Barn 119 (Tachwedd 2018): DNA Yamna, Ediacara, Cynefin Defaid, Cwsg Babanod


Un o uchafbwyntiau cynhadledd Cymdeithas Enwau Lleoedd Cymru ym Mangor fis diwethaf oedd ymdriniaeth yr Athro Hywel Wyn Owen ag enwau Cymraeg Swydd Gaer. Ymddengys i wŷr Mercia orchfygu’r Brythoniaid, a oedd yno’n ystod y 7fed a’r 8fed ganrif, yn llwyr yn ieithyddol. Oherwydd hynny ffurfiau “ffosil” Cymraeg Cynnar ganrifoedd ynghynt sy’n ymddangos yn Llyfrau Domesday (1086). Yn eironig, nid oes eu tebyg wedi goroesi yng Nghymru.  Nid peth newydd oedd goresgyniad o’r fath yn hanes y byd. Cwestiwn parhaol i haneswyr yw ai trwy drais neu berswâd y bu’r ymryson bob tro.

Yn ystod New Scientist Live, gŵyl a gynhaliwyd yn Llundain ddiwedd mis Medi, disgrifiodd David Reich o Ysgol Feddygol Harvard enghraifft glir a gafwyd yn nhir Sbaen a Phortiwgal yn ystod yr Oes Efydd 4500 o flynyddoedd yn ôl. Mae’r canlyniadau o ddiddordeb i ni heddiw, oherwydd maent yn ymwneud â hanes Gorllewin Ewrop yn gyffredinol. Hyd yn ddiweddar stori gymharol syml oedd dyfodiad dynion a gwragedd modern (Homo sapiens) i’n cyfandir.  Cyrhaeddasom tua 45,000 o flynyddoedd yn ôl o’r Dwyrain Canol, gan lwyr ddisodli’r Neanderthal blaenorol, o bosib heb ddefnyddio trais uniongyrchol, erbyn 39,000 o flynyddoedd yn ôl. Yr helwyr-gasglwyr sapientaidd hyn oedd poblogaeth y cyfandir hyd eu disodli hwythau gan ddyfodiad y ffermwyr cyntaf, hefyd o’r Dwyrain Canol, tua 9,000 o flynyddoedd yn ôl. Un o nodweddion anghynnes y ffermwyr hyn oedd trais a hil-laddiad (ymysg ei gilydd), fel y tystia archaeoleg o Talheim a Schöneck-Kilianstädten yn yr Almaen ac Asparn/Schletz yn Awstria dros yr ugain mlynedd diwethaf. Mae cyrff y lladdedigion i’w gweld o hyd. Ond nid oeddynt yn unigryw yn hynny o beth. Yn 2015, yn rhan o chwyldro rhyfeddol gwybodaeth a ddaw wrth ddadansoddi DNA gweddillion y gorffennol, darganfuwyd trydydd mewnlifiad pellgyrhaeddol. Roedd olion archeolegol diwylliant y Yamna, neu Yamnaya (yn Rwsieg), o Oes Efydd gynnar eisoes wedi’u gweld o ddwyrain Ewrop i Fongolia. Tua 5,000 o flynyddoedd yn ôl roeddent wedi dysgu defnyddio’r ceffyl a’r olwyn ac o’r herwydd ymledasant yn sydyn i bob cyfeiriad o’u mamwlad i’r gogledd i’r Moroedd Du a Chaspia. Trwy ddadansoddi’r esgyrn o’r cyfnod, gwyddom mai’r bobl hyn, ac nid eu dylanwad yn unig, a fudodd i Ewrop. Bellach gwyddom mai eu DNA nhw yw’r mwyaf dylanwadol heddiw o holl ffynonellau DNA Ewrop. Mae’n cynnwys yr haplotypau R1a a R1b y bu cymaint o sôn amdanynt (yn anghywir, mae’n debyg) yn llyfrau dechrau’r ganrif megis The Origins of the British gan Stephen Oppenheimer.  Nid yw DNA’r Cymry yn eithriad. Ychydig iawn o DNA adeiladwyr Côr y Cewri (5 – 4,000 o flynyddoedd yn ôl) a oroesodd y mewnlifiad ym Mhrydain. Er mae’n debyg mai i’r Yamnaya y mae’r diolch am ddod â’r ieithoedd Indo-Ewropeaidd, gan gynnwys y Gymraeg, atom.  Ar y cyfan, wrth symud i Dde’r cyfandir mae’r cyfraniad yn lleihau. Ychydig iawn sydd i’w weld yn DNA Sardinia heddiw.  Er hynny, o Dde Ewrop, Sbaen a Phortiwgal, y daeth dadansoddiad diweddar Reich. Mae DNA’r Yamnaya yn ymddangos yno 4500 o flynyddoedd yn ôl ac yn cyrraedd 40% yn weddol fuan – tystiolaeth o ryngbriodi ar raddfa eang. Ond yr hyn sy’n ddadlennol yw bod olion y cromosom Y cynhenid – cyfraniad unigryw DNA’r gwŷr brodorol – yn diflannu’n llwyr ar unwaith. Tystiolaeth gref iawn, felly bod y Yamnaya wedi lladd yr holl ddynion brodorol wrth eu goresgyn a chymryd y gwragedd iddynt eu hunain.

Dickinsonia_species_2Cyndadau ychydig yn hŷn oedd y ffosiliau a ddisgrifiwyd yn Science gan Jochen Brocks a’i gydweithwyr o Brifysgol Genedlaethol Awstralia ym mis Medi. Dyddient o’r cyfnod Ediacaraidd (gw. Barn Nadolig 2008) 560 miliwn o flynyddoedd yn ôl. Mae perthynas y ffosiliau hyn â’r ffurfiau bywyd a ymddangosodd yn ystod y “Ffrwydrad Cambriaidd”  ryw 20 miliwn o flynyddoedd yn ddiweddarach yn aneglur. Nid oedd cytundeb ai anifeiliaid ynteu blanhigion – neu rywbeth hollol wahanol – oeddent. Ni fydd byth obaith mesur eu DNA ond mae Brocks a’i dîm wedi llwyddo i fesur moleciwl organig eithaf cyfarwydd mewn ffosiliau Dickinsonia o’r cyfnod. Y moleciwl yw’r un colesterol sy’n gymaint o fwgan i ddietegwyr ein hoes ni. Nodwedd yn perthyn i anifeiliaid ac nid i unrhyw ffurf arall ar fywyd yw hwn; prawf mai Dickinsonia oedd un o anifeiliaid cyntaf ein planed – os nad y cyntaf. Dyma felly enw arall i bawb sy’n ceisio ymestyn eu cart achau ei gynnwys. (Atodiad: Ym mis Tachwedd 2018 cyhoeddwyd awgrym mai nid anifail oedd Dickinsonia, ond rhywbeth a diflannodd heb ddisgynyddion. Mae’n faes dadleuol !)

Os mai’r Yamnaya a gyflwynodd geffylau dof i Ewrop, eu rhagflaenwyr, y ffermwyr neolithig, a ddaeth â defaid dof i’n cyffiniau. Trwy fyw ar lethrau’r Carneddau dysgais lawer am ymddygiad y creaduriaid hyn dros y blynyddoedd. Un o’u rhyfeddodau yw eu dawn i ddychwelyd i’r un cynefin dros yr haf flwyddyn ar ôl blwyddyn. Yn y cylchgrawn Science ar ddechrau Medi cyhoeddwyd astudiaeth fanwl o sut mae un math o ddafad wyllt – y Ddafad Hirgorn o Ogledd America – yn gwneud hyn wrth fudo. Ni ddaw’n syndod i unrhyw fugail na phorwr yng Nghymru mai dysgu’r ddawn y mae pob cenhedlaeth newydd ac nad oes a wnelo hyn â’r genynnau. Yn eu disgrifiad o’r defaid (ac o’r Mŵs) mae Brett Jesmer a’i gydweithwyr o Brifysgol Wyoming yn tybio bod y wybodaeth a’r sgiliau yn tyfu’n fwy soffistigedig dros y cenedlaethau. Ond – a dyma neges i ni – mae’r ddawn yn diflannu’n sydyn iawn os ymyrrir â  symudiadau’r anifeiliaid.

Symudiadau eraill a dynnodd fy sylw yn rhifyn mis Rhagfyr y cylchgrawn Sleep Medicine. Gan nad oes gen i  brofiad helaeth o fabis, tueddaf i ofyn i bob rhiant newydd a welaf am arferion cwsg yr epil. Mae pob un â’i stori. Ond ar ôl darllen am waith Sabrina Voltaire o Brifysgol Penn State byddaf yn dechrau holi mwy. Mae’n debyg ar ôl tri mis ei bod yn rhy hwyr i ddylanwadu ar ymddygiad cwsg yr anwylyn. Ond cyn hynny mae modd ei ddysgu i gysgu trwy’r nos. Y gyfrinach yw ymateb yn syth pan ddeffra’r babi a’i gysuro. Bydd yn dysgu peidio â deffro’n llawer cynt na phetai rhieni’n defnyddio’r dacteg o’i adael i “grio’i hunan i gysgu”.  Y gair i gall, felly, yw dyfalbarhau am 90 diwrnod ac yna gosod y plygiau clust yn eu lle !

Daw hyn â ni’n ôl i’r Yamnaya. Mae’n debyg bod bwydo yn un ffordd o gysuro babi. Mae holl fabis y byd yn mwynhau llaeth/llefrith. Ond ar ôl diddyfnu y mae’r rhan fwyaf o boblogaeth y byd yn colli’r ddawn i’w yfed trwy ddatblygu anoddefiad (lactose intolerance). Mae trigolion Ewrop yn eithriaid. Gallwn ddiolch i’r Yamnaya am hyn. Yn ei disgynyddion hwy yr ymledodd y mwtaniad angenrheidiol. Er y bu eu rhagflaenwyr yn Ewrop yn cadw gwartheg, ni fuasent wedi cael llawer o bleser wrth yfed eu cynnyrch. Rhyfedd y’n gwnaed.


Pynciau: DNA Yamna, Ediacara, Cynefin Defaid, Cwsg Babanod


Cyfeiriadau

DNA Yamna
Every man in Spain was wiped out 4500 years ago by hostile invaders. Michael Marshall. New Scientist (News & Technology) 3 Hydref 2018

Ediacara
Ancient steroids establish the Ediacaran fossil Dickinsonia as one of the earliest animals. Ilya Bobrovskiy, Janet M. Hope, Andrey Ivantsov, Benjamin J. Nettersheim, Christian Hallmann, Jochen J. Brocks. Science 361, (6408) 1246-1249

Cynefin Defaid
Is ungulate migration culturally transmitted? Evidence of social learning from translocated animals. Brett R. Jesmer, Jerod A. Merkle, Jacob R. Goheen, Ellen O. Aikens, Jeffrey L. Beck, Alyson B. Courtemanch, Mark A. Hurley, Douglas E. McWhirter, Hollie M. Miyasaki, Kevin L. Monteith, Matthew. J. Kauffman. Science 361, (6406) 1023-1025

Cwsg Babanod
Early nighttime parental interventions and infant sleep regulation across the first year. Sabrina T. Voltaire, Douglas M. Teti. Sleep Medicine 52, (Rhagfyr) 107-115 (2018)


<olaf nesaf>