Bu digon o sôn yn ystod 2019 am newid hinsawdd, a dylanwadau eraill dynoliaeth ar y Ddaear, i greu’r teimlad bod rhyw fath o newid ar droed ? Mater arall yw a fydd yn ddigon i atal argyfwng dirfodol. Ar wefan Science ddiwedd Hydref, cafwyd cipolwg ar yr hyn a ddigwyddodd un o’r troeon diwethaf y bu’r byd mewn helynt go iawn. Cipolwg eithaf optimistaidd, er yn dibynnu braidd ar eich safbwynt – a’ch amynedd – yw. Sôn mae’r erthygl gan Tyler Lyson ac Ian Miller o Amgueddfa Denver, Colorado, a’u cydweithwyr am yr hyn a ddigwyddodd ar ôl i wibfaen mawr daro’r ddaear 66 miliwn o flynyddoedd yn ôl gan beri difodiant tri chwarter rhywogaethau’r blaned, gan gynnwys y dinosoriaid. Ym mis Mai fe soniais am ddarganfod ffosilau anifeiliaid a physgod yng Ngogledd Dakota a laddwyd gan y gwrthdrawiad yn uniongyrchol. Dros y byd, cymharol wag yw cofnod y creigiau am y miliwn o flynyddoedd ar ôl hyn, a gwan yw’r dystiolaeth am beth a ddigwyddodd nesaf yn hanes bywyd. Ond bellach, mae gwaith Lyson a’r tîm wedi newid hyn trwy ddarganfod safle o waddodion yn cynnwys ffosiliau gwych dros gyfnod perthnasol di-dor yn Corral Bluffs, Colorado. Cyn y meteor bu’r ardal yn gynefin i laweroedd o famaliaid maint y racŵn a phlanhigion amrywiol. Am y mil o flynyddoedd cyntaf ar ôl y gyflafan, tirwedd anial o redyn yn unig oedd yno, ynghyd â dyrnaid o famaliaid maint llygod mawr. Erbyn 100,000 o flynyddoedd roedd nifer rhywogaethau’r mamaliaid wedi dyblu, ac wedi cyrraedd yn ôl i faint y racŵn. Erbyn hyn ‘roedd fforestydd o balmwydd, a’u hadau maethlon, wedi ymddangos. Erbyn 200,000 disodlwyd y palmwydd gan lwyni o goed cnau (cyfnod y Pecan Pie, chwedl yr awduron Americanaidd). Bwyd gwell fyth i’r cynnydd triphlyg ymysg y mamaliaid a oedd wedi cyrraedd maint afancod. Tua 700,000 mae’r ffa cyntaf erioed ar y cyfandir yn ymddangos. Ffynhonnell wych o brotein i’r mamaliaid sy’n cyrraedd maint 50 kg a mwy. Un neges a ddaw o’r gwaith yw bod ffawd anifeiliaid yn dibynnu ar hanes y llystyfiant – ac effaith yr hinsawdd ar hynny. Neges arall o safbwynt y daearegwyr yw pa mor gyflyn y mae’r byd yn ailflodeuo ar ôl difodiant gwibfaen Chicxulub. Ond i’r gwleidyddion, a’u gorwelion ychydig yn agosach na 700,000 o flynyddoedd, dim llawer o esgus i beidio â phoeni !
Yr hyn oedd yn fy mhoeni i’r wythnos diwethaf oedd lle yn y byd (wel, yn ardal Bethesda, beth bynnag) yr oeddwn wedi gadael fy ffôn. Yna, yn sydyn ganol nos rai diwrnodau’n ddiweddarach fe gofiais. Pethau hynod yw’r cof a’r ymennydd – sy’n araf ddatgelu peth o’u cyfrinachau i’r niwrolegydd. Yn 2014 dyfarnwyd Gwobr Nobel Ffisioleg neu Feddygaeth i John M. O’Keefe, May-Britt Moser a Edvard I. Moser am eu gwaith yn datgelu sut ‘rydym yn canfod ein lleoliad yn ein hamgylchedd. Yr ateb yw dau fath o gell (niwron) – celloedd lleoliad yn yr hipocampws a chelloedd grid yn y cortecs entorhin – sy’n creu a defnyddio map o’r amgylchedd yn yr ymennydd, mewn modd a fyddai’n gyfarwydd i’r rhai sy’n ymarfer y grefft o gyfeiriadu (orienteering). Yn awr, mae Steven Poulter ym Mhrifysgol Durham a’i gydweithwyr, wrth weithio gyda llygod mawr, wedi darganfod trydydd math o gell, unwaith eto yn yr hipocampws, sy’n ymwneud â lleoliadau gwrthrychau yn yr amgylchedd (cyhoeddir ar wefan bioRχiv). Un nodwedd o’r celloedd newydd hyn yw eu bod yn dal i danio hyd yn oed ar ôl i’r gwrthrychau ddiflannu. (Defnyddiwyd math o ddrysfa wedi’i gwneud o boteli gwin yr oedd modd eu symud ohoni mewn rhai o’r arbrofion.) Drwy gymryd bod y celloedd yma, hefyd, yn bodoli yn ein hymennydd ni, y dybiaeth yw mai’r celloedd (vector trace) hyn sy’n ein galluogi i gofio ble y gwelsom rywbeth y tro diwethaf. Maent yn gorwedd mewn rhan o’r hipocampws sydd ymhlith un o’r rhannau cyntaf o’r ymennydd i ddadfeilio mewn achosion o glefyd Alzheimer. Tybiaeth Colin Lever, o’r tîm, yw mai dyma sy’n esbonio’r symptom cynnar cyffredin y cyflwr o anghofio lle y gadawyd rhywbeth. Tybed ai’r celloedd bach yma a benderfynodd fy nihuno’r noson o’r blaen ?
Yr adeg hon o’r flwyddyn, yn sgil yr holl yfed a gwledda, nid anghyffredin yw anghofio pob math o bethau. Yr ateb, wrth gwrs, yw peidio â’i gorwneud hi yn y parti swyddfa. Ond rhaid cydymdeimlo â gŵr o Efrog Newydd y bu sôn amdano yn y New Scientist ar ddiwedd mis Hydref. Yn 2011, ar ôl cwrs o antibiotigion cryf i drin anaf i’w fawd, fe ddechreuodd deimlo’n drwsgl ac anghofus. Fe’i gosodwyd ar dabledi trin iselder. Yna yn 2014 fe’i harestiwyd am yrru’n ddiofal – gyda 200 miligram o alcohol ym mhob 100 mililiter o’i waed. (80 mg/100ml yw’r ffin cyfreithiol yng Nghymru). Y dryswch oedd, nad oedd y gŵr wedi yfed yr un diferyn. Aeth i weld gastroenterolegydd a darganfuwyd bod ganddo lefelau uchel o furum bragu cwrw (Saccharomyces cerevisiae) yn ei gyllau. Dyma oedd yn cynhyrchu alcohol o’r bwyd oedd yn pasio trwy ei gorff. Wrth fwyta carbohydradau ‘roedd lefel alcohol ei waed yn cyrraedd hyd at 400 miligram ym mhob 100 mililitr. Yn 2017 dyfarnwyd bod arno gyflwr o’r enw syndrom hunan-fragu (auto-brewery symdrome), cyflwr a gysylltir weithiau â chlefyd Crohn a chyflyrau eraill lle mae ffyngoedd eraill yn cronni yn y perfedd. Mae’r enw yn esbonio’i hun! Dyma’r tro cyntaf y cysylltwyd ef â defnyddio antibiotigion. Cyflwynwyd yr hanes i Gynhadledd Flynyddol Gastroenterolegwyr America yn San Antonio Texas ddiwedd mis Hydref. Da dweud bod triniaeth gwrth-ffwng, probiotigion a bwyd isel mewn carbohydrad, wedi gwella cyflwr y claf yn llwyr. Bellach mae’n debyg bod yn rhaid iddo dalu am ei gwrw, fel pob un arall ohonom.
Nawr te, lle wnes i adael y sbectols yna ?
Pynciau: Optimistiaeth ôl-apocaliptaidd, Y Cof, Hunan Fragu
Cyfeiriadau
Optimistiaeth ôl-apocaliptaidd: T. R. Lyson, I. M. Miller, A. D. Bercovici, K. Weissenburger, A. J. Fuentes, W. C. Clyde, J. W. Hagadorn, M. J. Butrim, K. R. Johnson, R. F. Fleming, R. S. Barclay, S. A. Maccracken, B. Lloyd, G. P. Wilson, D. W. Krause, S. G. B. Chester (2019) Exceptional continental record of biotic recovery after the Cretaceous–Paleogene mass extinction. Science 366 (6468) 977-983
Y Cof: Steven Poulter, Sang Ah Lee, James Dachtler, Thomas J. Wills, Colin Lever (2019) Vector Trace cells in the Subiculum of the Hippocampal formation. bioRχiv doi: https://doi.org/10.1101/805242
Hunan Fragu: Alice Klein (2019) Man’s body brews its own beer after yeast take over his gut microbiome New Scientist Hydref 26, tud 14