(Tudalen ar waith)
Yr Hen Afr Ddoeth, cyfaill Rupert yr Arth, oedd y gwyddonydd gyntaf imi fod yn ymwybodol ohono. Mewn un o lyfrau blynyddol yr arth y mae ef a’i gyfeillion yn ymweld ag arsyllfa’r afr. Yno, yng nghrombil mynydd, mae telesgop mawr yn casglu goleuni ac yn ei grynhoi mewn hylif wedi’i boteli. Creodd cyfarpar y labordy argraff o ryfeddod arnaf sydd wedi para hyd heddiw – er imi dreulio’r gyfrol wreiddiol yn ddim dros drigain o flynyddoedd yn ôl. Fe’i cyhoeddwyd yn 1951. Tybed a oedd y stori yn cynnwys y delweddau o fynyddoedd Eryri a bryniau Dyffryn Clwyd, a fu’n nodweddion o waith Alfred Bestall yr awdur a’r arlunydd a ymgartrefodd wrth droed Mynydd Sygun ger Beddgelert ?
Daeth hyn oll yn ôl imi wrth ddarllen yn Cell Reports Physical Letters am waith diweddar Kasper Moth-Poulsen a’i dîm yn Sweden a Tsieina. Mae pob un ohonom sydd â phaneli solar yn gwybod eu bod yn dda i ddim ar ôl machlud haul. Y sialens yw sut i storio’r egni er mwyn ei ddefnyddio yn ôl yr angen. Oni fyddai Jar Haul yr Afr Ddoeth yn ateb y galw ? Dyma, i bob pwrpas, yw byrdwn y gwaith diweddaraf. Roedd aelodau Tsieina’r tîm eisioes wedi datblygu’r hylifau (megis norbornadien) ar gyfer casglu egni goleuni’r haul ar gyfer gwresogi tai. Cam pwysig pellach oedd eu cysylltu ag adwaith effeithiol i ennill trydan o’r gwres yn uniongyrchol, heb golled. At y diben hwn defnyddir proses debyg i thermomedr digidol (effaith Seeback). Yn y gwaith diweddaraf, gan adleisio hanes Rupert, yn Sweden casglwyd egni’r haul mewn llond llwy de o hylif ac yna ei anfon i Tsieina lle’i defnyddiwyd i greu trydan. Mae modd storio’r hylif egnïol am ddeng mlynedd a mwy. Yn allweddol, hefyd, yw bod modd creu sglodion ar gyfer teclynnau megis ffonau symudol o’r un sylweddau. Fel hyn ni fyddai angen am fatri, a’i holl anawsterau, ynddynt.
Rai blynyddoedd ar ôl i Rupert ddod i’m byd, gwnaeth “Gafr Ddoeth” arall fy nghyflyru wrth fy nysgu am sut oedd modd i long hwylio ddefnyddio gwynt er mwyn symud i unrhyw gyfeiriad. Un o ryfeddodau’r set geometreg oedd y ddau sgwâr gosod. Gyda’r rhain a thrwy gymorth y pren mesur roedd modd creu’r paralelogram o rymoedd – a datrys cyfrinach y llong hwylio. Megis y Jar Haul, daeth atgof y paralelogram yn ôl wrth imi ddarllen am gynlluniau diweddaraf NASA i ddefnyddio gwynt yr haul ar gyfer llongau gofod hwylio.
Corwynt o ffotonau, gronynnau goleuni, sy’n gyrru hwyliau solar. Lansiwyd y llong arbrofol cyntaf o’i bath, IKAROS, i gyfeiriad y blaned Gwener gan asiantaeth ofod Siapan yn 2010. Mae’n addas iawn mai o’r wlad honno y daeth – o ystyried yr elfen origami sydd ei hangen i bacio’r hwyl i’r goden lansio. (Trwy gyd-ddigwyddiad, o hanesion Rupert yr Arth y lledaenodd diddordeb mewn origami yn yr ynysoedd hyn. Bestall oedd llywydd Cymdeithas Origami Prydain, a ffurfiwyd yn 1967, am nifer o flynyddoedd hyd ei farwolaeth.)
Sialens technoleg o’r fath yw newid cyfeiriad. Wrth droi i’r gwynt y mae llongwr môr yn trimio’r hwyl gan ei symud fel bod paralelogram y grymoedd yn addas ar gyfer y cyfeiriad newydd. Nid yw’n hawdd gwneud hyn ar long ofod. Bwriad Amber Dubill o Brifysgol Johns Hopkins ym Maryland, enillydd un o wobrau NIAC NASA eleni, yw defnyddio defnydd sydd ag arno rychau microsgopig. Bydd y rhychau yn adlewyrchu’r ffotonau i gyfeiriadau gwahanol trwy ddiffreithiad. Gellir rheoli cyfeiriad y rhychau, ac felly trimio’r hwyl, trwy drydan. Mae’r cynllun yma yn hynod o debyg i’r patrymau microsgopig yn eu hadenydd a’u plu sy’n rhoi lliwiau hyfryd i loynod byw ac i nifer o adar – megis glas y paun. O’r herwydd bydd yr hwyl wedi’i liwio gan batrymau cyfnewidiol o liwiau’r enfys.
Byddai hyn yn rhyfeddod i’w gweld. Ond er y bydd yn debygol y lansir nifer o’r llongau gofod yma yn y dyfodol agos, go brin y bydd neb mewn sefyllfa i weld eu harddwch. Eu nod fydd troelli pegynau’r haul, filiynau o filltiroedd o’r ddaear. Ni fyddant yn bell o’r 9 lloeren Helioswarm, y gobeithir er lansio gan NASA astudio gwynt yr haul yn 2028. Dyma’r prosiect mae’r ffisegydd ifanc Owen Roberts o Drefonwys, Bangor, ac sydd bellach yn gweithio yng Nghanolfan Ymchwil y Gofod yn Graz. Awstria, ynghlwm a hi.
Tra ‘roeddwn i’n dod i ‘nabod yr arth mewn trowsus siec melyn, roedd nifer fawr o blant Cymru ar drywydd creaduriaid Llyfr Mawr y Plant, gan gynnwys hoffter mawr Siôn Blewyn Coch o ieir y gwrth arwr-druan, Eban Jones. Rai blynyddoedd yn ôl cefais sgwrs ddifyr gyda’r archeolegydd Rhys Mwyn am olion tybiedig ieir yn olion Segontium. Roedd Rhys wedi sôn amdanynt wrth grŵp o blant ysgol yng Nghaernarfon y bore hwnnw. Defnyddiais ei sylwadau yn destun tiwtorial buddiol yr un prynhawn. Synnais ddeall felly, wrth ddarllen papur yn y cylchgrawn sylweddol PNAS ar ddechrau mis Mehefin, mai dim ond pan gyhoeddwyd ef eleni y datgelwyd gwir hanes creadur domestig mwyaf niferus y byd a phrif ffynhonnell cig dynoliaeth.
Dangosodd astudiaeth DNA yn 2020 mai o Iâr Goch y Jwngl (Gallus gallus spadiceus) o Dde Ddwyrain Asia y daw trigolion ein buarth. Ond nid oedd yn amlwg pryd y’u dofwyd – gydag ambell awgrym eu bod wedi cyd-letya â ni gyhyd â 10,000 o flynyddoedd. Bellach mae Ophélie Lebrasseur o Toulouse a thîm rhyngwladol wedi cynnig tystiolaeth gref mai dim ond ryw 3670 o flynyddoedd yn ôl y digwyddodd hyn. Nid yw darganfod esgyrn bach ieir (na phrofi eu habsenoldeb) yn beth hawdd mewn safleoedd archeolegol, ond daw’r olion cyntaf sicr o safle Ban Non Wat yng nghanolbarth Gwlad Thai. Yno mae esgyrn lu ohonynt – gan gynnwys rhai wedi’u claddu gyda’u perchnogion ar y cyd a chŵn, moch ag ychain. Mae’r tîm wedi adolygu’r honiadau am olion cynharach mewn safleoedd megis Mohenjo-daro a Harappa ym Mesopotamia, ac wedi eu dadbrofi.
Mewn astudiaeth eang, sy’n cynnwys tystiolaeth ieithyddol a chelfyddydol, yn ogystal â’r archaeoleg glasurol, mae’r tîm yn olrhain lledaeniad y dofednod ledled y byd – o’r Môr Tawel i Affrica ac Ewrop. Y Phoeniciaid a ddaeth â hwy i Orllewin Mor y Canoldir tua’r cyfnod y cofnodwyd hanesion Homer yn yr wythfed ganrif cyn Crist. Trwy fasnachu daethant i’r Byd Celtaidd. I ddyffrynnoedd y Donaw a’r Rhein erbyn diwedd y 6ed ganrif, ac i Brydain (lle darganfuwyd un asgwrn ger Côr y Cewri) erbyn diwedd y 5ed ganrif cyn Crist. Wedi hynny ‘roeddent yn rhan o’r dylanwad Rhufeinig cyffredinol. Tybed ai hyn sy’n esbonio eu presenoldeb posib yn Segontium ? Erbyn Oes y Saint yng Nghymru roeddent yn rhan o fyd y mynachlogydd Cristnogol.
O ystyried eu ffawd bresennol, syndod deall gan Julia Best o Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd, Prifysgol Caerdydd sydd yn aelod o’r tîm, nad oes tystiolaeth mai ar gyfer eu cig y trosglwyddwyd yr adar i Ewrop ar y cychwyn. Crêd Lebrasseur bod hyn yn wir o’r cychwyn yn Ban Non Wat. Beth, felly, oedd cymhelliad y bobl gynnar yma i groesawu’r adar i’w haelwydydd ? Rhywbeth i’w drafod wrth fwyta brechdanau, neu gyri, cyw iâr ar faes yr Eisteddfod eleni ! Mae fy arian i ar Siôn Blewyn Coch.
Pynciau: Storio Egni, Hwyliau Gofod, Tarddiad Ieir
Cyfeiriadau
Storio Egni: Zhihang Wang, Zhenhua Wu, Zhiyu Hu, Jessica Orrego-Hernández, Erzhen Mu, Zhao-Yang Zhang, Martyn Jevric, Yang Liu, Xuecheng Fu, Fengdan Wang, Tao Li, Kasper Moth-Poulsen (2022) Chip-scale solar thermal electrical power generation. Cell Reports Physical Science 3, (3) 100789
Hwyliau Gofod: Amber Dubill (Mai 24 2022) Diffractive Solar Sailing. Gwefan NASA.
Tarddiad Ieir: Joris Peters, Ophélie Lebrasseur, Evan K. Irving-Pease, Ptolemaios Dimitrios Paxinos, Julia Best, Riley Smallman, Cécile Callou, Armelle Gardeisen, Simon Trixl, Laurent Frantz, Naomi Sykes, Dorian Q. Fuller a Greger Larson. The biocultural origins and dispersal of domestic chickens. PNAS 119 (24) e2121978119
<olaf nesaf>