Barn 156 (Mai 2022): Lliw Croen, Sgiliau Mordwyo, Seren Bellaf


Mae’n swyddogol ! Mae, a bu, hinsawdd ynysoedd Prydain yn niwlog a di-haul. Mae’r dystiolaeth yn ein genynnau. Dim ond cwyno am ein hinsawdd a’n tywydd wnaeth yr hen Rufeiniaid drwy gydol eu harhosiad yma (fel y parha ambell un i’w wneud wrth fudo i’r Costa del Sol) ond newid eu cyfansoddiad yn sylfaenol fu hanes ein cyndadau a mamau brodorol yn yr Oes Efydd. Mae’r effaith i’w gweld o hyd yn ein hwynebau (ac ym mhoblogrwydd y parlyrau lliw haul).

Ar wefan bioRχiv ganol mis Mawrth mae Iain Mathieson o Brifysgol Pennsylvania a Jonathan Terhorst o Brifysgol Michigan yn dangos sut y bu i gyrff yr hen Frythoniaid addasu’u DNA a’u genynnau dros gyfnod cymharol fyr. 

Bu cyfres o fewnlifiadau i’n hynys dros y mil flynyddoedd ers Oes y Rhew. Un o’r rhai mwyaf dylanwadol oedd dyfodiad (ymosodol mae’n debyg) pobl y biceri cloch, disgynyddion Yamna y dwyrain (Wcráin a de Rwsia heddiw) sy’n gysylltiedig â chychwyn yr Oes Efydd yma tua 4,500 o flynyddoedd yn ôl. Chwiliodd Mathieson a Terhost ymysg esgyrn 529 o drigolion ein hynys dros y ddwy fil o flynyddoedd ar ôl y cyfnod hwnnw gan edrych am unrhyw addasiadau i sialensiau cartref newydd y boblogaeth gymharol sefydlog yma.

Elfen wreiddiol a chwyldroadol Damcaniaeth Esblygiad Charles Darwin ac Alfred Russel Wallace, yng nghanol y 19 ganrif, oedd y syniad mai “pwysau dethol naturiol” newid eu hamgylchedd sy’n gyrru esblygiad popeth byw. Mae hyn yn arbennig o berthnasol ar hyn o bryd wrth i newid hinsawdd sbarduno newidiadau cyflym. Yn eu hymchwil mae Mathieson a Terhost wedi mesur a gosod gwerth ar ba “bwysau” esblygiad oedd y pwysicaf wrth i drigolion yr Oes Efydd gynefino â’u cynefin newydd.

Yn nilyniant cemegol y DNA daethant o hyd i saith addasiad o’r fath. Er mawr syndod iddynt ‘roedd a wnelo pob un ohonynt â sialens byw mewn gwlad gymylog ! Sef sut mae’r corff dynol yn cronni fitamin D a derbyn digon o’r mineral calsiwm i gadw’n iach.  Mae’r ddau yn gysylltiedig gan fod angen fitamin D arnom i amsugno calsiwm o’n bwyd a diod.  Mae calsiwm yn hanfodol i lu o brosesau – yr enwocaf yw cynnal esgyrn a dannedd iach. Nid fitamin “go iawn” yw fitamin D gan ein bod yn ei gynhyrchu drwy effaith yr haul ar ein crwyn. Mae modd ychwanegu ato trwy ei fwyta, ond nid yw ffynonellau da ohono i’w cael ym mhobman.

Nid oedd hyn yn broblem i’n cyndadau yn yr Affrig, lle mae digonedd o heulwen. Yn wir yno, mae perygl i belydrau Uwch Fioled greu cancr yn y croen wedi creu pwysau dethol i amddiffyn y croen drwy ei dywyllu. Yno mae cydbwysedd rhwng yr angen am fitamin D a’r angen i osgoi cancr.

Ond wrth fudo i ynysoedd gogledd orllewin Ewrop roedd diffyg haul yn creu problem ddybryd. Mae’n debyg i’r helwyr-gasglwyr cyntaf oroesi ar y cyflenwad fitamin a geir mewn ambell bysgodyn seimllyd (fel y gwna Inuit yr Arctig). Gwyddom o DNA ei olion mai tywyll oedd croen Dyn Cheddar 10,000 o flynyddoedd yn ôl. Gwinau, hefyd, oedd croen ambell Wyddel 5,000 o flynyddoedd yn ôl.

Ond wrth i’r helwyr-gasglwyr droi’n amaethwyr byddent wedi dioddef. Un ymateb oedd dechrau cadw defaid a gwartheg ac yfed llaeth i ddarparu mwy o galsiwm. Y broblem oedd nad oedd y rhan fwyaf o’r oedolion yn medru goddef y lactos yn y llaeth! Ond ‘roedd ambell un o’r Yamna yn  “fwtantiad” – a dyna gychwyn y datrysiad. Genyn goddef lactos yw’r genyn â’r “pwysau dethol” cryfaf y mae Mathieson a Terhorst yn ei ganfod. Lledaenodd hwn drwy’r boblogaeth yn fuan. Ond ateb cymorth cyntaf i leihau symptomau yn unig oedd hynny. Roedd y pwysau esblygu nesaf ar gyfer dau enyn cysylltiedig â lliw golau croen, gwallt a llygaid a fyddai’n cynyddu cynhyrchu fitamin D . A dyma gychwyn ar y nodwedd “Celtaidd” o groen golau (a gwallt coch). Yn araf lledaenodd y priodoleddau ar draws gogledd a dwyrain Ewrop. Ond ni fu’r newid cyn gyflymed ag y bu ar ynys Prydain rhwng 2500 a 1000 cyn Crist.

Mae’n debyg i ddirmyg y Rhufeiniaid tuag at arferion bwyta cig eidion ac yfed llaeth y Prydeinwyr Anwar leihau’r dylanwad dethol biolegol. Roedd yn well ganddynt ddioddef. Mae’r newid yma i’w weld yn esgyrn y trigolion o’r cyfnod hwnnw.

Nid oedd modd i’r Rhufeiniaid guro natur wrth ymdrin â diffyg fitamin D yn yr hen ddadl ai “Natur ynteu Fagwraeth”? Ac oherwydd eu magwraeth ni fuasent ychwaith wedi  cael llawer o hwyl wrth chwarae’r gêm cyfrifiadur Sea Hero Quest. Gêm yw hon lle mae’n rhaid i’r chwaraewr lywio llong wrth chwilio am greaduriaid y môr. Fe’i crëwyd yn unswydd i hyrwyddo ymchwil gan fudiadau megis Alzheimer Research UK.  Mae gan ei pherchnogion fas data am ddoniau 3.9 miliwn o chwaraewyr mewn 38 o wledydd. Mewn erthygl yn Nature ddiwedd mis Mawrth aeth Hugo Spiers o Goleg y Brifysgol Llundain a thîm rhyngwladol ati i astudio 397,162 ohonynt. Eu darganfyddiad yw bod natur ardal eich magwraeth yn effeithio’n sylweddol a pharhaol ar eich sgiliau mordwyo, ni waeth lle byddwch yn byw yn oedolyn.  Ar y cyfan mae gan blant o ddinasoedd sgwarog, megis Chicago (neu drefi’r Rhufeiniaid) sgiliau cyffredinol salach na’r rhai hynny o’r wlad, neu o ddinasoedd mwy di- drefn, megis Prâg. Ond roeddynt yn sgorio’n well ar lefelau mwy trefnus y gêm. Pwrpas yr ymchwil yw ceisio deall sut mae amgylchedd dyn yn effeithio ar ei iechyd meddwl yn gyffredinol, gan bwysleisio ffactorau megis cynllunio trefol.

Wn i ddim am blentyndod criw’r USS Enterprise o’r gyfres Star Trek, ond byddai angen sgiliau arbennig arnynt i fordwyo i seren a ddarganfuwyd yn ddiweddar gan y Telesgop Hubble. Yn yr un rhifyn o Nature mae Brian Welch o Brifysgol Johns Hopkins, Maryland, a’i gydweithwyr yn disgrifio’r seren bellaf a welwyd erioed. Cynorthwywyd pŵer rhyfeddol y telesgop gofod hwnnw gan bresenoldeb clwstwr o alaethau rhyngddo a’r seren. Yn hytrach na chuddio’r seren, mae disgyrchiant y clwstwr yn plygu llwybr ei oleuni ac yn ymddwyn megis lens i chwyddo’r ddelwedd filoedd o weithiau. Fel arfer byr yw effaith y lensiau disgyrchiant yma, ond yn achos WHL0137-LS parhaodd yr effaith am 3.5 mlynedd gan alluogi astudiaeth fanwl o’r seren sydd rhwng 50 a 100 gwaith mwy na’r haul. Fe’i bedyddiwyd yn “Earendel”, yr Hen Saesneg am “Seren Fore”, gan y seryddwyr. Mae’r goleuni wedi bod yn teithio ohoni am 12.8 biliwn o flynyddoedd – ond gan ei bod yn teithio i ffwrdd ohonom, mae Earendel bellach ryw 27.7 biliwn o flynyddoedd goleuni i ffwrdd.

Rhyfedd meddwl nad yw’n amhosibl bod ei goleuni yn gymorth heddiw i ryw greadur ar blaned yn troi o’i hamgylch greu fitamin D yn ei gnawd.


Pynciau: Lliw Croen, Sgiliau Mordwyo, Seren Bellaf


Cyfeiriadau

Lliw Croen: Iain Mathieson a Jonathan Terhorst (2022) Direct detection of natural selection in Bronze Age Britain. bioRχiv (Mawrth16)

Sgiliau Mordwyo: A. Coutrot, E. Manley, S. Goodroe, C. Gahnstrom, G. Filomena, D. Yesiltepe, R. C. Dalton, J. M. Wiener, C. Hölscher, M. Hornberger a H. J. Spiers (2022) Entropy of city street networks linked to future spatial navigation ability. Nature 604, 104–110

Seren Bellaf: Brian Welch, Dan Coe, Jose M. Diego, Adi Zitrin, Erik Zackrisson, Paola Dimauro, Yolanda Jiménez-Teja, Patrick Kelly, Guillaume Mahler, Masamune Oguri, F. X. Timmes, Rogier Windhorst, Michael Florian, S. E. de Mink, Roberto J. Avila, Jay Anderson, Larry Bradley, Keren Sharon, Anton Vikaeus, Stephan McCandliss, Maruša Bradač, Jane Rigby, Brenda Frye, Sune Toft, Victoria Strait, Michele Trenti, Soniya Sharma, Felipe Andrade-Santos a Tom Broadhurst (2022) A highly magnified star at redshift 6.2. Nature 603, 815–818


<olaf nesaf>