Barn 138 (Medi 2020): Swonotau a Bioamrywiaeth, DNA Caethweision


Bu rôl marchnadoedd “Da Byw” arbennig Tsieina yn elfen ddefnyddiol wrth i’r cyfryngau fynnu sylw trigolion y Gorllewin yn nyddiau cynnar Covid-19. Roedd lluniau cathod gwyllt a phangolinau yn sicr o dynnu’r llygad – ac yn fêl ar fysedd y rhai oedd am bortreadu Tsieina yn wlad anwaraidd. Roedd y wyddoniaeth, hefyd, yn ddiddorol.

Clefyd Swonotig yw Covid-19, sef un â’i wreiddiau mewn anifail arall. Ychydig amheuaeth sydd nad o ystlumod y daeth i bobl. Oherwydd natur cylch bywyd firws, wrth symud o un rhywogaeth i’r llall y mae’n codi darnau o ddefnydd genetig (RNA yn yr achlysur hwn) yr anifail llety. Mae modd, felly, ddarllen taith y firws trwy weld y carpiau hyn yn ei RNA, megis labeli ar hen gês teithio, neu fathodynnau ar sach gefn person ifanc yn teithio’r byd. Fe ddaw diwrnod pan fyddwn yn weddol sicr o deithiau SARS-CoV-2 (y firws sy’n achosi Covid-19)  ei hun o gwmpas y byd trwy’r dechneg hon. Ond ar hyn o bryd y mae canfod y firws, heb sôn am archwilio’i achau, yn profi’n sialens ledled y byd.  Er diddorol oedd adroddiad y BBC yn dyfynnu ryw Dr Joseph Tsang Kay-yan, bod RNA “trydedd don” a gododd yn Hong Kong ddiwedd Gorffennaf yn straen gwahanol i’r ddau gynharach a’i fod yn cynnwys RNA a oedd wedi’i ganfod mewn peilotiaid a morwyr o’r Ffilipîn a Kazakhstan. Ar y pryd ‘roedd peilotiaid a morwyr wedi’u heithrio o reolau tynn teithio’r ddinas.  Ond yn ôl i’r tarddiad sŵolegol ! Mae’n ymddangos bod olion genynnau pangolin yn SARS-CoV-2, ac felly’r diddordeb ym mhresenoldeb y creadur rhyfedd hwn yn y marchnadoedd. Ond nid yw’n glir, ar hyn o bryd, a’i cyn neu ar ôl cyfnod yr ystlum y bu “ymweliad” y firws â hwnnw. Ai o’r ystlum neu o’r pangolin y daeth yn uniongyrchol at ddyn ? Beth bynnag am y manylion, bu’n rheswm dros ymestyn y drafodaeth i “bandemig” arall ein hoes – sef colli fforestydd, cynefinoedd gwyllt a’r fioamrywiaeth a gysylltir â hwynt.

A yw crebachu maint cynefinoedd yn ei gwneud yn fwy tebygol y trosglwyddir firysau swonotig, megis Cofid, Ebola a Ffliw o greaduriaid gwylltion i bobl ? Bu trafodaeth am y cyswllt rhwng hyn â iechyd y cyhoedd ers rhyw saith mlynedd ond fe’i dwysawyd gan Covid-19.  Ddechrau Awst eleni cyhoeddwyd, yn Nature, bapur yn manylu ar y  pwnc gan Kate Jones o Goleg Prifysgol Llundain a’i thîm ac adolygiad byr o’r maes gan Jeff Tollefson. Trwy ddadansoddi bron 7,000 o gynefinoedd ar draws 6 cyfandir, yn cynnwys 376 rhywogaeth, bu modd canfod patrwm.  Wrth i weithgareddau dyn wasgu ar, a newid, cynefinoedd mae canran eu trigolion sy’n cario pathogenau a pharasitiaid a all heintio dyn yn cynyddu’n sylweddol. Mae canran rhywogaethau o’r fath yn cynyddu 18-72%, a’u poblogaeth yn cynyddu 21-144%. Ymysg cnofilod (llygod mawr ac ati), ystlumod ac adar paserin (sy’n cynnwys ymwelwyr â’n bwydwyr gardd) y mae’r cynnydd mwyaf. Ond mae rhai primatau hefyd yn bwysig. Mae’r papur yn un amserol iawn. Mae Llwyfan Rhynglywodraethol Polisi Gwyddonol ar Fioamrywiaeth a Gwasanaethau Ecosystemau (IPBES) yn paratoi adroddiad i’w drafod mewn uwchgynhadledd y Cenhedloedd Unedig ar fioamrywiaeth ym mis Medi. Ym mis Gorffennaf cyhoeddodd grŵp o firolegwyr, economegwyr ac ecolegwyr draethawd yn Science yn dadlau y byddai modd i lywodraethau leihau’r tebygolrwydd o bandemigau’r dyfodol drwy reoli torri coedwigoedd a’r fasnach mewn anifeiliaid gwylltion. Mynna’r awduron nad ar chwarae bach y bydd modd gwneud hyn ond trwy gydweithrediad byd eang ar draws nifer o sectorau masnach.

Trwy ddadansoddi trefn RNA y canfuwyd rôl ystlumod a chathod sifet y palmwydd ym mhandemig SARS 2002/3. Dros y degawdau diweddaraf dysgwyd llawer am hanes dynoliaeth ei hun trwy ddadansoddi DNA (y moleciwl etifedd mwy cyfarwydd) y ddynoliaeth. Ymhlith y diweddaraf, y mae  adroddiad yn yr American Journal of Human Genetics sydd wedi ychwanegu gwybodaeth arswydus am fanylion masnach caethweision du America. Mae Steven Micheletti a thîm sylweddol o gwmni 23andMe, wedi dadansoddi DNA 50,281 o’u cwsmeriaid, ynghyd â nifer o brosiectau yn Affrica,  gyda’r bwriad o ddeall mwy am hanes y 12.5 miliwn o unigolion a gipiwyd o’r Affrig i’r Amerig rhwng 1515 a 1865.  Cynhwyswyd 27,422 unigolyn o wledydd America a oedd ag o leiaf 5% o’u cyndeidiau yn Affricanaidd ynghyd â 1917 o’r Affrig ei hun. (O Ewrop y deuai’r rhan fwyaf o’r gweddill.) Dengys y cofnodion hanesyddol mai o wledydd gorllewin a chanol Affrica – Y Congo, Senegal ac Angola –  y cipiwyd y rhan fwyaf. Mae’r DNA yn gyffredinol yn cadarnhau hyn. Ond mae manylion dosbarthiad y genynnau mewn gwahanol rannau o’r Amerig yn datgelu gwahaniaethau. Nid oedd gan berchnogion y caethion unrhyw ddiddordeb cadw cenhedloedd ynghyd wrth eu masnachu, felly cymysg a homogenaidd iawn yw gwreiddiau trigolion duon unigol America heddiw. Ond, er enghraifft, mae llai o enynnau o gyffiniau Senegal a Gambia nag y disgwylid o’r niferoedd hanesyddol. Credir mai oherwydd i ganran sylweddol o’r rhain fynd i blanhigfeydd reis yr Unol Daleithiau y mae hyn. Yno bu cyfradd uchel iawn o farwolaethau o falaria. Yng nghanol a de America (Brasil, er enghraifft) cyfradd gymharol isel o DNA Affricanaidd sydd wedi goroesi, er mai yno yr anfonwyd dros 70% o’r “fasnach”.  Y gred yw mai polisïau ceisio “puro” lliw y gwledydd hyn sy’n gyfrifol.  Drwy’r polisi treisiwyd merched duon gan ddynion gwyn a’u gorfodi i’w priodi. Yn yr Unol Daleithiau, math gwahanol o bolisi hiliol oedd yn bodoli – sef gwahardd rhyngbriodi trwy gyfraith. O’r herwydd mae canran uwch o enynnau Affrica wedi goroesi yno.

Dynion oedd mwyafrif (dros 60%) y rhai hynny a gipiwyd o bob gwlad, ond DNA’r merched sydd wedi goroesi amlaf. Yn America Ladin, mae cyfraniad 4 i 17 merch wedi goroesi o’i gymharu â chyfraniad pob dyn. Yn y cyn Wladfeydd Prydeinig, megis yr Unol Daleithiau a rhannau o’r Caribî,  y gyfradd cyfatebol yw 1.5 i 2 am bob dyn. Dadleua awduron y papur mai’r gwahaniaethau polisi y cyfeirir atynt uchod sy’n gyfrifol am hyn unwaith eto. Yn ogystal, yn yr Unol Daleithiau rhoddwyd arian ac addewid o ryddid i ferched duon oedd yn geni llawer o blant. Wrth gwrs, ni fyddai’r plant yn rhydd ond yn hytrach yn ychwanegu at gyfoeth eu meistri.  Gwybodaeth ymchwil amserol iawn yn nyddiau’r protestiadau dros Fywydau Duon. Y mae’r ddau hanesyn y mis hwn yn pwysleisio cyfraniad gwyddoniaeth i gwestiynau gwleidyddol.


Pynciau: Swonotau a Bioamrywiaeth, DNA Caethweision


Cyfeiriadau

Swonotau a Bioamrywiaeth: Rory Gibb, David W. Redding, Kai Qing Chin, Christl A. Donnelly, Tim M. Blackburn, Tim Newbold a Kate E. Jones (2020) Zoonotic host diversity increases in human-dominated ecosystems Nature (Awst 5)
Jeff Tollefson (2020) Why deforestation and extinctions make pandemics more likely. Nature 584, 175-176 (2020)

DNA Caethweision: Steven J. Micheletti, Kasia Bryc, Samantha G. Ancona Esselmann, William A. Freyman, Meghan E. Moreno, G. David Poznik, Anjali J. Shastri, 23andMe Research Team, Sandra Beleza a Joanna L. Mountain. (2020) Genetic Consequences of the Transatlantic Slave Trade in the Americas.  American Journal of Human Genetics 107, (2), 265-277


<olaf nesaf>