Barn 144 (Ebrill 2021) Gyriant Warp, Dechrau Siarad, Gorffen Siarad


Barn 144 iAr Fedi 22 1966 clywodd y byd y geiriau “Ahead Warp Factor One” o enau’r Capten Kirk am y tro cyntaf. Hyn yn ystod y drydedd raglen yng nghyfres Star Trek. (Roedd fy arwr i, Mr Spock a’i glustiau nodweddiadol, wedi sôn am “time warp factor” yr wythnos gynt.) Yn y foment honno y ganwyd cenhedlaeth o “Trekkies” – y dynion a merched a aeth ymlaen i ddarparu un o fideos gwyddonol hynotaf y ddegawd ar Chwefror 18 wrth i Graen-Awyr ollwng Perseverance yn ofalus y 20 metr olaf i wyneb y blaned Mawrth. Yn sicr, bydd mwy o sôn am y cerbyd hwnnw a’i ddarganfyddiadau yn y golofn hon dros y blynyddoedd nesaf.  Ystryw dychmygol awduron gwyddonias, megis John Campell ac Isaac Asimov, i alluogi eu cymeriadau fordwyo’r bydysawd yn sydyn yw Gyriant Warp. Ond dros y degawdau diwethaf bu ffisegwyr proffesiynol yn ceisio dyfeisio trefn a fyddai’n galluogi symud llong ofod yn gyflymach na goleuni. Gwaherddir symud trwy ofod-amser yn y modd yma gan ddeddfau cydnabyddedig Einstein. Ond mae’n debyg na waherddir symud gofod-amser ei hun felly.  Yn 1994 dyfeisiodd y ffisegydd Miguel Alcubierre Moya (o Fecsico, ond a wnaeth ei ddoethuriaeth ym Mhrifysgol Caerdydd) hafaliadau mathemategol sy’n caniatáu hyn. Ond i adeiladu peiriant ohonynt byddai’n rhaid defnyddio defnydd ag iddo egni negyddol nad yw’n bodoli. Bellach, yn rhifyn cyfredol Classical and Quantum GravityBarn 144 ii, mae a o Efrog Newydd yn cynnig datrysiad. Eu cynnig hwy yw defnyddio priodoledd maes disgyrchedd cryf i arafu treigl amser. Trwy ei osod mewn cragen affwysol o drwm ag iddo ddisgyrchiant enfawr, byddai teithiwr yn croesi pellteroedd cosmig mewn amser y byddai’n ei ganfod i fod yn fyr. Ni fyddai’r symud cynt-na-goleuni yma yn torri rheolau ffiseg. Ond i wireddu hyn byddai’n rhaid i’r gragen fod yn DRWM IAWN. Ni fyddai cywasgu holl fas y ddaear i gragen 10 metr ar ei thraws ond yn ddigon i dynnu awr oddi ar bob blwyddyn o’r siwrnai ! Yn ôl Bobrick a Martire, byddai ei llunio ar ffurf cymharol fflat (siâp crwstyn tarten afal yn hwylio i gyfeiriad ei hwyneb fwyaf) yn gymorth – ond dim llawer. Efallai bod record cyflymder yr USS Enterprise yn ddiogel am ychydig ganrifoedd eto!

Ond mae amser yn cerdded, ac onid chwinciad daearegol yn ôl yr oedd pobl y Neanderthal yn cerdded tiroedd Cymru ? Un peth sy’n weddol sicr yw nad y Gymraeg oedd eu hiaith. Yn wir, erys yn ansicr a oeddynt yn siarad o gwbl. Ond mewn papur yn Nature Ecology and Evolution o ddechrau Mawrth, mae Mercedes Conde-Valverde a’i chydweithwyr o Brifysgol Alcalá, Madrid, yn dadlau eu hachos. Maent yn gwneud hyn trwy ddehongli a chymharu sganiau CT o dair set o benglogau archeolegol. Penglogau modern, rhai Neanderthal a hefyd rhai eu rhagflaenwyr a gloddiwyd o Sima del los Huesos, safle archeolegol cyfoethog ym mynyddoedd yr Atapuerca ger dinas Burgos. O’r sganiau mae modd ail-greu tyllau clust y tair set a dehongli pa synau y byddai wedi bod modd iddynt eu canfod – a thrwy hynny pa synau y byddent yn debygol o fod wedi’u defnyddio i gyfathrebu â’i Barn 144 ivgilydd. Roedd ystod clyw’r Neanderthal yn llawer ehangach na phobl Atapuerca ac yn debyg iawn i’n hystod ni. Yn arbennig byddai wedi bod modd iddynt glywed cytseiniaid megis “s”, “k”, “t” a “th” mewn dull modern. Yn 2015 dangosodd yr un grŵp ymchwil y byddai clyw pobl yr Atapuerca, ei hun, yn ddatblygiad sylweddol o’r hyn a ddehonglir o benglogau cynharach  Australopithecus africanus a Paranthropus robustus o Dde Affrica (o 3 a 1.5 miliwn o flynyddoedd yn ôl). Byddai clyw a lleferydd tybiedig y rhain yn ymdebygu i rai’r Tsimpansî heddiw. Penglogau Neanderthal tua 130,000 o flynyddoedd oed a astudiwyd. Mae hyn cyn y cyfnod lle y gwyddom bellach bod rhyngfridio wedi bod rhyngddynt â Homo sapiens. Dadleua’r archeolegwyr, felly, nad o’n rhywogaeth ni yr etifeddwyd y doniau hyn, a bod darganfyddiadau’r tîm yn gyfraniad i’r dystiolaeth gynyddol i natur soffistigedig cymdeithas y Neanderthal. Fel ninnau, ‘roedd modd iddynt gyfathrebu mewn modd nas defnyddiwyd gan yr un anifail arall ar y blaned.

Barn 144 vHwyrach mai dechrau siarad oedd eu cam mawr, ond mae ymchwil a gyhoeddwyd yn PNAS ar ddechrau Mawrth yn profi mai gorffen siarad yw problem y rhan fwyaf ohonom bellach ! Mewn arbrofion ar y cyd rhwng Prifysgolion Harvard, Pennsylvania a Virginia, cofnodwyd 932 o sgyrsiau rhwng parau o unigolion – myfyrwyr seicoleg yn bennaf. Tua’r hanner ohonynt rhwng cyfeillion a’r gweddill rhwng estroniaid. Gofynnwyd i’r ymgomwyr siarad am unrhyw beth y dymunent am fwy na munud. Gofynnwyd iddynt orffen os oeddynt yn dal ati ar ôl tri chwarter awr. Cofnodwyd hyd bob sgwrs. Ar ôl y siarad,  holodd Adam Mastroianni a’i dîm i bob unigolyn pryd y buasent wedi hoffi gorffen ei sgwrs. Y darganfyddiad oedd mai anaml iawn y gorffennodd y sgwrs pan fyddai un ohonynt, heb sôn am y ddau, wedi dymuno hynny. Ar gyfartaledd aeth y sgwrs ymlaen 50% yn hirach na’u hawydd i sgwrsio!  Disgrifia’r broblem fel un “cyd-gysylltu clasurol” nad yw pobl yn medru ei ddatrys gan fod angen arnynt wybodaeth nad yw’n cael ei datgelu gan ei bartner mewn sgwrs.

Tybed a fu gan ein perthnasau Neanderthal yr un broblem ? Tybed ai nodwedd esblygiadol yw er mwyn llenwi ein horiau sbâr wrth inni hedfan i’r sêr ? O leiaf nid yw’r un broblem yn codi wrth ddarllen erthygl yn Barn. Dyma’r diwedd, os nad ydych yn sylweddoli hynny.


Pynciau: Gyriant Warp, Dechrau Siarad, Gorffen Siarad


Cyfeiriadau

Gyriant Warp: Alexey Bobrick a Gianni Martire (2021) Introducing physical warp drives. Class. Quantum Grav. 38 105009
Ed Vitz, John W. Moore, Justin Shorb, Xavier Prat-Resina, Tim Wendorff, & Adam Hahn (2020).  Density of Black Holes. Chemistry Libre Texts (UC Davis)

Dechrau Siarad:
Mercedes Conde-Valverde, Ignacio Martínez, Rolf M. Quam, Manuel Rosa, Alex D. Velez, Carlos Lorenzo, Pilar Jarabo, José María Bermúdez de Castro, Eudald Carbonell & Juan Luis Arsuaga (2021). Neanderthals and Homo sapiens had similar auditory and speech capacities. Nature Ecology & Evolution  5, 609–615

Gorffen Siarad: Adam M. Mastroianni, Daniel T. Gilbert, Gus Cooney aTimothy D. Wilson (2021) Do conversations end when people want them to? PNAS March 9, 2021 118 (10) e2011809118


<olaf nesaf>