Barn 155 (Ebrill 2022): Atgofion, Bonobo, Homo sapiens, Prinfwynau


Pan oeddwn yn blentyn yn Ysgol Bryntaf, fy hoff gystadleuaeth eisteddfod oedd darllen y darn heb atalnodau. Hwyl garw, a oedd yn pwysleisio pwysigrwydd y smotiau bach. Mae’n debyg iawn mai dyna wraidd fy obsesiwn anffasiynol mewn dosbarthiadau tiwtorial ynglŷn ag atalnodi eglur mewn traethodau dros y blynyddoedd.   Yn yr un modd, wrth baratoi colofn fel hon, mae’n bwysig bod modd cadw gwahanol ffeithiau ac atgofion ar wahân yn y cof. Penbleth fyddai cymysgu hanes am seren niwtron, dyn ffosil ac ymddygiad sioncyn y gwair. Yn wir, wrth fynd o ddydd i ddydd onid llafurus fyddai ymwneud ag un llif diddiwedd o brofiad ? Rhaid wrth atalnodau. Rhwng yr atalnodau cawn yr hyn a elwir yn atgofion.

Yn 2011 aeth Youssef Ezzyat a Lila Davachi o Brifysgol Efrog Newydd ati i ddisgrifio’r ffenomen yn drwyadl am y tro cyntaf. Rhennir ein profiadau yn atgofion unigol wedi’u didoli. Mewn papur yn Nature Neuroscience ar ddechrau mis Mawrth aethpwyd un cam ymhellach. Ynddo mae criw o’r Unol Daleithiau a Chanada o dan oruchwyliaeth Gabriel Kreiman ac Ueli Rutishauser wedi egluro rhywfaint ar y broses ar lefel celloedd unigol yr ymennydd. Am resymau amlwg, anodd gwneud arbrofion ar ymennydd pobl byw. Ond manteisiodd y tîm ar ryw ugain o gleifion a oedd yn yr ysbyty ar gyfer trin epilepsi drwg. Fel rhan o’r driniaeth bu rhaid gosod electrodau yn rhan hipocampws yr ymennydd am gyfnod o sawl diwrnod. Wrth recordio ymddygiad trydanol tua 30 o gelloedd unigol – niwronau gofynnwyd i’r cleifion wylio cyfres o glipiau fideo. Canfuwyd ymddygiad nodweddiadol mewn rhyw 7% o’r celloedd. Cynyddodd eu gweithgarwch bob tro y dechreuodd rhywbeth newydd ddigwydd yn y fideo. Gan gofnodi dechrau atgof newydd. Celloedd ffiniau atgofion, yn atalnodi a ffeilio’r profiadau unigol. Ymateb un sylwebydd oedd bod hyn yn awgrymu bod celloedd yr hipocampws megis ffeiliau yn pennu pa olygfeydd i’w gosod gyda’i gilydd i greu atgofion unigol.

Erys cryn dipyn i’w ddysgu am weithgaredd y cof, ond mae hwn yn ddatblygiad o bwys nid yn unig i’w ddeall yn glinigol ond i gynorthwyo’r rhai lle mae rhywbeth o’i le ar y broses.

Un atgof na ddaeth erioed i’m hipocampws i oedd y profiad o ddarganfod brawd neu chwaer fach ar yr aelwyd. Rwy’n unig blentyn. Ond diddorol iawn imi oedd darllen am waith sŵolegwyr o’r Almaen a thu hwnt (ar wefan bioRχiv) wrth iddynt astudio adwaith epaod bonobo bach i’r profiad. Astudiwyd 26 ohonynt rhwng 2 a 8 oed ym Mharc Cenedlaethol Salonga yn y Congo. Cofnodwyd eu hymddygiad a chasglwyd eu dŵr yn rheolaidd – gan fesur yr hormon stres, cortisol, ynddo.  Am gyfnod glynodd yr anifeiliaid at eu mam yn dynnach. Adwaith i adennill ei sylw disgwyliedig, efallai,  neu am eu bod yn frwdfrydig i weld y peth bach newydd. Ond yn nodweddiadol, gwelwyd cynnydd bum gwaith yn lefel yr hormon yn y dŵr ar enedigaeth y newydd ddyfodiad. Cynnydd a barodd am dros saith mis. Cadarnhawyd mai adwaith i’r newid byd, yn hytrach nag effaith metabolaidd diddyfnu, oedd hyn.

Bu, hefyd, ostyngiad mewn elfen o’r drefn imwnedd, neopterin, dros yr un cyfnod. Hyd yma, ni fesurwyd y cemegolion hyn yn nŵr plant wrth iddynt brofi’r un newidiadau. Ond y tebygolrwydd yw bod yr ymddygiad cyffredin a welir ynddynt yn dilyn yr un patrwm ffisiolegol a’r bonobo a bod ei wreiddiau yn ddwfn yn ein hesblygiad . Sylw un sylwebydd oedd mai dyma gychwyn y berthynas hiraf y bydd y rhan fwyaf ohonom yn ei phrofi.

Byrhoedlog, os o gwbl, oedd perthynas dau deulu mewn ogof yn ne Ffrainc 54,000 o flynyddoedd yn ôl.  Bydd darllenwyr cyson y golofn hon yn gyfarwydd â’m hoffer o dystiolaeth o ddigwyddiadau “un ennyd fach” ymhell yn ôl mewn amser neu bellter cosmolegol. Mae hanes o’r fath i’w weld yn Science Advances ganol Chwefror lle esbonia Ludovic Slimak, Clément Zanolli a’u tîm o archeolegwyr eu darganfyddiadau diweddaraf o Ogof Mandrin ar lannau’r Rhône.  Ceir yno dystiolaeth bod ein cefndryd diflanedig y Neanderthal wedi byw yno am ddegau o filoedd o flynyddoedd. Yna un flwyddyn, ar ôl cynnau un tân olaf aethant o’r ogof.  O fewn y flwyddyn ‘roedd teulu bach newydd wedi cyrraedd a chynnau tân newydd. Nid Neanderthal mo’r rhain ond Homo sapiens, ein rhywogaeth ni.  Buont yno am tua 40 mlynedd cyn diflannu oddi yno. Yn fuan wedyn daeth y Neanderthal yn ôl.  Daw’r wybodaeth fanwl hon trwy astudio’r haen o galch a dyfodd dros huddygl y tanau. Mae modd dyddio hwn i’r flwyddyn agosaf. Prin iawn yw tystiolaeth Homo sapiens, a’i arfau gwahanol, mor bell i’r gorllewin o’r Lefant yn y cyfnod hwn. Beth tybed a ysgogodd y “Groegiaid” cynnar yma i fudo am genhedlaeth neu ddwy i dde Ffrainc ? A beth oedd eu hanes wedyn – gan gynnwys eu perthynas â’u cefndryd cynhenid ?

Lludw mwy diweddar ymglymodd fy hanesyn olaf y mis hwn. Ar ddechrau Mawrth fe glywais ar Radio Cymru adroddiad bod awdurdodau Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn buddsoddi £8 miliwn trwy brynu safle a chynnwys hen bwerdy glo Aberddawan a ddiffoddwyd fel ffynhonnell trydan yn 2019. Cam yw hwn yng nghynlluniau’r awdurdod i ymateb i her ynni gwyrdd y dyfodol  trwy ailgyfeirio isadeiledd y safle at wasanaeth egni cynaliadwy. Ond troednodyn yn yr hanes a dynnodd fy sylw. Un o broblemau mawr y safle dros y blynyddoedd oedd y pryder parhaol o lygredd confensiynol – llwch a metelau gwenwynig yn y tomenni enfawr o ludw ar y safle.  Mae cryn ddefnydd i’r diwydiant adeiladu yn y lludw o’i drin, ond bu storfa Aberddawan yn destun protest ers degawdau.

Pen tost i’r perchnogion newydd yn sicr. Ond ar ddiwedd cyfweliad Radio Cymru crybwyllwyd y posibilrwydd o adennill rhai o’r metelau, y prinfwynau, sydd yn y lludw. Dyma’r elfennau holl bwysig i nifer o’r teclynnau clyfar y dyfodol. Nid yn unig ceir problemau amgylcheddol ynglŷn â’u cloddio o’r newydd, ond ar hyn o bryd fe’u mwyngloddir yn bennaf yn Tsieina (81% o gyflenwad y byd yn 2017) lle buont eisioes yn destun brwydr wleidyddol-fasnachol. Mae cryn ddiddordeb, felly, mewn ail-gylchynu elfennau megis Neodymiwm, Ewropiwm a Therbiwm. Ar hyn o bryd cynhyrchir 750 miliwn tunnell o ludw o bwerdai glo bob blwyddyn trwy’r byd; a hanner cilogram o bob tunnell o hwnnw’n brinfwynau. Yr hyn sy’n cadw  Prifddinas-Ranbarth Caerdydd rhag gwneud ffortiwn o hen domenni Aberddawan yw nad oes llwybr cost-effeithiol i’w gael.    Y broblem yw eu hechdynnu’n effeithiol. Ond ar ddechrau Chwefror, eto yn Science Advances, cyhoeddodd James Tour o Brifysgol Rice yn Texas a’i dîm ddull yr honnant y gellir ei ddatblygu’n effeithiol ar raddfa fawr, sef cynhesu’r lludw am eiliad i dymheredd o 3000 °C.

Rwy’n sicr y dylai trethdalwyr deg rhanbarth Morgannwg a Gwent – heb sôn am y gweddill ohonom-  ddymuno pob llwyddiant i wireddu’r freuddwyd hon. Byddai’n addas iawn gweld diwydiant proffidiol newydd yn codi yn llythrennol o ludw’r hen faes glo a fu mor bwysig yn ein hanes.


Pynciau: Atgofion, Bonobo, Homo sapiens, Prinfwynau


Cyfeiriadau

Atgofion: Jie Zheng, Andrea G. P. Schjetnan, Mar Yebra, Bernard A. Gomes, Clayton P. Mosher, Suneil K. Kalia, Taufik A. Valiante, Adam N. Mamelak, Gabriel Kreiman & Ueli Rutishause (2022) Neurons detect cognitive boundaries to structure episodic memories in humans. Nature Neuroscience 25, 358–368

Bonobo: Verena Behringer, Andreas Berghänel, Sean M. Lee, Barbara Fruth a Gottfried Hohmann (2022) Transition to siblinghood causes substantial and long-lasting physiological stress reactions in wild bonobos. bioRχiv Chwefror 17

Homo sapiens: Ludovic Slimak, Clément Zanolli, Tom Higham Marine Frouin, Jean-Luc Schwenninger, Lee J. Arnold, Martina Demuro, Katerina Douka, Norbert Mercier, Gilles Guérin, Hélène Valladas, Pascale Yvorra, Yves Giraud, Andaine Seguin-Orlando, Ludovic Orlando, Jason E. Lewis, Xavier Muth, Hubert Camussé, Golène Vandevelde, Mike Buckley, Carolina Mallol, Chris Stringer a Laure Metz (2022) Modern human incursion into Neanderthal territories 54,000 years ago at Mandrin, France. Science Advances 8, rhif 6

Prinfwynau: Bing Deng, Xin Wang , Duy Xuan Luong, Robert A. Carter, Zhe Wang, Mason B. Tomson a James M. Tour (2022) Rare earth elements from waste. Science Advances 8, rhif 6 


<olaf nesaf>