Barn 139 (Hydref 2020): Gwely Cynnar, Dysgu Iaith, Canfod Wynebau

Gwelaf fod gan gwmni gwelyau Dreams wefan o’r enw Sleep Matters Club. Nid yn annisgwyl, maent hefyd yn dadlau bod angen newid eich matres bob wyth mlynedd. Hepgoraf eu dadleuon dros wneud hynny, rhag ofn eich bod ar fin cael swper neu, waeth fyth, fynd i’r gwely ! Yn yr un modd roedd Good Housekeeping mis Mawrth yn ein hannog i olchi’n cynfasau, blancedi a duvetiau o leiaf unwaith bob pythefnos. A hynny ar dymheredd o 60 gradd canradd o leiaf.  Sylwaf eu bod yn anghymeradwyo f’arfer hunanfoddhaus o wneud y gwely yn syth ar ôl codi. Mae cadw’r gwely’n gynnes yn y modd yma yn wahoddiad braf i holl drychfilod y tŷ, mae’n debyg.

Tybed beth oedd stad cynfasau a matresi plu y gwely wensgot yn ffermdy Kennixton a greodd gymaint  o argraff arnaf yn ystod fy ymweliadau cynnar ag Amgueddfa Sain Ffagan. Ar y pryd fy mhrif ofid oedd sut oedd y trigolion yn anadlu ynddynt !  Daeth hyn i gyd yn ôl imi wrth ddarllen erthygl yn Science ganol Awst gan Lyn Wadley a’i thîm o Brifysgol Witwatersrand yn Johannesburg. Maent wedi bod yn cloddio mewn ogof o’r enw Border Cave yng ngwlad KwaZulu-Natal. Cyfrannodd y safle hwn i’n gwybodaeth dros y ganrif ddiwethaf. Bu Raymond Dart yno yn 1934 yn ystod y cyfnod pan wrthodwyd ei ddarganfyddiadau yn 1924 o Australopithecus  am nad oedd yn rhan o’r “sefydliad”  ac am awgrymu’r posibilrwydd bod dynoliaeth yn tarddu o Affrica.  Yno yn 1973 darganfu Peter Beaumont asgwrn babŵn ac arno grafiadau arbennig. Credir mai dyma’r dystiolaeth gyntaf o gadw cyfrif. Y llyfr ‘cownt’ cyntaf y gwyddom amdano, tua 35,000 o flynyddoedd oed. Mae iddo 29 crafiad sydd wedi codi’r posibilrwydd mai merch oedd y cyfrifydd wrthi’n cyfrif dyddiau’r “mis”. Ond gan fod yr asgwrn wedi torri, nid oes sicrwydd na fu unwaith fwy o grafiadau arno.  Mae darganfyddiad Wadley a’i chriw yn agosach fyth i’m calon. Maent wedi dod o hyd i’r dystiolaeth gyntaf o wely.  A dyma fi’n teimlo’n swrth yn syth wrth ysgrifennu ! 

Byddai cwmni Dreams wedi bod wrth ei fodd â’r fath gwsmeriaid, oherwydd mae yno dystiolaeth o welyau o’r canol oesoedd yr holl ffordd i 227,000 o flynyddoedd yn ôl. Pentyrrau o welyau, felly. Y rhan fwyaf yn y rhan gynnes ger tanau yng nghefn yr ogof. Mae modd adnabod y gweiriach a dail eraill, a gasglwyd yn helaeth i’r perwyl, o ronynnau microsgopig sy’n goroesi llosgi. Oherwydd dyna sut yr ufuddhaodd trigolion yr ogof i gyfarwyddiadau rhagflaenwyr Dreams. Pob hyn a hyn – llosgwyd y gwelyau yn fwriadol a gwasgarwyd y lludw yn ofalus i gadw’r trychfilod o’r haen nesaf. Trwch o haenau o lwch, felly, yw gwaelod yr ogof. Ymysg lludw’r gwair mae darnau o olosg coed camffor – sy’n dal i dyfu yn yr ardal ac a ddefnyddir i ddiheintio gwelyau’r brodorion heddiw.  Cyn y darganfyddiad hwn, 77,000 oedd oed y gwely cynharaf y cafwyd disgrifiad ohono – hwnnw hefyd yn Ne’r Affrig.

Y gwely cynharaf felly ond hefyd enghraifft o ddefnydd bwriadol newydd i dân. O tua 400,000 o flynyddoedd yn ôl mae olion aelwydydd yn profi rheolaeth dyn o dân (yn hytrach na defnydd achlysurol olion mellt ac ati, sy’n dyddio yn ôl i tua 1.5 miliwn o flynyddoedd). Cyn defnyddio tân i ddiheintio gwelyau Affrica, ei ddiben oedd coginio, cynhesu, goleuo, cymdeithasu a gwarchod rhag anifeiliaid rheibus.

Cyfnod ymddangosiad Homo sapiens yw’r cyfnod hwn, ac nid yw’n amlwg pa fath o ddynion a gwragedd a gysgodd ymhlith y gweiriach glân a phersawrus cyntaf. Dawn arall o’r cyfnod hwn, y mae dadlau mawr amdano, yw pryd yr ymddangosodd lleferydd ac iaith am y tro cyntaf.  A gafwyd Straeon Amser Gwely cyn y gwely cyntaf ?  Yn ein hoes ni mae’n ymddangos bod ambell un yn cael trafferth dysgu ieithoedd newydd. Efallai y daw cymorth o declyn newydd ei ddyfeisio ym Mhrifysgolion Califfornia, San Ffransisco a Pittsburg gan Bharath Chandrasekaran a’i gydweithwyr.  Mae’r ddyfais sy’n gorwedd yn nhwll allanol y glust yn cyflyru un o brif nerfau’r corff – y Fagws.  Ceir y disgrifiad yn rhifyn Awst o’r cylchgrawn Science of Learning. Mewn arbrawf, defnyddiwyd grŵp o 36  gwirfoddolwr Saesneg eu hiaith, nad oedd yn siarad gair o Tsieinëeg. Mae’r iaith honno yn defnyddio pedwar traw, neu gywair, i newid ystyr geiriau – rhywbeth nad yw’n digwydd yn Saesneg, na’r Gymraeg. Clywodd pawb yr un detholiad o synau. O bryd i’w gilydd, yn ddiarwybod i’r unigolion, cyflyrwyd nerfau Fagws wrth iddynt glywed y synau.  Yn y rhai a gyflyrwyd cynyddodd eu hadnabyddiaeth o ddau o’r pedwar traw yn gyflym ac yn sylweddol o’i gymharu â’r gweddill – ac yn sylweddol well nag sy’n arferol ymysg dysgwyr Tsieinëeg. Ond nid ar gyfer dysgu adnabod traw yn unig y mae’r dechneg yn gweithio mae modd ei defnyddio i gynorthwyo dysgu unrhyw iaith.  Gallwn ddisgwyl cynnydd ym miliau trydan y Mentrau Iaith, felly !

Trwy gyflyru ymennydd iach y gwnaethpwyd darganfyddiad Chandrasekaran. Arbrawf o fath wahanol a ddefnyddiwyd i ddeall mwy am sut y mae’r ymennydd yn adnabod wynebau. Yn Current Biology ganol Awst mae Jorge Almeida a’i dîm ym Mhrifysgol Coimbra ym Mhortiwgal yn disgrifio ymddygiad claf â symptomau anghyffredin iawn. Mae gan A.D., fel y’i gelwir, niwed i spleniwm ei ymennydd. Canlyniad hyn yw ei fod yn canfod ochr dde wynebau fel petaent yn toddi. Sylwodd A.D. ar hyn yn gyntaf tra’n gwylio’r teledu ac yna wrth weld ei hun mewn drych.  Yr ochr dde sy’n aneglur ni waeth pa ran o’i ddwy lygad y mae’n ei defnyddio. A hyd yn oed pan wêl y wynebau a’u pennau i lawr !  Mewn prawf gwelwyd yr un ffenomen wrth iddo edrych ar nifer o wynebau gwahanol (gan gynnwys dau wyneb anifail – cath a mwnci) ac ar onglau gwahanol – ond dim effaith o gwbl wrth edrych ar 20 o wrthrychau eraill (adeiladau, ceir, cloch – ac anifeiliaid megis eliffant ac arth). Mae’r canlyniadau yn cadarnhau bod yr ymennydd yn prosesu wynebau (dynol yn bennaf) yn wahanol i wrthrychau eraill. Yn lefel uchaf yr ymennydd gorwedd templed yr ydym yn ei ddefnyddio i adnabod pobl o’n cwmpas trwy eu cymharu â storfa’r cof. Mae’r spleniwm, a dorrwyd yn achos A.D., yn cysylltu dau hanner yr ymennydd, sy’n awgrymu bod y ddwy lygad yn canfod un hanner wyneb yr un.  Prosesir y ddau hanner wyneb ar wahân i ddechrau cyn uno’r ddwy ddelwedd. Trefn sy’n cyflymu’r broses, trwy rannu’r gwaith, o bosib. 


Pynciau: Gwely Cynnar, Dysgu Iaith, Canfod Wynebau


Cyfeiriadau

Gwely Cynnar: Lyn Wadley, Irene Esteban, Paloma de la Peña, Marine Wojcieszak, Dominic Stratford, Sandra Lennox, Francesco d’Errico, Daniela Eugenia Rosso, François Orange, Lucinda Backwell a  Christine Sievers (2020) Fire and grass-bedding construction 200 thousand years ago at Border Cave, South Africa Science 369, (6505), 863-866

Dysgu Iaith: Fernando Llanos, Jacie R. McHaney, William L. Schuerman, Han G. Yi, Matthew K. Leonard a Bharath Chandrasekaran (2020) Non-invasive peripheral nerve stimulation selectively enhances speech category learning in adults Science of Learning 5, Erthygl Rhif 12

Canfod Wynebau: Jorge Almeida, Andreia Freixo, Miguel Tábuas-Pereira, Sarah B. Herald, Daniela Valério, Guilherme Schu, Diana Duro, Gil Cunha, Qasim Bukhari, Brad Duchaine ac Isabel Santana (2020)  Face-Specific Perceptual Distortions Reveal a View- and Orientation-Independent Face Template. Current Biology. Awst 12.


<olaf nesaf>