Barn 121 (Chwefror 2019): Robotiaid Cymdeithasol, Cynllunio Babis, Hoffter Te a Choffi


A minnau yn cwyno’n barhaus am nad oes digon o amser mewn diwrnod ers imi ymddeol, rhaid imi gyfaddef imi fwynhau gwylio ambell raglen Cyw ers y Nadolig. A hynny heb yr esgus fy mod yn gwarchod yr un plentyn. Sylwaf fod Sam Tân wedi newid gryn dipyn ers imi ei wylio’n gyson dros chwarter canrif yn ôl ! Lansiwyd y cymeriad yn 1987. Yn 2008 disodlwyd y dechneg glasurol o “stop motion” gan animeiddio cyfrifiadurol (CGI). Awyrgylch bur wahanol a ddaeth i Bont y Pandy. Toy Story, a grëwyd gan Pixar yn 1995, mae’n debyg, oedd y ffilm gyfan gyntaf i ddefnyddio’r dechneg o greu cartŵn tri dimensiwn trwy ddefnyddio cyfrifiadur.

Un thema gyffredin yn arlwy Cyw yw cyd-chwarae gwahanol rywogaethau o anifeiliaid a phobl – dyna’r Octonots a’i anifeiliaid cymysg anthropomorffig, neu, fy ffefryn, Digbi Draig, lle mae’r creaduriaid yn fwy realistig (os fedrwch chi gael draig realistig, hynny yw !). Does dim yn newydd yma, wrth gwrs – rydw i’n un o genhedlaeth ToyTown ar y radio – lle bu Larry the Lamb yn rhagfynegi Norman Price a’i gampau.

Fe’m hatgoffwyd o hyn wrth ddarllen papur a’r teitl “When Rats Rescue Robots” gan Laleh Quinn a’i chydweithwyr yng nghylchgrawn Animal Behaviour and Cognition a gyhoeddwyd ym mis Tachwedd. Ar hyn o bryd, mae cryn ddiddordeb cyffredinol mewn robotiaid “cymdeithasol”. Deallaf fod cryn groeso iddynt mewn cartrefi’r henoed yn Japan, lle maent yn gwmni cysurlon i bobl unig. Pwrpas yr ymchwil diweddaraf oedd profi sut mae anifeiliaid cymdeithasol yn ymwneud â robotiaid. Cyflwynwyd robotiaid bach – tebyg i “lygod” cyfrifiadur wedi’u lliwio’n llachar- i gartrefi llygod mawr mewn labordy. Am bedwar niwrnod bu un robot yn ymddwyn y “gymdeithasol” trwy ddilyn y llygod, chwarae â’r un teganau ac agor drysau cewyll i ryddhau’r anifeiliaid, tra oedd robot arall yn gwneud dim ond symud yn ôl ac ymlaen ac o ochr i ochr. Yna carcharwyd y robotiaid mewn cewyll gan roi modd i’r llygod mawr eu rhyddhau trwy bwyso trosol bach. Roeddent yn hapus i wneud hynny. Ond mewn 18 o arbrofion ‘roedd y llygod yn 52% yn fwy tebygol o ryddhau’r robot “cymdeithasol” na’r llall. Un syndod i’r tîm arbrofi oedd nad oedd angen gosod unrhyw beth megis cynffon, wyneb neu arogl llygoden ar y robotiaid. Y wers o’r arbrawf, a rhai tebyg, yw bod derbyn robotiaid i gymdeithas yn rhywbeth “naturiol”. Bydd hyn yn gymorth sylweddol wrth eu defnyddio yn y sector gofal. Mae hyn o gryn ddiddordeb yn Japan, lle rhagwelir y bydd angen 380,000 o ofalwyr henoed erbyn 2025. Yn y cyfamser cadwch olwg ar Digbi a’i gyfeillion i ddysgu sut i ymwneud â chyfeillion cyfrifiadurol “rhyng-rywogaethol” yn eich henaint !

Newyddion llawer mwy ansicr ei groeso ddaeth o Ddwyrain Asia ar ddiwedd 2018. Ar 28 Tachwedd mewn cynhadledd yn Hong Kong, cyhoeddodd He Jiankui o Brifysgol Shenzhen enedigaeth ddwy ferch ar 8 Tachwedd a oedd â’u DNA craidd wedi’i newid trwy dechnegau peirianneg genynnau. Er na fu cadarnhad annibynnol, y gred gyffredinol yw bod honiad He yn wir. Defnyddiodd He dechneg CRISPR, a ddarganfuwyd yn 2012, i wneud hyn. Nid camp dechnegol He sydd yn bwysig yma, yn wir, ni fu lawer o gamp yn y gwaith, ond y gred gyffredinol yw ei fod wedi croesi Afon Rubicon o bwys mawr. Pwysigrwydd ymhell y tu hwnt i wyddoniaeth a thechnoleg. Dyma’r “designer babies” y bu cymaint o glochdar yn eu cylch yn y wasg tabloid. A bod yn fwy syber, teg dweud bod y gymuned bioleg folecwlar ar draws y byd wedi gwrthwynebu’r cam hwn yn ei grefft, sef newid yn barhaol enynnau etifeddol dyn. Cyn 2012 roedd technegau peirianneg genynnau yn gymharol drwsgl a chymhleth. Ar y cyfan ‘roedd angen adnoddau sefydliadau neu gwmnïoedd mawrion i’w gwireddu. Nid oedd yn anodd cadw golwg – a dylanwadu – ar yr hyn a wneid. Dyma’r “GM” y bu cymaint o gynnwrf yn ei gylch. Mawr fu ei ddylanwad ar feddygaeth ac amaeth. Gyda CRISPR, cyflwynwyd technegau a oedd nid yn unig yn llawer haws eu cyflawni ond sy’n llawer mwy cywir a dibynadwy. Yn wythnosol ceir adroddiadau am ryw ddefnydd newydd ohono. Dadl rhai yw ei fod yn ei hanfod yn wahanol i GM ac yn llawer mwy diogel. Bathwyd y term “golygu genynnau” ar ei gyfer. Er hynny, dyfarnodd Llys Cyfiawnder yr Undeb Ewropeaidd ym mis Gorffennaf 2018 y byddai’r un rheolau llym ag a ddefnyddir i GM yn berthnasol wrth ei gyflwyno i ofynion amaethyddiaeth. Gwnaed hyn er mawr siom i’m cyfeillion ym myd bridio cnydau. Ond os ydy’r rhan fwyaf o fridwyr amaeth o blaid y dechneg, nid felly gwyddonwyr cenhedlu dynol yn eu maes hwy. Bu cryn feirniadaeth o He – gan gynnwys o gyfeiriad Llywodraeth Tsiena, sydd bellach nid yn unig wedi gwahardd ei waith ond, mae’n ymddangos, wedi’i gaethiwo mewn ryw fodd. Ni fu cymaint o sylw yn y wasg at ddiben ei waith. Tynnodd enyn sy’n cynyddu’r siawns dal HIV o embryonau dau gwpl lle ‘roedd y tad yn dioddef o’r cyflwr. Testun tiwtorialau di-rif ar fio-etheg ynddo’i hun.

Datgelwyd targed ar gyfer CRISPR sydd bron yr un mor ddadleuol, ar wefan Scientific Reports ddiwedd Tachwedd. Y tro hwn – sail enetig ein hoffter amrywiol o de, coffi ac alcohol. Wrth ddadansoddi chwaeth paneidiol 430,000 o drigolion gwledydd Prydain, darganfu Jue-Sheng Ong, Daniel Liang-Dar Hwang a’u cydweithwyr wahaniaeth yn y genynnau sy’n ymwneud â blasu caffein. Rydym yn 20% yn fwy tebygol o yfed llawer o goffi os oes gennym enyn blas caffein cryf – ac yn llai tebygol o yfed te. Ar y llaw arall os oes gennym enyn sensitif i gwinin neu propylthiowracil (blasau chwerw eraill) ‘rydyn yn fwy tebygol o ffafrio te. Tybed a ddylai cyfarwyddwyr Glengettie, Paned Gymreig a Choffi Poblado gomisiynu arolwg o DNA eu cwsmeriaid ar gyfer targedu eu gwerthiant ? Mae gorwelion gwyddonol blasus yn ein disgwyl yn 2019 !

 


Pynciau: Robotiaid Cymdeithasol, Cynllunio Babis, Hoffter Te a Choffi


Cyfeiriadau

Robotiaid Cymdeithasol
Quinn, L. K., Schuster, L. P., Aguilar-Rivera, M., Arnold, J., Ball, D., Gygi, E., Heath, S., Holt, J., Lee, D. J., Taufatofua, J., Wiles, J., & Chiba, A. A. (2018). When rats rescue robots. Animal Behavior and Cognition, 5(4), 368–379

Cynllunio Babis
Alice Klein & Michael Le Page. The gene editing revelation that shocked the world. New Scientist. Rhagfyr 5 2018.

Hoffter Te a Choffi
Jue-Sheng Ong, Daniel Liang-Dar Hwang, Victor W. Zhong, Jiyuan An, Puya Gharahkhani, Paul A. S. Breslin, Margaret J. Wright, Deborah A. Lawlor, John Whitfield, Stuart MacGregor, Nicholas G. Martin & Marilyn C. Cornelis. Understanding the role of bitter taste perception in coffee, tea and alcohol consumption through Mendelian randomization. Scientific Reports 8, Erthygl Rhif: 16414 (2018)


<olaf nesaf>