(Tudalen mewn gwaith)
Ydy Eliffant yn fawr? Dyma oedd un o’m hoff gwestiynau i’m myfyrwyr ers talwm. Yr ateb arferol, yn ddigon naturiol oedd “wrth gwrs ei fod”. Fy nghwestiynau nesaf fyddai – beth am y Titanic? y Byd ? yr Haul ? Yn fuan iawn byddai golwg o ddeall ar ambell wep. Fy mwriad, wrth gwrs, oedd nid drysu’r myfyrwyr ond pwysleisio pwysigrwydd cyd-destun. Mae Eliffant yn fawr am ei fod yn fwy na ni. Mae morgrugyn yn fach, am ei fod yn llai na ni. Mi fyddai morgrugyn yn enfawr i ddosbarth tiwtorial o facteria !
Ond beth am amser ? Ydy munud yn amser hir ? Ryw bymtheg mlynedd yn ôl soniais yn y golofn hon am arbrawf a ddangosai fod ateb y cwestiwn hwn yn dibynnu ar ein stad o feddwl mewn modd annisgwyl. Yr ystod ferraf y medrir ei chanfod yw tua 15 milfed rhan o eiliad (milieiliad, ms) neu 65 Hz. Hynny yw, os gwelwn ddau fflach o olau yn agosach na hyn i’w gilydd, maent yn ymddangos fel un fflach. Dangosodd arbrawf 2007 bod modd i’r ymennydd fireinio’r canfyddiad (ymestyn amser, fel petai) pe gwneid yr arbrawf wrth ddisgyn ar rywbeth tebyg i bynji. Roedd arswyd y profiad yn ysgogi’r ymennydd i ymateb yn gynt. Roedd eiliad – neu funud oherwydd hynny – fymryn yn hirach inni.
Fe’m hatgoffwyd o’r hanes hwn wrth ddarllen am ddarlith a draddodwyd i gynhadledd flynyddol y Gymdeithas Ecolegol yng Nghaeredin fis Rhagfyr. Mae Kevin Healey o Brifysgol Galway wedi astudio canfyddiad amser dros gant o wahanol anifeiliaid. Rhai yn byw bywydau ar ras, eraill ychydig yn fwy hamddenol.
Rhaid aros am y canlyniadau llawn, ond ymhlith y canlyniadau a ymddangosodd ar y cyfryngau y cyflymaf oedd 3 ms Gwas y Neidr a’r arafaf, eiliad a hanner y Seren Fôr Coron Ddrain. Ymysg anifeiliaid asgwrn cefn y Gwybedog Brith (7 ms) sydd â’r record. Tra bod yr Eog (10ms) a’r Ci (13ms) – nid yn annhebyg i’n 15 ms ni. Er gwaethaf arafwch y seren for, sylwyd bod anifeiliaid y môr neu’r afon ar y cyfan yn gyflymach eu canfyddiad na’r creadur tir sych cyfatebol. Dehongliad Healey yw bod modd iddynt ddefnyddio dwysedd dŵr i newid eu trywydd ar ôl lansio ymosodiad ar brae ond nad oes modd i bry copyn newid ei gyfeiriad ar ôl neidio i’r awyr.
Mae hyn yn berthnasol i setiau teledu a sgriniau bach yn gyffredinol. Chwedeg gwaith yr eiliad (pob 17 ms, neu 60Hz) y daw llun newydd i’r sgriniau arferol. Mae’n debyg mai amledd cyflenwad trydan yr Unol Daleithiau (60Hz) sy’n gyfrifol am hyn, ond mae hefyd yn ddelfrydol ar gyfer ein synnwyr gweld ni. Efallai y gall un o ddarllenwyr Barn fy ngoleuo ar fanteision y sgriniau 144Hz a 240Hz a werthir i selogion gemau cyfrifiadur ? Yn sicr, byddai angen un o’r rhain petai Gwas y Neidir am chwarae Grand Theft Auto V.
Defnyddiais yr uned “mili”(m) – sef milfed rhan – uchod. Mae’n debyg bod hwn, ynghyd a “Kilo” (K) a “Mega” ar gyfer milwaith a mil-milwaith, hefyd yn weddol gyfarwydd. Roedd y tri yma, ynghyd â phump arall yn rhan o’r drefn “CGS” a ddysgais yn yr ysgol ar ddechrau’r 1960au. Ffordd hwylus i osgoi defnyddio cadwynau anhylaw o seroau a’r anghytundebau am ystyr geiriau fel “biliwn” a “triliwn” pan gyflwynwyd hwy gyntaf. Cyflwynwyd y CGS yn 1873 gan bwyllgor o Gymdeithas Prydain er Hybu Gwyddoniaeth. Er mai o oes Napoleon y daw’r mili a’r Kilo. Yn 1960 daeth tro ar fyd wrth i Gynhadledd Gyffredinol Pwysau a Mesuriadau fabwysiadu’r drefn SI (Système International d’Unités). Cyflwynwyd y Giga a’r Tera ar gyfer rhifau mawr a’r nano a pico ar gyfer rhifau bach. Daw’r term cyfoes “nanotechnoleg” o’r uned nanometr – maint microsgopig y cydrannau priodol.
Yn y cyfamser, gyda chynnydd manylder ffiseg a bioleg ar un llaw, a mawredd cosmoleg ar y llaw arall roedd angen ymestyn yr ystod. Erbyn 1991 roedd Peta, Exa, Zetta a Yotta (ar gyfer un a phymtheg zero i un a phedwar sero ar hugain ar ei ôl. I gymhlethu pethau roedd cwmnïau masnachol, megis Google, yn bathu eu termau eu hunain- er enghraifft yr “hellabyte” ar gyfer mil, miliwn, miliwn, miliwn, miliwn byte. Y broblem yno oedd bod gan y llythyren “h” eisioes, ers 1795, ystyr – hecto yn cyfleu cant. Yn wir, dim ond dwy lythyren yn yr wyddor Saesneg oedd ar ôl – sef Q ac R. Felly ar ddiwedd 2022 cyhoeddodd Cynhadledd Gyffredinol Pwysau a Mesuriadau ei dyfarniad am y rhifau ag iddynt 27 a 30 zero – a’r rhifau bach sy’n cyfateb (ffracsiwn un y rhifau hynny). Eu henwau yw’r Ronna (27), y Quetta (30) a’r ronto a’r quecto.
Hynod meddwl bod y drafodaeth hon wedi digwydd yn yr un flwyddyn ag y dechreuodd Llywodraeth Prydain ymgyrch i ddileu’r drefn CGS o’n bywydau pob dydd. Mewn paratoad, amcangyfrifaf fyddai un Quettamodfedd yn ymestyn tua chan milwaith lled y Bydysawd.
Tra ‘roedd eraill yn myfyrio am ffyrdd newydd o gyfleu rhifau. Mi ?‘roeddwn innau’n mwynhau fy nghinio Nadolig. Ofnaf gyfaddef fy mod yn mwyhau dadansoddi sut mae’r holl esgyrn yn cydweithio wrth gerfio’r twrci druan. Ond, diolch i’r drefn, dros yr holl flynyddoedd nid oedd yn rhaid imi gerfio ei ben. O’r herwydd, nid oeddwn erioed wedi sylweddoli bod modd i dwrci – fel 99% o’r adar – symud rhan uchaf ei big yn ogystal â’r rhan isaf. Tric na fedrem ni ei ddynwared. Mae ein safn uchaf yn hollol sownd i’n penglog. Y mae grŵp bychan o adar – sy’n cynnwys yr estrys a’r emw – yn wahanol. Fel ninnau, dim ond rhan isaf eu pigau sy’n symud. Ers dyddiau Charles Darwin bu’r gred mai datblygiad diweddar – enghraifft o esblygiad – oedd y pig symudol uchaf. Ond mewn pryd i’r Nadolig, yn Nature, cyhoeddodd Daniel Field, Juan Benito a grŵp o baleontolegwyr yng Nghaergrawnt bod penglog aderyn ffosil 67 miliwn blwydd oed o Amgueddfa Maastricht yn yr Iseldiroedd yn meddu ar big uchaf symudol. Eu dyfarniad yw mai datblygiad diweddar yw pig yr estrys a’r emw.
O wybod am driciau pigau adar yr ardd, rwyf yn edrych o’r newydd ar eu hymdrechion gyda’r cnau mwnci. Ond y brif wers i mi yw ein bod yn dueddol o daflu o’r neilltu’r rhannau mwyaf diddorol o’r hyn yr ydym yn ei fwyta. Tybed sut mae mynd ati i gerfio pen twrci ?
Pynciau: Amser Canfyddiad, Unedau Newydd, Safn Adar
Cyfeiriadau
Amser Canfyddiad: Kevin Healy (2022) Research reveals which animals perceive time the fastest. British Ecological Society (Cynhadledd Rhagfyr 2022)
Unedau Newydd: La Conférence générale des poids et mesures (CGPM) (2022) Sur l’extension de la liste des préfixes du SI. Résolution 3 de la 27e CGPM
Safn Adar:
Juan Benito, Pei-Chen Kuo, Klara E. Widrig, John W. M. Jagt a Daniel J. Field (2022) Cretaceous ornithurine supports a neognathous crown bird ancestor. Nature 612, 100–105
<olaf nesaf>