Roeddwn wedi llwyr anghofio ei bod yn ddiwedd degawd nes imi dderbyn galwad gan dîm Rhaglen Aled Hughes Radio Cymru. Nic Parry fyddai yn y gadair (31/12/19) ac a fyddai gennyf ddiddordeb adolygu gwyddoniaeth y cyfnod. Fflachiodd cwpwl o atgofion i’m cof a chytunais heb feddwl mwy. Dyma gefndir a manylion yr hyn a drafodwyd (neu y bwriadwyd eu trafod !)
Nid yw’n adolygiad academaidd o’r ddeng mlynedd rhwng Ionawr 2010 a Rhagfyr 2019, ond dyma ambell ddarganfyddiad a hanesyn na fyddaf i yn ei anghofio. Ambell un yn garreg filltir yn hanes ein gwareiddiad – ambell un yn dic yn rhestr ddiderfyn y “pethau bach” diddorol.
Bioleg
Bywyd o diwb prawf. Cychwynnodd y ddegawd gyda chyhoeddiad yr aml-miliwnydd a seleb o wyddonydd, Craig Venter, ym mis Mai 2010, bod ei dîm wedi llwyddo i ail greu bywyd yn y labordy. Ers darganfyddiad strwythur a phwysigrwydd y moleciwl DNA i etifeddiaeth yn 1953 gan Francis Crick a James Watson, bu chwyldro llwyr yn nealltwriaeth dynoliaeth am natur faterol bywyd – gyda’r moleciwl hynod hwn yn graidd iddo. Ffaith allweddol yw bod popeth byw heddiw yn rhannu’r un iaith DNA – ac felly yn ddisgynyddion uniongyrchol a di-dor o un creadur byw ryw bedair mil miliwn o flynyddoedd yn ôl, yn fuan iawn ar ôl ymddangosiad bywyd ar y ddaear. Dros y biliynau o flynyddoedd roedd DNA epil popeth yn rhodd gan ei riant neu rieni. Ers 1953 rydym wedi dysgu darllen, ac yna ysgrifennu mewn iaith y molecylau DNA yma. Camp Venter a’i dîm oedd darllen DNA bacteriwm o’r enw Mycoplasma mycoides, tua miliwn o lythrennau côd o hyd, ac yna ei ailgreu o gemegolion yn y labordy – heb gymorth “rhieni”. Er mwyn dipyn o hwyl ychwanegodd rannau megis enwau’r holl gydweithwyr ac ambell ddywediad a dyfyniad – ynghyd â geiriadur bach i alluogi mynegi’r rhain yn iaith DNA. Bu rhaid i Venter ddefnyddio “corff” bacteriwm arall (Mycoplasma capricolum) a oedd wedi’i amddifadu o’i DNA i “ddarllen” y DNA, a gellir dadlau mai dim ond hanner y gamp o greu yn unig a wnaeth Venter. I mi hollti blew yw hyn. Yn 2010 goddiweddwyd carreg filltir symbolaidd iawn yn hanes dynoliaeth.
Ers hynny aethpwyd ati i weld pa rannau o’r DNA sy’n hanfodol i gynnal bywyd. Erbyn 2016 mireiniwyd hyn i 473 o enynnau (ryw hanner miliwn llythyren côd) ac aethpwyd ati greu fersiwn artiffisial o DNA burum. Er mor syml yw burum, mae ei gelloedd a’i gromosomau yn llawer tebycach nag yw rhai Mycoplasma, i’n rhai ni. Y nod yw creu systemau artiffisial neu lled-artiffisial i greu sylweddau o bwys i feddygaeth – megis antibiotigion a thriniaethau newydd eraill.
Newid gêr ym myd Bio-Feddygaeth. Er mwyn darllen ac ysgrifennu DNA bu rhaid dysgu pob math o sgiliau cemegol newydd. Dysgu defnyddio triciau molecylau megis proteinau naturiol celloedd. (Enghraifft mewn maes ychydig yn wahanol yw defnyddio proteinau wedi’u puro o ffwng i alluogi golchi dillad ar dymheredd isel – glanedydd “bio”.) Mewn natur, mae taro DNA eich gelyn yn aml yn dacteg effeithiol mewn amddiffyn ac ymosod. O ymfrwydro rhengoedd natur, felly, y daeth nifer sylweddol o sgiliau hanfodol yr oes. Un o’r rhain yw manteisio ar sut mae bacteria yn amddiffyn eu hunain rhag ymosodiadau firysau (bacterioffagau). Yn 2007 y cyhoeddwyd darganfod darnau CRISPR yn DNA y rhan fwyaf o facteria. Erbyn 2015 ‘roedd broses syml ac effeithion wedi’i dyfeisio i olygu DNA pob math o bethau byw trwy ddefnyddio CRISPR. Bob mis bellach, cyhoeddir cam biofeddygol yn sgil hyn. Mae’n anochel bod hyn yr arwain at gwestiynau moesol – dim llai na’r hyn a ddaeth yn
sgil cyhoeddi defnyddio CRISPR ar embryonau dynol. Yn 2015 bu hyn o fewn terfynau cydsyniadau rhyngwladol gan na ddaethpwyd a’r embryonau i dymor. Ond yn Nhachwedd 2018 cyhoeddwyd geni dwy ferch fach yn Shenzhen a oedd yn gynnyrch addasu CRISPR. [Ar ddechrau 2020 anfonwyd He Jiankui i garchar am dair blynedd am ei ran yn y digwyddiad hwn, ac fe’i dirwywyd tair miliwn yuan (£329,000).]
DNA ac archaeoleg. Mae’n debyg i nifer ohonoch dderbyn anrheg “profi DNA’r teulu” dros y blynyddoedd diwethaf. Mae darllen a defnyddio dilyniant y moleciwl o ddau berson yn fodd cyflym i weld pa mor agos y maent yn perthyn. Mae cyflymder a chost y broses wedi troi bron yn ddim dros y degawd, gyda nifer o gwmnïau yn cynnig y gwasanaeth. Ym myd meddygaeth mae bellach yn ymarferol darllen dilyniant DNA babi newydd anedig dros nos er mwyn adnabod anhwylderau etifeddol. Ond dau hanesyn o fyd archaeoleg a aeth â’m mryd yn ystod y ddegawd. Er nad ydy DNA yn foleciwl arbennig o sad (fel arfer yn diflanni mewn ychydig flynyddoedd mewn pridd), o dan amgylchiadau arbennig mae modd i ddarnau ohono oroesi miloedd o flynyddoedd. Ers 1984, bu modd defnyddio’r wybodaeth hon i hyrwyddo darganfyddiadau archeolegol. Rydym yn bell, bell, o efelychu ffug wyddoniaeth Jurassic Park (dros 60 miliwn o flynyddoedd yn ôl.) Y “record” oedran ar hyn o bryd yw DNA ceffyl o asgwrn ryw hanner miliwn o flynyddoedd oed. Ond o edrych ar hanes dynoliaeth, mae hyn yn ddefnyddiol iawn, gan nad yw ein rhywogaeth fawr mwy na chwarter miliwn o flynyddoedd oed. (Er, yn 2017, estynnwyd amgangyfrif oedran dynoliaeth yn sylweddol wrth ganfod olion hynaf Homo sapiens mewn casgliad o esgyrn o Foroco. Tybir eu bod dros 300,000 oed.)
Yr hanes cyntaf oedd darganfod “cefnder” newydd inni wrth ddadansoddi darn bychan o asgwrn pen bys merch ifanc o ogof ym mynyddoedd yr Altai. Ers canol y bedwaredd ganrif am bymtheg (1856) bu’n hysbys y bu pobl ddiffiniedig (ers rhyw 40,000 bl) “Neanderthal” yn perthyn yn agos atom. Rydym yn rhannu’r un genws (Homo) ond nid yr un rhywogaeth (sapiens a neanderthalensis). Yn 2010, dadansoddwyd DNA neanderthalensis yn llwyr a darganfod eu bod wedi cydfridio â sapiens dros y milflwyddi, fel bod 1-4% o DNA Ewropeaid heddiw yn deillio o’r priodasau hyn. Yn 2010, hefyd, yn Siberia cyhoeddwyd darganfod yr asgwrn bys mewn ogof a oedd wedi bod yn gartref i sapiens a neanderthalis. Ond wrth ddadansoddi’r DNA gwelwyd mai rhywogaeth newydd oedd yma. O’r DNA rydym yn gwybod eu bod yn bur gyffredin hyd at ryw 10,000 yn ôl pan ddiflanasant. Fersiwn Asia o’r Neanderthal ydynt. Nid ydym eto wedi darganfod digon o esgyrn ohonynt i’w disgrifio yn ffisegol (neu cytuno ar enw swyddogol). Er hynny, gwyddom gymaint am eu bywydau bob dydd o’r DNA yn unig. Gan gynnwys gwybod eu bod wedi cydfridio â Homo sapiens cynnar. Mae tua 2% o DNA pobl Asia heddiw yn disgyn ohonynt (fel mae tua 2% o’n DNA ni, Ewropeaid, yn tarddu o’r Neanderthal – gan gynnwys darnau pwysig iawn i’n hiechyd.) Hyd yn hyn cyfeirir atynt fel y Denisovaid – ar ôl enw’r ogof lle’u darganfuwyd. Rydym yn araf ddysgu gryn dipyn amdanynt o’r DNA, gan gynnwys eu bod hwythau wedi “cyd-briodi” a sapiens Dwyrain Asia hyd at ryw 15,000 o flynyddoedd yn ôl.
Dyma’r cyfnod arwyddocaol iawn i’m hail hanesyn DNA archeolegol. Bu dadlau ers canrifoedd (ee. stori Madog, Kon Tiki ag ati ) am darddiad brodorion America. Afraid dweud bod hilgasedd a thraha’r dyn gwyn wedi lliwio hyn yn arw. Rhaid oedd mai “gwaed gwyn” oedd yn gyfrifol am unrhyw beth o werth cyn amser Columbus. Dros yr 20 mlynedd diwethaf, wrth i bobloedd Ewrop fanylu ar eu hanes trwy ddefnyddio DNA, bu’r dyn coch yn (ddealladwy) amheus iawn i gydweithio. Yn wir, bu o leiaf un enghraifft o’r uchel lys yn dyfarnu o blaid gwyddonwyr y Smithsonian yn Washington yn erbyn brodorion a oedd yn mynnu adfer sgerbydau eu cyndeidiau i’w beddi. Ond dros y degawd llesteiriwyd ychydig ar hyn. O’r diwedd yn 2018 cronnwyd y wybodaeth greiddiol mewn par o bapurau sydd yn ateb y cwestiwn unwaith ac am byth. O Siberia y daeth holl DNA brodorion De a Gogledd America – gan ledaenu trwy’r cyfandir hyd at Tierra adel Fuego, yn rhyfedd o sydyn ryw 13,000 yn ôl. Gellir olrhain eu cyndadau a mamau yn ôl i ardal llyn Baikal ym Mongolia – nepell o Ogof Denisova – ryw 30,000 o flynyddoedd yn ôl.
Ffiseg a Seryddiaeth
Yn ystod y ddegawd datryswyd sawl cwestiwn o bwys hanesyddol ym myd Ffiseg a Chosmoleg ddamcaniaethol. Cenedlaethau Galileo a Newton (bu Galileo farw yn yr un flwyddyn a geni Newton ar ddydd Nadolig 1642) a ddisgrifiodd ddisgyrchiant a màs (pwysau), a’u gosod yng nghanol ein disgrifiad o’r bydysawd. Dros y canrifoedd rhoddwyd esboniad i nifer gynyddol o ddeddfau natur – ond ni fu disgyrchiant a màs yn eu plith – hyd at y ddegawd ddiwethaf. Ar ddechrau’r ugeinfed ganrif datryswyd sawl dirgelwch wrth sylweddoli bod modd i ronynnau elfennol (er enghraifft y ffoton a’r electron) ymddwyn nid yn unig fel gronynnau (bwledi microsgopig) ond hefyd megis maes o donnau (ar wyneb llyn). Daeth ffiseg y cwantwm i fod (gw. llyfr Roland Wynne ar Evan James Williams am peth o’i hanes yn Gymraeg). Bu dyfalu brwd am fàs a disgyrchiant, ond nid oedd modd canfod ymddangosiad maes na gronyn yr un na’r llall. O’r diwedd bu modd adeiladu offer enfawr a chymhleth i gyflawni’r dyhead. Yn 2012, yn CERN Genefa (o dan arweiniad Lyn Evans o Aberdâr) canfuwyd gronyn a oedd yn cyfateb i’r tonnau sy’n rhoi màs i bopeth yn y bydysawd. Fe’i henwyd Boson Higgs, ar ôl y gwyddonydd Peter Higgs, a oedd wedi eu darogan flynyddoedd ynghynt. Am ryw reswm fe’i bedyddiwyd yn “Ronyn Duw” gan y wasg boblogaidd, fel petai pwysau rhywbeth yn fwy dwyfol na’i holl briodoleddau eraill !
Ddwy flynedd yn ddiweddarach syrthiodd disgyrchiant i grafangau’r gwyddonydd wrth i arsyllfa laser LIGO fesur tonnau disgyrchedd ym meinwe’r gofod am y tro cyntaf. Er mor holl bresennol, a grymus ar raddfa gosmolegol, roedd mesur y tonnau ar y ddaear yn gamp aruthrol. Crëwyd y tonnau a welwyd (a barodd ychydig dros 0.2 eiliad) gan ddau dwll du anferth yn cyd-daro (1.4 biliwn o flynyddoedd yn ôl) ac effaith y gwrthdrawiad oedd i’r bydysawd ganu fel cloch – yn 2014 “clywyd” sŵn y gloch honno gan LIGO. Nid profi bodolaeth tonnau disgyrchedd oedd unig ganlyniad yr arsylliad. Hwn oedd y prawf ymarferol cyntaf o fodolaeth Tyllau Duon. Damcaniaethol yn unig oeddynt cyn hynny, er gwaethaf holl enwogrwydd Stephen Hawking am ei waith arnynt. Priodol iawn felly, oedd cyhoeddi llun uniongyrchol Twll Du am y tro cyntaf yn 2019. (Gyda mathemategydd o ferch, Katie Bouman, yn chwarae rhan allweddol yn y gamp.) O’r diwedd roedd dynoliaeth wedi profi a gweld llun un o ryfeddodau’r bydysawd.
Yn 1964 cyhoeddwyd “I’r Lleuad a Thu Hwnt” gan y ffisegydd Eirwen Gwynn. Yn y gyfrol cafwyd catalog gwerthfawr o ddarganfyddiadau dau ddegawd gyntaf dynoliaeth yn mentro i’r gofod. Beth, tybed, byddai Eirwen wedi ei feddwl am y ddegawd ddiwethaf a fu’n llawn o bob math o ddarganfyddiadau a cherrig filltir hanesyddol ?
Yn 2012 dyfarnwyd bod y lloeren Voyager 1 wedi gadael cyfundrefn yr haul – y gwrthrych dynol cyntaf i wneud hynny. Fe’i lansiwyd, gyda’i chwaer Voyager 2 (sydd hefyd, bellach, wedi gadael cyfundrefn yr haul) yn 1977 – tra oedd Eirwen Gwyn yn dal i ddisgrifio gwyddoniaeth yn y wasg Gymraeg. Bydd Voyager 1 yn dal i ddarlledu o’r gofod rhwng y sêr tan 2025. Dyma’r gwrthrychau “dynol” pellaf sy’n bod.
Fel ryw fath o ddrych i hyn, yn 2017 canfuwyd y gwrthrych gyntaf i ymweld â chyfundrefn yr haul o’r gofod rhwng y sêr. Fe’i bedyddiwyd yn ʻOumuamua (“Y negesydd gyntaf o bell”, yn iaith Hawaii)) – ac aeth y portread artistig (dychmygol) ohoni yn “firal”. Roedd ʻOumuamua yn prysur adael ein parthau am byth ers ei darganfod, ac ychydig a ddysgwyd amdani. Erbyn 2019, ‘roedd y byd seryddol yn fwy effro. Gwelwyd yr ail ymwelydd o du hwnt i’r sêr mewn pryd i’w ddilyn. Pasiodd comed Borisov (sy’n tua 14 gwaith maint y ddaear – er rhaid defnyddio telesgop i’w gweld) ar ei agosaf i’r haul (ger y blaned Mawrth) ar Ragfyr 8, 2019. Bydd modd dysgu cryn dipyn ohono cyn iddi hithau, hefyd, diflannu am byth i’r pellteroedd mawr.
Ni fentrodd yr un dyn, na dynes, y tu hwnt i’r Orsaf Ofod Ryngwladol – ryw gwta 250 milltir o wyneb y ddaear – yn ystod y degawd. O’r herwydd, efallai ni fu cymaint o ddiddordeb yn y gofod ag y bu ar ôl i Neil Armstrong a Buzz Aldrin droedio’n Chwaer Ddaearen 50 mlynedd yn ôl i eleni. Ond mae darganfyddiadau’r robotiaid gofod o nifer o wledydd dros y ddegawd wedi bod yn aruthrol. I mi, degawd llongau gofod Cassini a Kepler oedd hi – er rhaid cyfaddef y bu i’r ddau fentro i’r gofod cyn 2010. Ond o 2004 hyd at eu “marwolaeth” yn 2017 bu arsylliadau Cassini o’r blaned Sadwrn a’i lleuadau yn rhyfeddol. Y disgwyl oedd i Cassini fethu tua 2008 – ond bu rhaid ymestyn ei thymor ddwywaith. Arweiniodd un o’r darganfyddiadau yn uniongyrchol i’w diwedd dramatig. Ar wyneb y lleuad Enceladws gwelwyd “geysers” yn codi trwy gramen rhewlyn y lleuad. Yn 2014 ‘roedd modd dweud bod moroedd hallt dyfrllyd yn bodoli o dan y gramen. Bellach ystyrir mai dyma un o’r llecynnau mwyaf tebygol ar gyfer darganfod bywyd yn y gofod. Yn Hydref 2015 llwyddwyd i lywio Cassini trwy un o’r geysers, ryw 30 milltir uwchben wyneb y lleuad. Gan ei bod yn wirioneddol bosibl y byddem yn darganfod bywyd ar Enceledus, pan ddaeth bywyd Cassini i ben yn 2017 fe’i hanelwyd at awyrgylch Sadwrn – i sicrhau y byddai unrhyw fywyd o’r ddaear a lechai ar ei bwrdd yn llosgi’n llwyr, cyn cael cyfle i “wladoli” yn y moroedd newydd.
Camp Kepler oedd casglu tystiolaeth am filoedd (cyfran fawr o’r 4104 ar Ionawr 3ydd 2020) o blanedau y tu hwnt i gyfundrefn “cyfarwydd” yr haul (ecsoblanedau). Dim ond yn 1992 (15 mlynedd ar ôl llwyddiant “Star Wars” a oedd yn cynnwys nifer ohonynt !!) daeth y sicrwydd bod y fath bethau’n bod. Bu Kepler ati yn casglu tystiolaeth rhwng Rhagfyr 2009 a Hydref 2018. Ers 2018 mae TESS (Transiting Exoplanet Survey Satellite) wedi cymryd ei le. Teg cofio’r hen delesgop gofod Hubble, sydd wedi bod yn ein cyfareddu â’i luniau ers 1990. Ei olynydd yntau, Telesgop Gofod James Webb, fydd yn difyrru dilynwyr y degawdau nesaf. Yn wreiddiol dyddiad lansio arfaethedig y telesgop rhyfeddol hwn oedd 2007. Mawrth 2021 yw’r dyddiad diweddaraf – methodd ein degawd yn llwyr !

Ar y cyfan gweithio’n llawer gwell na’r disgwyl fu hanes nifer o robotiaid y gofod. Bu Opportunity (chwith) crwydro’r blaned Mawrth o 2004 i Fehefin 2018 yn tynnu lluniau a gwneud mesuriadau, cyn iddi ddiflannu mewn storm o lwch anferth a orchuddiodd y rhan fwyaf o wyneb y blaned goch am fisoedd. Ers 2011 mae’r cerbyd sylweddol mwy Curiosity wedi bod yn “cario’r gwaith da ymlaen”.
Er i long ofod Rosetta cyflawni campau rhyfeddol wrth ymweld â’r gomed Churyumov-Gerasimenko yn 2014-16, hanes ei “phlentyn” Philae i yn glanio ar wyneb y gomed ddaliodd sylw’r byd. Ar ôl adlamu ar hyd wyneb y graig siâp hwyaden blastig, aeth Philae yn sownd mewn twll a methu ail-lenwi ei batris solar. Hen dro !
Yn 1968 cefais y profiad (anwyddonol ond anfarwol) o glywed Jimmi Hendrix a Pink Floyd yn perfformio yn neuadd Gerddi Sophia yng Nghaerdydd. Y gân gan Pink Floyd sy’n aros yn y cof ers y noson honno oedd “Set the controls for the heart of the sun”. Gwefr arbennig, felly, yw dilyn hynt un o robotiaid olaf y ddegawd. Nid yw Llong Ofod Haul Parker, a lansiwyd yn 2018 yn derbyn cymaint o sylw a’i rhagflaenwyr megis Cassini, ond dyma un o’r ychydig deithiau a wnaethpwyd erioed i’r haul – ffynhonnell ein holl egni. Yn 1976 aeth Helios 2 cyn agosed â 26.5 miliwn milltir at wyneb yr haul (mae’r ddaear yn 93 miliwn milltir oddi wrtho). Ym mis Hydref 2018, mewn un o gyfres o gylchoedd anferth o gwmpas ein seren (pob un o ryw 4 mis), cyrhaeddodd Parker 24.8 miliwn milltir – y gwrthrych dynol agosaf erioed i’r haul. Dros y pum mlynedd nesaf bydd y cylchedau yn dod â Parker yn agosach ac yn agosach, gan gyrraedd 4.3 miliwn milltir yn 2025.
Newid Hinsawdd. Pwnc y Degawd ?
Rydym yn byw mewn oes aur o ddarganfyddiadau. Rhai, megis, yr Higgs, Disgyrchedd a chreu bywyd artiffisial, yn gerrig filltir na fydd angen eu hailadrodd. Eraill, megis dyfeisio triniaeth am amddiffynfa effeithiol i’r clefyd AIDS yn 2011 yn ymatebion i angen arbennig dros dro. Yn yr ail gategori mae’n debyg, yw datblygiad pwysicaf (o safbwynt ymarferol dynoliaeth) ein hoes. Ers 2010 parhaodd y cynnydd yn ein dealltwriaeth o newid hinsawdd, yn arbennig, llaw dynoliaeth yn y broses. Yn 2014 cyhoeddwyd asesiad diweddaraf (y 5ed) yr IPCC o’r ymchwil, disgwylir y nesaf (6ed) yn 2022. Bu cryn newid agwedd yn dilyn asesiad 2014, gan arwain at Gytundeb Paris yn 2015. Cyhoeddodd yr IPCC (Panel Rhyngwladwriaethol Newid Hinsawdd y Cenhedloedd Unedig) gyfres o Adroddiadau Arbennig yn ystod y ddegawd (Ffynonellau Ynni Adnewyddol, 2012; Digwyddiadau Eithafol ac Argyfyngus, 2012; Cynhesu Byd o 1.5ºC, 2018; Tir, 2019; Moroedd a’r Cryosffêr, 2019). Yn anffodus araf iawn fu gwleidyddion byd i wireddu gobeithion y gynhadledd hanesyddol honno. Mae’n debyg iawn, ond nid yn anochel, mai araf iawn, hefyd, fydd datblygiadau llesol y ddegawd nesaf. Erbyn 2029 byddwn yn byw mewn byd pur wahanol a llai sefydlog.
Cyfeiriadau
Bywyd o tiwb prawf.
Daniel G. Gibson, John I. Glass, Carole Lartigue1 Vladimir N. Noskov1 Ray-Yuan Chuang, Mikkel A. Algire, Gwynedd A. Benders, Michael G. Montague, Li Ma, Monzia M. Moodie, Chuck Merryman, Sanjay Vashee, Radha Krishnakumar, Nacyra Assad-Garcia, Cynthia Andrews-Pfannkoch, Evgeniya A. Denisova, Lei Young1, Zhi-Qing Qi, Thomas H. Segall-Shapiro, Christopher H. Calvey, Prashanth P. Parmar, Clyde A. Hutchison III, Hamilton O. Smith, J. Craig Venter. (2010) Creation of a Bacterial Cell Controlled by a Chemically Synthesized Genome. Science 329 (5987) tud 52-56
CRISPR.
Rodolphe Barrangou, Christophe Fremau2, Hélène Deveau, Melissa Richards, Patrick Boyaval, Sylvain Moineau, Dennis A. Romero, Philippe Horvath. (2007) CRISPR Provides Acquired Resistance Against Viruses in Prokaryotes. Science 315 (5819) tud 1709-1712
Rose, Bruce I. a Brown, Samuel (2019). Genetically Modified Babies and a First Application of Clustered Regularly Interspaced Short Palindromic Repeats (CRISPR-Cas9)
Obstetrics & Gynecology: 134 (1) tud 157-162
DNA y Denisovaid.
David Reich, Richard E. Green, Martin Kircher, Johannes Krause, Nick Patterson, Eric Y. Durand, Bence Viola, Adrian W. Briggs, Udo Stenzel, Philip L. F. Johnson, Tomislav Maricic, Jeffrey M. Good, Tomas Marques-Bonet, Can Alkan, Qiaomei Fu, Swapan Mallick, Heng Li, Matthias Meyer, Evan E. Eichler, Mark Stoneking,
Michael Richards, Sahra Talamo, Michael V Shunkov, Anatoli P. Derevianko, Jean-Jacques Hublin, Janet Kelso, Montgomery Slatkin & Svante Paäbo. (2010). Genetic history of an archaic hominin group from Denisova Cave in Siberia. Nature 468 (1053) tud 1053–1060
DNA Neanderthal ynom ni.
Sankararaman S, Mallick S, Dannemann M, Prüfer K, Kelso J, Pääbo S, Patterson N, Reich D. (2014) The genomic landscape of Neanderthal ancestry in present-day humans. Nature 507 (7492) tud 354-7.
Brodorion yr Amerig.
Lizzie Wade (2018) Ancient DNA tracks migrations around Americas. Science 362 (6415) tud 627-628
Boson Higgs.
The CMS Collaboration (2012). Observation of a new boson at a mass of 125 GeV with the CMS experiment at the LHC Phys. Lett. B 716 (1) tud 30-61
Tonnau disgyrchedd.
B.P Abbott et al. (LIGO Scientific Collaboration and Virgo Collaboration) (2016) Observation of Gravitational Waves from a Binary Black Hole Merger. Physical Review Letters 116, 061102
Voyager 1.
S. M. Krimigis, R. B. Decker, E. C. Roelof, M. E. Hill, T. P. Armstrong, G. Gloeckler, D. C. Hamilton, L. J. Lanzerotti, (2013) Search for the Exit: Voyager 1 at Heliosphere’s Border with the Galaxy. Science 341 (6142) tud 144-147
‘Oumuamua.
Karen J. Meech, Robert Weryk, Marco Micheli, Jan T. Kleyna, Olivier R. Hainaut, Robert Jedicke, Richard J. Wainscoat, Kenneth C. Chambers, Jacqueline V. Keane, Andreea Petric, Larry Denneau, Eugene Magnier, Travis Berger, Mark E. Huber, Heather Flewelling, Chris Waters, Eva Schunova-Lilly & Serge Chastel (2017) A brief visit from a red and extremely elongated interstellar asteroid. Nature 552 tud 378-381
Cassini / Enceledws (engraifft).
Christopher R. Glein, John A. Baross, Hunter Waite Jr. (2015) The pH of Enceladus’ ocean. Geochimica et Cosmochimica Acta 162 (1) tud 202-219
Kepler.
(gw gwefan NASA)
Rosetta/Philae.
(gw gwefan NASA)
Parker.
S.D. Bale et al. (2019) Highly structured slow solar wind emerging from an equatorial coronal hole. Nature 576, tud 237-242
IPCC. Historical Overview of Climate Change Science.