Yn ystod gofid y Covid bu dau hanesyn cyfredol am arwydd traddodiadol gwae a dinistr – ymddangosiad Comedau. Trwy gyd-ddigwyddiad roedd dau hanesyn hanesyddol amdanynt wedi mynd â’m bryd dros yr wythnosau diwethaf hefyd. Yn gyntaf, pwysigrwydd ymddangosiad Comed Halley yn 1835, a’r ddelwedd fanwl ohono ar lechen pentan o 1837 yn Nhregarth, Dyffryn Ogwen. Dyma fu’r prif ysgogiad i symud maes astudio’r gwrthrychau hynod hyn ymlaen o feddylfryd y Canol Oesoedd. Yn ail, ffynhonnell hanesion pwysigrwydd Comed Fawr 1402 i fytholeg Rhyfel Glyndŵr. Roeddwn wedi deall mai Iolo Goch oedd y gwreiddyn. Ond diolch i’m cyfaill oes, yr hanesydd Nia Powell, a llyfr Elissa Henken, National Redeemer, deallaf nad yw hynny’n wir – ac mai yn y croniclau o Loegr, er enghraifft,Historia Regnum Angliae (John Rous), y ceir y cyfeiriadau. Dyma darddiad geiriau William Shakespeare yn ei ddrama Henry IV.
Ers talwm, byddai gweld comedau Borisov ac ATLAS wedi darogan gwae’r pandemig – ond tranc dramatig y comedau eu hunain sydd wedi rhyfeddu seryddwyr yr unfed ganrif ar hugain. Ers darganfyddiadau Fred Lawrence Whipple yn 1950 gwyddom mai aelodau hynafol iawn o deulu’r haul yw’r rhan fwyaf o gomedau. Ond yn 2017 syfrdanwyd ymchwilwyr y maes gan ymddangosiad ‘Oumuamua gyda’i siâp megis llong ofod, a oedd wedi’n cyrraedd o seren bellennig. Byr oedd arhosiad y teithiwr yma, ac ni chafwyd fawr o gyfle i’w astudio, ond yn Awst 2019 canfuwyd yr ail ymwelydd o seren arall. Y gomed Borisov. Y tro hwn ‘roedd telesgopau’r byd yn barod. Ar ddiwedd y flwyddyn, trwy ddadansoddi sbectrwm y golau a ddeuai ohoni, roedd modd gweld ei bod yn cynnwys cryn dipyn o rew monocsid carbon (y nwy marwol a fu’n felltith i byllau glo Cymru). Mae hyn yn bur wahanol i gomedau “cyffredin”. Yn eu papur yn Nature Astronomy ar ddiwedd Ebrill, mae Martin Cordiner and Stefanie Milam o Ganolfan Ofod Goddard yn cynnig yr esboniad mai yn un o rannau oera’r bydysawd – llai na minws 250°C – y ffurfiwyd y gomed. Rhwng y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd roedd Borisov ar ei hagosaf i’r Haul a’i rym disgyrchiant dinistriol. Erbyn dechrau Mawrth ymddangosai efallai bod y grym hwn yn ormod i’r gomed a datgymalodd darn ohoni a disgyn i’r haul. Ond ymddengys bod y teithiwr wedi goroesi i fentro eto i’r gofod rhwng y sêr y tro hwn.
Ni fu ATLAS, comed fwy confensiynol sy’n hanfod o bellteroedd y Cwmwl Oort sy’n cylchynu’r haul 9.3 driliwn filltir ohoni, mor ffodus. Fe’i darganfuwyd ar ddiwedd 2019, ac yn fuan cyfrifwyd ei llwybr gan ddarogan y byddai’n pasio’n ddigon agos i’r ddaear ym Mai i’w gweld heb delesgop. Ond nid felly y bu. Ym mis Mawrth dechreuodd bylu – ac erbyn diwedd Ebrill roedd y Telesgop Ofod Hubble (ar drothwy ei ben-blwydd 30 oed) wedi gweld bod disgyrchiant yr haul wedi’i rhwygo’n ddarnau. Ar Ebrill 20 roedd modd gweld 30 o ddarnau, megis olion sêr roced tân gwyllt ar noson Guto Ffowc.
Trwy gyd-ddigwyddiad llwyr, ar Chwefror 10 lansiwyd llong ofod y Solar Orbiter gan Asiantaeth Gofod Ewrop (ESA) o Cape Canaveral i astudio’r pegynau’r haul. Ar ddechrau Mai sylweddolodd y seryddwr, a chyfrannwr cyson i Radio Cymru, Geraint Jones o Labordy Mullard, UCL Llundain y byddai’r llong yn hwylio’n union trwy ddwy gynffon (ionau a llwch) ATLAS ar Fai 31 a Mehefin 6. Hysbysodd ESA i baratoi’r offer ar ei bwrdd i fod yn barod ar gyfer y digwyddiad. Mae’n debyg nad dyma’r tro cyntaf i Geraint wneud y fath ddarganfyddiad. Yn 2000 ‘roedd yn dadansoddi data llong ofod arall o eiddo ESA (Ulysses) o’r flwyddyn 1996. Sylweddolodd ei bod wedi croesi cynffon Comed Fawr y flwyddyn honno (Hyakutake). Yn 2000 ac eto yn 2007 gwnaeth rywbeth tebyg gyda dwy gomed arall. Y tro hwn bydd ESA wedi “tiwnio’r” offer yn arbennig ymlaen llaw. Edrychwn ymlaen at glywed y canlyniadau.
Bydd arsylliadau’r ddwy gomed yn cyfrannu’n sylweddol i’n gwybodaeth am hanes nid yn unig comedau, ond sut mae ffurfio cyfundrefnau megis un yr Haul, gan gynnwys ffurfio’r Ddaear. Ar yr un pryd, gobeithio y byddwn yn dysgu ychydig o waith arall sy’n disgrifio sut y mae dynoliaeth yn dad-ffurfio’r Ddaear. Ychydig wythnosau ar ôl marwolaeth y Cymro, Gwyddonydd yr Awyrgylch ac enillydd Gwobr Nobel, Syr John Houghton, o effeithiau Covid-19, ymddangosodd y papur cyntaf i ddadansoddi effeithiau’r pandemig ar lefelau allyriadau carbon. Yn Nature Climate Change mis Mai, mae Corinne Le Quéré o Brifysgol East Anglia a’i chydweithwyr yn darogan y bydd cwymp o rhwng 4.2 a 7.5% yn allyriadau carbon y byd o’i gymharu â’r llynedd. (Er am gyfnod bu’r cwymp dyddiol hyd at 25% – ffigyrau nas gwelwyd erioed o’r blaen). Roedd disgwyl y byddent wedi codi o 1%. Lle i obeithio tybed ? Yn anffodus dros dro yn unig fydd yr effaith. Yn ôl adroddiad diweddaraf yr IPCC yn 2018 mae’n rhaid lleihau allyriadau 7.6% bob blwyddyn am weddill y degawd i gyrraedd addewid Cytundeb Paris a chadw cynhesu’r byd i 1.5°C. Gyda sawl dylanwad economaidd yn pwyso am gynyddu allyriadau i godi’r byd o effeithiau Covid-19, mae Le Quéré a’i thîm yn pwysleisio y bydd penderfyniadau gwleidyddion y byd o blaid, neu yn erbyn, y Fargen Newydd Werdd yn dylanwadu ar gwrs y byd am ddegawdau i ddod. A fyddent yn dal i “wrando ar y wyddoniaeth” ?
A beth, tybed, fydd Brut y dyfodol yn ei adrodd am oblygiadau comedau anghyffredin 2019 ?
Pynciau: Comedau, Troednod Carbon Cofid
Cyfeiriadau
Comedau:
Troednod Carbon Cofid: