Barn 151 (Tachwedd 2021): Plac Dannedd, Hanes Microbiom y Geg


Yr wythnos ddiwethaf cefais f’ymweliad hanner blynyddol â’r ferch sy’n glanhau fy nannedd – fy nglanweithydd. Yn garedig, gwnaeth sylw bod fy nannedd yn well na’r tro cynt. Diolchais iddi ond roeddwn yn rhy swil i gyfaddef nad oeddwn heb sylwi’r tro hwnnw bod blaen fy mrws dannedd trydan wedi torri ac wedi bod yn gwneud dim mwy na sŵn yn fy ngheg ers wythnosau !

Dros y blynyddoedd dois i arfer â’r ymweliadau hyn. Ond maent yn dal i f’atgoffa bob tro o hacio’r sment oddi ar hen friciau rwy’n eu defnyddio i osod wyneb cadarn i’r buarth. Mae hefyd yn f’atgoffa o ryfeddodau biocemeg. Byddwn yn cynnwys cyfansoddiad plac deintiol mewn un o’m darlithoedd anrhydedd ym Mangor am bolysacaridau cymhleth.

Braf, felly, oedd gweld sylw arbennig i’r sylwedd ych-a-fi hwn mewn sawl erthygl boblogaidd yn ddiweddar, gan gynnwys rhai gan Michael Gross yn Chemistry & Industry a Graham Lawton yn New Scientist.  Mae Lawton yn cychwyn ei erthygl trwy ddyfynnu mai dyma’r unig ddarn o’r corff sy’n ffosileiddio yn ystod ein bywyd. Fel arfer, ystyriwn ffosiliau fel cofnodion gwerthfawr o’r gorffennol pell. Ac mae hynny’n wir am ddannedd budron ein cyndadau hefyd. Cyn dyddiau’r glanweithydd, ffosileiddiwyd pob math o bethau yn y plac yn feunyddiol. Gan fod dannedd ymysg darnau mwyaf gwydn a hirhoedlog ein sgerbydau (wedi inni farw) nid yw’n syndod clywed bod anthropolegwyr wedi anelu eu technegau diweddaraf i’r cyfeiriad yma.

Bu cryn ddatblygiadau ers imi sôn yn y golofn hon yn 2012 am ddarganfod olion milddail a chamomeil ar ddant 50,000 blwydd oed dynes Neanderthal o Sbaen. Ar y pryd, dyma’r dystiolaeth gynharaf o ddynoliaeth yn defnyddio meddyginiaethau’n fwriadol a bu’n ysbrydoliaeth imi osod sawl prosiect blwyddyn anrhydedd i’m myfyrwyr yn y coleg.  Ym mis Ionawr eleni cyhoeddodd Christina Warinner o Athrofa Max Planck, Jena, a grŵp rhyngwladol o wyddonwyr dystiolaeth o ddannedd sy’n dangos bod poblogaeth Oes Efydd y Lefant (y tiroedd rhwng Syria, Libanus a’r Sinai heddiw) yn bwyta bwyd Asiaidd gan gynnwys sesame, ffa soia, tyrmerig ac, mae’n debyg, banana. Tystiolaeth o fasnachu pell yno pedair mil o flynyddoedd yn ôl. Ar ddechrau 2019 cyhoeddodd aelodau eraill o’r grŵp bresenoldeb y lliw lapis lazuli ar ddant lleian o Dalheim yn yr Almaen o’r 12ed ganrif. Arwydd nad dynion yn unig oedd yn lliwio llawysgrifau gwych y cyfnod.  Gan ei fod wedi dod yr holl ffordd o Afghanistan, roedd hwn, hefyd, yn arwydd o natur rhwydweithiau masnachu ei ddydd.

Hanes ymddygiad cymdeithasol dynoliaeth sydd wrth wraidd yr enghreifftiau hyn. Ond mae’n debyg mai’r cyhoeddiad mwyaf uchelgeisiol gan y grŵp hyd yma yw ei bapur ym mis Mawrth yn PNAS, sy’n disgrifio cynnwys DNA olion microbau mewn plac ddaeth o 124 unigolyn. 52 ohonynt yn Homo sapiens (o wahanol oesoedd), ond hefyd 17 Neanderthal, 21 tsimpansî, 29 gorila a phum mwnci o gyfandir America. Nod y gwyddonwyr oedd canfod esblygiad microbiom y geg – sef ei gynefin microbaidd (iach). A’i brif ddarganfyddiad yw bod hwn yn llawer mwy ceidwadol na microbiom y perfedd – y “bacteria cyfeillgar” sydd wedi tynnu cymaint o sylw’r wasg boblogaidd, a’r byd meddygol, dros y ddegawd ddiwethaf. Er gwaetha’r 40 miliwn o flynyddoedd o esblygiad sydd rhwng mwncïod America a primadau’r Hen Fyd, mae iddynt oll yr un 10 math creiddiol o facteria. Un syndod yw cyn lleied a wyddom am y rhain. Nid oes enw gwyddonol ffurfiol, hyd yn oed, ar dri o’r dosbarthiadau hyn.

Wrth gwrs, er gwaetha’r geidwadaeth gyffredinol – mae’r mân-wahaniaethau yn ddadlennol. Mae microbiom ceg Neanderthal 100,000 blwydd oed o Serbia bron yn cyfateb yn union i geg Homo sapiens o Sbaen 18,700 oed. Dadleua’r awduron bod hyn yn ychwanegu at y dystiolaeth am boblogaeth sefydlog a chyd-fyw rhwng y ddwy rywogaeth yn ystod y cyfnod hwn. Ond ar ôl 14,500 o flynyddoedd yn ôl, a diwedd yr Oes Ia ddiwethaf, ymddengys cryn newid yn nannedd pobl gogledd Ewrop. Arwydd, efallai, o fewnlifiad o’r de.

Bu cryn ddadlau dros un o’r honiadau. Fel y disgrifia Gareth Wyn Jones yn ei lyfr o 2019, Energy: The Great Driver, un o gamau esblygiad dynoliaeth oedd datblygu ymennydd mawr dros y ddwy filiwn o flynyddoedd diweddaraf. Â ymlaen i ddisgrifio’r ddamcaniaeth mai datblygu technoleg coginio, gan ryddhau mwy o ymborth o’r bwyd oedd ar gael i gynnal ymennydd mwy ar sail cyllau llai, oedd yn gyfrifol am hyn.

Mae awduron tîm Warinner yn mentro esboniad ychwanegol. Amylas yw enw ensym y geg sy’n dechrau treulio’r starts yn yr hadau grawn, ac ati, yn ein bwyd heddiw. Mae gan Homo sapiens sawl copi ohono, i danlinellu pwysigrwydd grawn yn ein bwyd. Dau gopi yn unig sydd gan y Tsimpansî, nad yw mor ddibynnol arno. Nid yw’r copïau newydd yng ngenom y Neanderthal, sy’n awgrymu mai ar ôl y brif hollt rhyngom, tua 600,000 mlynedd yn ôl, y lluosogodd y genynnau amylas. Y mae hyn yn ddadl yn erbyn unrhyw gysylltiad rhwng dechrau bwyta starts mewn cloron (tubers ag ati) a bylbiau (ac, wedyn, grawn) â chynnydd maint yr ymennydd (er gwaetha’r hysbyseb Weetabix !). Ond, yn ddadleuol, mae Warriner yn dangos presenoldeb mathau o Streptococcus sy’n arbenigo ar fwyta starts ar ddannedd Neanderthal yn ogystal â Homo sapiens. Y ddadl yw os yw’r rhain yn byw yn y geg, mae’n debyg bod perchennog y geg yn bwyta swmp sylweddol o starts. Ânt ymlaen i gynnig hyn fel esboniad o darddiad yr egni angenrheidiol ar gyfer ein hymennydd mawr (ac ymennydd mawr y Neanderthal).

Sut bynnag y datrysir y ddadl hon, mae’n enghraifft wych o gyfoeth y wybodaeth am ddynoliaeth a’i hanes – gan gynnwys pwysigrwydd microbiom y geg i’n hiechyd heddiw –  a ddatgelir maes o law yn y ffosiliau “newydd” hyn. Mae’n debyg mai ar ddant epa 12.5 miliwn flwydd oed, Dryopithecus carithiacus, yn amgueddfa Klagenfurt y mae’r enghraifft hynaf hysbys o blac.  Mae’n amlwg nad oedd Deintyddfa’r epa hwnnw mor effeithiol â’m un i. Nid ydynt wedi ei atgoffa i bicio i mewn am ei Untersuchung (archwiliad) yn ddiweddar ! Felly, y tro nesaf yr eisteddwch yng nghadair esmwyth y deintydd, yn edmygu eich dannedd sgleiniog, ystyriwch y golled enfawr i anthropolegwyr y dyfodol.


Pynciau: Plac Dannedd, Hanes Microbiom y Geg


Cyfeiriadau

Plac Dannedd: Michael Gross (2021) Fossils of ancient humans are in limited supply, but molecular analysis plays a major role in revealing more about the lives of Stone Age hunters, including their diets and family trees. Chemistry & Industry. 7 
Graham Lawton (2021) The microbial gunk that hardens on teeth is revealing our deep past. New Scientist. Medi 15.
Ashley Scott, Robert C. Power, Victoria Altmann-Wendling, Michal Artzy, Mario A. S. Martin, Stefanie Eisenmann, Richard Hagan, Domingo C. Salazar-García, Yossi Salmon, Dmitry Yegorov, Ianir Milevski, Israel Finkelstein, Philipp W. Stockhammer, a Christina Warinner. (2021) Exotic foods reveal contact between South Asia and the Near East during the second millennium BCE. PNAS. 118 (2) e2014956117
A. Radini, M. Tromp, A. Beach, E.Tong, C. Speller, M. Mccormick ,J. V. Dudgeon, M. J. Collins, F. Rühli, R. Kröger a C. Warinner (2019) Medieval women’s early involvement in manuscript production suggested by lapis lazuli identification in dental calculus.  Science Advances.  5 (1)

Hanes Microbiom y Geg: James A. Fellows Yates, nifer helaeth o gyd-awduron a Christina Warinner (2021) The evolution and changing ecology of the African hominid oral microbiome. PNAS 118 (20) e2021655118

 


<olaf nesaf>