Barn 140 (Tachwedd 2020): Gwobrau Nobel 2020, Gwartheg golau


Pan ddarllenodd Alfred Nobel am ei farwolaeth ei hun mewn papur newydd ym Mharis yn Ebrill 1888 fe’i hysgytiwyd yn bennaf gan y pennawd “Le Marchand de la Mort est Mort!” (“Marw yw Marsiandwr Marwolaeth!”)  Ei frawd, Ludvig, oedd wedi marw o’r diciâu yn Cannes, a chamgymeriad oedd yr ysgrif goffa.  Credir mai dyma arweiniodd at un o gymynroddion enwocaf hanes – Gwobrau Nobel. Yn Nhachwedd 1895, blwyddyn cyn ei farwolaeth go iawn, lluniodd Alfred ei ewyllys. Ynddi aeth bron y cwbl o’i gyfoeth sylweddol i sefydlu pum gwobr flynyddol. Roedd pedair ohonynt yn adlewyrchu ei ddiddordeb oes mewn ffiseg, cemeg, ffisioleg a llenyddiaeth. Roedd yn ddi-briod, ond mae’n debyg mai ei gyfeillgarwch â Bertha von Suttner, heddychwraig o Awstria, oedd wrth wraidd y wobr sy’n ennyn y diddordeb pennaf yn flynyddol – Gwobr Heddwch. (Yn 1968, sefydlodd Sveriges Riksbank (Banc Canol Sweden) y Wobr mewn Economeg er cof am Alfred.) 

Bu dyfarniadau 2020 ganol Hydref yn arbennig oherwydd nifer y merched a wobrwywyd. Merched oedd pedair o’r unarddeg enillydd unigol. Ni fu pwyllgorau’r Nobel yn enwog am eu haelioni tuag atynt dros y 120 mlynedd diwethaf. Tan eleni dim ond 3 gwobr a ddyfarnwyd i ferch mewn ffiseg (o 210), 5 mewn cemeg (o 181) a 12 mewn ffisioleg (gan gynnwys meddygaeth) (o gyfanswm o 216). Mae modd gwobrwyo hyd at dri unigolyn ym mhob categori. Eleni dyfarnwyd Gwobr Gemeg i dîm o ddwy ferch, Jennifer Doudna, o Berkeley, ac Emmanuelle Charpentier o Ferlin. Cyfarfu’r ddwy mewn cynhadledd yn 2011. Dros y blynyddoedd wedi hynny datblygasant dechneg CRISPR-Cas9 i addasu genynnau celloedd byw. Mae’r dechneg yn llawer iawn haws ei defnyddio na dulliau y degawdau cynt. Nid gormod dweud bod y dechneg hon eisioes wedi gweddnewid ymchwil meddygol. Yn y dyfodol agos bydd yn gwneud yr un peth ym myd amaeth. Soniwyd cryn lawer am y defnydd ohoni yn y golofn hon dros y blynyddoedd diwethaf – gan gynnwys hanes gwahardd ei defnyddio gan yr Undeb Ewropeaidd yng nghyd-destun bwydydd “GM”.

Mae’r rhan fwyaf o wyddoniaeth genynnau yn ymwneud â datblygiad’r corff, clefydau etifeddegol a chancr. Yn anaml y cyfeirir ati ym mhenawdau papurau a’r cyfryngau newyddion. Ond gan fod defnyddio CRISPR mor bellgyrhaeddol, mae sôn cyhoeddus amdano wedi dod yn rhywbeth cyffredin. Digon, er enghraifft, i ymddiddori llunwyr cyfraith yr Undeb Ewropeaidd.  Gwelwyd enghraifft o’r fath o newyddion “diddordeb cyffredinol” hwn mewn erthygl ar wefan bioRχiv fis Medi. Defnyddiodd Goetz Laible a’i dîm yng nghwmni cyhoeddus AgResearch yn Seland Newydd y dechneg i greu buwch â smotiau llwyd yn lle rhai duon gwartheg Holstein Fresian. Mae’r genynnau newydd yn efelychu’r hyn a welir mewn bridiau lliw golau Galloway a Gwartheg yr Alban. A’r diben ? Mewn byd sy’n cynhesu oherwydd newid hinsawdd, mae gwartheg tywyll yn dechrau dioddef o’r gwres. Mae unrhyw arwynebedd tywyll yn amsugno mwy o wres yr haul nag un golau. Eisioes mewn sawl rhan o’r byd, gwelir anawsterau cenhedlu ymysg buchesau tywyll. Mae hyn yn lleihau eu cynnyrch llaeth, yn ogystal â lleihau lluosogi’r fuches. Am yr un rheswm mae cwmni Recombinetics yn yr UD yn arbrofi gyda gwartheg a fegir ar gyfer eu cig.  Cynhyrcha’r brid Angus ddwywaith mwy o gig na’r Nelore, sy’n boblogaidd yn Brasil. Aeth Recombinetics ati i ddefnyddio CRISPR i greu gwartheg Angus â blew byrrach fel y gallant oddef tymheredd y trofannau. Y ddadl yw y bydd hyn yn gwella troednod amgylcheddol diwydiant nad yw’n ffefryn gan ymgyrchwyr hinsawdd.

Andrea Ghez, o Brifysgol Califfornia Los Angeles, ynghyd â Reinhard Genzel o Garching yn yr Almaen, sy’n rhannu Gwobr Nobel Ffiseg am ddarganfod y Twll Du enfawr, Sagittarius A*, yng nghanol ein galaeth. Dyma bwnc arall na ddihangodd o grafangau’r golofn hon.  Y bedwaredd ferch yn unig yw Ghez i ennill y wobr ffiseg. (Marie Curie oedd y gyntaf, yn 1903. Aeth hithau ymlaen i ennill y wobr Gemeg yn 1911 – yr unig berson i ennill dwy wobr yn y gwyddorau.)  Ynghyd â Ghez a Genzel, y mathemategydd a’r athronydd 89 mlwydd oed o Brifysgol Rhydychen, Roger Penrose, y wobr Ffiseg am ei gyfraniad ef i’r ddealltwriaeth o Dyllau Duon.  Yn 1965, ddeng mlynedd ar ôl marwolaeth Albert Einstein, nad oedd yn credu yn eu bodolaeth, profodd Penrose bod tyllau duon yn ddamcaniaethol bosibl. Bu rhaid aros tan Ebrill 2019 i gadarnhau eu bodolaeth, pan lwyddwyd i dynnu llun o M87*. Parheir i ystyried papur Penrose ar y pwnc i fod y cyfraniad nesaf o ran pwysigrwydd i bapurau Einstein ar Ddamcaniaeth Gyffredinol Perthynoledd.

Ar droad y flwyddyn hon, ni chafwyd unrhyw drafferth dod o hyd i’r firws sydd wrth wraidd y Pandemig presennol. Mater gwahanol iawn oedd datrys pandemig arall sy’n lladd tua 400,000 bob blwyddyn, ac sydd wedi cynyddu’n sylweddol drwy’r byd yn sgil camddefnyddio cyffuriau.  Dyma Hepatitis C. Nid oes iddo frechlyn, er ers 2014 mae triniaeth rannol effeithiol ar gael. Amcangyfrifir bod dros 70 miliwn yn dioddef ohono drwy’r byd – 1% ohonom. Rai blynyddoedd yn ôl, esboniodd un o’m myfyrwyr ym Mangor ei bod yn dioddef ohono ar ôl cael ei brathu wrth weithio fel nyrs gan glaf yn un o Ysbytai Diogelwch Uchel Gogledd Cymru.  Roedd wedi newid ei fywyd yn llwyr.

Daeth Hepatitis C i’r amlwg yn yr ugeinfed ganrif, i ddechrau yng nghyswllt llawdriniaethau a thrallwyso gwaed. Bellach mae’n fwyfwy ynghlwm â chamddefnyddio cyffuriau. Er hyn, mae astudiaeth enetig yn profi ei fod wedi bodoli ers cannoedd o flynyddoedd ar ôl neidio o rywogaeth arall. Mae lle i amau mai  ceffylau oedd y tarddiad. Am y rhan fwyaf o’r ganrif nid oedd modd ei wahaniaethu oddi wrth Hepatitis A a B. Ond yn y 1970au, trwy waith Harvey Alter yn yr NIH, Bethesda, Maryland, canfuwyd bodolaeth y clefyd. Cymerodd dros ddeng mlynedd cyn i Michael Houghton, Sais yn gweithio i gwmni biotechnoleg Chiron, a’i dîm llwyddo i adnabod y firws a datblygu prawf amdano. Bu rhaid aros deng mlynedd arall cyn i Charles Rice, ym Mhrifysgol Washington, St. Louis, lwyddo yn 1997 i dyfu clôn heintus o Hepatitis C mewn labordy gan alluogi dechrau datblygu triniaethau.  Alter, Houghton a Rice sy’n rhannu Gwobr Ffisioleg neu Feddygaeth eleni.

Pos y mis, felly, yw dod o hyd i enw’r bedwaredd ferch ar Restr Nobel am eleni ! Cliw – nid yw mor berthnasol, efallai, ar gyfer colofn Gwyddoniaeth.


Pynciau: Gwobrau Nobel 2020, Gwartheg golau

Cyfeiriadau

Gwobrau Nobel 2020: Datganiadau’r Pwyllgorau Nobel. Ffisioleg neu Medygaeth, Ffiseg, Cemeg, Lleynddiaeth, Heddwch, Economeg

Gwartheg golau: G. Laible, S-A. Cole, B. Brophy, J. Wei, S. Leath, S. Jivanji, M.D. Littlejohn a D.N. Wells (2020) Holstein Friesian dairy cattle edited for diluted coat color as adaptation to climate change. bioRχiv Medi 17


<olaf nesaf>