(Testun ar waith)
Haleliwia ! Mae’r Eisteddfod – neu o leiaf Fflur Dafydd yn ei chynhyrchiad Lloergan ar noson agoriadol yr Ŵyl yn Nhregaron – wedi datrys sialens fwyaf y Cymry dros yr oesoedd. Sut i fod mewn mwy nag un lle ar yr un pryd ? Ni welir mwy o angen y sgil honno yn unman (heblaw, efallai ar Faes y Gad Llywelyn a Glyndŵr) nag yn y Genedlaethol. Os nad oeddech yno, un o amryfal themâu’r perfformiad oedd creu clonau o’r prif gymeriad er mwyn iddi nid yn unig oroesi damwain angeuol ond byw fel gofodwraig ar y lleuad ac fel gwraig tŷ traddodiadol yng Nghymru yr un pryd. Tasg y mae sawl un wedi ceisio ei chyflawni ers blynyddoedd.
A dyna ni. Erbyn y flwyddyn nesaf yn Eifionydd, rwy’n disgwyl na fydd yn rhaid dewis rhwng Cymdeithasau 1, Y Babell Lên, Tŷ Gwerin ….. – ond mwynhau’r cwbl trwy eu mynychu i gyd yr un pryd! “Symls”, fel y dywed yr hysbyseb yswiriant enwog.
Roedd Lloergan, felly, yn gychwyn gwych pryfoclyd wyddonol i’r Ŵyl. Ond am eleni yn Nhregaron rhaid oedd bod yn fodlon ar un corff am weddill yr wythnos. Er gwaethaf hynny, llwyddais nid yn unig i brofi mwy o wyddoniaeth nag erioed yn y Pentref Gwyddoniaeth ond, hefyd, i fethu mwy nag erioed yr un pryd, fel y bydd y bylchau lu yn yr adroddiad hwn yn ei ddatgelu !
Roedd Tanya Jones o M-Sparc a’r Eisteddfod, Andrew Evans a gweddill y Pwyllgor Gwyddoniaeth wedi creu Gwladfa llawn bwrlwm o fore gwyn tan nos. Roedd y Fynedfa, a oedd yn fwriadol edrych fel petai ar fin dymchwel yn dipiau meddwol, i’w gweld o bob cwr o’r Maes enfawr – yn gannwyll i’r pry hen ac ifanc.
Prifysgol Aberystwyth, gyda’i thraddodiad hir o gefnogaeth i’r gwyddorau ffisegol a seryddol drwy’r Gymraeg, oedd prif noddwr y Pentref eleni. Hefyd, ers 2015 mae Cymdeithas Seryddiaeth y Brenin (Royal Astonomical Society) wedi noddi’r Genedlaethol a’r Urdd yn hael fel rhan o’i dathliadau 200 mlynedd (yn 2020). Yr Athro Eleri Pryse o Aberystwyth sydd wedi arwain Seryddiaeth a Geoffiseg trwy gyfrwng celfyddyd draddodiadol Cymru. Nid syndod, felly, bod arlwy gyfoethog yn y maes hwn eleni a oedd yn cynnwys sgyrsiau rhwng Fflur Dafydd a’i chydweithiwr, y seryddwr Huw Morgan, Manon Steffan Ros a’r wyddonwraig Rhian Meara a Meg Elis a Debbie Jones.
Nid yw’r Gymraeg yn brin o seryddwyr proffesiynol huawdl, a phleser pur oedd cael clywed y diweddaraf am sawl datblygiad cyffrous o lygad y ffynnon. Gan y bythol frwdfrydig Rhys Morris cafwyd y diweddaraf o Delesgôp Gofod James Webb – a ddechreuodd ddarlledu ei luniad dihafal o’r bydysawd jest mewn pryd i’r Eisteddfod (diolch ESA a NASA !). Gan Geraint Jones, Pennaeth Grŵp Gwyddoniaeth Planedau Labordy Mullard yn Llundain, cawsom y diweddaraf am y robotiaid sydd wedi ymweld â chomedau a’u harchwilio. Yn ei law ‘roedd model o’r gomed 67P/Churyumov-Gerasimenko – cyn ddued â’r fran ac yn union yr un siâp â hwyaden rwber. Mae Geraint yn hen law ar esbonio’i faes – gan gynnwys gwneud hynny ar ffurf cartŵn gofota.cymru. Mae ganddo hyd yn oed asteroid wedi ei enwi ar ei ôl ! (Geraintjones (2000 HX70)).
Rhaid cyfaddef y bu rhaid imi golli darlith Gwenllïan Williams, un o sêr Eisteddfod AmGen 2021, ar enedigaeth sêr yn y Llwybr Llaethog a hefyd Prif Ddarlith Wyddonol yr wythnos gan fy nghyfaill yr Athro Sharon Huws o Brifysgol Béal Feirste. Testun Sharon oedd ei gwaith ar ficrobau rwmen anifeiliaid cnoi cil. Pwnc amserol iawn yng nghyd-destun amaeth Cymru, diogelu cyflenwad bwyd a chwestiynau newid hinsawdd.
Da dweud, ni chollais berfformiadau gan ddau o hoelion wyth y sîn gwyddonol Cymraeg ers dros hanner canrif. Y Dr Goronwy Wynne a’r Athro Gareth Wyn Jones. Y ddau dros eu pedwar ugain yn dal mor frwd ag erioed. Goronwy, awdur y gyfrol ddiweddar Blodau Cymru, yn paentio llun rhamantus o ddarlunydd botanegol o ddechrau’r ganrif ddiwethaf o’r enw Emily Wood. Trwy gyd-ddigwyddiad noddwr Emily oedd John Morris o Lety’r Eos, Llansannan – cartref yr Athro Gareth Wyn a’i dad, Emyr Feddyg, am ddegawdau ar ôl yr Ail Rhyfel Byd. Ond taranllyd, yn bendant nid rhamantus, fyddai’r ansoddair priodol am gyflwyniad yr Athro o Fangor. Cafwyd disgrifiad awdurdodol a di-flewyn-ar-dafod o gyflwr bregus hinsawdd y ddaear yn sgil ymddygiad trachwantus ac oriog dynoliaeth a chri o’r galon am ymateb gennym. Yn anffodus, bu rhaid canslo cyflwyniad perthnasol ar Amaeth Gynaliadwy a Dyfodol Cefn Gwlad Cymru gan Hybu Cig Cymru. Tybed a oedd a wnelo hyn â’r ffaith bod eu caban yn sownd wrth un Llais y Goedwig, sy’n hybu coedwigoedd yn y gymuned ? Efallai i’r un ysbryd gataleiddio trafodaeth a oedd yn gyfrifol am ddefnyddio’r Sfferen Wyddonol i ddarlledu rhaglen Pawb a’i Farn bnawn Iau !
Roedd modd dianc o angst y presennol yn y Pentre’ trwy gydol yr wythnos. Bob bore ‘roedd y Sfferen yn llawn i wrando ar wahanol berfformwyr offerynnol a llafar yn darlunio Ceffyl y Sêr i’r bobl ifanc. A bu Tregaron yn driw i’r traddodiad o arddangosiadau ffrwydrol, swnllyd a lliwgar i’r plant. Mewn pabell syrcas yn lle’r pafiliwn gwyn y tro hwn. A bu nifer o berfformiadau anterliwtaidd ynghanol a thu ôl i’r lloc. Yr un a’m cyfareddodd i oedd dawns ddŵr wych gan Gwmni Dawns Kapow. Ac nid y fi oedd yr unig un yno – i ychwanegu at yr awyrgylch arallfydol pan oeddwn i yn ei gwylio, daeth y barcud coch, a dreuliodd ei wythnos yn y Pentre’ Gwyddoniaeth, i ymuno uwchben y ddwy ddawnswraig.
Ond dihangfa go iawn o’r bywyd hwn oedd thema cyfres o gyflwyniadau treiddgar trwy gydol yr wythnos. Un ohonynt oedd disgrifiad Rhodri ap Dyfrig (“Nŵdls” i’w gyfeillion), un o sefydlwyr Hacio’r Iaith, o’r Metasawd – sef y Rhithfyd y mae pobl megis Mark Zuckerberg am ei greu ar ein cyfer trwy benwisgoedd arbennig. Gyda diwydiant gemau cyfrifiadur eisioes yn werth mwy na gwerth cyfunol y diwydiannau ffilm a pop, amhosibl peidio â sylweddoli mai dyma fydd rhan bwysig o’r dyfodol i nifer o’n cyd-ddaearolion.
Rhan o realiti heddiw yw’r rhith-wirionedd a ddisgrifiwyd mewn cyfres o gyflwyniadau gan Rhys Bebb o Screen Alliance Wales. Nid wy’n gwsmer da i gyfresi teledu, ond mi fûm yn gaeth i’r ddwy gyfres sydd wedi’u darlledu o His Dark Materials (addasiadau o drioleg enwog Philip Pullman). Agoriad llygad go iawn oedd deall cyfraniad y cwmni o Gymru i olygfeydd y rhaglenni. Da oedd clywed gan Rhys, a gafodd wythnos brysur yn rhannu sgiliau gweledol o bob math gyda llu o blant a phobl ifanc (heb sôn am un biocemegydd ar ei bensiwn), y bydd y rhan olaf o’r campwaith i’w gweld ar ein sgriniau’r gaeaf hwn.
Diolch i bawb a fu’n gyfrifol am lwyddiant digamsyniol y Pentref Gwyddoniaeth a Thechnoleg eleni. Gwych oedd cwrdd â chymaint o wyddonwyr ifanc brwd yn Nhregaron. Cefais gymaint o brofiadau newydd – gan gynnwys fy sesiwn ysgrifennu creadigol cyntaf – diolch i Aneirin Karadog.
Gobeithio bod Fflur Dafydd ar fin rhyddhau’r manylion – mae’r rhes o swyddogaethau ar gyfer fy cloniau yn tyfu fesul diwrnod ! Mae sawl un ohonom yn dibynnu arni ar gyfer Eisteddfod Eifionydd.
Pwnc: Gwyddoniaeth Eisteddfod Genedlaethol Tregaron 2022