Barn 148 (Awst 2021): Llygredd Amffetamin, Ymennydd Brithyll, Mordwyo Robin Goch


Eog Llyn Llyw oedd y doethaf o’r Anifeiliaid Hynaf a fu wrthi’n cynorthwyo Culhwch yn ei ymgyrch i ennill cymar. Ond brithyll oedd cwmni’r ferch ar lan y Ddyfrdwy a oedd wedi’i hesgeuluso gan un arall. Roedd y ddau bysgodyn, y brithyll yn enwedig, yn dod i’r cof wrth ddarllen dwy erthygl y mis hwn. Dynoliaeth yn dylanwadu ar y pysgod y tro hwn, yn hytrach na dylanwad y pysgod ar bobl.

Daw’r hanes cyntaf o Weriniaeth Siec, lle bu Pavel Horký a’i gydweithwyr yn astudio dylanwad cyffuriau amffetamin ar ymddygiad brithyll afonydd eu gwlad. Mae’r gwaith i’w weld yn Journal of Experimental Biology mis Mehefin. Mae’n debyg bod camddefnyddio’r cyffur hwn bellach mor gyffredin nes bod hynny’n llygru afonydd drwy’r byd gorllewinol. Nid yw gorsafoedd trin carthion wedi’u cynllunio i glirio’r fath beth. O ganlyniad mae pysgod, megis y brithyll, yn mynd yn gaeth i’r cyffur.

I ddangos hyn cymerodd Horký nifer o frithyll o feithrinfa a’u gosod mewn dau danc ar wahân am wyth wythnos. I un o’r tanciau ychwanegwyd lefel o amffetamin nad yw’n anghyffredin mewn afonydd (1 μg.l-1). Dŵr glân oedd yn y llall. Yn ystod yr wythnos ganlynol rhoddwyd y pysgod mewn tanc arbennig gyda dŵr glân yn llifo trwy un ochr iddo a dŵr yn cynnwys metamffetamin yn llifo drwy’r ochr arall. Nid oedd ots gan y pysgod “glân” ar ba ochr y nofient, ond dewisodd cyn-breswylwyr y tanc cyffur nofio yn llif dŵr a oedd wedi’i heintio. Roedd modd mesur y cyffur yn eu hymennydd ac nid oeddynt mor fywiog â’r pysgod eraill. Dadleua’r gwyddonwyr bod yr ymddygiad hwn yn sicr o gael dylanwad negyddol ar ecoleg pysgod yr afonydd. Enghraifft o drosglwyddo problem gymdeithasol ddynol yn uniongyrchol i gynefinoedd gwyllt.

O Brifysgol Guelph yng Nghanada y daw’r ail hanesyn, sydd i’w weld ar wefan Authorea mis Gorffennaf. Yno mae Frederic Laberge a’i dîm wedi astudio maint ymennydd brithyll dros nifer o flynyddoedd. Dangoswyd bod maint yr ymennydd o’i gymharu â maint y corff, yn tyfu yn yr hydref ac yn crebachu yn y gwanwyn yn rheolaidd.  Trwy ddefnyddio math o sonar, roedd modd canfod ym mha ran o’r llynnoedd yr oedd y pysgod drwy gydol yr amser. Yn ystod yr haf byddant yn osgoi’r dŵr cynnes bas ac yn byw yng nghanol y llyn. Wrth i’r dyfroedd oeri maent yn mudo tua’r lan – cynefin llawer mwy cymhleth.  I addasu ar gyfer hyn mae’r ymennydd yn tyfu’n sylweddol. Pam mynd i’r fath drafferth ?  Gan mai’r ymennydd yw un o’r organau yn y corff sy’n defnyddio fwyaf o egni , mae’r rhythm hwn yn gyfraniad sylweddol i lwyddiant ecolegol y brithyll trwy leihau eu hangen am egni.

Mewn ail bapur (ar hyn o bryd ar wefan bioRχiv) mae Laberge yn dangos bod yr un adwaith i’w weld wrth i’r pysgod ddianc o feithrinfeydd yn ôl i’r gwyllt. Mae cynefin digynnwrf y ffarm bysgod yn arwain at ymennydd bach – a’r cynefin gwyllt yn galw am ymennydd mwy.  Tybed ym mha dymor aeth Culhwch at Lyn Llyw ac a dyfodd pen yr Eog i gynnal Cai a Bedwyr wrth iddo chwilio am Fabon ?  Efallai bod sawl neges i ddynoliaeth gan y pysgod doeth wedi’r cyfan.

Rhywsut, yn yr hen hanesyn, ‘roedd yr Eog yn gwybod cyfrinach y ffordd i Gastell Caerloyw. Ers yr 1960au bu’n hysbys bod ambell greadur mudol yn defnyddio rhyw fath o gwmpawd magnetig naturiol. Bellach yr ydym yn deall yn llawer gwell sut mae adar sy’n mudo yn llwyddo i wneud hynny. Yn Nature ar ddiwedd Mehefin, disgrifiodd tîm sylweddol, sy’n cynnwys Henrik Mouritsen o Brifysgol Oldenburg yn yr Almaen a Peter Hore o Rydychen, brotein arbennig yn llygad y Robin Goch sy’n adweithio i faes magnetig gwan y ddaear mewn modd sy’n galluogi’r aderyn i fordwyo yn fanwl a chywir. Er nad ydym yng Nghymru yn dueddol o feddwl am y Robin fel aderyn mudol – mae ei berthnasau ar y cyfandir yn fwy mentrus – yn mudo o Rwsia a Llychlyn i’r Gorllewin bob gaeaf, er enghraifft. Ceir dosbarth o broteinau o’r enw cryptocromau mewn anifeiliaid a phlanhigion o bob math. Y cyntaf i weld eu dylanwad (ond nid y proteinau eu hunain) oedd Charles Darwin wrth ddisgrifio planhigion yn ymateb i olau glas. Un o’r rhain, cryptocrom-4, yw cyfrinach y Robin mae’n debyg. Mae cyfeiriad maes magnetig yn effeithio ar adwaith-golau y protein. Byddai modd i hwn gyd-weithio â chanfyddiad yr aderyn o olau. Dim ond mewn tiwb prawf mae’r tîm wedi dangos yr ymddygiad hyd yn hyn, ond eu hawgrym yw y byddai celloedd y llygad yn uno gwybodaeth golau a’r maes magnetig. Er enghraifft, byddai maes gweld yr aderyn yn goleuo neu dywyllu wrth edrych i gyfeiriadau magnetig gwahanol. 

Yn eu gwaith dangosodd Mouritsen a’r tîm nad oedd fersiwn o’r un protein mewn colomennod yn ymddwyn yn yr un modd. Nid yw’r rhain yn mudo ond mae eu dawn i ddefnyddio maes magnetig i fordwyo yn enwog. Mae’n amlwg, felly, bod cryn dipyn eto i’w ddarganfod am fanylion y ddawn hynod hon.

Trwy gyd-ddigwyddiad, ddechrau Gorffennaf cyhoeddodd Llu Awyr yr Unol Daleithiau y byddant ym mis Awst (2021) yn profi awyren Northrop T-38 a bydd yn defnyddio manylion amrywiaethau lleol maes magnetig y ddaear i fordwyo. Arbrofwyd yn gyntaf â’r syniad yn 2017. Mantais arbennig y ddyfais yw nad yw’n hawdd ei thwyllo, yn wahanol i ffurfiau GPS arferol. Ar hyn o bryd mae’r dechnoleg yn ei babandod. Efallai y dylai’r USAF recriwtio ambell Robin Goch i fod yn beilot ?  Tybed ai dyma paham y defnyddiodd Charles Horace Watkins yr enw ar gyfer ei awyren gynnar a adeiladodd ar Fferm Mynachdy, Caerdydd tua’r flwyddyn 1908, ac sydd i’w gweld o hyd yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau?


Pynciau: Llygredd Amffetamin, Ymennydd Brithyll, Mordwyo Robin Goch


Cyfeiriadau

Llygredd Amffetamin: Pavel Horký, Roman Grabic, Kateřina Grabicová, Bryan W. Brooks, Karel Douda, Ondřej Slavík, Pavla Hubená, Eugenia M. Sancho Santos a Tomáš Randák (2021) Methamphetamine pollution elicits addiction in wild fish. J Exp Biol 224 (13): jeb242145
[Adroddiad mwy hygyrch: Cameron Duke (2021) Fish are becoming addicted to methamphetamines seeping into rivers. New Scientist 6 Gorff]

Ymennydd Brithyll: Evan Versteeg, Timothy Fernandes, Matthew Guzzo, Frederic Laberge, Trevor Middel, Mark Ridgway a Bailey McMeans (2021) Seasonal variation of brain size in a freshwater top predator.  Authorea. (Mehefin 8)
Frédéric Laberge, Marie Gutgesell a Kevin S. McCann (2021) Increased brain growth in escaped rainbow trout. bioRχiv (Mehefin 18) 

Mordwyo Robin Goch: Jingjing Xu, [nifer sylweddol o gyd-awduron], Henrik Mouritsen & P. J. Hore (2021) Magnetic sensitivity of cryptochrome 4 from a migratory songbird. Nature 594, 535–540


<olaf nesaf>