Barn 164 (Mawrth 2023): ChatGPT, Canfyddiad Cŵn


(Tudalen ar waith)

Prin iawn yw’r athrawon a’r darlithwyr sy’n gweld marcio traethodau rheolaidd eu myfyrwyr yn uchafbwynt eu hwythnos. Eto mae’r rhan fwyaf ohonom yn gwerthfawrogi eu rôl mewn addysg. Hefyd, mae’n debyg na fyddem wedi llwyddo i fod yn athrawon neu’n ddarlithwyr oni bai inni fod yn weddol lwyddiannus yn eu hysgrifennu rywbryd yn ein hanes.

Ryw ddeng mlynedd yn ôl tynnwyd fy sylw gan erthygl yn honni bod rhaglen cyfrifiadur yn gwneud gwell gwaith – a mwy cyson – na darlithwyr prifysgol wrth asesu traethodau.  Medrwch ddychmygu’r teimlad o ryddhad a ddaeth drosof ! Crybwyllwyd y syniad yn gyntaf gan Ellis Batten Page, athro Seicoleg Addysg o’r Unol Daleithiau yn 1966. Araf iawn oedd datblygiad cynnar yr egwyddor. Ond daeth tro ar fyd. Gyda datblygiadau’r ugain mlynedd diwethaf mewn dysgu trwy beiriant (machine learning) a Deallusrwydd Artiffisial deallaf fod mwy a mwy o ddefnydd o’r dechnoleg. Afraid dweud bod hyn yn hollti barn yn y proffesiwn, ac ni chefais erioed y cyfle o brofi’r dechnoleg fy hun.

Fe’m hatgoffwyd o hyn wrth ddarllen yn y New Scientist am yr adwaith i boblogrwydd meddalwedd ChatGPT, a lansiwyd ar ddiwedd Tachwedd 2022, ymysg myfyrwyr. Nid marcio traethodau – ond eu hysgrifennu ar ran y myfyrwyr a wna’r rhaglen. Cofrestrodd dros filiwn o ddefnyddwyr yn nyddiau cyntaf y lansiad ! Mae’n debyg bod dros 100 miliwn wedi gwneud erbyn hyn. Wrth gwrs, y mae ChatGPT yn gwneud llawer mwy nag ysgrifennu traethodau. Yn ddiweddar, derbyniais gan gyfaill yn Uned Biogyfansoddion Prifysgol Bangor, enghreifftiau o farddoniaeth am fy hoff bolysacaridau a gyfansoddwyd gan y feddalwedd. Ymddangosodd adroddiad yn Nature ganol Ionawr yn rhestru erthyglau mewn cylchgronau gwyddonol sydd eisioes wedi rhestru ChatGPT fel un o’r cyfranwyr. 

Bu adwaith cyflym ym myd asesu disgyblion a myfyrwyr ysgolion a phrifysgolion. Ataliwyd y meddalwedd yn ysgolion Adran Addysg Los Angeles ganol Rhagfyr a chan Efrog Newydd (a’i miliwn o ddisgyblion) ym mis Ionawr. Bellach agorodd y drafodaeth yr ochr hon i’r Iwerydd a thu hwnt. Dadleua rhai ochr bositif y datblygiad – o’i ddefnyddio’n ddeallus gall fod o fantais fawr i ddisgyblion ag anableddau, er enghraifft. Mae cytundeb ei bod yn anodd iawn atal y defnydd ar gyfrifiaduron personol ac efallai y bydd yn rhaid dod i delerau a manteisio ar agweddau cadarnhaol y dechnoleg mewn addysg. Rhaid cofio nad myfyriwr gwan yn unig sy’n twyllo. Bydd unrhyw reol yn sialens i ambell fyfyriwr disglair “guro’r system”. Yn sicr, bydd hyn yn broblem arall i athrawon a darlithwyr wrth gynllunio eu cyrsiau dros y blynyddoedd i ddod. Beth fyddai’r canlyniad o weld peiriannau yn ysgrifennu ac yn marcio asesiadau ?!

Yn eironig, efallai y daw’r datrysiad o gyfeiriad annisgwyl. Mewn papur a gyhoeddwyd ar y wefan Arχiv ddiwedd mis Hydref dadleua Pablo Villalobos a’i gyd ymchwilwyr yn Epoch (grwp sy’n ymchwilio i ddatblygiad Deallusrwydd Artiffisial) nad oes digon o ddata i hyfforddi’r systemau hyn am fwy na thua tair blynedd arall.

Sylfaen hyn, wrth gwrs, yw nad yw systemau o’r fath yn “ddeallus” yn yr ystyr arferol. Maent yn defnyddio pŵer a chyflymder y cyfrifiadur i chwilio basau data (dibynadwy) sydd eisioes yn bodoli i greu casgliadau o ffeithiau i ateb y galw. Un enghraifft yw Google Translate. Nid yw’r feddalwedd yn deall Saesneg na Chymraeg na’u gramadeg. Mae’n canfod patrymau geiriau mewn un iaith a chwilio am y patrymau cyffelyb yn y llall mewn basau data – megis cofnodion dwyieithog y Senedd. Mae rhan arall o’r feddalwedd wedi “dysgu” arferion yr ieithoedd er mwyn gosod y patrymau at ei gilydd i greu testun cyfan. Po fwyaf o enghreifftiau (a chyd-destunau) o’r patrymau sydd ar gael, gorau oll fydd y canlyniad.

Daw problemau os nad yw’r data yn ddibynadwy. Eisioes cydnabyddir bod rhagfarnau (hil, er enghraifft) mewn basau ddata yn arwain at annhegwch systematig wrth ddefnyddio Deallusrwydd Artiffisial i wneud penderfyniadau cymdeithasol.

Cred Villalobos a chriw Epoch y bydd defnyddwyr, megis cwmni OpenAI a’i ChatGPT, wedi dihysbyddu’r holl fasau data digidol o safon da erbyn 2026. (Ystyrir ffynonellau yn “safon da” os ydynt wedi’u golygu mewn rhyw fodd. Er enghraifft, llyfrau, papurau newydd a gwyddonol a Wikipedia. Tua 1013 gair ar hyn o bryd.) O hynny allan bydd yn rhaid defnyddio basau data salach – megis blogiau a gwefannau cymdeithasol a chyffredinol. Mae digon ohonynt hwythau i bara hyd at 2030-2050. Yr amcangyfrif yw bod y galw yn cynyddu ryw 50% bob blwyddyn, tra bod y stoc byd eang ond yn cynyddu tua 7% pob blwyddyn.

Nid yw criw Epoch yn proffwydo tranc Deallusrwydd Artiffisial – ond dadleuant na fydd modd ei wella’n sylweddol yn y dyfodol.

Efallai y byddai’n well defnyddio cŵn i asesu traethodau ?!  Ar ddiwedd Ionawr ymddangosodd papur gan Christoph Volter o Brifysgol Milfeddygaeth Vienna a’i gydweithwyr yn Proceedings of the Royal Society B sy’n disgrifio dawn yr anifeiliaid anwes yma i synhwyro didwylledd mewn pobl. Maent yn adnabod y gwahaniaeth rhwng rhywun sy’n gwrthod gwneud rhywbeth a rhywun sy’n methu gwneud rhywbeth drostynt. Rhoi bwyd iddynt yn yr achlysur hwn.

Defnyddiwyd 48 ci mewn 96 prawf lle bu ymchwilydd nad oedd y cŵn yn eu hadnabod yn cynnig selsig iddynt trwy dwll mewn sgrin dryloyw. Hanner yr amser profociwyd y ci drwy dynnu’r bwyd yn ôl ar yr eiliad olaf. Gweddill y troeon smaliodd yr ymchwilydd ei fod wedi disgyn y selsigen ar ddamwain cyn i’r ci gael cyfle cydio ynddo.  Trwy ddau gamera fideo a meddalwedd pwrpasol o’r enw Loopy (a hefyd technegau dysgu trwy beiriant) mesurwyd ymateb yr anifeiliaid yn fanwl. (Ar ôl 30 eiliad o fesuriadau cafodd pob ci ei wobr !)

Er mai’r un oedd y canlyniad – dim selsigen – roedd ymateb y cŵn i’r “ddamwain” yn fwy amyneddgar. Syllasant i lygad yr ymchwilydd, arosasant yn agosach i’r sgrin ac ysgwyd eu cynffonnau. Cilio a gorwedd i lawr oedd yr ymateb i’r pryfocio.  Yn ddiddorol, yn yr arbrofion ni ddigiodd y cŵn wrth i’r ymchwilwyr pryfoclyd wrth iddynt ddychwelyd yn ddiweddarach yn y sesiwn.

Rhestr fechan o anifeiliaid (y tsimpansî, y mwnci capuchin, macac Tonca, y ceffyl a’r parot llwyd ) sydd wedi adnabod y math yma o gymhelliad mewn arbrofion yn y gorffennol.  Mae cŵn wedi cyd-fyw yn agos yn gymdeithasol â phobl ers amser maith ac efallai bod hyn wedi arwain at batrymau gwybyddol arbennig. Y sialens bellach i’r arbrofwyr yw profi ai ymateb yn syml i amgylchiadau oedd y cŵn, neu a oes ganddynt y ddawn i ganfod meddyliau pobol – Theori’r Meddwl.

Pac o gŵn amdani, felly, i liniaru baich gwaith athrawon wrth asesu ai’n fwriadol neu ar ddamwain y daeth y traethawd arbennig hwnnw i’r fei !


Pynciau: ChatGPT, Canfyddiad Cŵn


Cyfeiriadau

ChatGPT: Jeremy Hsu (2023) Should schools ban ChatGPT or embrace the technology instead? New Scientist Rhif  3422 (Ionawr 21 2023), 15
Pablo Villalobos, Jaime Sevilla, Lennart Heim, Tamay Besiroglu, Marius Hobbhahn, Anson Ho (2022) Will we run out of data? An analysis of the limits of scaling datasets in Machine Learning. Arχiv:2211.04325

Canfyddiad Cŵn: Christoph J. Völter, Lucrezia Lonardo, Maud G. G. M. Steinmann, Carolina Frizzo Ramos, Karoline Gerwisch, Monique-Theres Schranz, Iris Dobernig a Ludwig Huber (2023)  Unwilling or unable? Using three-dimensional tracking to evaluate dogs’ reactions to differing human intentions. Proc Roy Soc B (Biological Sciences) 290, 1991 Ionawr 25


<olaf nesaf>