Barn 161 (Tachwedd 2022): Dyfodiad y Saeson, Covid a Rhyw Babanod


(Testun ar waith)

Ddiwedd mis Medi, gwireddais freuddwyd wrth ymweld â rhai o safleoedd yr Hen Ogledd yng nghwmni’r ecolegydd Glen George. Yn enedigol o Foncath mae Glen wedi hen gartrefui yn Ardal Llynnoedd Lloegr ac yn byw ger Llyn Windermere. Ar ôl ymddeol, ymddiddorodd yn hanes cynnar yr ardal honno ac yn 2017 cyhoeddodd ei gyfrol Golwg Newydd ar yr Hen Ogledd. Yn y llyfr mae Glen yn feirniadol iawn o agwedd nifer o haneswyr Lloegr, a’i sefydliadau, sy’n anwybyddu Brythoniaid y Canol Oesoedd Cynnar yn y rhan hon o’r byd.

Trwy gyd-ddigwyddiad, y penwythnos cynt, roeddwn wedi gweld copi o lyfr diweddar Syr Simon Jenkins (Cadeirydd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol o 2008 i 2014), The Celts – A Sceptical History (Profile Books, 2022).  A “truly dreadful book” yw disgrifiad Simon Rodway, Prifysgol Aberystwyth, ohono mewn adolygiad diweddar yn Nation Cymru. Rwy’n falch imi osgoi’r demtasiwn i’w brynu – a gobeithio na fydd byth angen i Glen gyfarfod â’i awdur-farchog !

Efallai mai holl ynysu Covid sydd ar fai, hyd yma ni chefais  gyfle i drafod manylion esboniadau lu Glyn am Reged, Altclud, Gododdin a theyrnasoedd eraill yr Hen Ogledd â’r un hanesydd proffesiynol ym Mangor. Edrychaf ymlaen at wneud hynny. Ond yn y cyfamser hoffwn gredu i Taliesin ddatgan ei fawl i Urien ac Owain ap Urien Rheged yn y neuaddau lle ceir heddiw adfeilion caer Ewe Close ger pentref Crosby Ravensworth yn nyffryn Llwyfenyd. Mae’n safle hudolus anfygythiol braf, gyda golygfeydd eang i bob cyfeiriad – yn arbennig ar ddiwrnod heulog fel y cawsom ni yno.

Gan fod fy mywyd wedi’i reoli gan gyd-ddigwyddiadau, nid syndod felly imi weld i’r diweddaraf mewn cyfres ddadlennol o bapurau ar DNA pobloedd gwledydd Prydain ymddangos yr union un wythnos yn Nature ! Y tro hwn, hanes dyfodiad y Saeson, gwrthwynebwyr Urien a’i deulu yn y rownd arbennig honno o “Gwpan Ewrop” yn nhymor y flwyddyn 595, yw’r testun.

Newidiodd canfyddiad haneswyr o fewnlifiad y Sacsoniaid i Ynys Prydain yn gyson dros y ganrif neu ddwy ddiwethaf. Fy nghof i o’m gwersi hanes yn yr ysgol oedd am Wrtheyrn yn gwahodd Hengist a Horsa i’w gynorthwyo. Ac i’r ddau, a’u lluoedd, oresgyn a Brythoniaid a’u hysgubo o’r neilltu. Ond ers y 1960au lledaenodd y syniad mai ychydig oedd nifer y mewnlifwyr ac mai’r Brythoniaid a newidiodd eu ffordd o fyw, a’u hiaith, i ddilyn ffasiwn eu dyrnaid o goncwerwyr gwrywaidd.

O’r diwedd, efallai, mae Duncan Sayer o Brifysgol Canol Swydd Gaerhirfryn a dim llai na phedwar ugain o gyd awduron wedi cynnig tystiolaeth fanwl o’r hyn a ddigwyddodd wedi i ddylanwad y  Rhufeiniaid gilio ddiwedd y bedwaredd ganrif. Maent wedi dadansoddi DNA 278 o sgerbydau o feddi yn Lloegr o’r Canol Oesoedd, o 450-850 O.C. yn bennaf, a’u cymharu â DNA o nifer cyffelyb o sgerbydau ledled Gogledd Ewrop. Techneg ddiweddar (sy’n rhannol ddyledus i’r Swediad Svante Pääbo a enillodd y Wobr Nobel am Ffisioleg neu Feddygaeth y mis diwethaf) yw hon, ac mae’n rhoi gwybodaeth llawer mwy uniongyrchol o’r gorffennol nag a geir drwy geisio gweithio yn ôl o DNA trigolion byw’r presennol. Cymharwyd y canlyniadau newydd â chanlyniadau cynharaf o samplau o’r Oesoedd Efydd a Haearn (cyn dyfodiad y Rhufeiniaid) – yn ogystal â data eang o boblogaeth bresennol Gogledd Ewrop. Canfuwyd dau glwstwr yn cyfateb i Orllewin Prydain (WBI; Cymru, Iwerddon a’r Alban) ac Ewropeaid Gogledd y Cyfandir (CNE; Gogledd yr Almaen a Denmarc). O’r sgerbydau o’r Oes Efydd a chynt, tuag 1% oedd â chyndadau CNE. Patrwm tebyg sydd i sgerbydau o’r Oes Haearn. O gyfnod y Rhufeiniaid y daw 15%. Ond gan mai o colonia Rhufeinig, a chosmopolitan, Caer Efrog y daw chwech o’r saith enghraifft yma, y tebyg yw nad yw’n nodweddiadol o’r boblogaeth yn gyffredinol. Ond o’r sgerbydau o’r Canol Oesoedd Cynnar mae 76% o’u nodweddion yn CNE. Mae nifer sylweddol o’r unigolion yn CNE “pur” – yn fewnfudwyr eu hunain, neu o deuluoedd na chymysgodd â’r brodorion. Ond ceir hefyd unigolion WBI “pur” yn cydorwedd yn y mynwentydd. Trwy fanylion y DNA, gwelir hanes un teulu dros sawl cenhedlaeth mewn mynwent yn Buckland, Dover (Dofr), ardal Hengist a Horsa. Ar ôl tair cenhedlaeth CNE pur, daw gwraig WBI pur i’r teulu – gan esgor ar ddwy ferch hanner a hanner. Dengys DNA yr ŵyrion i deulu arall cymysg ymuno â’r achau. Rhyfedd meddwl ein bod, mae’n debyg, yn gweld yma’r union unigolion a trosodd eu hiaith o’r Frythoneg i’r Sacsoneg. Daw dau yn unig o’r sgerbydau o gyffiniau Rheged ac Elfed o’r 7fed a’r 8fed ganrif (Clapdale a Ribblesdale). Maent yn 100% a 25% WBI. Patrwm Brythonig tebyg sydd i arfordir De Lloegr tu hwnt i ffiniau Caint.

Mewn ardal gymharol gyfyng yng ngwlad y Sacsoniaid (Niedersachsen) y gwelir tarddiad achau y rhan fwyaf (86%) o’r samplau. Priodol, felly, yw mai “Saeson” yw ein disgrifiad ohonynt.   Yn nodweddiadol, gwelir yr un patrwm yn olion y gwragedd ag sydd yn olion y dynion. Awgryma hyn nad milwyr gwrywaidd ymosodol oedd yn gyfrifol am y newid ond mewnlifiad teuluoedd.

Yn llawer diweddarach datgelodd y gwahaniaeth rhwng ffawd gwrywod a merched agwedd ddiddorol ar epidemig Covid yn 2020. Mewn adroddiad ar wefan medRχiv ganol mis Medi, dadlennwyd y bu cwymp yng nghanran y babanod gwrywaidd a anwyd ym Mehefin a Gorffennaf  2020. Fel arfer gwelir ychydig mwy o fabanod gwrywaidd na benywaidd. (Ffaith a ddisgrifiwyd gan John Graunt yn 1676.) Y dehongliad yw mai ymateb esblygiad ydyw i’r ffaith bod bechgyn yn fwy gwantan, a thebygol o farw’n ifanc, na merched. Rhwng 2012 a 2020 ganwyd 1054 bachgen i bob 1000 merch. Darganfu Margaret Ryan o Goleg y Drindod, Dulyn, a’i chydweithwyr mai 1040 oedd y ffigwr ar gyfer Mehefin 2020 yng Nghymru a Lloegr. Cwymp arwyddocaol yn ystadegol.

Tadogwyd y cwymp i’r pwysau a achoswyd gan adwaith y boblogaeth i’r cyhoeddiadau am Covid-19 ym mis Mawrth y flwyddyn honno. Nid dyma’r tro cyntaf y gwelwyd cwymp tebyg a hynny dri i bum mis ar ôl trawma cenedlaethol. Canfuwyd yr un peth yn Efrog Newydd ar ôl ymosodiadau Medi 11 2001, yn Norwy ar ôl ymosodiad Anders Breivik yn 2011 ac yn y DU ar ôl marwolaeth y Dywysoges Diana yn 1997.

Dehongliad y clinigwyr yw bod corff y fam yn hollol anymwybodol iddi’n erthylu ffetwsiau sy’n llai tebygol o oroesi mewn cyfnod o argyfwng – sef y bechgyn – yn ystod ail gyfnod beichiogrwydd. Dyma’r cyfnod y daw’r corff yn isymwybodol o gyflwr iechyd y ffetws. Oherwydd hyn, dadleua Ryan bod mesur canran y genedigaethau gwryw/benyw yn ffordd werthfawr a hygyrch i ddilyn cyflwr iechyd meddyliol a chorfforol poblogaeth dros amser.

Diddorol oedd gweld yn y data y bu cwymp sylweddol yn nifer y genedigaethau yn gyffredinol (ond cynnydd sylweddol yng nghanran y gwrywod) ym mis Rhagfyr 2020, naw mis ar ôl cychwyn y Clo Mawr. Adlewyrchiad o wahanol ymddygiad ymhlith gwahanol rannau o’r boblogaeth ar ddechrau’r flwyddyn, mae’n debyg. Neu efallai nad oedd hyn ond yn adlewyrchu beth oedd ar gael ar silffoedd Siôn Corn ar y pryd ?


Pynciau: Dyfodiad y Saeson, Covid a Rhyw Babanod


Cyfeiriadau

Dyfodiad y Saeson: Joscha Gretzinger, Duncan Sayer, Pierre Justeau, Eveline Altena, Maria Pala, Katharina Dulias, Ceiridwen J. Edwards, Susanne Jodoin, Laura Lacher, Susanna Sabin, Åshild J. Vågene, Wolfgang Haak, S. Sunna Ebenesersdóttir, Kristjan H. S. Moore, Rita Radzeviciute, Kara Schmidt, Selina Brace, Martina Abenhus Bager, Nick Patterson, Luka Papac, Nasreen Broomandkhoshbacht, Kimberly Callan, Éadaoin Harney, Lora Iliev, Ann Marie Lawson, Megan Michel, Kristin Stewardson, Fatma Zalzala, Nadin Rohland, Stefanie Kappelhoff-Beckmann, Frank Both, Daniel Winger, Daniel Neumann, Lars Saalow, Stefan Krabath, Sophie Beckett, Melanie Van Twest, Neil Faulkner, Chris Read, Tabatha Barton, Joanna Caruth, John Hines, Ben Krause-Kyora, Ursula Warnke, Verena J. Schuenemann, Ian Barnes, Hanna Dahlström, Jane Jark Clausen, Andrew Richardson, Elizabeth Popescu, Natasha Dodwell, Stuart Ladd, Tom Phillips, Richard Mortimer, Faye Sayer, Diana Swales, Allison Stewart, Dominic Powlesland, Robert Kenyon, Lilian Ladle, Christina Peek, Silke Grefen-Peters, Paola Ponce, Robin Daniels, Cecily Spall, Jennifer Woolcock, Andy M. Jones, Amy V. Roberts, Robert Symmons, Anooshka C. Rawden, Alan Cooper, Kirsten I. Bos, Tom Booth, Hannes Schroeder, Mark G. Thomas, Agnar Helgason, Martin B. Richards, David Reich, Johannes Krause a Stephan Schiffels (2022) The Anglo-Saxon migration and the formation of the early English gene pool. Nature 610 112–119

Covid a Rhyw Babanod: Gwinyai Masukume, Margaret Ryan, Rumbidzai Masukume, Dorota Zammit, Victor Grech, Witness Mapanga, Yosuke Inoue (2022) COVID-19 induced birth sex ratio changes in England and Wales. medRχiv Medi 15 


<olaf nesaf>