Ym Medi 2010, ysgrifennais am foeseg arfau robot yn y golofn hon. Ar y pryd, taflegrau “clyfar” wedi’u llywio gan beilot oedd yn eistedd mewn swyddfa ymhell o faes y gad oedd y rhain. Y cwestiwn oedd, a oedd cyfiawnhad i darged y taflegryn (yn Irac, dyweder) fynd ati i geisio lladd peilot y taflegryn ar ei ffordd gartref o’i swyddfa yn Los Angeles ? “Cyfiawnhad” yng nghyd-destun rhyfedd rheolau maes y gad, hynny yw. Pan laddwyd Fflamddwyn gan Owain ab Urien yn Argoed Llwyfain, mae’n debyg iddo gael pob hawl a modd i’w amddiffyn ei hun. Mae sôn mewn llawysgrifau Cymraeg o’r Canol Oesoedd am yr anllad wrth i filwr cyffredin ladd marchog trwy ddefnyddio gwn o bell. (Mae’n debyg bod hen dechnoleg y bwa saeth yn “barchus”.)
Newid ddaeth o rod i rod, a bellach cyffredin yw gweld ar ein rhaglenni newyddion ddarllediadau camera yn dangos pa mor fanwl a chlinigol yw lladd o bell yn y fath fodd. Dangosir ac esbonnir i ni’r union luniau a oedd yn ymddangos ar sgrin y peilot yn ei swyddfa. Amser symud ymlaen. Y cwestiwn bellach yw a oes angen peilot o gig a gwaed o gwbl ? Beth am adael i robot (AI – deallusrwydd peiriant) wneud yr holl benderfyniadau ynglŷn â’r targedu ? Ym mis Gorffennaf bu cais i Gyngres yr Unol Daleithiau gan ei byddin am gyllideb i wireddu cynllun a fyddai’n creu taflegrau gwn a fyddai’n abl i chwilio am ei darged symudol o fewn ardal o ryw 28 cilometr sgwâr ar ôl gadael y fagnel. Ceir yr hanes gan David Hambling yn y New Scientist. Ymgais bwriadol i ymateb i’r feirniadaeth ryngwladol sydd wedi dod yn sgil defnydd “cluster bombs” yw hyn. Dadlennol oedd darllen erthygl ar y pwnc yn y cylchgrawn Popular Mechanics ym mis Awst. Mae’r awdur yn disgrifio effeithiolrwydd y DPICM (sef y cluster bomb) ond yn ychwanegu y bu “cost nobody foresaw” wrth i gannoedd o’r bomiau bach nad oedd wedi ffrwydro ar y pryd ladd ac anafu trigolion diniwed y gwledydd am flynyddoedd lawer. Yr ateb yw C-DAEM.
Er y cafwyd cryn drafod yn y Cenhedloedd Unedig dros y blynyddoedd diwethaf ni fu penderfyniad rhyngwladol ar egwyddor defnyddio arfau robot ymreolaethol. (Ni fyddai’r Terminator, a anfarwolwyd gan Arnold Schwarzenegger yn 1984, yn anghyfreithlon.) O ran C-DAEM dadl byddin yr UD yw bod peilot dynol yn “dewis” y targed a dim ond mireinio hyn y mae’r robot yn ei wneud. Hyd yma ni ddefnyddiwyd arfau hunan-ymreolaethol ar faes y gad, ond mae hyn ar fin newid. Ar ddiwedd Medi, cyn i drydar yr Arlywydd Trump newid hafaliad grym gogledd Syria’n llwyr, bu adroddiadau bod byddin Twrci wedi dechrau eu defnyddio yn yr ardal. Bellach mae STM, cwmni arfau o Dwrci, wedi datgan yn swyddogol y bwriad i lansio’r Karga (hofrennydd drôn cwad 7 kg o bwysau) yn Syria yn y flwyddyn newydd. Yn ôl David Hambling eto yn New Scientist, mae STM yn honni y bydd rhaglen cyfrifiadur y Karga yn ei alluogi i ddarganfod a tharo nifer fawr o wahanol dargedau – boed gerbyd neu bobl – heb ymyrraeth ddynol. Bwriedir defnyddio’r dronau bach mewn heidiau, a’u batrïau yn para ryw hanner awr. Gyda’r peiriant yn gwneud y penderfyniad rhwng bywyd a marwolaeth, pwy y tro hwn fydd yn “gyfrifol” am “gamgymeriadau” ?
Yn ôl ymchwiliad a ymddangosodd yn y Guardian ar 15 Hydref, mae mater tebyg yn prysur godi’i ben yn llawer agosach i gartref. Nid trwy ddefnydd arfau mecanyddol, ond trwy baratoi a rhyddhau “botiau” hunan-ymreolaethol i weinyddu rhan helaeth o gyfundrefn fudd-daliadau’r Deyrnas Unedig. Yn ôl y papur newydd, mae’r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) nid yn unig wedi cyflogi 520 o staff newydd i DWP Digital (sydd â chyllideb flynyddol o £1.1 bn) yn y flwyddyn hyd at Ebrill, ond hefyd dros 400 i gwmni preifat o’i heiddo, Benefits and Pensions Digital Technology Services Cyf. Gobaith yr Adran yw y bydd hyn yn cynyddu effeithiolrwydd a chywirdeb a lleihâi cost y drefn Credyd Cynhwysol. Ofn eraill, gan gynnwys Frank Field, cadeirydd pwyllgor dethol y Llywodraeth yn San Steffan ar Waith a Phensiynau, yw y bydd hyn yn fygythiad i’r rhai mwyaf anghenus mewn cymdeithas. Yn ôl Robert Booth, gohebydd Materion Cymdeithas y Guardian, mae naw miliwn o boblogaeth gwledydd Prydain yn anllythrennog i bob pwrpas a phum miliwn oedolyn naill ai erioed wedi defnyddio’r Rhyngrwyd, neu heb wneud hynny yn y tri mis blaenorol. Ei ddadl yw y bydd nifer sylweddol o’r rhain ymysg “cwsmeriaid” y botiaid hunan-ymreolaethol. Ni allwn ond gobeithio na fydd anhawster â’r drefn yma yn y wlad hon, ond yn fyd-eang mae digon o enghreifftiau o broblemau wrth ddefnyddio AI yn y maes hwn. Wrth imi ysgrifennu, mae Philip Alston, Rapporteur Arbennig y Cenhedloedd Unedig ar fin adrodd yn ôl i’w Cynulliad Cyffredinol ar oblygiadau’r rhuthr rhyngwladol i ddigideiddio gwasanaethau cymdeithasol. Rhyddhawyd y Drafft ar-lein ar Hydref 11 (A/74/48037).
Mae’n eithaf sicr nad cyflymder cyfrifiaduron DWP sydd wrth wraidd unrhyw anhawster ar hyn o bryd. Ond mae’n bosib ein bod newydd weld cyhoeddi cam pwysig tuag at gyfrifiaduron cyflym cwantwm y dyfodol. Ar ddechrau mis Medi bu nifer o adroddiadau yn y wasg ryngwladol bod Google wedi llwyddo i adeiladu cyfrifiadur gyda 53 “qubit” (bit cwantwm, uned weithredol y cynllun). Yn ddamcaniaethol gall cyfrifiadur cwantwm weithio yn llawer cyflymach na chyfrifiadur confensiynol digidol. Mewn cyfrifiaduron clasurol gall bit gynrychioli naill ai 1 neu 0 a gall cyfrifiadur cyffredin gynnwys cannoedd o biliynau (Gb) ohonynt. Mae priodoleddau’r qubit yn ei alluogi cynrychioli 1 a 0 ar yr un pryd; ond y maent yn anodd iawn eu sefydlogi oherwydd yr angen i’w cysylltu trwy’r ffenomen o gydymblygiad (entanglement). Methiant bu ymgais Google i uno 72 ohonynt yn 2017. Bydd angen cryn waith cyn y bydd y cyfrifiaduron cwantwm yma yn bethau pob dydd – ond, os gwir yr adroddiad gwreiddiol a ddiflannodd o wefan NASA bron mor sydyn ag yr ymddangosodd, roedd modd i’r teclyn gyflawni un dasg arbennig. Sef profi mai ar hap (random) oedd cyfres o rifau a fwydwyd iddo. Tasg a fyddai wedi cymryd Summit, cyfrifiadur cyflyma’r byd, 10,000 o flynyddoedd i’w chyflawni. Daeth yr ateb yn ôl mewn 3 munud a 20 eiliad. Digon i hawlio goruchafiaeth nodedig.
Mae’n debyg nad yw hyn yn unrhyw gysur o gwbl i’r rheini sy’n aros i olwynion Credyd Cynhwysol i droi ar ddiwedd wythnos. Ond, pwy a ŵyr, efallai y bydd ein disgynyddion yn byw mewn oes hyd yn oed cyflymach na’n un ni heddiw !
Pynciau: Terminator, DWP digidol, Goruchafiaeth Cwantwm
Cyfeiriadau
Terminator
DWP digidol
Goruchafiaeth Cwantwm