Barn 149 (Medi 2021): Arlwy Gwyddonol Eisteddfod AmGen 2021


Brawd a chwaer fach o’r enw Saeth ac Erin – a’u mam, y biocemegydd Alwena Morgan – oedd ymhlith prif sêr fy nghytser Eisteddfodol eleni.  Y nhw, ynghyd ag aelod arall o’r teulu – sgerbwd dynol. Bu rhaid imi wylio’r cwta pedwar munud You Tube nifer o weithiau cyn symud ymlaen. Y syniad yn un syml. Gofyn i’r plant bob yn ail ddangos esgyrn rhannau o’r corff – tic mawr gwyrdd o gael yr ateb cywir. Ond, wrth gwrs, dechreuodd Saeth adael y sgript ac Erin hithau flino. Yn niniweidrwydd anghyfarwyddiadwy’r plant cafwyd dameg ac enghraifft hyfryd o gyflwyno rhyfeddod y cread i’r genhedlaeth nesaf. 

Rhyfeddodau’r sêr (ac ambell blaned) oedd testunau wyneb ffres arall Eisteddfod Amgen. Cyfres feunyddiol wych Gwenllian Williams (Maggie Aderin-Pockock – cyd-gyflwynydd The Sky at Night ar ôl Patrick Moore –  Cymru).  O ardd gefn y teulu “yng ngorllewin Cymru” fe’n cyfarwyddwyd yn gyntaf am Gysawd yr Haul, yna’n cyflwyno i’r planedau Mawrth ac Iau cyn ein hebrwng i bellafoedd y Bydysawd i brofi geni sêr.  (Geni Sêr Anferth yw arbenigedd ymchwil Gwenllian.) Manteisiodd y gyflwynwraig a’i thîm cynhyrchu yn helaeth ar y delweddau diweddaraf o gasgliad Arsyllfa’r Brenin yn Greenwich. Cyflwyniad gwych i’r hyn y gallwn ddisgwyl ei weld o haig o robotiaid arallfydol yn y misoedd a’r blynyddoedd i ddod.

Eitemau mor naturiol â’r dydd (neu’r nos, efallai) yn y Gymraeg. Ond yn sesiwn agoriadol arlwy’r Pentref Gwyddoniaeth a Thechnoleg fe’n hatgoffwyd o fywyd y gŵr a ystyriwyd yn Seren Fore’r ymdriniaeth fodern o wyddoniaeth trwy’n hiaith. Bu’r Athro Glyn O. Phillips farw yng Ngorffennaf 2020 yn 92 oed. Mae gan bob un ohonom sy’n defnyddio’r Gymraeg i drafod pynciau gwyddonol a thechnolegol ddyled i’r cemegydd amlddawn hwn.  Trwy rym ei bersonoliaeth (a chymorth ei wraig Rhiain – sy’n serennu yn y deyrnged fideo) llwyddodd i ysbrydoli ac uno cwmwl o wyddonwyr ac addysgwyr gwyddonol proffesiynol Cymraeg yn ystod blynyddoedd tyngedfennol darlith Tynged yr Iaith, Saunders Lewis. Ymddangosodd rhifyn cyntaf Y Gwyddonydd, o dan olygyddiaeth Glyn O. fis Mawrth 1963, flwyddyn yn union wedi’r Ddarlith.

Yn Eisteddfod Genedlaethol Casnewydd 2004 gwelwyd enghraifft o waddol ei waith pan sefydlwyd Medal Wyddoniaeth a Thechnoleg yn un o fedalau sefydlog yr Ŵyl. Yn hollol briodol, Glyn oedd y cyntaf i’w dderbyn.  Fel rhan o arlwy AmGen eleni cafwyd ffilmiau am rai o ddeiliaid eraill y Fedal ynghyd â hanes presenoldeb Gwyddoniaeth ar faes y brifwyl.  Hyfryd gweld Iolo ap Gwyn a Guto Roberts yn ein tywys o’r dyddiau cynnar yn y 1970au i grèche addysgiadol fwya’r genedl.

Hefyd yn 2020, yn 87 mlwydd oed,  bu farw cemegydd mawr arall o Gymru. A phriodol iawn oedd cael hanes bywyd o’r Athro Syr John Meurig Thomas yn rhan o arlwy AmGen.  Yn Athro a Phennaeth Adran Cemeg Ffisegol ym Mhrifysgol Caergrawnt (1978-1986) cyn dod yn Gyfarwyddwr Athrofa’r Brenin yn Llundain (1986-1991) a Phennaeth Coleg Peterhouse (1994-2002), Syr John oedd un o gemegwyr mwyaf dylanwadol ei genhedlaeth. Yn wahanol i ffawd nifer o feysydd ymchwil, mae ei gyfraniadau ym myd catalyddion gwyrdd yn tyfu mewn arwyddocâd wrth inni wynebu sialensiau’r amgylchedd.  Ar lefel bersonol i mi, hyfryd oedd gweld teyrnged y biocemegydd y Fonesig Athro Jean Thomas i Syr John. Jean, o Dreboeth, Abertawe, oedd y llais Cymraeg yn y tîm darlithio a’m hysbrydolodd i yn fy maes hanner can mlynedd yn ôl. Mae amser yn hedfan pan ‘da chi’n mwynhau !

Trwy gyd-ddigwyddiad defnyddiwyd yr union yr un ymadrodd i ddisgrifio bywydau’r ddau Athro – Glyn a John. Pedwar “C”, sef Cemegwyr, Cymry, Cantorion a Christionogion.

Bu cemeg (ynghyd â sêr) yn thema barhaus trwy’r wythnos. Yng nghyfres “Sêr Cemeg” fe’n cyflwynwyd i nifer o gemegwyr ifainc a’u meysydd arbennig ym myd cemeg a meddygaeth. Aed ati i ail-greu peth o gyffro’r maes trwy iddynt “berfformio” arbrawf labordy yn fyw o’n blaenau – ac yna ateb cyfres o gwestiynau gan nifer o ddisgyblion ysgol brwd. Cyfle anghyffredin i weld yn union beth a wna cemegwyr wrth arbrofi. Yn anfwriadol bu cyfuniad o Sêr a Chemeg hefyd wrth i Simon Ward, Athro “Sêr Cymru” Darganfod Cyffuriau Trosiadol a Phennaeth Athrofa Darganfod Meddyginiaethau Prifysgol Caerdydd, gyflwyno darlith optimistaidd i Babell y Cymdeithasau ar hanes a dyfodol triniaethau Iechyd Meddwl.

Os bu “Sêr Cemeg” yn gyfrwng dod â’r gynulleidfa i’r labordy, yn ystod yr wythnos, arweiniodd y Prifardd Hywel Griffiths ei gynulleidfa ar daith rithiol i brofi geomorffoleg Cwm Ystwyth. Rhaid cyfaddef, na fûm erioed yno – ond mae Hywel wedi codi blys go iawn arnaf wneud hynny. Ond bydd yn wythnosau cyn y byddaf wedi darllen yr holl wybodaeth sydd ar gael ar y wefan ! Ar ben hynny, mae’n bygwth creu rhagor o deithiau tebyg !!

Tameidiau amheuthun oedd y rhan fwyaf o arlwy wyddonol Amgen – ond ar ddiwedd pob dydd bu cyrsiau llawn mewn trafodaethau ar dri o bynciau mawr ein hamseroedd. Byddai Glyn O. Phillips wedi bod wrth ei fodd gweld paneli o arbenigwyr proffesiynol yn trafod Covid-19, Newid Hinsawdd a Ffynonellau Ynni Cynaliadwy. Pob un o dan arweiniad Elin Rhys, Telesgop

Elin Rhys, hefyd fu’n cyfweld Neville Evans wrth gau pen y mwdwl i’r gweithgareddau. Bu’r diymhongar Neville Evans, Fforest-fach a Radyr, yn Arolygwr ei Mawrhydi Gwyddoniaeth am ddeng mlynedd ar hugain ac yn dyst i’r datblygiadau yng ngwyddoniaeth trwy’r Gymraeg dros y trigain mlynedd diwethaf.  Ei brif falchder oedd pwysleisio bod bellach fodd i holl blant Cymru, pe dymunent, astudio gwyddoniaeth, technoleg a mathemateg o’r dosbarth derbyn hyd ddeunaw oed  yn Gymraeg. Rhywbeth anodd ei rhagweld yn nyddiau’r “lessons geography”, chwedl Dafydd Iwan.

Bu gwaith Neville a’i gyd-addysgwyr yn allweddol.  Braf yw gwybod bod cymaint o ddisgyblion ein gwlad bellach yn cymryd yn ganiataol bod cemeg, ffiseg, bywydeg ac ati ar gael yn Gymraeg.  Dangosodd cymaint o weithgaredd wythnos AmGen bod hyn wedi torri trwodd i’n prifysgolion ac ambell fusnes technolegol.

Teimlaf fod yr Eisteddfod Genedlaethol (a’r Urdd) wedi bod yn gefn cyson i’r datblygiad hwn. Enillodd sawl gwyddonydd balch ei phrif gystadlaethau – gan gynnwys Gwenallt Llwyd Ifan eleni. (Mae ei gyfrol “DNA” wrth erchwyn fy ngwely wrth imi ysgrifennu.)  Diolch i Andrew Evans, Aberystwyth, a’i dîm ar y pwyllgor G&Th am gynnal pethau yn wych eto eleni. Ond hoffwn ddiolch yn arbennig i un ohonynt yn neilltuol. Mae Elin Rhys (biocemegydd arall !) wedi ymdrechu yn ddiflino (ac yn aml yn ddi-ddiolch) am ddegawdau i ddod â gwyddoniaeth i sgriniau S4C. Mae olion ei gwaith a’i harbenigedd i’w gweld yn helaeth ym mhob cornel o arlwy gwyddoniaeth Eisteddfod Amgen 2021. Ac mi fyddant yno i’ch difyrru am fisoedd eto. Erbyn eich diwallu, bydd criw Tregaron yn barod amdanoch yn eu Pentref nhw !


Pynciau: Arlwy Gwyddonol yr Eisteddfod AmGen


Cyfeiriadau

Arlwy Gwyddonol Eisteddfod AmGen 2021: Dilynwch y cysylltiadau eang


<olaf nesaf>