Doeddwn i ddim wedi disgwyl trafod pwnc fel Rwber ar un o’m hoff raglenni ar Radio Cymru – Dros Ginio – ond dyna’r math o beth sy’n digwydd mewn pandemig, mae’n debyg. Roedd bron yn ben-blwydd 160 marwolaeth Charles Goodyear (Gorffennaf 1 1860) ac yn agos i 176 o flynyddoedd ers iddo dderbyn patent yn yr Unol Daleithiau am fwlcaneiddio rwber (Mehefin 15 1844). (Mae hanes y patent yn gymhleth ac mae’n bosib mai Charles Macintosh (1766-1843) a enwogwyd gan y “mac”, bathodd yr enw.) Y broses hon agorodd y ffordd i greu rwber digon gwydn i’w ddefnyddio mewn teiars ceir a llu o bethau eraill erbyn diwedd y ganrif honno. Yn hynny o beth, gellir dadlau i Goodyear fod yn un rheswm dros lwyddiant y diwydiant ceir. (Mae Charles Goodyear wedi’i gynnwys yng nghyfres “Who Made America ?” Public Broadcasting Service yr Unol Daleithiau.)
Mae iddo hanes diddorol. Yn ddisgynnydd i ŵr busnes llwyddiannus o’r ail ganrif ar bymtheg (Stephen Goodyear), aeth ati i sefydlu siop nwyddau caled (hardware) yn Philadelphia yn 1823. Yn ogystal â gwerthu nwyddau, roedd ganddo gwmni peirianneg gwneud offer fferm poblogaidd. Tua’r adeg hon dechreuodd ffermwyr yr U.D. ymddiried mewn cynnyrch lleol, a pheidio â mewnforio o wledydd Prydain. Mae’n debyg i straen y busnes fynd yn drech nag ef, ag erbyn dechrau’r ddegawd nesaf roedd wedi rhoi’r gorau i’r busnes a throi ei olygon, a magu obsesiwn, at ddefnydd newydd – gwm elastig neu latecs.
Daw latecs (yn bennaf) o goed o Dde a Chanol America, lle y bu iddo ddefnydd eang am dros dair mil a hanner o flynyddoedd. Yn ail hanner y ddeunawfed ganrif daeth i sylw gwyddonwyr Ewrop ac aethpwyd ati i’w “fasnacheiddio”. Un a fu’n arbrofi oedd y cemegydd dylanwadol o Sais, Joseph Priestley. Fe, mae’n debyg, wrth weld ei ddawn i dynnu marciau pensil o bapur trwy eu rhwbio â’r sylwedd, a bathodd ei enw “rubber”. (Dysgais flynyddoedd yn ôl mai rhywbeth arall yn llwyr yw “rubber” yn yr Unol Daleithiau, ac mai “eraser” y dylid ei ddefnyddio pob tro i osgoi embaras mawr. Gwaeth, hyd yn oed na gofyn am win “coch” yn Llydaw!) Yr enw brodorol arno yw gair a ddatblygodd yn “caoutchouc” mewn Ffrangeg. Amrywiad ar y gair “gwm” sydd gan y rhan fwyaf o ieithoedd Ewrop.
Meddal a brau yw latecs, hyd yn oed ar ôl ei doddi mewn toddydd (tyrpant oedd un o’r cyntaf o’r rhain). Yn ei obsesiwn aeth Charles Goodyear ati i ddatrys hyn. Profodd bob math o brosesau a bu bron i ambell un ei ladd. Mae’n debyg mai wrth ddefnyddio llestri ei wraig, yn ei chegin, y cyflawnwyd llawer o’r gwaith. Bu sawl proses yn ddigon addawol i’w masnachu trwy gymorth cyfranddaliwr. Ond am flynyddoedd bu hyn yn ofer, ac mewn carchar dyledion y gwnaethpwyd rhagor o’r arbrofion. Yn 1839 aeth i weithio i’r Eagle India Rubber Company, ac yno, ar ddamwain yn ôl yr hanes, trawodd ar yr ateb, sef cynhesu rwber â sylffwr gyda’i gilydd. Treuliodd sawl blwyddyn yn mireinio’r broses cyn ei batentu yn 1844. Dros y blynyddoedd nesaf enillodd dros 60 patent am ystod eang o nwyddau rwber. Ond bu rhaid talu’r pris. Cyn tynnu ei batent gwreiddiol ‘roedd Goodyear, a oedd o hyd mewn angen cefnogwyr ariannol, wedi anfonsamplau i Thomas Hancock, dyfeisiwr o Marlborough yn Wiltshire. Llwyddodd Hancock a’i gydweithwyr dadansoddi’r samplau a dyfalu cyfrinach yr Americanwr. Ffeiliwyd eu patent yn Llundain wyth wythnos cyn un Goodyear. Bu, felly, cyfres o sialensiau i’r patentau, a rhwng y gost o’u hamddiffyn a gwendidau rheolaeth eu busnesau, ychydig iawn o elw a wnaeth y bonheddwr da o’i ddyfeisgarwch. Bu farw yn 1860 ar daith ofer i Efrog Newydd i geisio weld ei ferch cyn iddi hithau farw yno. Fe’i claddwyd yn New Haven, Connecticut, lle’i ganwyd.
Er mai teiars Goodyear, un o bedwar cwmni teiars mwya’r byd, sy’n cadw ei enw yn gyfarwydd i lawer, nid cwmni Charles Goodyear na’i deulu oedd y Goodyear Tire & Rubber Company. Fe’i ffurfiwyd yn 1898 gan Frank Seiberling a’i enwi ar ôl y dyfeisiwr enwog.
Daw fy niddordeb innau mewn rwber ar sail ei cemeg. Polymer enfawr naturiol, polyisopren, yw latecs. (Tebyg iawn yw’r moleciwl sy’n priodoleddu’r gwm cnoi gwreiddiol.) Mae polymerau byr o’r un sylfaen, isopren, yn gyfarwydd iawn inni. Mae’r terpenoidau yma’n cynnwys nifer fawr o flasau – Sinamon, Clof a Sinsir yn eu mysg. Polyisoprenau byr yw lliwiau tomato (lycopen) a moron (caroten). Cynnyrch caroten yw retinal – y moleciwl sy’n ein galluogi i weld. (Er, “newyddion ffug” a grëwyd yn yr Air Rhyfel Byd yw’r goel fod bwyta moron yn gwella’ch golwg ar ôl iddi dywyllu. Fe’i lledaenwyd i geisio cadw rhag yr Almaen y gyfrinach fod awyrennau’r llu awyr yn defnyddio radar yn y nos.) Ar ben hynny, aelodau pwysig o’r un teulu yw’r holl steroidau a cholesterol. Mae’r monomer, isopren, yn anweddu o ddail coed pîn ac yn ychwanegu ceiniogwerth naturiol i lygredd organig yr awyr. Roedd hen ddigon ohonynt i mi eu cynnwys yn fy narlithoedd coleg ar Gynhyrchion Naturiol Planhigion.
Crëir y latecs gan blanhigion wrth ymateb i archoll drwy ei selio i’w amddiffyn rhag haint ac i roi blas cas i ddarpar ysyddion. Enghraifft o “Gymorth Cyntaf” natur. Gan nad yw latecs yn cymysgu a dŵr, mae ffisioleg y celloedd sy’n eu creu a’i drosglwyddo o amgylch corff y planhigyn ymysg rhyfeddodau ei anatomi. Mewn nifer o blanhigion un gell enfawr ganghennog sy’n ymestyn i bob rhan o’r corff. Mewn eraill mae’r muriau sy’n gwahanu’r celloedd yn toddi i ffurfio tiwbiau o’r maint cyffelyb.
Mae pob math o blanhigion yn eu gwneud, gan gynnwys Dant y Llew. Dyma’r “llaeth” gwyn sy’n dod wrth dorri’r coesyn. (Ond mae’n debyg mai “llaith” ac nid “llaeth” sy’n dod o’r un tarddiad ieithyddol, er bod Geiriadur Prifysgol Cymru yn amwys ar y pwnc.) Yn yr Ail Ryfel Byd arbrofodd yr Almaen a Rwsia gyda’r ffynhonnell yma i ateb y galw ar ôl colli cyflenwad y Dwyrain Pell. Yn wir, o bryd i’w gilydd, yn wyneb ein hamseroedd cythryblus, mae’r un syniad yn ymddangos yn y cyfryngau. Heddiw daw’r rhan fwyaf o latecs o Hevea brasiliensis. O Frasil y daw’n wreiddiol ond fe’i lledaenwyd i’r Dwyrain Pell (lle mae’r prif blanhigfeydd erbyn hyn) gan fotanegwyr Gerddi Botaneg Kew ar ôl 1876. Erbyn diwedd y ganrif honno rwber o fathau o’r goeden Landolphia o’r Congo yn yr Affrig oedd sylfaen bwysig i “ymerodraeth” Brenin Leopold II y Belgiaid (1834-1909) yno. Mae hanes cam-drin caethweision y diwydiant a’u chymunedau ymhlith straeon mwyaf erchyll y cyfnod – ac yn hollol berthnasol inni heddiw wrth inni agor ein llygaid i hanes y Dyn Du.
Yng Nghanoldir America o Castilla elastica ac ambell goeden arall y gwnaed rwber. Gwareiddiad mawr hynaf Mecsico yw’r Olmec – “Pobol y Rwber” (Ōlmēcah) yn Nahuatl, iaith yr Asteciaid a’i disgynyddion heddiw. Ymysg y rhyfeddodau archeolegol o’u cynefin yn Feracrws mae peli rwber ar gyfer chwaraeon sy’n dyddio o 1600 cyn Crist. Bu Camp y Bêl yn bwysig yn hanes Canol America am filoedd o flynyddoedd hyd ei dileu gan y Conquistadores. Bellach mae brodorion yr ardal wedi’i hadfer cyn belled ag y bo mae modd gwybod sut y’i chwaraeid. Bu llawer o ddefnydd arall i latecs – gan gynnwys llestri a chreu defnydd atal dŵr.
Un defnydd amserol iawn i ni heddiw yw mewn menig meddygol – rhan anhepgor o’r “PPE” tyngedfennol. Dyfeisiwyd maneg o’r fath am y tro cyntaf ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Yn 1889 agorwyd Ysbyty Johns Hopkins yn Baltimore. Bellach dyma un o brif ysbytai’r byd. Prif nyrs theatrau’r llawfeddygon oedd Caroline Hampton. Yn fuan iawn datblygodd adwaith croen i un o’r cemegolion diheintio (Clorid Arian Byw). Gofynnodd ei darpar ŵr, William Halsted, i gwmni rwber ddarparu menig pwrpasol iddi. Bu’n llwyddiant, ac yn 1894 fe’u cyflwynodd yn gyffredinol i’r Ysbyty – ac oddi yno i’r byd. Yn 1964 datblygwyd y faneg latecs defnyddio-unwaith gan gwmni Ansell. (Cwmni nwyddau atal cenhedlu hyd at 2017 – un o nifer fawr o gysylltiadau rhwng rwber a’r diwydiant hwnnw, gan gynnwys patentau Goodyear ei hun.)
Yn anffodus, i niferoedd, mae menig latecs eu hunain yn arwain at adwaith poenus yn y croen. Nid y polymer sy’n gyfrifol, ond proteinau coeden sy’n dal yn rhan o’r cynnyrch naturiol yma. Mae modd tynnu’r proteinau, ond mae hyn yn broses ddrud. Aethpwyd ati, felly, i gynllunio mathau artiffisial o rwber na fyddai’n eu cynnwys. Un o’r cyntaf llwyddiannus oedd Neoprene (1930). Heddiw mae menig Nitrile (1934) yn gyffredin iawn. Mae’r rhain yn arbennig o ddefnyddiol y tu allan i’r byd meddygol lle bo angen delio a thoddyddion organig. Mae mathau eraill o rwber artiffisial wedi dod yn enwog trwy statws eiconig dillad, er enghraifft Lycra (neu Spandex yn yr U.D.), a ddatblygwyd yn 1958.
Am gyfnod yn yr ugeinfed ganrif bu un symbol o bwys rhyngwladol yn ymwneud â rwber yng Nghymru. Arbrawf Brynmawr oedd un o ganlyniadau Dirwasgiad Mawr yr 1930au. Cynllun oedd hwn gan Eglwys Cymdeithas y Cyfeillion (Y Crynwyr) i ddod â gwaith i’r tlawd a’r di-waith. Yr Arglwydd James Forrester oedd un o’r arweinwyr. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd aeth Forrester yn gyfarwyddwr i gwmni Enfield Cables. Ar ddiwedd y rhyfel, yn wyneb galw cynyddol am rwber comisiynodd Enfield nifer o ffatrïoedd i’w gynhyrchu. Oherwydd ei gysylltiadau â’r dref, sefydlodd Forrester un o’r rhain ym Mrynmawr. Aethpwyd ati i adeiladu adeilad blaengar. Ni fu menter Enfield yn llwyddiant a gwerthwyd y ffatri newydd i gwmni Semtex, rhan o gwmni enfawr Dunlop yn 1953. Hyd at ddiwedd y 1970au cynhyrchwyd defnyddiau ar gyfer lloriau i ysbytai, ysgolion a phrifysgolion newydd y cyfnod. Hynodrwydd y fenter oedd yr adeilad a gynlluniwyd gan yr Americanwr Michael Powers. Ymwelodd y pensaer o dras Gymreig, Frank Lloyd Wright â’r safle adeiladu. Ond erbyn dechrau’r 1980au ‘roedd y gwaith mewn trafferthion. Am bron i ugain mlynedd bu ymgyrchoedd i warchod yr adeilad ac yn 1986 cofrestrwyd ei naw cromen goncrid ddramatig yn Adeilad Hanesyddol Safon II, y cynllun gyntaf ers yr ail ryfel byd i dderbyn y statws yma. Ond ofer fu. Dymchwelwyd yr adeilad eiconig, heblaw am ei foilerdy, yn 2001.
Er gwaethaf hynny, mae rwber yn rhywbeth sy’n dod yn ôl, ac yn dod yn ôl o hyd. Gofynnwch i Bobby Vee !
1 Comment