i bawb, ac er bod tâl aelodaeth, mae croeso i unrhyw un ddod i gyfarfodydd unigol am ddim i’w profi.

Cynhelir y cyfarfodydd am 7.30 ar ail nos Lun pob mis trwy dymor y gaeaf (Hydref-Mawrth). Ers sawl blwyddyn fe’u cynhelir yn Ystafell 1.07 Canolfan Bedwyr (Neuadd Dyfrdwy), Ffordd y Coleg, Bangor LL57 2DG.

Fel arfer mae cyfle i aelodau o’r Gymdeithas ymuno a’r siaradwr dros bryd o fwyd ym Mwyty 1884 y Brifysgol am 6.00 cyn y cyflwyniad. Os hoffech ddod, cysylltwch â’r Ysgrifennydd o flaen llaw er mwyn iddo archebu lle, os gwelwch yn dda. (Byddwch yn barod i fynegi’ch dewis ( bwydlen Bwyty 1884 ) er mwyn osgoi oedi ar y noson.)

Bwriedir darlledu ein cyflwyniadau trwy Microsoft Teams. Os hoffech ymuno felly, cysylltwch â’r Ysgrifennydd am y manylion cysylltu. Y bwriad yw agor y cyswllt am 7.00 cyn cychwn bob cyflwyniad.

Tal aelodaeth (2026-27). Cyffredin £10. Myfyrwyr am ddim. (Croesewir, am ddim, ymweliadau unigol.)

Ffurflen Ymaelodi a manylion BACS

Tudalen Facebook


Rhaglen 2026-27

Hydref 12 2026 (7.30)
Gethin Davies (Uwch Rheolwr Prosiect Coedwigoedd Glaw LIFE, Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri). “Ein Coedwigoedd Glaw Tymherus – trysor genedlaethol Cymru”

Tachwedd 9 2026 (7.30)
Gareth Evans (Pennaeth Mathemateg, Ysgol y Creuddyn). Trafod agweddau o ddysgu mathemateg (teitl i ddilyn).

Rhagfyr 14 2026 (7.30)
I’w drefnu.

Ionawr 11 2027 (7.30)
I’w drefnu.

Chwefror 8 2027 (7.30)
Marc Williams (Cymrodor y Gymdeithas Frenhinol, Bangor). Trafod ei ymchwil i bioleg celloedd cancr (teitl i ddilyn). 

Mawrth 8 2027 (7.30)
I’w drefnu.

Ebrill 2027
Gwibdaith wyddonol i’w drefnu. 

Swyddogion (2025-26)
Cadeirydd: Gareth Tilsley
Trysorydd: Hywel Madog Jones
Ysgrifennydd: Deri Tomos (01248 601176, a.d.tomos@bangor.ac.uk)


Archif ag Eraill
Detholiad o gyn-gyflwyniadau
Cysylltiadau o ddiddordeb gwyddonol 


Diweddarwyd 17/7/26