A minnau’n myfyrio ar falurion yr hen onnen, ganrifoedd oed, yn gorwedd ar y lawnt o flaen fy nhŷ yn sgil cyn-gorwynt Ophelia, hawdd credu’r dinistr llwyr a ddaw i ynysoedd y Caribî yn sgil stormydd “go iawn”. I mi, ychydig ddyddiau o waith gyda’r lli gadwyn, ond yno deallwn y cymerith fisoedd lawer i ddod â thrydan, a phopeth sy’n ddibynnol arno, yn ôl i boblogaeth gyfan Puerto Rico er enghraifft. Ynys Barbuda bron yn anghyfannedd. Mae’n debyg y buasai’r diwydiant caethwasiaeth yn y rhan honno o’r byd wedi bod yn ei anterth pan oedd fy onnen yn ifanc. Efallai nad oes llawer wedi newid yn ystod canrifoedd ei bywyd wedi’r cyfan.
Arwyddion o Rym Natur yw’r stormydd yma. Yn ôl Gweinyddiaeth Môr ac Awyr yr Unol Daleithiau mae egni pwysau glaw un storm drofannol, ar gyfartaledd, yn gymaint â 200 gwaith holl gynnyrch pwerdai trydan dynoliaeth (600,000 GWatt). Yn ystod ei chylch bywyd o wythnos neu ddwy ystyrir hyn yn gyfystyr i rym 10,000 bom Hiroshima. Mymryn yn unig o hwn (1500 GWatt) a welir yng ngrym aruthrol y gwynt. Rhan fechan o’r dinistr yw.
O bryd i’w gilydd olion y stormydd sy’n taro’r Caribî yn gyntaf sy’n cyrraedd ein glannau ni yng Nghymru. Ar nos Sul 15 Tachwedd 2015, er enghraifft, olion storm drofannol Kate oedd yn gyfrifol am ein tywydd garw. Roedd Kate wedi dechrau ar ei siwrnai oddi ar arfordir gorllewin yr Affrig ar 30 Hydref. Croesodd i’r Bahama cyn dilyn arfordir dwyreiniol yr Unol Daleithiau a chroesi’r Iwerydd am yr ail dro. Gwahanol oedd achau Ophelia, daeth atom mewn ychydig ddyddiau yn syth o ynysoedd Azores, lle ffurfiodd fel y storm drofannol ddwyreiniol fwyaf i’w chofnodi, yn gyntaf ar 6 Hydref a’n taro ni ar yr 16eg.
Ond nid yw grym Ophelia, a holl gorwyntoedd y ddaear, yn ddim o’i gymharu â’r grymoedd a gynhyrfodd seryddwyr ledled y byd ar yr un diwrnod ganol Hydref. Er mai hon oedd y pumed tro yr adroddwyd am ganfod tonnau disgyrchiant, bu bron cymaint o gynnwrf a phan y’u gwelwyd hwy am y tro cyntaf ym mis Medi 2015 gan offer newydd sbon yn yr UD o’r enw LIGO. Pan synhwyrir y tonnau yma, rydym yn teimlo’r bydysawd i gyd yn crynu fel cloch wedi’i tharo. Yn 2015 dau dwll du (ryw 1.4 biliwn o flynyddoedd yn ôl) oedd yn gyfrifol – gan ryddhau, am lai nag eiliad, 3.6 x 1040 GWatt. Dyma fwy o egni nag a ryddheir, fel goleuni, gan holl sêr y bydysawd. Ers hynny clywyd canu’r gloch dri thro arall wrth i dyllau duon ymrafael a’i gilydd. Pob un yn dystiolaeth sy’n cyfiawnhau disgrifiad Einstein o’r bydysawd.
Yna ar 17 Awst clywodd LIGO y gloch yn canu unwaith eto. Yn eironig, roedd offer newydd sbon pwrpasol VIRGO yn yr Eidal, a glywodd ei ganiad gyntaf dridiau yn unig ynghynt, yng nghysgod y ddaear ar y pryd. Y tro hwn, nid gwrthdrawiad 0.2 eiliad – megis trydar aderyn – oedd hwn, ond digwyddiad y byddai modd ei ddilyn am wythnos neu ddwy. Gwrthdrawiad dwy seren niwtron. Llai egnïol na’r tyllau duon – ond yn llawer agosach. “Dim ond” 130 miliwn blwyddyn golau i ffwrdd y tro hwn. Fe gofiaf ddysgu am sêr niwtron pan oeddwn yn yr ysgol. Fe’i crybwyllwyd gan Walter Baade a Fritz Zwicky yn ôl yn 1934, dim ond blwyddyn ar ôl i Chadwick ddarganfod y niwtron. Cofiaf y disgrifiad ohonynt – bydau llond llwy de o’u defnydd yn pwyso 5 biliwn tunnell. (56 miliwn tunnell o lo a dyrchwyd o faes glo’r De yn ei anterth yn 1913.) Un lwmp o niwtronau – megis cnewyllyn atom milltiroedd ar ei thraws. Yn y 60au fe’i darganfuwyd fel golosg (neu “gols” yn iaith lofaol fy mebyd) ffrwydradau marwolaeth sêr cyffredin – supernovae – ac esboniad pwlserau; goleudai’r gofod. (Mae hanes peidio â rhannu Gwobr Nobel 1974 â Jocelyn Bell a’u darganfu, yn rhan enwog o gronicl diffyg parch at hawliau merched. Stori ar gyfer rhywbryd arall.)
Daeth y trawiad drwy i ddwy belen maint Caerdydd, ond yn pwyso ryw ddwywaith cymaint â’r haul, daro yn erbyn ei gilydd. Sêr niwtron cymharol fychan i ddweud y gwir. Y neges o’r bydysawd yn cyrraedd LIGO. Diolch i’r rhyngrwyd ac eangfrydedd a natur gydweithredol gwyddoniaeth, cyrhaeddodd y wybodaeth bob rhan o’r byd o fewn munudau,. Mae’n debyg mai telesgopau ESO yn anialdir Atacama, Chile, oedd y cyntaf i ddarganfod ffynhonnell y tonnau disgyrchiant yng nghytser yr Hydra. O fewn oriau ‘roedd o leiaf 70 a brif arsyllfeydd y ddaear yn syllu ar y brycheuyn yma yn y gofod. O fewn dyddiau, yn ôl David Shoemaker llefarydd LIGO, roedd rhwng chwarter a thraean seryddwyr proffesiynol y byd yn gweithio ar y prosiect, gan gynnwys tîm telesgop Hubble. Pob un â’i ddiddordeb arbennig ei hun. Oherwydd hirhoedledd y digwyddiad (dyddiau yn lle mili-eiliadau), casglwyd cymaint o wybodaeth gwahanol a newydd. Yn ystod y mis diwethaf ymddangosodd yr adroddiadau gwyddonol cyntaf yn Nature a chylchgronau eraill. Un o’r prif benawdau poblogaidd oedd y ffaith bod yr arsylliadau wedi cadarnhau tarddiad aur a metelau trymion eraill y bydysawd – megis platinwm, plwm ac wraniwm. Damcaniaethol yn unig oedd ein gwybodaeth am hyn o’r blaen. Yn ystod y gwrthdrawiad 130 o filiynau o flynyddoedd yn ôl, ffurfiwyd tua maint y ddaear o aur. Pwy a ŵyr beth fydd hanes y trysor hwn cyn diwedd amser ? Wrth deipio hwn, edrychaf ar fy modrwy briodas aur Cymru a meddyliaf ym mhle oedd y kilonova – yr enw am y math yma o wrthdrawiad – a’i ffurfiodd. Yn sicr mi fyddai’r bydysawd wedi canu – a da o beth, ar ôl 30 mlynedd o briodas, yw gwybod hynny !
Pynciau: Ophelia, Sêr Niwtron a Disgyrchiant, Aur