Barn 147 (Gorffennaf 2021): Y Genom Dynol, Mewnfudwr Cynnar, Brwydr Himera, Mary Rose


Eleni, rydym yn dathlu ugeinfed pen-blwydd ffanffer cyhoeddi’r Genom Dynol. Yn ddiau, dyma un o gerrig milltir hanes gwyddoniaeth ac mae’n llawn haeddu’r holl sylw.  Ar y pryd, yn dawel bach ‘roedd y “print mân” yn esbonio bod o hyd ambell ddarn anodd ei ddatrys heb ei wneud. Erbyn 2004 cyhoeddodd y Consortiwm Rhyngwladol eu bod wedi gwneud y cwbl a oedd yn bosib iddynt, a daeth eu gwaith i ben. Ddiwedd mis Mai eleni cyhoeddodd consortiwm newydd Telomere-to-telomere, o dan arweiniad Karen Miga ac Adam Phillippy o’r UD, ar wefan bioRχiv eu bod o’r diwedd wedi llenwi’r holl fylchau trwy ychwanegu 200 miliwn llythyren newydd i’r dilyniant hysbys (mae tua 3000 miliwn llythyren i gyd). Mae’r dilyniant, bellach, yn gyfan. Bu hyn yn rhannol bosibl trwy ddefnyddio’r technegau darllen diweddaraf – ond hefyd trwy ddewis “gwrthrych” arbennig. Rhaid cofio bod dilyniant DNA pob unigolyn ar y blaned yn wahanol. Wrth edrych yn fras, nid oes llawer o ots – ond wrth fireinio’r canlyniadau mae’n rhaid ystyried hyn. Yn 2001 mae’n debyg mai DNA Craig Venter (sylfaenydd yr ymgyrch breifat) a Jim Watson (un o ddarganfyddwyr strwythur cyffredinol DNA) a gynrychiolwyd. Ar gyfer yr ymgyrch ddiweddaraf aethpwyd ati i orchfygu un sialens sylfaenol arall. Mae gan bob un ohonom ddwy fersiwn o’r DNA – un o’n mam a’r llall o’n tad – ac anodd gwybod ai gwahaniaeth gwirioneddol neu wall yn y dadansoddiad yw unrhyw wahaniaeth a ganfuwyd. I ddatrys hyn defnyddiwyd cell o linach anghyffredin a gysylltir â gwall prin cenhedlu – tyfiant hydatidiform. Yma, rhywsut, mae wy perthnasol y fam wedi colli ei DNA. Pan “ffrwythlonir” yr wy hwn gan hedyn sberm, ar y cychwyn dim ond hanner y DNA, sef cyfraniad y tad, sy’n bresennol. I oroesi ffurfir ail gopi o’r DNA gan y gell i gwblhau’r set gyfan o 46 cromosom. Ond nid yw’r gell hon yn hyfyw, ac fel arfer fe’i collir. Ond weithiau mae angen ei thynnu cyn iddo ddatblygu yn berygl i’r fam.  Celloedd labordy, y gellir eu cynnal yn ddiddiwedd, o’r enw CHM13 a dyfwyd o gell o’r fath yma a ddefnyddiwyd gan Telomere-to-telomere (enw sy’n cyfeirio at y strwythurau sydd yn terfynu pob cromosom). Casglwyd y gell wreiddiol rai degawdau yn ôl gan gwmni sydd bellach allan o fusnes. O ganlyniad, mae’n debyg ei bod yn hollol amhosibl olrhain pwy oedd y rhodd-wraig. Hefyd nid yw’r dilyniant yn cynrychioli unrhyw berson sydd wedi bodoli – dim ond hanner genom darpar dad. Ni all neb, felly, honni mai nhw piau’r DNA sydd bellach yn safonol ac nid yw cwestiwn cyfrinachedd yn codi.

Darganfuwyd tua 115 genyn newydd yn y broses. Mae tua 30,000 i gyd – ond daw’n fwyfwy amlwg bod angen newid y diffiniad biocemegol o enyn a ddysgais yn y coleg hanner can mlynedd yn ôl.  Yn bwysicach, deallwn yn llawer gwell strwythur darnau o’r cromosom sy’n cyfrannu at glefydau etifeddegol mewn ffyrdd anghonfensiynol. Bydd y datblygiad diweddaraf, hefyd, yn taflu cryn oleuni ar sut mae bywyd yn gyffredinol yn esblygu trwy’r cenedlaethau.

Yn y cyfamser, mae gwyddonwyr a haneswyr yn dal i ddadansoddi olion archeolegol, gan gynnwys eu DNA. Bu clwstwr o adroddiadau diweddar yn enghreifftiau da – yn enwedig yng nghyd-destun yr ymgecru presennol am fewnfudwyr o Affrica. Yn gyntaf, yn y Journal of Archaeological Science ar ddechrau Mehefin mae Kevin Salesse a’i gydweithwyr yn disgrifio’r olion cyntaf o fewnfudwr o Affrica i Rufain yr Ymerodraeth. Tua canrif neu ddwy ar ôl marwolaeth yr Apostolion Pedr a Paul yno,  claddwyd yng Nghatacwm Pedr a Marchellin ŵr a oedd yn wreiddiol o’r Swdan. Mae ffurf a DNA ei ddannedd a’i safn – ynghyd â phatrwm isotopau eu helfennau cemegol (C,N,O,S a Strontiwm) yn dangos hynny. Trwy fanylu, mae modd gweld ei fod wedi symud i Rufain yn gynnar yn ei fywyd fel oedolyn. Er bod y catacwm arbennig hwn yn cynnwys claddiadau nifer o gyfoethogion ffasiynol, tybiaeth awduron y gwaith yw mai fel caethwas y daeth yr unigolyn yma i Ewrop.

Tua 600 mlynedd ynghynt, roedd dinasoedd Groeg ynys Sisilia yn dioddef ymosodiadau o ran arall o’r Affrig – o Garthago.    Mae’r hanesydd Heroditws yn disgrifio amddiffyniad llwyddiannus dinas Himera rhag Hamlicar yn 480 cyn Crist.  Lladdwyd Hamlicar. Heddiw mae modd ymweld ag olion Teml y Fuddugoliaeth a adeiladwyd i ddathlu. Ond byr oedd ei hanes. Yn 409 CC daeth Hannibal Mago i ddial am farwolaeth ei daid gan ddinistrio’r ddinas yn llwyr ac am byth. Dysgir moeswers gan yr hanes traddodiadol. Yn 480 CC gofynnodd yr Himeriaid am gymorth eu cyd-Groegiaid, tra yn 409 CC aethant ati ar eu pennau eu hunain. Mae rhinwedd mewn cydweithio !

Wrth adeiladu rheilffordd yn 2008, darganfuwyd dros 10,000 o feddi ger safle Himera – gan gynnwys wyth bedd torfol yn gysylltiedig â’r brwydrau.  Yng nghylchgrawn Plos One ganol Mai, disgrifia Katherine Reinberger o Brifysgol Georgia a’i chydweithwyr ddadansoddiad isotopau strontiwm ac ocsigen dannedd 62 o filwyr lladdedig y Groegiaid, tra’n holi ai gwir oedd hanesion Heroditws, Diodorws Siculus ac ati. Yn 480 CC roedd dau draean y meirwon yn estron i Himera. Tra yn 409 CC dim ond chwarter oedd felly. Canlyniad sy’n unol a’r hanes traddodiadol. Ond mae un manylyn sy’n goleuo rhagfarn hanes. Ymfalchïa Heroditws mai cyd-ddinasyddion Groegaidd Sisilia yn cefnogi ei gilydd o’u gwirfodd oedd cynghreiriaid 480 CC. Ond mae’r isotopau yn dangos mai pell o’r ynys oedd tarddiad nifer sylweddol ohonynt – a’u bod yn debygol iawn o fod yn filwyr cyflog. O leiaf pan ddeuai’n rhyfel, ‘roedd gwe eang o gysylltiadau ar draws Môr y Canoldir. Rhywbeth nad yw’n amlwg wrth ddadansoddi trigolion amser heddwch y dinasoedd.

Yn yr olaf o’r adroddiadau, yn Royal Society Open Science ddechrau Mai, mae Jessica Scorrer o Brifysgol Caerdydd a’i chydweithwyr yn disgrifio isotopau olion dannedd wyth o’r criw a foddodd pan suddodd llong Harri VIII, y Mary Rose, yn 1545. Ai “Calonnau Derw’r Hen Loegr” oeddynt ?  O’r wyth, magwyd tri ohonynt ger arfordir Môr y Canoldir (o bosib Gogledd Affrica). Dim problem wrth logi gweithwyr estron felly ! Gorllewin Ynys Prydain oedd cartref y pump arall – ond, yn annisgwyl, ‘roedd siâp penglog un o’r rhain, hefyd,  yn awgrymu achau o’r Affrig.

Pan ryddheir teithio bydd modd ichi ymweld â’r tri safle hanesyddol hyn. Os gwnewch hynny, arhoswch am ennyd i gofio hanes mudo o bob math ar draws y môr a elwir yn Ganol y Byd.


Pynciau: Y Genom Dynol, Mewnfudwr Cynnar, Brwydr Himera


Cyfeiriadau

Y Genom Dynol: Sergey Nurk, [nifer sylweddol o gyd-awduron], Karen H. Miga a Adam M. Phillippy (2021) The complete sequence of a human genome. bioRχiv (Mai 27)

Mewnfudwr Cynnar: Kevin Salesse, Élise Dufour, Vincent Balter, Robert H.Tykot, Nina Maaranen, Maïté Rivollat, Arwa Kharobi,  Marie-France Deguilloux, Marie-Hélène Pemonge, Jaroslav Brůžek a Dominique Castex (2021) Far from home: A multi-analytical approach revealing the journey of an African-born individual to imperial Rome. Journal of Archaeological Science 37, 103011

Brwydr Himera: Katherine L. Reinberger, Laurie J. Reitsema, Britney Kyle, Stefano Vassallo, George Kamenov a John Krigbaum (2021) Isotopic evidence for geographic heterogeneity in Ancient Greek military forces. Plos One 16(5): e0248803

Mary Rose: Jessica Scorrer, Katie E. Faillace, Alexzandra Hildred, Alexandra J. Nederbragt, Morten B. Andersen, Marc-Alban Millet, Angela L. Lamb a Richard Madgwick (2021) Diversity aboard a Tudor warship: investigating the origins of the Mary Rose crew using multi-isotope analysis. Royal Society Open Science 8, 5


<olaf nesaf>