Barn 146 (Mehefin 2021): Adnabod wyneb, Ymddygiad tocsig, Algorithmau


(Wrthi’n gosod cysylltiadau a lluniau.)

Dros y flwyddyn ddiwethaf bu newid mawr yn y modd y mae nifer helaeth ohonom yn ymwneud â’n cyfeillion. O hyn ymlaen, gobeithio, bydd y cysylltiadau uniongyrchol yn araf ail ddechrau. Meddyliais am hyn yn ddiweddar wrth ddarllen dwy erthygl pur wahanol i’w gilydd am unigrwydd.

Roedd y gyntaf yn ymwneud â chacwn, neu wenyn meirch, ond anodd oedd peidio â chofio am gymeriad Woody Allen, Z, yn ffilm Antz o 1998 wrth ei darllen.  Fel arfer mae cacynen bapur y gogledd (Polistes fuscatus), sy’n byw yng ngogledd America, yn cydfyw mewn heidiau bychain wrth iddynt adeiladu eu nythod cywrain o bapur. Yn hynod o debyg i Hollywood, mae’r anifeiliaid bach yma yn adnabod wynebau’i gilydd ac yn defnyddio’r wybodaeth yma i liwio eu hymddygiad. Beth sydd wrth gefn hyn ? Yn y papur a gyhoeddwyd yn Biology Letters ganol Ebrill, mae Christopher Jernigan o Brifysgol Cornell a’i dîm wedi dadansoddi datblygiad ymennydd y cacwn. Yn gyntaf casglodd gocŵn, yna wrth i’r oedolion deor ohonynt a chyn iddynt weld yr un wyneb,  fe’i rhannodd yn ddau grŵp. Gadawyd i un ohonynt ddatblygu yn griw cymdeithasol. Ond ynyswyd pob aelod o’r grŵp arall – heb fodd iddynt weld yr un gacynen arall. Nid yw hyn yn hollol estron iddynt, gan fod ambell unigolyn yn dewis byw bywyd meudwyaidd felly.  Ddau fis yn ddiweddarach cymharodd y biolegwyr ymenyddiau’r ddau grŵp. Ar y cyfan, nid oedd gwahaniaeth rhyngddynt – ond ‘roedd un rhan sy’n ymwneud â dadansoddi golwg yn sylweddol fwy yn y creaduriaid cymdeithasol. Y darn hwn, mae’n debyg, sydd wrth wraidd y ddawn o fedru adnabod wynebau – a’r sgiliau cymdeithasol ynghlwm â hynny. Colli cyfeillion, colli rhannau o’r ymennydd.

Agosach i gartref oedd pwnc papur yn y cylchgrawn Personality and Individual Differences ym mis Mawrth. Rydym yn byw trwy gyfnod o ddiddordeb mawr mewn ymddygiad “tocsig” ambell wryw – er enghraifft, mewn sawl achos o drais corfforol a meddyliol yn y cartref. Ond mae agweddau felly at fenywod ac unigolion anneuaidd yn gyffredinol yn peri gofid.   O ba le y daw’r patrwm ymddygiad yma ? Yn y papur gofynnodd George van Doorn a’i gydweithwyr o Awstralia ai o berthynas gynnar â’u tadau o’r un anian yr etifeddwyd yr ymddygiad ? Dysgu’r ymddygiad oddi wrth fodelau tebyg. Holwyd 188 o ddynion rhwng 18 a 62 am eu hagweddau a phrofiadau.

Yn annisgwyl, efallai, nid oedd tystiolaeth o gwbl mai perthynas â thad “tocsig” oedd yn gyfrifol – nag ychwaith ddylanwadau o du’r fam. Nid awyrgylch y teulu, felly. Ond ‘roedd un ffactor pendant. Y nifer – ac ansawdd –  y cyfeillion oedd gan unigolyn.  Po fwyaf ohonynt, y llai tebygol oedd dyn o  arddel ymddygiad hegenomig a machoaidd. Ond erys un cwestiwn o’r gwaith heb ei ateb. Beth sy’n gyfrifol am y nifer o gyfeillion sydd gan rywun ? Mae’n bosib mai personoliaeth hegenomig sy’n ynysu rhywun yn y lle cyntaf.  Enghraifft o hunan niweidio seicolegol.

Nid bychan, felly, yw’r bygythiadau a ddaw o’r misoedd diwethaf o beidio cymdeithasu. Ystyriaethau sy’n gwneud bywyd yr ymgynghorwyr a gwragedd y Senedd yn anodd y dyddiau hyn !

Un ffactor yw ein bod yn byw mewn cymdeithas ryddfrydol – rhyddid i’r unigolyn.  Dyma godi’r cwestiwn o beth yw ymddygiad “normal”. Mae hyn yn arbennig o berthnasol wrth i’n dibyniaeth ar beiriannau a systemau awtomatig gwybodaeth gynyddu.  Fwyfwy nid unigolion cig a gwaed sy’n gwneud lliwio penderfyniadau ond nifer o ystyriaethau unigol wedi’u trosi i hafaliadau mathemategol er mwyn i gyfrifiadur eu datrys. Yn ddamcaniaethol mae hyn yn ffordd hygyrch, wrthrychol a theg o ddatrys cwestiynau sy’n rhy fawr neu gymhleth i bwyllgorau. Canlyniadau cannoedd o filoedd o dystysgrifau cyrhaeddiant ysgol yn absenoldeb arholiadau, er enghraifft. Enw’r prosesau hyn yw algorithmau. Cymorth hawdd eu cael mewn cyfyngder ? Efallai ddim, fel y profodd haf 2020.

Mae modd tiwnio’r algorithmau i gadarnhau’r ymddygiad neu’r canlyniad “gorau” ymhob rhan o fywyd. Byddai hyn yn iawn pe bai modd cytuno ar beth sydd orau. Ar y ddau begwn mae grymoedd farchnad rydd yr Unol Daleithiau a grymoedd awdurdodol Tsieina. Ac ym mhobman mae’r grymoedd sy’n cyflwyno ffafriaeth a mantais i un rhan o’r boblogaeth dros eraill – yn fwriadol, neu’n anfwriadol, trwy fwydo data anghytbwys i’r algorithmau.

Ar Ebrill 21 cyflwynwyd cynnig gan Gomisiwn yr Undeb Ewropeaidd i ddechrau ymrafael â hyn trwy ddirwyon mawr i’r rhai sy’n gweithredu yn erbyn lles unigolion (gweithredu sgôr gymdeithasol, er enghraifft). Enghreifftiau o’r meysydd diddordeb byddai rhaglenni awtomatig sy’n dewis ymgeiswyr llwyddiannus am swyddi neu lefydd mewn prifysgolion a cholegau, sgôr credyd neu geisiadau papurau teithio.   Ei enw yw’r Ddeddf Deallusrwydd Artiffisial. Dyma oedd un o addewidion Ursula von der Leyen yn ystod ei hymgyrch etholiad. Dros yr wythnosau canlynol bu cryn wrthwynebiad o gyfeiriad y Dyffryn Silicon. Ni fyddai disgwyl ymateb o Tsieina, mae’n debyg. Yno, mae normalrwydd hefyd yn ystyried bod sgôr gymdeithasol o bwys. Ond mewn modd pur wahanol. I’r rhai sy’n treulio gormod o amser yn chwarae ar gyfrifiadur, neu groesi’r ffordd heb aros am y dyn bach gwyrdd, neu beidio a chyfrannu at achosion da mae’r drefn awtomatig yn tynnu oddi arnoch eich hawliau teithio ar drên – neu hyd yn oed yn eich gosod ar restr cywilyddio gyhoeddus. (Hyn heb ddechrau ystyried tueddiadau crefyddol neu wleidyddol “abnormal”.)

Amser a ddengys os bydd modd i Ewrop droedio llwybr canol yn hyn o beth.  Ac, wrth gwrs, bellach  nid oes  rhaid i’r Deyrnas Gyfunol ei dilyn. Ond yn wyneb canlyniadau ein hetholiad diweddar, ymddengys bod Llywodraethau Gwledydd Prydain eu hunain wedi’u polareiddio ynglŷn â’r mater. Sialens arall i Mark Drakeford, ei dîm a’i gyfeillion lu.


Pynciau: Adnabod wyneb, Ymddygiad tocsig, Algorithmau


Cyfeiriadau

Adnabod wyneb:

Ymddygiad tocsig:

Algorithmau:


<olaf nesaf>