Barn 143 (Mawrth 2021): Tarddiad Blodau, Cathod Caredig, Canfod Celwydd


Barn 143 iEleni eto daeth yr Eirlys, y Saffrwm a’r Genhinen Pedr i ardd Sychnant. Cenhadon tragwyddol y Gwanwyn. Ond i Charles Darwin a’i On the Origin of Species, a gyhoeddwyd gyntaf yn 1859,  penbleth garw oedd ymddangosiad blodau yn nhrefn esblygiad bywyd y Ddaear.  Mewn llythyr a ysgrifennodd yn 1879 at ei gyfaill y botanegydd Joseph Hooker, disgrifiodd eu hymddangosiad sydyn ymhlith ffosiliau 135 o filiynau o flynyddoedd yn ôl, yn “ddirgelwch ffiaidd” (abominable). Y dirgelwch oedd sut i esbonio ymddangosiad cymaint o ddosbarthiadau cyfain gwahanol o angiosbermau  (sef planhigion ag iddynt flodau) ar yr un amrant mewn hanes heb yr un rhagflaenydd. Yn ôl ei Ddamcaniaeth Fawr, dros amser sylweddol y ffurfir y fath amrywiaeth o rywogaethau.

Y Cyfnod Cretasaidd yw’r enw technegol am y cyfnod.  Dinosoriaid oedd yn teyrnasu’r cyfandiroedd. Daeth eu teyrnasiad hwythau, a’r Cretasaidd,  i ben yn sydyn hefyd. Ond haws esbonio hyn. Mae’n debyg mai meteor neu gomed a drawodd y ddaear 66 miliwn o flynyddoedd yn ôl oedd yn gyfrifol. Diflannodd y dinosor, ond etifeddodd yr angiosberm y ddaear.

Bu cryn ddarganfod ffosilau o bob math dros y 140 o flynyddoedd ers llythyr Darwin. Ond mae angiosbermau cyn y cyfnod Cretasaidd o hyd yn amlwg yn eu habsenoldeb. Mae planhigion tir sych cyntefig yn ymddangos tua 470 miliwn o flynyddoedd yn ôl, yn ystod y Cyfnod Ordofigaidd. Erbyn y Cyfnod Carbonifferaidd (360-300 miliwn blwyddyn yn ôl)  roedd olion coed rhedyn, mwsogl a rhawn y march yn gadael digon o ffosiliau i greu’r gwaddodion glo a newidiodd hanes Cymru, a sawl gwlad arall. Ond nid oedd ganddynt, coed na llysiau’r cyfnod, flodau. Ymhle mae olion cyndeidiau a chyn neiniau’r Dderwen a’r Eirlys? (Nid Saunders Lewis yn unig a gafodd drafferth â chart achau Blodeuwedd !)

Un ffordd o geisio ateb y cwestiwn yw defnyddio’r Cloc Genetig sy’n cymharu dilyniant DNA pethau byw heddiw. Mae dilyniant DNA Dyn a’r Tsimpansî yn llawer tebycach i’w gilydd nag yw dilyniant Dyn a Cheffyl, er enghraifft. Y casgliad yw i’r rhaniad rhwng ein llinach ni a’r ceffyl ddigwydd llawer ynghynt na’n rhaniad rhyngom ni â’r Tsimpansî. Mae’r dechneg hon yn gosod trefn ar ganghennau esblygiad. Bellach fe gredir bod cyfradd y newid yn ddigon cyson dros amser fel bod modd ei ddefnyddio fel cloc y medrir ei ddarllen. Os yw hyn yn wir, mae’r dadansoddi amrywiaeth DNA blodau heddiw yn gosod eu tarddiad yn ôl at 200 i 250 miliwn o flynyddoedd yn ôl. Dyma gyfnod y Triasig a ddilynodd y Difodiant Mawr ar ddiwedd y Cyfnod Permaidd.

Barn 143 iiYn absenoldeb ffosiliau o’r ystod maith hwn o amser, mewn papur yn Nature Ecology & Evolution ddiwedd Ionawr, mae Daniele Silvestro a’i chydweithwyr ym Mhrifysgol Fribourg wedi troi at dechneg sydd â chysylltiadau â’r athronydd o Gymro, Richard Price (1723 -1791). Pan fu farw Thomas Bayes, ystadegydd o Loegr, yn 1761 nid oedd wedi rhannu ei ddarganfyddiad mathemategol pwysicaf. Rhoddwyd y dasg o roi trefn ar ei bapurau i Richard Price. Y Cymro, felly, a sylweddolodd ei bwysigrwydd a chyflwyno Tebygolrwydd Bayes i’r byd. Defnyddio gwybodaeth haniaethol a goddrychol yw nodwedd y maes. Bu ymchwydd mawr yn y defnydd llwyddiannus ohono dros feysydd amrywiol ers i gyfrifiaduron pwerus ymddangos yn y 1950au.

Casglodd Silvestro fanylion ac oedrannau amrywiaeth dros 15,000 o ffosilau angiosbermau o bob rhan o’r byd o’r 125 i 72 miliwn blwyddyn diwethaf a’u defnyddio i geisio troi’r cloc yn ôl at gyfnod cynt. Trwy ddefnyddio mathemateg Bayes a Price fe gynigiodd ddyddiad tebygol tarddiad yr amrywiaeth gweledig – tua 250 miliwn o flynyddoedd yn ôl. Er ei bod yn hollol wahanol i dechneg Cloc DNA, mae’r canlyniadau yn cyd-fynd â’r dyddiad cynnar. Os gwir, mae hyn yn gofyn y cwestiwn paham na adawyd olion gan y blodau am dros hanner eu bodolaeth ar y ddaear ?

Barn 143 iiiMae’n debyg mai ynghanol yr un cyfnod Cretasaidd, tua 90 miliwn o flynyddoedd yn ôl, yr ymwahanodd ein llinach ni ag un y gath. Ond 8000 o flynyddoedd yn ôl, yn y Dwyrain Canol, sylweddolodd cathod fantais cyd-fyw â’u perthnasau pell. Erbyn hynny roeddem wedi dofi ambell angiosberm a’u tyfu yn gnydau ŷd. Yn anffodus i ni, roedd llygod mawr a mân hefyd yn gwerthfawrogi’r caeau toreithiog. Hoffter y gath o’r ffynhonnell newydd yma o fwyd pedairtroed ddaeth â hi i gyd-ddealltwriaeth â’r ffarmwr. Cylch o gadwyn fwyd ! Bellach nid dim ond ar fferm y gwelwch gathod. Mae tua 300,000 ohonynt yn byw ar wahanol aelwydydd ledled Cymru. Dros y blynyddoedd diwethaf bu cryn drafodaeth am eu rhan yn lledaenu clefydau megis Cryptosporidiosis, Giardiasis a Toxoplasmosis. Bu hefyd drafodaeth am eu dylanwad ar boblogaethau anifeiliaid gwylltion – adar a mamaliaid – a rhai yn annog gosod clychau neu goleri lliwgar arnynt. Yr agwedd hon a sbardunodd Robbie McDonald a’i dîm o Brifysgol Caerwysg i chwilio am ffyrdd llai ymwthgar. Ei ateb nid annisgwyl, a gyhoeddwyd yn Current Biology ar ganol Chwefror, yw rhoi mwy o gig iddynt i’w fwyta. Mae chwarae gyda’r gath am 5-10 munud y dydd (dim mwy), hefyd, yn lleihau ei hawydd i hela. Yn yr arbrawf fwyd, cymharodd McDonald fwyd “premiwm” yn cynnwys cig gyda bwyd yn defnyddio grawn yn ffynhonnell protein a halwynau. Bu lleihad o 36% yn y celanedd a gludwyd gartref gan y cathod fwytodd gig. Lleihad o 25% a welwyd ar ôl y chwarae. Nid llawer o gysur i berchnogion llysieuol, ond rhywbeth i bawb sydd am gadw cath a bywyd gwyllt yn yr ardd ei ystyried.

Barn 143 ivMae newid ymddygiad bob amser yn sialens, ond yn Royal Society Open Science mis Ionawr bu erthygl gan Sophie van der Zee a’i chydweithwyr a fydd, o bosib, yn ddefnyddiol i’r rhai ohonoch sydd am ddweud celwydd llwyddiannus. Gosodwyd tasgau ymarferol i 50 o fyfyrwyr Prifysgol Erasmws Rotterdam. Er eu bod yn ymddangos yn syml, roedd y tasgau yn llawer rhy anodd eu datrys yn yr amser a ganiatawyd – heb gymorth. Smaliodd van der Zee ei bod am helpu’r myfyrwyr trwy adael ateb y posau yn yr ystafell – ond fe’u rhybuddiwyd i beidio â dweud am hyn wrth ei chyfarwyddwr. Yn hwyrach, yn ystod cyfweliad gyda’r cyfarwyddwr am eu hymdrechion, gosodwyd synwyryddion symud ar ben, brest ac arddwrn y myfyrwyr. Pan oeddent yn dweud y gwir, roedd eu symudiadau yn hollol annibynnol ar symudiadau’r holwr. Ond pan oeddent yn dweud celwydd dechreuodd eu symudiadau ddilyn a chopïo symudiadau’r holwr. Barn yr ymchwilwyr yw bod canolbwyntio ar guddio dweud anwiredd yn galw am gryn ganolbwyntio a bod copïo symudiadau yn cynorthwyo trwy ryddhau’r angen i feddwl am symudiadau gwreiddiol. Nid oedd modd gweld y gwahaniaeth â’r llygad – ond ‘roedd y synwyryddion symyd yn eu canfod.  Set ohonynt, a gwersi ymarfer, yn anrheg Nadolig y flwyddyn nesaf, felly, i bob darpar dwyllwr yn y teulu.


Pynciau: Tarddiad Blodau, Cathod Caredig, Canfod Celwydd


Cyfeiriadau

Tarddiad Blodau: Daniele Silvestro, Christine D. Bacon, Wenna Ding, Qiuyue Zhang, Philip C. J. Donoghue, Alexandre Antonelli & Yaowu Xing (2021) Fossil data support a pre-Cretaceous origin of flowering plants. Nature Ecology & Evolution 5, 449–457 

Cathod Caredig: Martina Cecchetti, Sarah L. Crowley, Cecily E.D. Goodwin a Robbie A. McDonald (2021) Provision of High Meat Content Food and Object Play Reduce Predation of Wild Animals by Domestic Cats Felis catus. Current Biology  31, 5 1107-1111

Canfod Celwydd: Sophie Van Der Zee, Paul Taylor, Ruth Wong, John Dixon a Tarek Menacere (2021). A liar and a copycat: nonverbal coordination increases with lie difficulty. Royal Society Open Science 13 Ionawr 2021


<olaf nesaf>