Mae defnydd gwleidyddion o bob lliw a gwlad o “gyngor gwyddonol” yn ddiarhebol. Y duedd hanesyddol yw penderfynu ar bolisi ideolegol ac yna troi at y gwyddonwyr am dystiolaeth i gefnogi’r polisi hwnnw. Un o ystrydebau’r pandemig presennol yw’r ymadrodd “dilyn y wyddoniaeth” a glywir yn aml o bulpudau arweinwyr y byd. Rhai gyda’r bwriad gorau, eraill llai felly. Mae hyn yn ddihangfa gyfleus iddynt hwy ac yn galondid i’r cyhoedd yn gyffredinol. Ond beth os nad yw’r “wyddoniaeth” yn bodoli ? Yn ffilmiau Hollywood, ceir yn gyson ryw gymeriad – anuniongred fel arfer – sydd â’r ateb i achub y byd ar y foment olaf (fel arfer tua 24 awr ar ôl ymddangosiad yr argyfwng). Pur wahanol yw’r byd go iawn. Yn 1918 pan gafwyd y Pandemig Mawr diwethaf, aneglur iawn oedd y wyddoniaeth am firysau yn gyffredinol. Heddiw, aneglur o hyd yw’r wyddoniaeth am y dosbarth o firysau sy’n gyfrifol am Covid-19. Hyn, yn bennaf, am nad oedd y coronafirysiau yn ymddangos yn arbennig o bwysig i ddynoliaeth. Fel y mae pethau’n newid !
Darganfuwyd coronafirws, fel clefyd mewn ieir, yn y 1930au. Yn yr 1960au sylweddolwyd ei fod yn un o achosion anwydau cyffredin mewn pobl ac fe’i gwelwyd mewn microsgop electron am y tro cyntaf. O’r delweddau microsgop hyn fe’i henwyd, yn 1968, ar ôl y corona a welid mewn “clip” llawn o’r haul. Mae pedwar math ohonynt yn gyfrifol am tua chwarter ein anwydau cyffredin. (Tua chant o fathau o rinofirws sy’n gyfrifol am tua’r hanner arall.) Mewn adolygiad yn New Scientist ar ddechrau Mai mae’r newyddiadurwr Anthony King yn olrhain y pedwar coronafirws “di-nod” yma. HCoV-229E a HCoV-OC43 oedd y ddau gyntaf i’w canfod.
Ers y 1960au mae’r Chwyldro Bioleg Moleciwlar, yn arbennig darllen dilyniannau genetig, wedi gweddnewid ein modd i’w hastudio. O ganlyniad i ddatblygiadau o’r fath, dadl Marc van Ranst, o Brifysgol Gatholig Leuven, yw mai olion pandemig a ddaeth o Rwsia yn 1889 yw OC43. Dros ddwy flynedd, mae’n debyg iddo ladd miliwn o bobl ledled y byd. Nid oes samplau wedi goroesi, ond mae nifer o’r symptomau yn cyfateb. Mewn gwartheg neu foch tarddodd OC43, ac mae’r nifer o newidiadau (mwtaniadau) sydd i’w gweld yn y fersiwn dynol, yn cyfateb i’r naid ddigwyddodd tua 130 o flynyddoedd yn ôl. Damcaniaeth tebyg sydd i 229E. Ym mhrifysgol Bonn, canfuwyd mai o ystlumod o Orllewin Affrica y tarddodd hwnnw – a hynny rhwng 1686 a 1800. Ar ôl darganfod firws tebyg mewn alpacas nid syndod oedd canfod bod 5.6% o gamelod Arabia ac Affrica yn cario firws tebyg iawn i 229E. O’r camelod hyn y tarddodd yr epidemig MERS, coronafirws arall, yn 2012. Y ddau goronafirws annwyd arall yw HKU1, a ddarganfuwyd yn Hong Kong yn 2005, a NL63 yn Amsterdam. Mae NL63 yn nodweddiadol am y peswch fel cyfarth morlo sy’n taro nifer fawr o blant bach. Heddiw mae’n gymharol ddiniwed, ond unwaith eto dengys y genynnau y tebygolrwydd ei fod yn deillio o ystlumod. Mwy na thebyg bu pandemig ohono rywbryd rhwng teyrnasiad Llywelyn ein Llyw Olaf a Harri Tudur. Nid ar redeg mae’r clefydau yma yn ein gadael !
O lygod, o ryw fath, rywbryd, daeth HKU1. Yng nghylchgrawn we eLife ym mis Chwefror cynigiodd Cara Brook, Mike Boots a’u tîm yn Berkeley reswm pam fod ystlumod mor beryglus yn hyn o beth. Mae ganddynt system imiwnedd unigryw ac arbennig o ffyrnig. O’r herwydd mae rhaid i’w firysau luosi’n arbennig o gyflym i oroesi. Pan fo mwtaniad yn caniatáu iddynt “neidio” i unrhyw rywogaeth arall, maent yn arbennig o effeithiol. Fe welwn hyn yn rheolaidd hyd yn oed yng Nghymru lle mae nifer nid ansylweddol o’n hystlumod yn cario math o gynddaredd (Lyssafirws) sy’n farwol i bobol. Os digwydd ichi feddwl eich bod wedi’ch brathu gan ystlum, mae’n holl bwysig ymweld â meddyg heb oedi. Heintir anifeiliaid yn gyson gan ystlumod. Yn 2016 bu farw 25,000 o foch bach yn Tsieina o fewn ychydig fisoedd gan firws newydd (HKU2). Dilynodd fiolegwyr moleciwlar y broses wrth iddo ddigwydd. Yn 1977 tarddodd epidemig mewn moch yn Ewrop cyn symud i Tsieina a’r Unol Daleithiau – lle bu 8 miliwn o foch farw ohono. Y syndod, yn ôl Frank Esper o Glinig Cleveland, Ohio, yw eu bod yn neidio i bobl mor anaml. Er fe ddylai y profiad o SARS (2002) a MERS (2012), heb sôn am Govid-19, ein haddysgu nad digwyddiad “unwaith mewn canrif” y dylem ei ddisgwyl, a pharatoi ar ei gyfer. Yn sicr, mae llawer y medrwn ei ddysgu o wyddoniaeth y pedwar coronafirws “diniwed” sy’n rhan o’n bywydau cyffredin.
Mae Covid-19 wedi profi, os oedd angen gwneud hynny, pa mor bwysig yw cydweithio cymdeithasol – yn gyffredinol ac mewn argyfwng. Felly, mae neges papur Daniela Tempesta a’i chydweithwyr ym Mhrifysgol L’Aquila’r Eidal yn y Journal of Sleep Research ym mis Ebrill yn amserol iawn. Mae’n debyg, am wahanol resymau, bod nifer ohonom yn methu â chael ein 7 i 8 awr llawn o gwsg y nos y dyddiau hyn. Yn ôl awduron y papur, cymharol ychydig o ymchwil a fu i gyfnodau felly – o’i gymharu ag amseroedd lle cyfyngir ar gwsg yn llwyr. Nid yn annisgwyl, byddwn yn flin ac yn gysglyd ar ôl ymyrraeth â’n patrwm cysgu. Ond aeth Tempesta (onid yw’n enw priodol !) ati i fanylu. Bu pob un o 42 gwirfoddolwr ifanc yn gwisgo dyfais ysgafn i gofnodi’u cwsg. Am bum noson arferol cofnodwyd eu bod yn cysgu am 7 i 8 awr ar gyfartaledd. Ar ddiwedd y cyfnod gofynnwyd iddynt sgorio eu hymateb cadarnhaol neu negyddol i gyfres o luniau cartŵn o bobl yn cyfleu ystod o emosiynau. Yr wythnos ganlynol gofynnwyd i’r gwirfoddolwyr hynny beidio â chysgu cyn 2 o’r gloch y bore ac iddynt dihuno am saith. Ar ddiwedd pum diwrnod ail adroddwyd yr holi am y lluniau. Y canlyniad oedd cofnodi ymateb mwy negyddol i’r lluniau positif a niwtral. Nid oedd newid ymateb i’r rhai negyddol. Mae modd rhannu’r ymateb hwn o ddylanwad cyfyngu ar gwsg ar newid hwyliau yn gyffredinol. Ymateb uniongyrchol yw sy’n ein gwneud yn llai tebygol o werthfawrogi ymddygiad cadarnhaol (canmoliaeth neu deimladau braf) wrth ymwneud ag eraill. Wrth ymateb i’r erthygl, awgrymodd Jason Ellis, athro Seicoleg Prifysgol Northumbria, y byddai hyn yn cynnwys ymateb i wynebau ar gyfryngau megis Skype a Zoom, cyfryngau sydd wedi dod yn bwysig yn ystod ein cydweithio cymdeithasol o dan y cyfyngiadau presennol.
Noson dda o gwsg, felly, cyn gwylio adroddiadau dyddiol Drakeford a Gething. Arhoswch Gartre – Darllenwch Barn – Gwarchodwch y GIG – Arbedwch Fywydau.
Pynciau: Hanes Coronafirws, Cwsg a thymer
Cyfeiriadau
Hanes Coronafirws: Diolch i erthygl Anthony King yn y New Scientist (3280 Mai 2ail 2020) am sylfaen cychwyn y rhan hon. Mae nifer sylweddol o gyfeiriadau gwreiddiol yn cysylltiadau uchod.)
Cwsg a thymer: Daniela Tempesta Federico Salfi Luigi De Gennaro Michele Ferrara (2020) The impact of five nights of sleep restriction on emotional reactivity. J. Sleep Research (ar-lein).