Ar siaced lwch nofel T. Rowland Hughes, William Jones, y gwelais ffurf ponciau’r chwarel lechi am y tro cyntaf. Hyn wrth astudio’r llyfr ar gyfer lefel O. Ychydig a wyddwn ar y pryd mai ymysg pobl y llechi y byddwn yn treulio’r rhan fwyaf o’m hoes ! Ac y byddai’r cip cyntaf ar amlinell tomennydd Chwarel y Penrhyn wrth droi cornel yr A5 yn Nant Ffrancon yn disodli croesi Pont Hafren yn groeso gartref ar ôl crwydro byd. Yn fwy diweddar, wrth hebrwng criw hyfryd Crwydriaid Crwbin o amgylch Dyffryn Ogwen fe gefais wers gan un ohonynt am y tomennydd. Wrth droedio’r Llwybr Llechi yn union o dan un llethr bygythiol, esboniodd imi fod pob pentwr – boed dywod, hadau gwenith, hoelion, gwastraff glo neu lechi – â’i ongl llethr arbennig. Bellach deallaf mai Ongl Orffwys yw’r term technegol am hyn (Angle of Repose yn Saesneg). Dyma paham mae pob llethr sbwriel yn Nyffryn Ogwen, Blaenau Ffestiniog neu Llanberis mor unffurf (tua 40 gradd o’r llorweddol). Wrth ychwanegu rhagor o wastraff i’r grib byddai’n llithro i lawr nes i’r ongl llethr naturiol ail sefydlu. Tebyg, hefyd, marianau caregog y llethrau cyfagos yn ogystal â’r tomennydd glo a oedd yn fwy cyfarwydd imi wrth wneud fy lefel O yng Nghaerdydd. Ar y cyfan, dwysedd, siâp a ffrithiant y cerrig sy’n pennu’r ongl. Ond mae ffactorau eraill. Yn 1967 y sefais fy arholiad – blwyddyn wedi i Domen Rhif 7 uwchben Aberfan lithro a lladd 116 o blant a 28 o oedolion ym mhentref Aberfan. Roedd cronni dŵr sylweddol ar ôl cyfnod o law wedi newid Ongl Orffwys y domen – gyda chanlyniadau erchyll. Bu hyn yn sbardun i beirianwyr ledled y byd ymchwilio i’r mater yn drwyadl am y tro cyntaf.
Fe’m hatgoffwyd am hyn oll wrth ddarllen disgrifiad o sut mae morgrug yn cloddio eu twneli mewn tir graeanog. Yn PNAS ar ddechrau mis Medi mae José E. Andrade o Caltec, Califfornia, a’i gydweithwyr yn disgrifio defnyddio offer pelydr-x i gofnodi’r broses yn y ddaear. Tynnwyd llun pob 10 munud am 20 awr gan nodi lleoliad pob anifail a phob gronyn o bridd. Disgwyliad y tîm oedd y byddai’r morgrug yn chwarae ryw fath o Jenga wrth ddewis y gronynnau mwyaf rhydd o hyd. Ond mewn gwirionedd roeddynt yn dilyn algorithmau cynhenid oedd yn ymwybodol o ba ronynnau i dynnu er mwyn gadael bwâu cadarn yn y pridd o amgylch y twneli i gynnal y to – a rhyddhau’r gronynnau ‘roedd angen eu clirio. Ar ben hyn, roedd y twneli yn dilyn ongl arbennig wrth ddisgyn – yr Ongl Gorffwys. Mae esblygiad wedi rhoi i’r morgrug sgiliau aruchel peirianwyr strwythurol.
Wrth imi symud o gymoedd y glo i lechweddau’r llechi nid dim ond tirwedd newydd oedd yn fy nisgwyl ond hefyd acenion eu trigolion. Ar ôl ychydig ‘roedd fy nheulu yng Nghwm Cynon yn gweld newidiadau yn fy lleferydd. Bron hanner can mlynedd yn ddiweddarach dwi’n dal i deimlo pwl o hiraeth cynnes wrth glywed acen Morgannwg wrth gysylltu ar y ffôn â chwmnïau megis Admiral neu’r Principality. Wrth gwrs, dwi’n ymddiried ynddynt yn syth ! Gydag ychydig bryder, felly, y darllenais yn New Scientist am ymdrechion cwmni Sanas o Galiffornia i drosi acenion defnyddwyr ffôn neu systemau cyfathrebu megis Zoom, Teams a Skype. Mewn canolfan ateb mae modd i’r meddalwedd adnabod acen y sawl sy’n galw ac addasu acen y sawl sy’n ateb i gyfateb. Ar eu gwefan mae Sanas yn pwysleisio’r anawsterau mae pobl o gefndiroedd gwahanol (Tsienieg, Sbaeneg, Rwsieg ac ati) yn ei gael wrth geisio deall ei gilydd – ond mae manteisio ar y teimlad o berthyn yn amlwg, hefyd.
Yr hyn sydd o ddiddordeb technegol yw’r modd y mae’r broses o drosi yn gweithio. Ni fyddai creu sgript o’r sgwrs ac yna creu llais artiffisial yn gweithio – trwy fod y rhy araf ac yn ffynhonnell camgymeriadau. Yn lle hynny, mae’n gweithio ar ffonemau – y synau – unigol. Trwy hyn, yn newid yr awdio cyn i’r gair gwreiddiol orffen ac yn creu’r trosiad o fewn 200 milieiliad. Yn yr un modd â nifer cynyddol o brosesau, mae deallusrwydd artiffisial (AI) yn rhan o’r broses. Addysgir hwn trwy gyflwyno enghreifftiau o leisiau ledled y byd – gan gynnwys estroniaid ar y stryd a gweithwyr canolfannau ateb. Un nodwedd o AI yw nad yw’n amlwg sut y mae’n dewis ei allbwn – edrychaf ymlaen at glywed y canlyniad.
Enghraifft yw’r troswr acen o’r defnydd o Ddata Mawr sy’n bosibl wrth i bŵer cyfrifiaduron gynyddu. Cynnydd yn dilyn Technoleg. Syndod, felly, oedd darllen erthygl arall gan Matthew Sparkes yn New Scientist ganol mis Medi am y modd y mae un o beiriannau mwyaf blaengar (a drud) y byd gwyddonol yn storio’r data mae’n ei gasglu. Mae’r LHC yn CERN Genefa, y peiriant a ddarganfu Ronyn Higgs, ar fin ail gychwyn ar ôl seibiant o dair blynedd i ymestyn ei bwerau. Ond bydd yn dal i storio canlyniadau pob arbrawf ar 50,000 casét tâp magnetig. (Rhai ychydig mwy na’r math a ddefnyddiwyd yn y car ers talwm, mae’n siwr.) Technoleg a ddatblygwyd gan IBM yn 1952. Er bod angen robotiaid i fugeilio’r holl dapiau, mae’r drefn yma yn sylweddol rhatach i’w chynnal na’r defnydd o ddisgiau caled ar gyfer storfa hir dymor. Er hynny, mae digon o ddisgiau (90,000 ohonynt) ar gyfer y gwaith o ddydd i ddydd ac i wneud y prosesu. Yn ôl Sparkes, buasent yn ddigon i storio bron miliwn blwyddyn o gerddoriaeth MP3 !
Fel mae’n digwydd, dros yr haf fe fethodd ein chwaraewr tapiau gartref ac ‘rwy’n cael trafferth dod o hyd i un yn ei le. Tybed a oes gan CERN un i sbario ?
Pynciau: Ongl Orffwys, Acenion Awtomatig, Tâp Magnetig
Cyfeiriadau
Ongl Orffwys: Robert Buarque de Macedo, Edward Andò, Shilpa Joy, Gioacchino Viggiani, Raj Kumar Pal, Joseph Parker a José E. Andrade (2021) Unearthing real-time 3D ant tunneling mechanics. PNAS 118 (36) e2102267118
Acenion Awtomatig: Matthew Sparkes (2021a) Call centre workers can use AI to mimic your accent on the phone. New Scientist 3351 Medi 11 tud 16
Tâp Magnetig: Matthew Sparkes (2021b) Large Hadron Collider sticks with reels of tape for vast storage needs. New Scientist 3351 Medi 11 tud 21