Gyda gorchest wyddonol brechiadau arloesol Covid yn dechrau dwyn ffrwyth, ni ellir ond gobeithio na fydd diddordeb newydd y cyhoedd mewn ffeithiau a’r ffynonellau y tu cefn iddynt yn pylu yn 2021. Brawychus, ond nid annisgwyl, yw sylweddoli pa mor sigledig yw ein crybwyll am gymaint o bethau mewn bywyd. Yn aml nid yw hyn o bwys, ac yn wir gall weithiau fod yn rhan gadarnhaol o wead cymdeithas. Mewn papur sydd eto i’w gyhoeddi’n llawn, mae Rohan Kapitány, Seicolegydd ym Mhrifysgol Keele, a’i gydweithwyr yn trafod hyn yng nghyd-destun y modd yr ydym mor hoff o gyflwyno cymeriadau ffug i’n plant, cymeriadau megis Siôn Corn a’r Tylwyth Teg sy’n talu am eu dannedd. Holwyd plant 2 i 11 oed am “realiti” ystod o bethau. Roedd sgôr yr hen Siôn, Gwningen y Pasg a’r Dylwythen Deg yn yn dilyn yn glos ar sodlau Selebs a Dinosoriaid. Yna deuai ysbrydion ac ymwelwyr o’r gofod. Tra bo cymeriadau megis Elsa o Frozen yn olaf yn y rhestr. Cred y seicolegwyr mai’r ffaith bod gwahanol ddefodau cymdeithasol yn gysylltiedig â’r cymeriadau uchaf ar y rhestr yw’r prif ddylanwad. Nid ydynt yn mentro i’r maes, ond ni allaf ond tybio mai esboniad tebyg sydd wrth gefn nifer o’r prif ddigwyddiadau yn ein byd gwleidyddol yn ddiweddar. Ni yw’r “plant” a’r gwleidyddion yw ein “rhieni”. Mae arnynt gyfrifoldeb mawr !
Heb os nac oni bai mae angen pob sgrap o grybwyll realiti ar bob un ohonom yn 2021 wrth ystyried argyfwng gwirioneddol Newid Hinsawdd a’n dylanwad cyffredinol ni ar y byd. Yn ei rhagolwg o’r flwyddyn, dewisodd Layal Liverpool o gylchgrawn y New Scientist drafod effaith nano-ronynau, sef llwch, plastig arnom ni a’n hamgylchfyd. Bellach nid yw’n syndod clywed eu bod i’w canfod ym mhob cwr o’r byd – o ddiffeithwch Antarctica i lethrau uchaf mynydd Everest. Ond, yn wahanol i effaith mecanyddol darnau mawr o blastig a amlygwyd gan raglenni David Attenborough, nid yw eto’n glir beth yw dylanwad ffisiolegol darnau microsgopig ar gelloedd pethau byw – gan gynnwys pobl. Eleni, yn ôl Liverpool, y daw eglurdeb. Yn y cyfamser, fe’m synnwyd gan adroddiad Ron Milo a’i gydweithwyr o Athrofa Weizmann Israel, yn Nature mis Rhagfyr, a ddengys ein bod wedi cyrraedd cam arwyddocaol arall yng ngwawrddydd yr Anthropsen – sef yr epoc daearegol a nodweddir gan ddylanwad dyn. Rywbryd rhwng 2014 a 2026 bydd pwysau cynhyrchion artiffisial dynoliaeth wedi goddiweddyd holl bwysau’r biosffer. Amcangyfrifa’r gwyddonwyr bod 1100 Gigatunell (Gt – 109 tunell) o adeiladau a 8 Gt o blastig bellach ar y ddaear, o’i gymharu â 900 Gt o goed a 4 Gt o anifeiliaid (gan gynnwys pobl). Ar hyn o bryd, ar gyfartaledd, mae pob un ohonom ar y blaned yn gyfrifol am gynhyrchu’r hyn sy’n cyfateb i bwysau ein corf bob wythnos. Gwir ymadrodd y Sais -“Gwnaethoch eich gwely, nawr gorweddwch ynddo !”
Wrth i ddynoliaeth osod ei marc yng ngwaddodion “tragwyddol” y ddaear, mae’n eironig ein bod yn y misoedd diwethaf hefyd wedi dechrau casglu peth o lwch dilychwyn hynaf cysawd yr haul o’r gofod. Ar ddechrau Rhagfyr, yn anialdir de Awstralia, glaniodd coden o long ofod robotig Hayabusa 2 a lansiwyd o Japan yn 2014. Ynddi roedd dognau o lwch o’r asteroid Ryugu a gasglwyd yn 2019. Ym mis Hydref bu llwyddiant cyntaf NASA i wneud rhywbeth tebyg wrth i’r robot OSIRIS-REx lanio ar Bennu. Cododd cymaint o lwch nes bu bron iddo dagu’r offer. Bydd yn ei ddychwelyd i’r ddaear yn 2023. Camp y ddwy antur oedd llwyddo i lanio ar wynebau gwrthrychau maint pentref Rachub – gyda dim ond mymryn o ddisgyrchiant i gadw’r lloerennau yn eu lle. Fe gofir, efallai, am drafferthion y glaniwr Philae a adlamodd i gafn tywyll wrth geisio glanio’n esmwyth ar wyneb comed Churyumov-Gerasimenko yn 2014. Gobeithir dysgu o ddadansoddi’r samplau hyn, gryn dipyn am y cwmwl llwch a ffurfiodd y ddaear a’r planedau dros 4 biliwn o flynyddoedd yn ôl.
Ond llwch gofod mwyaf nodweddiadol mis Rhagfyr oedd yr hyn a ddychwelwyd i Fongolia Tsieina, gan ran o long ofod Chang’e 5. Y daith hon yw taith ddiweddaraf Tsieina yn ei hymweliadau â’r lleuad. Yn 2019, Chang’e 4 oedd y robot cyntaf i lanio ar, ac ymchwilio, wyneb y lleuad nad yw byth i’w weld o’r ddaear. Ddydd Nadolig 2020 roedd ei fforiwr Yutu-2 wedi cwblhau taith o 600.55 metr gan hen ddymchwel record hirhoedledd (os nad pellter) Lunokhod 1 a dramwyodd wyneb y lleuad am 322 o ddiwrnodau yn 1970-71. Nid yw llwch Chang’e 5 mor hynafol â’r hyn a gyrchwyd o Ryugu a Bennu (credir ei fod tua 2 biliwn oed), ond yn ogystal â’i werth technegol sylweddol mae ei ddychwelyd yn llwyddiannus yn gam pwysig ym mharatoadau Tsieina tuag at y cam gwleidyddol pwysig o lanio criw o’i dinasyddion ar y lleuad yn y 2030au.
Dadansoddi dadlennol defnyddiau estron o fath pur wahanol a dynnodd fy sylw at erthygl yn rhifyn mis Tachwedd o Biodiversity and Conservation. Yn ôl ar ddechrau’r ganrif, sefydlodd Robert Ogden gwmni fforensig arloesol ym Mhrifysgol Bangor i ddadansoddi DNA anifeiliaid. Cofiaf yn glir ei seminar yn disgrifio cynorthwyo’r heddlu i ddal criw a oedd yn trefnu ymladdfeydd cŵn ym Mhrydain. Roedd yn rhaid profi, o’r olion gwaed, i’r un ci fod yn bresennol mewn brwydrau mewn mwy nag un safle. Gwnaethpwyd hynny. Roeddynt, hefyd, gyda’r cyntaf i ddadansoddi “bushmeat” anghyfreithlon mewn meysydd awyr. Roedd yn rhaid iddynt osod eu labordy ar y tarmac – cyn i’r nwyddau amheus gyrraedd y tollbyrth a dianc rhag eu herlyn. Mae Rob, bellach yn Athro Geneteg Cadwraeth ym Mhrifysgol Caeredin. Nid Rob, ond tîm o wlad Belg, oedd gyfrifol am y gwaith tebyg diweddaraf. Mae Sophie Gombeer a chydweithwyr yn y wlad honno wedi dadansoddi DNA cigoedd ar werth mewn marchnadoedd ym Mrwsel. O’r 15 saig a ddadansoddwyd, ‘roedd tri yn dod o anifeiliaid y mae eu mewnforio i’r Undeb Ewropeaidd heb drwydded o dan reolau CITES wedi’i wahardd. (Roedd hefyd enghreifftiau o dwyll drwy werthu cig eidion cyffredin fel Byfflo’r Affrig drud !) Mae oblygiadau’r fasnach yn gymhleth; er enghraifft lle mae perygl mewnforio pathogenau estron. Ond mewn sylw i’r New Scientist, dywedodd Julia Fa, arbenigwr o Brifysgol Metropolitan Manceinion, yr helir tua 5 miliwn tunnell o famaliaid gwyllt ym masn y Congo bob blwyddyn. Tua thair gwaith yr helfa gynaliadwy.
Pwy sy’n dweud nad oes yna ddigon o bethau i’n diddori a’n cyflyru yn ystod y cyfnod clo ?!
Pynciau: Realiti Plant, Anthroposen, Llwch Gofod, CITES
Cyfeiriadau
Realiti Plant: Rohan Kapitány Nicole Nelson Thalia Goldstein a Emily Burdett (cyflwynwyd). The Child’s Pantheon: Children’s Hierarchical Belief Structure in Real and Non-Real figures. OSF Preprints
Anthroposen: Emily Elhacham, Liad Ben-Uri, Jonathan Grozovski, Yinon M. Bar-On a Ron Milo (2020) Global human-made mass exceeds all living biomass. Nature 588, 442–444
Llwch Gofod: Y gwefannau perthnasol
Asiantaeth Awyrofod Japan Prosiect Hayabusa2.
Asiantaeth Gofod Ewrop (EO Portal) Ymgyrchoedd Lloeren Chang’e.
NASA OSIRIS-Rex
CITES: Sophie Gombeer, Casimir Nebesse, Prescott Musaba, Steve Ngoy, Marc Peeters, Ann Vanderheyden, Kenny Meganck, Nathalie Smitz, Frank Geers, Sarah Van Den Heuvel, Thierry Backeljau, Marc De Meyer a Erik Verheyen (2021). Exploring the bushmeat market in Brussels, Belgium: a clandestine luxury business. Biodiversity and Conservation 30, 55–66