Erbyn ichi ddarllen hyn fe fydd hen gyfaill wedi marw. Dyma farwnad iddi. Fe’i lansiwyd i’r gofod ar Hydref 15 1997 ar gerbyd Titan IV-B/Centaur, pwysodd ddwy dunnell, a’i henw oedd Cassini. Ei nod oedd y blaned ddramatig Sadwrn, â’i chiwed o leuadau. Cassini, ynghyd â glaniwr bychan o’r enw Huygens, oedd un o’r llongau gofod di-beilot mwyaf cymhleth mewn hanes. Ffrwyth y ffenomen brin honno – cydweithio gwledydd. Yn yr achlysur hwn – NASA, ESA (asiantaeth ofod Ewrop) ac Asiantaeth Ofod yr Eidal. Erbyn haf 2008 roedd wedi cyflawni ei dyletswyddau gwreiddiol, ac roedd Huygens wedi glanio’n llwyddiannus ar y lleuad Titan a darlledu cannoedd o luniau ohono. Yng Nghymru yr oedd eisoes wedi bod yn ysbrydoliaeth i Lloyd Jones wrth iddo lunio ei nofel hynod Mr Cassini yn 2006. Ond – fel sydd wedi digwydd dro ar ôl tro gyda’r fath anturiaethau, yn arbennig rhai a anfarwolwyd mewn llenyddiaeth – nid oedd y Cassini hon yn barod i roi’r gorau iddi.
Cafodd dyn ei gyfareddu gan Sadwrn ers cyn cof. Hawdd ei gweld ar noson dywyll, a disgrifiwyd ei symudiadau arallfydol gan y Babiloniaid, yr Hindwiaid, y Tsieiniaid a’r Rhufeiniad. Yn 1610, Galileo Galilei oedd y cyntaf i’w hastudio drwy delesgop a sylwodd fod rhywbeth anghyffredin am siâp y blaned. Yr Is-almaenwr Christiaan Huygens, trwy ddefnyddio telesgop cryfach, esboniodd mai cylch megis disg o amgylch corff y blaned oedd yn gyfrifol am hyn. Daeth yn ffurf eiconig ym myd seryddiaeth a sêr ddewiniaeth. Huygens, hefyd, ddarganfu Titan yn 1655. Yna daeth yr Eidalwr Giovanni Cassini o hyd i bedair lleuad arall, ac yn 1675 nododd fwlch, sydd bellach wedi’i enwi ar ei ôl, yn y cylch. A dyna ichi esboniad ar enwau fy nghyfeillion. (Nid anghofiwyd Galileo, wrth gwrs. Yr anturiwr robot cyfatebol i’r blaned Iau, a lansiwyd yn 1989, a gariodd ei enw yntau.)
Gwnaeth y goden Cassini fyrdd o ddarganfyddiadau a champau cyn ac ar ôl 2008. (Ymwelwch â gwefan NASA i weld detholiad o’r lluniau anhygoel.) Daeth o hyd i saith lleuad newydd (bellach mae 53 ag iddynt enwau) a manylu ar y rhai cyfarwydd (gan gynnwys darganfod llynnoedd hydrocarbon ar Titan), mesurodd hyd diwrnod ar Sadwrn (deg awr a thri-chwarter) a disgrifiodd stormydd a chorwyntoedd yn ei chymylau nas gwelwyd eu bath o’r blaen y tu hwnt i’r ddaear. Yn 2003 gwnaed arbrawf a gadarnhaodd ddamcaniaeth gyffredinol perthnasedd Einstein wrth i ddarllediadau Cassini blygu wrth fynd heibio’r haul ar eu trywydd hir yn ôl i’r ddaear. Ond i mi, coron yr antur yw’r hyn a ddarganfuwyd ar y lleuad Enceladus. Yn 2005, canfuwyd awyrgylch tenau a geiserau o ddŵr yn tasgu iddo. Yn 2008 (ac eto yn 2015), mewn gweithredoedd sy’n adlewyrchu manylder y daith, bu modd i’r goden hedfan drwy un o’r geiserau, prin 30 milltir uwchben wyneb y lleuad, a dadansoddi’r dŵr a’r hydrocarbonau oedd ynddo. Erbyn 2015 roedd Cassini wedi casglu digon o ddata i ganiatáu i NASA gyhoeddi bod wyneb rhewllyd Enceladus yn arnofio ar gefnfor hylif hallt sy’n gorchuddio’r holl leuad. Yn ddiau, dyma un o’r safleoedd mwyaf gobeithiol o ran darganfod bywyd y tu hwnt i’r ddaear.
Wrth imi ysgrifennu, mae Cassini yn cychwyn ei chylchdaith rhif 293 o amgylch y blaned gylchynnog….. Nid oedd cylchdaith arall, oherwydd ar Fedi 15, yn fwriadol, fe’i llywiwyd i’w thranc, megis seren wib, yn awyrgylch Sadwrn. Ffarwel hen gyfaill. Llwyddiant Cassini oedd un o’r rhesymau y bu rhaid ei dinistrio’n fwriadol wrth i’w thanwydd ddod i ben. Gan fod gwir bosibilrwydd bod bywyd syml yn bodoli ar Enceladus, rhaid oedd sicrhau nad oedd modd i’r un microb daearol, a fyddai wedi’i ffawdheglu hi i’r gofod ar y goden, gyrraedd Enceladus ar hap yn y dyfodol.
Fel yn achos ei chyfyrdyres, Voyager 1, a ddathlodd ei phen-blwydd 40 ym mis Medi, rhywle y tu hwnt i gyfundrefn yr haul, datblygiadau mewn electroneg a alluogodd y rhan fwyaf o’r gweithgareddau a’r arbrofion blaengar. Yn agos i ben arall “sbectrwm” y planedau y mae Gwener. Dim ond Mercher sy’n agosach i’r Haul. Nid llynnoedd tra-rhewllyd methan ac ethan a ragwelir yno ond tymheredd a fyddai’n gallu cynnal llynnoedd o blwm tawdd. Pur wahanol i deyrnas y Mekon, arch elyn Dan Dare a oedd gymaint o arwr imi’n grwt ! Pan ymwelodd y glaniwr robot cyntaf â’i hwyneb yn 1975 cafwyd llun a mesuriadau brysiog cyn iddo fethu yn yr hinsawdd eithafol. Erbyn 1981, bu modd i Rwsia ymestyn ymweliad tebyg i 127 munud. Ni cheisiwyd glanio ar wyneb Gwener ers ymweliad diwethaf Rwsia yn 1985. Sialens enfawr yw anallu systemau electroneg lloerennau i wrthsefyll y gwres a’r gwasgedd. Ateb diweddaraf Jonathan Sauder a’i gydweithwyr yn Labordy JPL NASA yw robot clocwaith (clockwork). Eu hysbrydoliaeth yw’r awtomaton Antikythera o ail ganrif cyn Crist a ddarganfuwyd yn 1901 mewn llongddrylliad hynafol ac a ddadansoddwyd yn ddiweddar gan Mike Edmunds o Adran Seryddiaeth Prifysgol Caerdydd ac eraill. Melin wynt fyddai’n pweru’r AREE (Crwydryn Awtomaton Amgylchedd Eithafol). Peiriant y byddai Charles Babbage (cynllunydd cyfrifiannell fecanyddol yn y 19 ganrif) yn ei ddeall fyddai’r cyfrifiadur a’r clociau a thrwy Gòd Morse y byddai’r darlledu data i’r balwnau orbit uwchben. Yn y New Scientist, cyfeiriwyd at y dyfeisiadau fel “Steampunk” – cyfeiriad at y genre a boblogeiddiwyd yn 2003 gan y ffilm The League of Extraordinary Gentlemen.
Daeth sawl datgeliad arall a fyddai wedi plesio Jules Verne i’r cylchgronau gwyddonol dros yr haf. Y pennaf un, efallai, oedd esbonio o’r diwedd sut mae gwenyn yn hedfan. Hyd at 1990au ystyrid, heb dystiolaeth, mai aerffoil llilin oedd eu hadain a’u ffurf yn creu’r grym codi wrth i awyr lifo drosto. Ond nid oedd neb wedi llwyddo i ddadansoddi’r peth yn fathemategol – ‘roedd yn amhosibl i wenynen hedfan. Yna yn 1996 darganfuwyd bod trowynt bychan ym mlaen yr adain wrth hedfan. Bu cryn ddyfalu a oedd hyn yn ddatrysiad. O’r diwedd cynigiodd dau fathemategydd o Brifysgol Manceinion, Mostafa Nabawy a William Crowther ateb boddhaol. Bellach mae modd i’r gwenyn hel mêl!
A da oedd deall, wrth ddarllen adroddiad am gynhadledd ar ymddygiad yn Estoril, Portiwgal, bod y gwenyn yn medru canfod “sero” fel rhif. Rhywbeth sy’n cymryd cryn amser i blant ei wneud. Roedd Scarlett Howard a’i gydweithwyr ym Melbourne eisoes wedi darganfod eu bod yn medru cyfrif hyd at bedwar. Y tro hwn cynigwyd i’r anifeiliaid ddewis o ddiod siwgr melys neu ddiod cwinîn sur. Fel “hysbyseb”, ar fwrdd y ddiod felys roedd hefyd nifer (rhwng un a phedwar) o wrthrychau, ar fwrdd y cwinîn ‘roedd un yn llai. Dysgodd y gwenyn hyn, ac yna pan gynigwyd bord ac un gwrthrych iddynt wrth ochr un heb yr un (sef sero gwrthrych) fe ddewiswyd y sero 80% o’r amser. Roeddynt yn gwybod fod “dim” yn rhif llai nag un.
A minnau ar fin cynaeafu mêl fy ngwenyn i , da hefyd oedd deall bod ychwanegu ychydig ddŵr at bethau yn gallu gwella eu blas. (Fe fyddaf yn rhoi siwgr mewn dŵr iddynt yn gyfnewid am eu mêl.) Wel, o leiaf gall ychwanegu ychydig ddŵr i chwisgi wneud hynny. Rai blynyddoedd yn ôl aeth Megan a mi ar daith o amgylch yr Alban, ac fe ddysgais bwysigrwydd y diferyn dyfrol. Dyma un o seremonïau pwysicaf celfyddyd y dŵr bywiol. Ond hyd eleni, nid oedd sylfaen wyddonol i’r gred. Yna mewn erthygl a ddaliodd fy llygad yn Scientific Reports dangosodd Björn Karlsson a Ran Friedman o Kalmar yn Sweden fod y cemegyn gwaiacol sy’n gyfrifol am beth o flas arbennig chwisgi yn clymu wrth alcohol pan fo hwnnw yn gryfach na 40%. Wrth ei wanio â dŵr, mae mwy o’r gwaiacol yn cyrraedd y wyneb – ac yn rhyddhau ei arogl a’i flas.
Fe fyddaf, felly, yn sicr wedi codi dram bach o Ardbeg – ac ynddo ddiferyn o ddŵr – i ddymuno’n dda i’m cyfaill sydd bellach yn rhan o’r blaned Sadwrn. Heddwch i’w llwch.
Pynciau: Cassini, Robot JPL, Gwenyn hedfan, Sero, Chwisgi
Cyfeiriadau:
Cassini: Cassini at Saturn. https://www.nasa.gov/mission_pages/cassini/main/index.html
Mr Cassini. Lloyd Jones (2006) Seren ISBN: 1-85411-425-5 / 978-1-85411-425-9
Robot JPL: Automaton Rover for Extreme Environments (AREE). Jonathan Sauder. NASA Jet Propulsion Laboratory https://www.nasa.gov/feature/automaton-rover-for-extreme-environments-aree
Gwenyn Hedfan: The role of the leading edge vortex in lift augmentation of steadily revolving wings: a change in perspective. Mostafa R. A. Nabawy, William J. Crowther. Journal of the Royal Society Interface (2017). https://doi:10.1098/rsif.2017.0159
Gwenyn Sero: Bees are first insects shown to understand the concept of zero. New Scientist NEWS & TECHNOLOGY 9 Awst 2017. https://www.newscientist.com/article/mg23531384-800-bees-are-first-insects-shown-to-understand-the-concept-of-zero
Chwisgi: Dilution of whisky – the molecular perspective. Björn C. G. Karlsson & Ran Friedman. Scientific Reports 7, Rhif erthygl: 6489 (2017). https://doi:10.1038/s41598-017-06423-5