Hoffwn feddu ar ddawn Richard Wyn Jones i fedru trafod materion cyfoes wrth iddynt ddatblygu’n gyflym. Profais flas o’r hyn y mae’n ei gyflawni wrth geisio adolygu ymlediad y Coronofirws (Covid-2019) ers i’r adroddiadau cyntaf gyrraedd y Gorllewin yn ail wythnos Ionawr. Wrth imi lunio’r golofn hon mae cwta bedair wythnos wedi mynd heibio, a throednodyn diddorol wedi troi’n sialens fyd-eang. Mae gennych chi fantais drosof o wybod beth sy’n digwydd yn yr wythnosau nesaf. Ni fentraf ymhelaethu, felly. Ond un peth na fydd yn newid yw’r neges glir o’r rheidrwydd i wledydd y byd gydweithio yn hollol agored yn y fath sefyllfa. Yn anffodus, nid yw meysydd meddygaeth na gwyddoniaeth yn gyffredinol yn rhydd o’r awydd i ymffrostio ac “ennill pwyntiau”. Mae hyn ar lefel yr unigolyn ac ar lefel gwladol. Yn y Journal of Bioethical Inquiry ar-lein o ddechrau Ionawr, mae David Shaw o Brifysgol Basel yn trafod hanes perthnasol arall o Tsieina. Ar ddiwedd 2018 croeswyd ffin bwysig ym myd meddygaeth, wrth i He Jiankui, o Shenzhen, gyhoeddi genedigaeth plant yr oedd wedi newid eu genynnau trwy beirianneg enetig. Bu hanes newid genynnau yn y groth cyn hynny – ond dyma’r tro cyntaf i hyn ddigwydd mewn pobol yn y fath ffordd fel y byddai modd i genedlaethau’r dyfodol etifeddu’r newidiadau. Bu adwaith negyddol o bob cwr, gan gynnwys Tsieina, i hyn. Er y bydd ei weithred yn sicrhau lle i He yn nhudalennau hanes, fe’i carcharwyd ddiwedd 2019 am dair blynedd. Un o’r cyhuddiadau, ynghyd â ffugio adolygiadau etheg, oedd “achosi niwed i gymdeithas”. Yn ei erthygl mae Shaw yn manylu ar yr hyn ddigwyddodd. Bu modd iddo ddarllen y gwaith papur a gyflwynodd He i’r awdurdodau ac i’r gwirfoddolwyr (pob un ohonynt o gefndir addysgedig) wrth iddo baratoi ei waith. Pennawd y dogfennau oedd treial brechlyn AIDS. Yng nghorff y papurau yr oedd wir ddiben genetig y gwaith wedi’i ddisgrifio mewn jargon ac mewn modd camarweiniol. Cynigwyd IVF (ffrwythloni tiwb prawf) am ddim i’r cyplau – ond gyda’r bygythiad y byddai’r rhaid iddynt dalu costau a dirwyon o £42,000 pe baent yn dewis gadael y “treial” ar ei ganol. Roedd y papurau, hefyd, yn rhyddhau He a’i dîm o unrhyw gyfrifoldeb am sgil effeithiau mwtaniadau.
Neges bositif yr hanes yw bod awdurdodau a chymuned wyddonol Tsieina wedi gweithredu llawn mor agored â’r hyn a ddisgwylid yn Ewrop ac America. Yn wir, mae gan Tsiena draddodiad o ddelio’n gryf iawn â thwyllwyr gwyddonol. Yn 2009 dienyddiwyd dau am eu rhan yn gwenwyno miloedd o blant, a lladd chwech, wrth roi melamin mewn llaeth powdwr.
Yn ddiau, fe fu He Jiankui yn euog o dwyll a thorri rheolau. (Ymddengys, hefyd, nad oedd ei wyddoniaeth o’r safon gorau, ychwaith.) Cwestiwn arall yw’r un moesol ynglŷn â ffiniau derbyniol defnyddio biotechnoleg. Petai He wedi llwyddo yn ei fwriad honedig o greu plant iach a oedd yn rhydd o fygythiad AIDS, a fyddai’n hymateb wedi bod yr un mor hallt ? Fe’m hatgoffwyd o hyn wrth weld erthygl yn PNAS ddiwedd Ionawr. Trwy ddefnyddio’r un broses ag a ddefnyddiodd He, sef techneg hollol chwyldroadol o’r enw CRISPR, mae tîm o Wlad Tsiec o dan arweiniad Jiri Hejnar wedi creu cywion ieir sy’n gwrthsefyll firws cyffredin. Mae ALV (firws liwcosis adar) yn broblem i ffermwyr dofednod ledled y byd. Nid yw’r mwtaniad angenrheidiol yn y genyn chNHE-1 yn bodoli mewn natur, felly nid oedd modd defnyddio bridio confensiynol. Bellach mae’r tîm wedi creu haid o White Leghorn sy’n rhydd o berygl ALV – ac maent yn trafod gyda’r diwydiant yn Fietnam a Tsieina trosi’r nodwedd i fridiau masnachol. O bwys ehangach yw bwriad Hejnar i gyflawni’r un gamp gyda firysau dofednod sy’n heintio pobl. Nid firws felly yw coronofirws, ond mae perygl o hyd y gall pandemig darddu o firws adar. Yn 2004 a 2005 lladdwyd 100 miliwn cyw iâr yn Asia i geisio sicrhau nad oedd hyn yn digwydd yn ystod ymddangosiad o’r math H5N1 o’r afiechyd. Rhwng 2003 a 2013 bu 375 o bobl farw ohono. Mae’r neges yn glir. A ddylid mynd ati i ddefnyddio CRISPR i fridio dofednod, ac o bosib moch, na fyddant yn ffynhonnell bosibl i pandemigau o’r fath ? Gan ymateb i’r gwrthwynebiad poblogaidd, yng Ngorffennaf 2018 penderfynodd Llys Cyfiawnder yr Undeb Ewropeaidd gynnwys CRISPR yn un o’r technegau GM gwaharddedig. Ar hyn o bryd, nid oes angen bwydydd GM arnom yn ein gwledydd cyfoethog. Byddai’n sefyllfa bur wahanol pe baem yn wynebu sefyllfa afiechyd tebyg i Ffliw Sbaen 1919 – a heintiodd chwarter poblogaeth y byd – gan ladd dros 50 miliwn.
Un arfau i’n hamddiffyn ar hyn o bryd yw mesur tymheredd pobl mewn meysydd awyr – neu hyd yn oed ar hap yn y stryd yn Tsieina. Mae modd gwneud hyn o bell, a delio â niferoedd lawer. Yn bwysicach, o bosib, yw bod hyn yn weledol ac yn fodd i’r awdurdodau leddfu ofnau pobl yn gyhoeddus. Wrth imi ysgrifennu, ysywaeth, nid yw’n hysbys a oes unrhyw werth meddygol i’r broses. Ond mae’n ymddangos ar lefel hanesyddol, bod neges i’w dysgu o dymheredd ein cyrff. Ddechrau Ionawr, wrth i hanes Wuhan egino, cyhoeddodd tîm o wyddonwyr o Brifysgol Stanford, Califfornia, erthygl yng nghylchgrawn ar-lein eLIFE yn dadlennu bod tymheredd cyrff poblogaeth y byd wedi gostwng hanner gradd dros y ganrif a hanner ddiwethaf. Os holwch Google am dymheredd y corff, fe gewch yr ateb – 37°C. Wrth gwrs, mae hyn yn amrywio o unigolyn i unigolyn ac yn dibynnu ar eich iechyd. Daw’r ffigwr hwn (neu 98.6°F) yn wreiddiol o filiynau o fesuriadau ar 25,000 o gleifion yn Leipzig a gasglwyd gan Carl Reinhold August Wunderlich yn 1851. Bellach, mae Julie Parsonnet a’i thîm wedi darganfod mai gwybodaeth berthnasol i’r 19 ganrif yw hyn. Trwy ddadansoddi mwy na 677,000 o gofnodion mesuriadau dros y 157 o flynyddoedd diwethaf – gan gychwyn gyda 23,710 cyn milwr o Ryfel Cartref yr Amerig – datgelir bod tymheredd poblogaeth yr Unol Daleithiau wedi gostwng 0.03°C ym mhob degawd ers 1860. I ddynion, 0.59°C dros y cyfnod ac i ferched 0.32°C ers y 1890au. Yn eu papur bu rhaid i’r awduron ofalu nad newidiadau yn safon y thermomedrau oedd yn gyfrifol am y data. Yr esboniad, mae’n debyg, yn ôl Parsonnet, yw ein bod wedi manteisio ar ddatblygiadau glanweithdra, brechiadau ac antibiotigion dros y cyfnod – a’n bod, ar gyfartaledd, yn iachach – ac yn dioddef llai o’r dwymyn.
Gobeithio na fydd yr wythnosau a misoedd nesaf yn newid hyn !
Pynciau: Covid-2019, He Jiankui, Firws Ieir, Tymheredd y Corff
Cyfeiriadau
Covid-2019. Joseph T Wu, Kathy Leung, Gabriel M Leung. (2020) Nowcasting and forecasting the potential domestic and international spread of the 2019-nCoV outbreak originating in Wuhan, China: a modelling study. The Lancet (31 Ionawr 2020) (Engraifft o’r gwybodaeth wrth ysgrifennu’s golofn 12 Chwefror 2020)
He Jiankui. David Shaw (2020) The Consent Form in the Chinese CRISPR Study: In Search of Ethical Gene Editing. Bioethical Inquiry. https://doi.org/10.1007/s11673-019-09953-x
Firws Ieir. Anna Koslová, Pavel Trefil, Jitka Mucksová, Markéta Reinišová, Jiří Plachý, Jiří Kalina, Dana Kučerová, Josef Geryk, Veronika Krchlíková, Barbora Lejčková a Jiří Hejnar (2020) Precise CRISPR/Cas9 editing of the NHE1 gene renders chickens resistant to the J subgroup of avian leukosis virus. PNAS 117 (4) 2108-2112
Tymheredd y Corff. Myroslava Protsiv, Catherine Ley, Joanna Lankester, Trevor Hastie a Julie Parsonnet (2020) Decreasing human body temperature in the United States since the Industrial Revolution. eLife 2020; 9:e49555