Barn 160 (Hydref 2022): Adnabod Wynebau, Cyfeillion, Bwyd Gwyrdd


(Tudalen ar waith)

Daeth oes fy mhasbort i ben yn ystod y Clo Mawr. Ar ddechrau’r haf, a’r posibilrwydd o deithiau Ewropeaidd yn ailwawrio, dyma fynd ati i gael pas (an-Ewropeiadd) newydd. Dim trafferth wrth lenwi’r ffurflen ar-lein nes  cyrraedd yr angen am lun. Crwydro’r tŷ a’r ardd gan chwilio am gefndir gwyn – cyn cofio am yr hen sgrin ar gyfer tafluniau yn hwylus gyferbyn â’m web-cam. Hwyl wedyn yn symud lampau nes i’r deial ar y sgrin (yn hynod o debyg i clapometer Hughie Green ac Opportunity Knocks ers talwm) gyhoeddi bod y ddelwedd yn un gampus. Pwyso’r botwm cyflwyno a pharatoi i aros am fisoedd am ymateb.

Ddeufis wedyn dyma haig o negeseuon (yn y ddwy iaith) yn cyrraedd yn f’hysbysu nad oedd y Sefydliad Hedfanaeth Sifil Rhyngwladol yn cymeradwyo fy nelwedd.  Penderfynais beidio â dadlau nad oeddwn, o barch at ffawd y blaned, yn bwriadu defnyddio gwasanaeth y Sefydliad Hedfanaeth yn y dyfodol a mynd ati i brofi rhyfeddodau cyflwyno fy llun i’r we mewn blwch pwrpasol un o siopau Stryd Fawr Bangor. Gyda’r troad, fe dderbyniais fy mhasbort newydd.  Iwerddon, Ffrainc – rhybudd ymlaen llaw !!

Fe wyddoch, mae’n debyg, bod yn rhaid osgoi unrhyw emosiwn a gwên ar gyfer y lluniau yma. O hyn allan, megis Llipryn Llwyd llyfrau Angharad Tomos y bodolaf i’r Brenin ac i’r Sefydliad Hedfanaeth. Drwy gyd-ddigwyddiad, yr union wythnos y derbyniais wg gwreiddiol yr Hedfanaethyddion, ymddangosodd papur ar wefan Arχiv am feddalwedd adnabod wynebau awdurdodau ffiniau Ewrop. Roedd hyd yn oed ei deitl – “Time flies by” – fel petai wedi’i fwriadu ar fy nghyfer !

Bwriad Marcel Grimmer, a’i dîm o Labordy Biometreg Norwy yn Gjøvik, oedd mesur effaith heneiddio ar berfformiad y camerâu adnabod. Gan nad oedd ganddynt fas data digonol o luniau pobl go iawn, defnyddiwyd meddalwedd heneiddio delweddau i greu dros 50,000 o luniau o bobl 10 i 70 mlwydd oed a oedd wedi’u ”heneiddio” gan feddalwedd priodol.

Darganfuwyd mai rhwng 20 a 60 oed y mae wynebau yn newid leiaf, ond hyd yn oed yn yr oedrannau hynny ‘roedd y camerâu yn cael trafferth adnabod unigolyn bum mlynedd ar ôl tynnu’i lun. Mewn cyfweliad â’r New Scientist, dywedodd Grimmer bod wynebau babanod yn newid o fewn deufis, a lled newidiol ydy’r wyneb nes cyrraedd tua 20 oed. Unwaith eto ar ôl 60, mae effaith henaint yn cyflymu.  A minnau newydd gyrraedd oed yr addewid, does ryfedd i’r Sefydliad Hedfanaeth gymryd gymaint o ddiddordeb a gofal wrth fy nghofnodi’n ddigidol.

Ofnaf fy mod yn un o rhai hynny sy’n cael trafferth cysylltu wyneb ag enw, ac yn dibynnu’n fawr ar luniau i’m hatgoffa. Diddorol i mi, felly, oedd erthygl ar wefan bioRχiv ddechrau Awst yn trafod ymateb yr ymennydd i gyfeillion a chydnebyd. Yn ein bywyd beunyddiol, rydym yn ymwybodol o raddau gwahanol o berthynas â phobl eraill. Ystyriwn ambell un yn gyfaill agos, ag eraill yn gydnebyd o wahanol radd. Dosbartha cymdeithasegwyr y rhain yn bum grŵp (Clique Cefnogaeth, Grŵp Cydymdeimlad, Grŵp Affinedd, Rhwydwaith Gweithredol, Cydnebyd heb gyswllt arferol). Tua 5 aelod sydd i’r grŵp agosaf a rhyw 150 rhwng y dosbarthiadau eraill i gyd. 

Aeth Moshe Roseman o Brifysgol Hebraeg Jerwsalem a’i gydweithwyr ati i ddarganfod bod gwahaniaeth sylweddol yn y modd y mae’n hymennydd yn ymateb i’r dosbarthiadau – neu o leiaf i’r cyfeillion agosaf. Rhoddwyd dau enw cyfaill yn ei dro i 26 o wirfoddolwyr a oedd yn gorwedd mewn sganiwr MRI. Mesurwyd gweithgaredd gwahanol rannau o’r ymennydd wrth ofyn iddynt osod y parau yn nhrefn eu hagosatrwydd. Gwnaeth pob gwirfoddolwr 400 o gymariaethau felly.

Canfuwyd mai rhannai gwahanol i’r ymennydd sy’n weithredol wrth inni feddwl am y grŵp agosaf o’u cymharu â’r lleill. Y cydrannau sy’n ymwneud â’n cyflwr meddwl ni ein hunain, ac eraill – megis y gyffordd arlais-barwydol a throell canol yr arlais. Yn llythrennol ‘rydym “o’r un meddwl” a greddf â’r cyfeillion hyn.    Y cydrannau sy’n ymwneud â’r cof – megis llabed canol yr arlais a’r freithell ôl-sbleniwm – sy’n weithredol wrth inni feddwl am gyfeillion eraill. Mae’r cydrannau ar gyfer y cyfeillion agosaf yn sylweddol mwy eu maint na gweddill y ddarpariaeth. 

Gwelwyd, yn ogystal, gysylltiad â chyfeillion agos a gofodau bychain, megis ystafell neu adeilad ond ardal neu ddinas oedd yn gysylltiedig â’r gweddill.  O ddiddordeb i ni’r Cymry, y mae unrhyw wahaniaethau rhwng ein hymateb i gyfeillion neu deulu i’w hymchwilio eto.

Pwysleisia’r canlyniadau gyfoeth a chymhlethdod ein perthynas â’n byd o’n cwmpas. Pwysleisia, hefyd, bwysigrwydd ychydig o gyfeillion da i’n hiechyd meddwl.

Ond yn yr un wythnos fis Awst ymddangosodd papur yn PNAS na fydd o unrhyw gymorth i’m hiechyd meddwl – neu o leiaf i’m cydwybod. Fel y pwysleisiwyd yn narlith Eisteddfod yr Athro Gareth Wyn Jones y soniais amdani yn Barn y mis diwethaf, mae’r dewis o’r hyn  a fwytawn- a thrwy hynny y sector amaeth – yn chwarae rhan bwysig yn yr ymgyrch i leihau  pechodau’r oes; allyriadau nwyon tŷ-gwydr, camddefnyddio tir, prinder a llygru (eutrophication) dŵr.  Ni ellir gwadu bod ambell ddosbarth o fwyd yn llawer mwy niweidiol i’n hamgylchedd nag eraill. Daw’r anhawster wrth ystyried bod y rhan fwyaf o’r hyn yr ydym yn ei brynu yn cynnwys cymysgedd o wahanol bethau. Nid oes gan yr un ohonom y wybodaeth angenrheidiol i wneud dewis gwybodus am bopeth.

Ond mae tystiolaeth bendant i ddangos bod asesu bwydydd unigol a’i labelu gan y cynhyrchydd yn dylanwadu’n llesol ar ein dewisiadau. Ond haws dweud na gwneud. Yn 2012 bu rhaid i gwmni Tesco roi’r gorau i ymgyrch i labelu’i gynnyrch yn ôl troed-nod carbon pan sylweddolwyd y byddai’n cymryd canrifoedd i orffen y gwaith asesu ar y cyflymder yr oedd wedi llwyddo i’w gyrraedd.

Yn awr, mae Michael Clark o Brifysgol Rhydychen a’i gydweithwyr wedi creu trefn mwy pragmataidd i gyflymu ac ymestyn y broses. Roedd asesiad derbyniol o effeithiau’r cynhwysion unigol eisioes ar gael (siwgr, olew palmwydd, cig eidion, ffa soia ac ati.) Y sialens oedd asesu’r cymysgeddau. Dewiswyd 57,185 o wahanol fwydydd o silffoedd wyth o brif werthwyr bwyd Gwledydd Prydain, gan gynnwys Tesco a Sainsbury. Roedd gwybodaeth gyhoeddus ar gyfer tua 10% ohonynt. Sut oedd asesu’r gweddill ? Paratôdd Clark a’i dîm algorithm cyfrifiadur a oedd yn defnyddio gwybodaeth y 10%, a’r ffaith ei bod yn ofynnol yng Ngwledydd Prydain i restru cynhwysion ar fwydydd yn nhrefn eu maint, i ddyfalu cynnwys y 90% arall. 

Nid syndod oedd y canlyniadau cyffredinol. Drwg-effaith bychan sydd i ddiodydd melys, ffrwythau a bara. Mae i lawer o bwdinau a chacennau ddylanwad cymedrol. Ond cig, pysgod a chaws yw’r drwgweithredwyr pennaf. Pwysigrwydd y gwaith yw ei fod yn cynnig modd ymarferol i’r gwerthwyr fynd ati i labelu eu bwydydd ar raddfa eang iawn.

Mae’n debyg y bydd angen mireinio’r manylion cyn y bydd modd ennill cefnogaeth yr holl sector i’r cynllun. Mewn adolygiad o’r gwaith yn y New Scientist esboniwyd nad yw’r bas data a ddefnyddiwyd yn manylu ar ffynonellau gwahanol gynhwysion, er enghraifft. Yn ôl Pwyllgor Newid Hinsawdd y DU mae allyriadau diwydiant cig eidion Prydain 14% yn is na chyfartaledd yr Undeb Ewropeaidd. Gellir rhagweld lle y bydd y dadlau dros y manylion – ond ni ddylai hyn atal symud ymlaen yn y maes holl bwysig yma. 


Pynciau: Adnabod Wynebau, Cyfeillion, Bwyd Gwyrdd


Cyfeiriadau

Adnabod Wynebau: Marcel Grimmer, Haoyu Zhang, Raghavendra Ramachandra, Kiran Raja, Christoph Busch (2022) Time flies by: Analyzing the Impact of Face Ageing on the Recognition Performance with Synthetic Data. Arχiv:2208.08207
Cyfeillion: Moshe Roseman, Robin I. M. Dunbar a Shahar Arzy (2022) Processing of Different Social Scales in the Human Brain. bioRχiv:
Bwyd Gwyrdd: Michael Clark, Marco Springmann, Mike Rayner, Peter Scarborough, Jason Hill, David Tilman, Jennie I. Macdiarmid, Jessica Fanzo, Lauren Bandy a Richard A. Harrington (2022) Estimating the environmental impacts of 57,000 food products. PNAS 119 (33) e2120584119


<olaf nesaf>