Barn 133 (Ebrill 2020): Gwylanod Gwancus, Titw’r Teledu, Meddygaeth Morgrug, Blodau Bedd


Unwaith eto, erbyn i chi ddarllen y golofn hon, fe fyddwch yn gwybod llawer yn fwy na fi ar hyn o bryd am ddylanwad Covid-19 ar ein hymddygiad cymdeithasol. Yn y cyd-destun, diddorol a pherthnasol oedd dyrnaid o bapurau yn y wasg wyddonol y mis hwn yn ymwneud ag ymddygiad gwahanol anifeiliaid i fygythiadau “iechyd a diogelwch”.  Y cyntaf oedd adroddiad am ymddygiad gwylanod gan Madeleine Goumas a’i chydweithwyr o Brifysgol Caerwysg yn Royal Society Open Science. Fe’m hatgoffwyd o Gwylan Gwancusachlysur hai blynyddoedd yn ôl pan oeddwn newydd gyrraedd orsaf Caerdydd ar fy ffordd yn ôl i Fangor wedi diwrnod hir o bwyllgora yn y brifddinas. Prynais baguette flasus. Ond wrth wneud fy hunan yn gyfforddus i’w mwynhau ar sêt platfform 2, diflannodd fy nghinio i gyfeiriad y Bae yng nghrafanc ryw wylan lwyd farus. Roedd y bwyd yn fwy na’r aderyn – a’m cof olaf oedd synnu bod modd i’r creadur godi o gwbl uwchben to platfform 3. Gobeithio iddi fwynhau’r pastai. Prawf, os bu angen un, nad yw amgylchedd annaturiol y ddinas yn broblem i wylanod. Mae Goumas yn astudio’r berthynas hon. Yn yr ymchwil diweddaraf dangosodd y tîm fod gwell gan yr adar fwyd sydd wedi’i gyffwrdd gan berson. I brofi hyn, cyflwynwyd dau fwced yn cynnwys Fflapjac Ma Baker i 38 aderyn ffodus. Datguddiwyd y danteithion wrth dynnu’r bwcedi. Yna cododd Goumas un o bob pâr o bacedi a’u trafod am ugain eiliad cyn eu gadael.  O’r 24 aderyn a ymatebodd, aeth 19 am y pecyn a oedd wedi’i gyffwrdd. Dadleua Goumas mai enghraifft yw hyn o ddawn gynhenid ambell greadur i fanteisio ar newidiadau yn yr amgylchedd.

Titw teleduCyfeiria’r papur at ymddygiad y Titw Tomos Las yn ôl yn y dyddiau pan fydda’i dyn llaeth yn gadael poteli â chaeadau arian wrth bob drws. Ar y pryd, profwyd bod yr adar ifanc yn dysgu oddi ar brofiad yr adar hŷn bod capiau llachar yn arwydd o’r hufen blasus oddi tanynt. Hanes hyfryd. Fe’m swynwyd, felly gan gyfeiriad newydd at hanesyn arall am “addysg” yr aderyn bach yma. Mae modd iddo ddysgu drwy wylio rhaglenni teledu !  Adroddwyd yr hanes gan Liisa Hämäläinen a’i thîm o Brifysgol Caergrawnt yn y Journal of Animal Ecology. Dangoswyd ffilmiau o adar yn profi bwydydd blasus a chwerw. Roedd y bwydydd chwerw wedi’u marcio â sgwâr du amlwg. Roedd ymateb yr adar i’r bwyd i’w weld yn y ffilm. Ar ôl profi’r bwyd chwerw ‘roedd siglo pen a rhwbio pig yn arwydd o anfodlonrwydd â’r surni. Pan gyflwynwyd bwyd go iawn, a’r chwerw eto wedi’i nodi â sgwâr, i’r adar oedd wedi gweld y lluniau, roeddynt yn tueddu i osgoi’r bwyd chwerw. Nid oedd hyn i’w weld ymhlith adar eraill nad oedd wedi gweld y ffilm. Yn ddiddorol, canfuwyd bod y Titw Mawr yn dysgu wrth weld lluniau Titwod Mawr neu Ditwod Glas, tra mai dim ond oddi wrth ei gydrywogaeth y dysgai’r Titw Tomos Las yn dysgu. O’r diwedd rwy’n deall pam mai “Cyw” yw enw’r rhaglen boblogaidd i blant !

Meddygaeth morgrugMae’n debyg mai greddf yn hytrach nag addysg sydd wrth wraidd y drydedd enghraifft o ymddygiad anghyffredin y mis hwn. Ar wefan bioRχiv gwelir disgrifiad  o hunan-feddygaeth morgrugyn o Fflorida. Yn wahanol i ni, nid oes asid i ladd bacteria yn stumog pryfed. Yn wir defnyddiwn y ffaith mai alcali yw perfedd ambell  bla i’w targedu wrth ddefnyddio un o’r technegau GM amaethyddol mwyaf cyffredin – protein Bacillus thuringiensis.  Ond mae ambell forgrugyn yn yfed asid er mwyn lladd eu pathogenau. A tharddiad yr asid ?  Y chwarren gwenwyn y mae’r creaduriaid yn ei defnyddio i’w hamddiffyn eu hunain rhag ymosodiadau. Yn ôl Simon Tragust a’i gydweithwyr ym Mayreuth yn yr Almaen, yfir y gwenwyn gan y morgrugyn. Drwy atal yr yfed hwn, neu flocio’r chwarren a Superglue, bydd y  morgrug yn marw o heintiau. Yn ogystal ag achub bywyd yr unigolion, mae’r broses yma yn atal ymlediad clefydau drwy’r boblogaeth, gan mai bwyd wedi’i ail chwydu o stumog yr helwyr a ddefnyddir yn aml i fwydo trigolion eraill y nyth.

Neanderthal Karen CarrAc ar ddiwedd oes ? Yn yr 1950au yn ystod cloddio yn ogof Shanidar yng Ngwlad y Cwrdiaid darganfuwyd olion deg o dynion, gwragedd a phlant Neanderthal gan Ralph Solecki (a fu farw ym Mawrth 2019 yn 101 oed). Dros y deng mlynedd wedi hynny, dadleuodd Solecki bod rhai o’r cyrff wedi’u claddu’n fwriadol – am y tro cyntaf ymhlith olion ein chwaer rhywogaeth. Un nodwedd oedd bod paill blodau i’w weld ar un o’r cyrff – tystiolaeth o osod torch yn ystod y claddu.  Bu cryn feirniadu ar y casgliad hwn yn y cyfamser. Bellach mae tîm o archeolegwyr o Brifysgol Caergrawnt, o dan arweiniad Emma Pomeroy, wedi ail ymweld â’r safle a darganfod ysgerbwd newydd wrth ymyl y “bedd blodau”.  Gwelir y canlyniadau yn rhifyn diweddaraf Antiquity. Trwy wneud mesuriadau gofalus o’r pridd o amgylch y corff a’r sgerbwd ei hun, bu modd cadarnhau mai claddu bwriadol sydd yma. Tua 60 i 70,000 o flynyddoedd yn ôl y bu’r angladdau. Mae tystiolaeth o Qafzeh yn Israel yn awgrymu bod Homo sapiens (ein rhywogaeth ni) wedi dechrau claddu’r meirw erbyn 100,000 o flynyddoedd yn ôl. Un o’r trafodaethau ymysg gweithwyr yn y maes yw a ddatblygodd y Neanderthal yr arfer drostynt eu hunain, neu ai dysgu gan Homo sapiens a wnaethant ?  Mae ymchwil am berthynas y ddwy rywogaeth wedi bod yn ferw dros y blynyddoedd diwethaf.  Un peth sy’n sicr, nid o’r teledu y daeth yr arfer !


Pynciau: Gwylanod Gwancus, Titw’r Teledu, Meddygaeth Morgrug, Blodau Bedd


Cyfeiriadau
Gwylanod Gwancus: Madeleine Goumas, Neeltje J. Boogert a Laura A. Kelley. (2020) Urban herring gulls use human behavioural cues to locate food. Roy Soc Open Science 7 (2) 191959 . 

Titw’r Teledu: Liisa Hämäläine, Johanna Mappe, Hannah M. Rowlan, Marianne Teichman a Rose Thorogood (2020) Social learning within and across predator species reduces attacks on novel aposematic prey.  J. Animal Ecology 89 (5), 1153-1164

Meddygaeth Morgrug: Simon Tragust, Claudia Herrmann, Jane Häfner, Ronja Braasch, Christina Tilgen, Maria Hoock, Margarita Artemis Milidakis, Roy Gross, Heike Feldhaar. (2020) Formicine ants swallow their highly acidic poison for gut microbial selection and control. bioRχiv.

Blodau Bedd: Emma Pomeroy , Paul Bennett , Chris O. Hunt , Tim Reynolds , Lucy Farr , Marine Frouin , James Holman , Ross Lane , Charles French a Graeme Barker (2020) New Neanderthal remains associated with the ‘flower burial’ at Shanidar Cave. Antiquity 94, (373), 11-26


<olaf nesaf>