Ers imi lunio fy ngholofn ddiwethaf ar gyfer Barn ‘rwyf wedi cychwyn ar hobi newydd; cadw gwenyn. Da, felly, oedd cael copi o lyfr Wil Griffiths – Dyn y Mêl – yn Eisteddfod Llandŵ. Da hefyd oedd gweld yr awdur yn cael ei urddo i’r Orsedd yno ar ôl ei hanner canrif o ymwneud â’r creaduriaid bach gweithgar. Dysgais un peth pwysig eisioes gan gyfeillion o’r un anian ym Mangor. Yr hen wenyn (mae’r gweithwragedd – benyw yw pob “gweithiwr” ymhlith y gwenyn – yn byw am ryw bum wythnos yn yr haf) yw’r rhai mwyaf tebygol o wylltio a’ch colio. Un canlyniad i hyn, yw ei bod yn gallach trin y cwch ar ganol diwrnod braf pan fo’r rhan fwyaf ohonynt i ffwrdd o’r nyth yn hela. Ond fe all pethau fod yn llawer gwaeth. Mewn papur o ddechrau Awst yn Science gan Jan Sobotnick o’r Weriniaeth Tsiec a chydweithiwr o Wlad Belg, ceir disgrifiad o ymddygiad hen forgrug gwyn (termitiau) wrth iddynt ymateb i gystadleuaeth o du rhywogaethau eraill o forgrug gwyn. Yn gyntaf, sylwodd yr entomolegwyr fod smotiau glas yn ymddangos ar eu habdomenau wrth i’r anifeiliaid heneiddio. Yna fe’i synnwyd wrth iddynt eu codi i’w hastudio. Ffrwydrodd yr henoed bychain gan ryddhau’r hylif glas i bob cyfeiriad ! Wrth ymchwilio ymhellach gwelwyd bod yr hylif yn farwol i forgrug gwyn. Roedd hyn yn llai tebygol o ddigwydd ymhlith anifeiliaid ifanc, ac nid oedd yr hylif ynddynt mor wenwynig. Nid yw natur y gwenwyn eto’n hysbys – ond mae’n ymddangos fod yr hen forgrug, wrth golli’r egni i hel bwyd, yn troi yn hunan fomwyr gwarcheidiol ar gyfer gweddill y tylwyth.
Dynoliaeth, mae’n debyg, sy’n gyfrifol am i fath arall o anifail ledaenu marwolaeth a distryw. Mae Bob Holmes, mewn traethawd diweddar yn y New Scientist yn adrodd sut y bu i sŵolegwyr yn yr 80au sylweddoli bod rhywbeth yn lladd amffibiaid o bob math ymhob cwr o’r byd. Credir, bellach, eu bod yn diflannu 40,000 gwaith yn gyflymach nag ar unrhyw adeg ers eu hymddangosiad cyntaf ar y ddaear 360 miliwn o flynyddoedd yn ôl. Yn 1999 darganfuwyd mai ffwng (megis y Batrachochytrium dendrobatidis (Bd) ungell) sydd yn bennaf gyfrifol. Trwy niweidio crwyn holl bwysig yr amffibiaid mae’r pathogen yn difetha’r modd y maent y rheoli eu mineralau mewnol – sodiwm, potasiwm a chalsiwm – ynghyd â dŵr y corff. Daw trawiad y galon yn sgil hyn. Y syndod yw mai ar blanhigion marw y mae’r rhan fwyaf o deulu’r Bd yn byw. Ond mae dadansoddiad diweddar o ddilyniant DNA’r ffwng wedi datgelu bod ganddo gannoedd o enynnau unigryw sy’n ei alluogi i dreulio proteinau – megis cig. Esblygodd y rhain dros filoedd lawer o flynyddoedd. Beth, felly, sy’n gyfrifol am ledaeniad diweddar clefydau’r amffibiaid ? Daw’r ateb o’r un dadansoddi DNA. Fel y gwyddom wrth olrhain achau dynol o’n dilyniant DNA ni, mae modd gwneud yr un peth ag unrhyw fath o fywyd. Dros y deng mlynedd diwethaf astudiwyd mwy a mwy o enghreifftiau o anifeiliaid, planhigion, bacteria a ffyngoedd yn y modd hwn. Yn eu plith dwsinau o fathau o Bd. Daeth i’r amlwg bod amffibiaid ym mhobman wedi cydfyw â’r ffwng ers cenedlaethau lawer. Ond ers rhyw 30 o flynyddoedd mae tras newydd difwynol ohono wedi ymddangos. Canfuwyd yr un “nod clust” DNA o ddognau Bd o’r holl ardaloedd lle gwelir olion y clefyd. Mae rhywbeth yn ei ledaenu. A’r peth hwnnw, mae’n debyg, yw dynoliaeth. Un o’r ffyrdd yw ein hoffter cynyddol o fwyta cuisses de grenouilles – coesau broga. Allforir marchlyffant Gogledd America (Rana catesbeiana) dros y byd i gyd oherwydd ei forddwydion blasus. Mae’n gwrthsefyll Bd yn weddol dda, ac o’r herwydd yn ei gario a’i ledaenu’n rhwydd. Yng Ngwledydd Prydain, yn 2004 gwelwyd y clefyd ymhlith brogaod gwyllt am y tro cyntaf mewn llyn lle’r oedd marchlyffaint wedi dianc o fferm lyffaint. Yn Asia fei’i gwelwyd am y tro cyntaf wedi’i gysylltu â fferm gyffelyb yn Ynysoedd y Philipinos. Mae’r ail ffynhonnell debygol yn fwy esoterig – ein chwilfrydedd i wybod mor gynnar â phosib am ein bodolaeth. Yn y 1930au datblygodd Lancelot Hogben brawf beichiogrwydd wrth fanteisio ar y ffaith bod modd cyflyru’r broga Xenopus laevis i fwrw ei hwyau ddeuddeng awr ar ôl derbyn chwistrelliad bychan o ddŵr gwraig feichiog. Cyn hynny roedd rhaid lladd llygod i wneud rhywbeth cyffelyb. Hyd at y 60au prawf Xenopus oedd y safon, a defnyddiwyd cannoedd o filoedd ohonynt i’r perwyl hwn. Ers ymddeol o’r gorchwyl hwn fe’u defnyddiwyd ar gyfer arbrofion biolegol o bob math ac maent yn gyffredin mewn labordai ledled y byd. Yn ddiweddar, er enghraifft, fe ddefnyddiais eu hwyau er mwyn deall sut mae dŵr yn symud trwy feinweoedd planhigion. Y gred bellach yw, eu bod hwythau, fel y marchlyffant, yn fodd i’r Bd gyd-fridio ac esblygu’n fath heintus yn y ffermydd a’r labordai – ac yna heintio amffibiaid ym mhobman wrth iddynt ddianc.
Nid peth newydd, o bell ffordd yw cywreinrwydd dynoliaeth, fel y dadlenna papurau’r haf yma yn y cylchgronnau Science a Naturwissenschaften. Yn y gyntaf, mae Alistair Pike o Brifysgol Bryste yn disgrifio dadansoddi oed smotyn bychan o baent ymhlith murluniau hynafol a gogoneddus ogof Altamira yn Sbaen. Anodd fu dyddio’r lluniau ers eu darganfod yn 1879, ond o ddadansoddi’r Wraniwm yn y calch sy’n tyfu’n groen tenau dros y lluniau, mae Pike wedi dangos fod y smotyn o leiaf 40,800 oed. Mae amlinell llaw ger llaw o leiaf 37,300 oed. Arwyddocâd hyn yw mai dim ond rhwng 42 a 40 o filoedd o flynyddoedd yn ôl y daeth dyn modern, Homo sapiens, i Ewrop. Tybed felly ai’n rhagflaenydd, y Neanderthal, oedd yn gyfrifol. Mae Pike yn dadlau mai prin iawn yw’r enghreifftiau o arlunio gan Homo sapiens cynnar yn yr Affrig, beth bynnag, ac mai – ar y symlaf – adwaith i gyfarfod y Neanderthal yw trysor megis Altamira. Esboniad arall yw mai’r Neanderthal eu hunain a wnaeth y lluniau cynharaf. Mae’r ymchwil am enghreifftiau o baent cynharach ar droed.
Yn yr ail bapur mae Karen Hardy o Farselona yn disgrifio sut y bu iddi grafu tartar oddi ar ddannedd penglogau Neanderthal o ogledd Sbaen. Yno darganfu olion planhigion sur a chwerw. Dyma’r dystiolaeth gynharaf yn unman o gymryd ffisig meddygyniaethol yn fwriadol. Er enghraifft, roedd un o’n hynafiaid wedi bwyta digon o Gamomeil a Milddail i adael tystiolaeth glir amdanynt ar ei ddannedd. A dyna lyfr arall a brynais ar faes y Brifwyl, gan Mel Williams y tro hwn – Lysieulyfr Brytanaidd – cyfieithiad o Nicholas Culpeper gan D.T.Jones Llanrwst tua 1830. Mae’n disgrifio’r union feddyginiaethau hyn – ddegau o filoedd o flynyddoedd yn ddiweddarach. Dyw ambell gangen o wyddoniaeth byth yn newid. Bydd Mel, awdur gwyddonol ei hun, yn deall hynny gystal â neb.
Pynciau: Morgrug Gwynion, Clefyd Amffibiaid, Dyn Neanderthal
Cyfeiriadau
Morgrug Gwynion:
Clefyd Amffibiaid:
Dyn Neanderthal: Colin Barras (2012) Neanderthal dental tartar reveals evidence of medicine. New Scientist Gorff 18
Karen Hardy, Stephen Buckley, Matthew J. Collins, Almudena Estalrrich, Don Brothwell, Les Copeland, Antonio García-Tabernero, Samuel García-Vargas, Marco de la Rasilla, Carles Lalueza-Fox, Rosa Huguet, Markus Bastir, David Santamaría, Marco Madella, Julie Wilson, Ángel Fernández Cortés & Antonio Rosas (2012) Naturwissenschaften 99, 617–626
<olaf nesaf>