Barn 162 (Nadolig 2022): Penblwydd Wallace, Y Rosalind Franklin, DNA Pysgodyn Anwes, Uno Ymenydd Dyn a Llygoden


(Tudalen ar waith)

Os nad ydych eisioes wedi gwneud hynny, mae’n rhy hwyr ichi gael tocyn ar gyfer mordaith yr Ombak Putih o amgylch ynysoedd Indonesia a fydd yn gadael harbwr Sorong ar 23 Ionawr. Mae pob tocyn wedi’i werthu. Peidiwch â phoeni, am $13,200 y pen, cewch gyfle arall yn Ionawr 2024. Ond fe fyddwch wedi colli’r dathliad arbennig.

Pa ddathliad ? Wel, dau ganmlwyddiant geni un o’r Cymry pwysicaf yn hanes gwyddoniaeth, wrth gwrs ! Sef y biolegydd a pholymath Alfred Russel Wallace (1823-1913) a anwyd yn Kensington Cottage, Bryn Buga ar 8 Ionawr 8. Ym mhentref Dojinga, Ynys Halmahera, ym 1858 crisialodd Wallace ei ddamcaniaeth am Esblygiad trwy Ddetholiad Naturiol. O fewn wythnosau ‘roedd wedi anfon ei ddadleuon at Charles Darwin a oedd ym moethusrwydd Down House, Bromley.

Mae hanes ymateb Darwin bellach yn rhan o chwedloniaeth hanes gwyddoniaeth, gyda’r Cymro Roy Davies, yn ei lyfr The Darwin Conspiracy. Origins of a Scientific Crime (2008), yn mynd mor bell â chyhuddo cyn deithiwr y Beagle o lên-ladrad llwyr. Nid wyf o’r un farn â Davies, ond yn sicr mae’r hyn a ddigwyddodd yn wers lachar am y broses o ddarganfod a datblygu deall dyn o’i amgylchfyd.

Bydd teithwyr mordaith arbennig yr Ombak Putih (y Don Wen) i ddathlu Wallace yn ymweld â Dojinga, Ternate a sawl lleoliad arall yn gysylltiedig ag ymweliad y Cymro.

Yn anffodus, mae’r holl bwyslais heddiw ar y berthynas rhwng Wallace a Darwin yn tynnu’r sylw haeddiannol oddi wrth y sylw y dylem ei roi i Wallace ei hun. Nid oes amheuaeth i’r ddau ddod i’r un casgliad hanesyddol a phwysig yn annibynnol ar ei gilydd ac mai Darwin yn unig sy’n cael y clod bron i gyd am “ddarganfod Esblygiad”. 

Er enghraifft, roedd dau o ddarganfyddiadau eraill Wallace (a hyd yn oed ei enw) yn rhan o’m gwersi daearyddiaeth yn yr ysgol yn y 1960au, ymhell cyn imi glywed un rhywbeth am ei rôl yn Namcaniaeth Esblygiad. Y gyntaf oedd “Llinell Fawr Wallace” yn rhannu ynysoedd Bali a Lombok ar Fap y Byd, ac yn cynrychioli’r ffin rhwng anifeiliaid Awstralia ac Asia, yn rhan o’r dystiolaeth bod y byd yn newid dros amseroedd daearegol. Yr ail oedd ei arbrawf enwog i brofi bod y byd yn grwn – ymateb i wobr o £500 a gynigwyd gan ddyn o’r enw John Hampden nad oedd yn credu’r ffaith.  Yn nhraddodiad Donald Trump,  gwrthododd Hampden ddyfarniad y beirniad (golygydd cylchgrawn The Field, a gyhoeddir o hyd) ac fe lusgwyd yr achos drwy’r llysoedd am flynyddoedd er mawr golled i Wallace. Ar y llaw arall, ‘roedd Wallace yn enghraifft gynnar o anti-vaxxer, ac fe’i cyhuddwyd yn y Lancet o fod yn “ddetholus â’i ffeithiau” yn ei gyflwyniad i Gomisiwn y Brenin  ar y mater yn 1890.

Ond mae fy malchder personol i yn Alfred Russel Wallace yn deillio o’i ddiddordeb yng nghymdeithas cefn gwlad Cymru ar ddechrau’r bedwaredd ganrif am bymtheg. Er ei eni ar dir Cymru, roedd yn aelod o deulu hollol Seisnig.  Prin fyddai hawl Cymru arno petai hynny oedd ei unig gyswllt. Ond, fel mae R. Elwyn Hughes yn dadlennu yn ei lyfr Alfred Russel Wallace: Gwyddonydd Anwyddonol (1997) magodd y gwyddonydd wreiddiau gwirioneddol Gymreig wrth gynorthwyo’i frawd William i  fapio plwyfi dwyrain Sir Faesyfed yn 1840-1 ac yna symud i Gastell Nedd. Dylanwadodd y profiad ar ei grybwyll o boblogaethau a’u cystadlaethau. Mae’n sôn am hyn yn ei hunangofiant a ymddangosodd yn 1905. Gellir dadlau mai hwn oedd rhan o “brofiad Beagle” Wallace. Trysor ymhlith trysorau Cymreig yng nghyfrol Elwyn Hughes yw ei gyfieithiad o ysgrif gan Wallace sy’n disgrifio bywyd Cymraeg a Chymreig Amaethwyr ucheldir gogledd Morgannwg yn yr 1840au. Bywyd uniaith Gymraeg oedd ar fin diflannu. Anodd credu nad oedd Wallace a’i frawd wedi dysgu cryn dipyn o Gymraeg yn ystod y cyfnod hwn. Yn sicr, mynychodd wasanaethau yn eglwysi a chapeli’r fro er mwyn clywed pregethu a darlleniadau o’r Beibl yn ein hiaith.

Tybed beth fyddai ymateb y gŵr o Fryn Buga petai wedi bod ryw fodd iddo wybod am lwyddiant “esblygiad” y Gymraeg yn yr unfed ganrif ar hugain a’i hanthem “Yma o Hyd” ?

Yn sicr mi fyddai ganddo ddiddordeb yn y darganfyddiadau diweddaraf am ddŵr ar y Blaned Mawrth. Yn 1904 cyhoeddodd yr ymdriniaeth gyntaf gan fiolegydd am fywyd y tu hwnt i’r ddaear yn ei lyfr Man’s Place in the Universe. Dair blynedd yn ddiweddarach manylodd ar Fawrth yn ei lyfr Is Mars Habitable ? gan drafod y data spectrosgopeg a oedd ar gael ar y pryd. Yr union dechneg a ddefnyddir gan loerennau ac anturwyr robotaidd heddiw. 

Ni fyddai’r gwyddonydd o Oes Fictoria wedi synnu clywed bod gwleidyddiaeth a gwyddoniaeth o hyd yn anwahanadwy. Dros yr haf bu rhaid gohirio lansiad i’r Blaned Goch y robot diweddaraf – y Rosalind Franklin – a enwir i gofio’r cemegydd a fu’n rhan o ddarganfod strwythur DNA 70 o flynyddoedd yn ôl i fis Ebrill nesaf. Un arall a gollwyd gan droeon Hanes am flynyddoedd yng nghysgod ei chyd-ddarganfyddwyr, sef Francis Crick a James Watson. Ond cysgod rhyfel yr Wcráin yw’r tro diweddaraf yn ei hanes. Bwriadwyd lansio’r robot ym mis Medi mewn glaniwr Kazachok ar ben roced Proton Rwsiaidd. Rhan o’r cydweithredu rhwng gwyddonwyr Rwsia ac Ewrop. Bellach daeth saib ar y cydweithio a chychwynnwyd ar y dasg o lunio modd o lansio’r Franklin ar roced wleidyddol-dderbyniol. Ni ddigwydd hyn cyn 2028.

Ond teimlaf mai dau hanesyn diweddar am fywyd ar y ddaear a fyddai wedi apelio’n arbennig at Wallace.  Ganol mis Hydref yn y cylchgrawn ar-lein microPublication Biology cyhoeddodd Indeever Madireddy ddilyniant llawn cyntaf genom Pterophyllum scalare. Beth sy’n nodweddiadol am hyn yw mai disgybl ysgol 17 oed yw Madireddy. A gwrthrych ei waith oedd ei bysgodyn anwes Calvin a fu farw ym mis Mawrth. Ar gost o tua $2000 cyflawnwyd y dasg dros ddau benwythnos gan robot darllen DNA  – ar ben ryw bedwar mis o waith cartref arbennig !  Y dilyniant DNA yw’r prawf eithaf o ddiffinio rhywogaeth rhywbeth byw a’r allwedd i ddilyn y prosesau a ddisgrifiwyd gan Wallace yn ei lythyr at Darwin.

Yr un wythnos, ar dudalennau Nature, disgrifiwyd gwaith llawer mwy cymhleth ym maes datblygiad. Ers 1987 bu gwyddonwyr yn defnyddio bôn-gelloedd i greu modelau microsgopig o organau anifeiliaid – organoidiau. Fe’u defnyddir i astudio datblygiad ac effaith triniaethau a chyffuriau ar y corff, gan gynnwys cyrff dynol,  heb yr angen am gorff cyfan. Un enghraifft a ddatblygwyd yn 2013 oedd casgliad o niwronau, celloedd yr ymennydd dynol. Mae modd eu defnyddio i weld adwaith y celloedd i gyffuriau heb fod angen cleifion na gwirfoddolwyr. Ond mae absenoldeb cynefin gweddill yr ymennydd, ac adwaith corff cyfan,  yn anhawster amlwg i’r gwaith.  ‘Nawr mae Sergiu Paşca o Brifysgol Stanford, Califfornia a’i gydweithwyr wedi llwyddo i drawsblannu organoid dynol o’r math hwn i ymennydd llygoden fawr. Bellach mae modd cyflyru’r meinwe dynol mewn cyd-destun.

Yn ystod y gwaith datblygodd y celloedd ymhellach nag y byddent wedi’u wneud mewn tiwb prawf – a thyfu i faint traean un hemisffer yr ymennydd. Yn ogystal tyfodd cysylltiadau (synapsau) â chelloedd y llygod a bu modd dangos bod y celloedd dynol yn dylanwadu ar ymddygiad y llygod.

Yn bendant bydd profion o’r fath yn ehangu’r wybodaeth am glefydau ac anhwylderau’r meddwl. Ond mae lle i holi am etheg ymyrraeth o’r fath ar ymennydd creadur sy’n berchen ar ryw fath o hunan ymwybyddiaeth eisioes.  Yn sicr, byddai gan Alfred Russell Wallace, a oedd â diddordeb mewn ysbrydegaeth erbyn diwedd ei oes, rywbeth i’w ddweud am uno’r rhywogaethau yr ymdrechodd mor galed i esbonio sylfeini eu harwahanrwydd.


Pynciau: Penblwydd Wallace, Y Rosalind Franklin, DNA Pysgodyn Anwes, Uno Ymenydd Dyn a Llygoden


Cyfeiriadau

Penblwydd Wallace: R. Elwyn Hughes (1997) Alfred Russel Wallace: Gwyddonydd Anwyddonol Gwasg Prifysgol Cymru

Y Rosalind Franklin: Elizabeth Gibney (2022) Europe’s first Mars rover mission saved by major investment. Nature (Newyddion) 23 Tachwedd 2022

DNA Pysgodyn Anwes: Indeever Madireddy (2022) First Ever Whole Genome Sequencing and De Novo Assembly of the Freshwater Angelfish, Pterophyllum scalare. microPublication Biology 10.17912/micropub.biology.000654

Uno Ymenydd Dyn a Llygoden: Omer Revah, Felicity Gore, Kevin W. Kelley, Jimena Andersen, Noriaki Sakai, Xiaoyu Chen, Min-Yin Li, Fikri Birey, Xiao Yang, Nay L. Saw, Samuel W. Baker, Neal D. Amin, Shravanti Kulkarni, Rachana Mudipalli, Bianxiao Cui, Seiji Nishino, Gerald A. Grant, Juliet K. Knowles, Mehrdad Shamloo, John R. Huguenard, Karl Deisseroth a Sergiu P. Pașca (2022) Maturation and circuit integration of transplanted human cortical organoids. Nature 610, 319–326

<olaf nesaf>