A minnau wedi croesi trothwy’r 65 oed ers y golofn ddiwethaf, da oedd darllen am ddarganfyddiad optimistaidd ynglŷn â chyflwr clefyd Alzheimer. Er ein bod o hyd yn bell o ddod o hyd i driniaeth, y mae pob cam yn mynd â ni i’r cyfeiriad iawn. Hyd yma, credid bod yr atgofion coll wedi’u dileu am byth o’r cof. Ond awgryma arbrofion ar lygod GM (hynny yw, â’u genynnau wedi’u haddasu) gan Christine Denny a’i thîm ym Mhrifysgol Columbia efallai nad yw hyn yn wir. Y modd y cysylltir â’r atgofion hyn sy’n diffygiol. Nodwedd llygod yr arbrawf oedd bod niwronau yn eu hymennydd yn goleuo’n felyn wrth gofnodi atgof ac yn goch wrth gofio’r atgof. Yn ogystal â grŵp o lygod iach, crëwyd grŵp arall a oedd yn dioddef o gyflwr tebyg i glefyd Alzheimer. Ar ddechrau’r arbrawf cyflwynwyd arogl blas lemwn yr un pryd â sioc drydanol ysgafn i’r llygod. Wythnos yn ddiweddarach cyflwynwyd yr arogl eto – ond heb y sioc y tro hwn. Gwingodd y rhan fwyaf o’r llygod iach wrth ddisgwyl y sioc. Ond ni chafwyd ymateb gan bron hanner y llygod eraill; arwydd o’r nam ar eu cof. Megis goleuadau traffig, yn y llygod iach celloedd o’r un ardal oedd yn goleuo’n felyn ac yn goch yn y broses. Ond yn y llygod â’r cof diffygiol, celloedd mewn lleoliadau gwahanol i’r rhai melyn oedd yn goleuo’n goch. Yr atgofion anghywir oedd yn dod yn ôl wrth geisio cofio. Cam nesaf Denny oedd cyflyru celloedd “melyn” y llygod diffygiol â laser. Gwingodd y llygod wrth i’r cof “cywir” atgyfodi. Roedd yno o hyd, ond yr ymennydd yn methu dod o hyd iddo. Nid oes modd defnyddio’r dechneg laser mewn pobl, ond y gobaith yw bod ffyrdd eraill o gyflyru niwronau’r cof. Yn ei phapur yn y cylchgrawn Hippocampus yng Ngorffennaf, cyfeiria Denny at bŵer cerddoriaeth i atgyfodi atgofion mewn cleifion Alzheimer. Ond cyfeiria hefyd at y posibilrwydd bod niwronau unigol yn storio nifer o atgofion – rhai drwg yn ogystal â rhai da.
Mewn maes tebyg, sy’n ein hatgoffa o hanesion y Brodyr Grimm, dangosodd Dongsheng Cai o Efrog Newydd mewn papur yr un mis yn Nature, bod modd ymestyn bywyd llygod trwy chwistrellu i’w hymennydd fôn gelloedd ymennydd llygod newyddanedig. Nid rhywbeth y gellir ei hystyried mewn pobl ! Yn ddadlennol darganfuwyd bod y bôn gelloedd hyn yn rhyddhau i’r gwaed fath o RNA (moleciwl sy’n perthyn i DNA) a ddarganfuwyd yn gymharol ddiweddar. Dyma’r microRNA sy’n chwarae rhan bwysig mewn ymreolaeth celloedd. Ers 2007 fe’i darganfuwyd y tu allan i gelloedd – gan gynnwys mewn llaeth a cholostrwm. Eisoes y mae’n hysbys bod ei lefelau yng nghylchrediad y gwaed yn newid gydag oedran. Tybed a oes yno arf arall yn y frwydr yn erbyn Alzheimer ?
Un anhawster yn y math yma o ymchwil yw ei bod yn debygol bod pobl yn ymddwyn ac yn ymateb yn wahanol i’r llygod arbrofol. Ond dengys papur yn Science Advances ym mis Gorffennaf ein bod yn rhannu o leiaf un priodoledd creiddiol ac anifeiliaid. Ein dawn i gymdeithasu. Roedd Bridgett vonHoldt a’i chydweithwyr ym Mhrifysgol Princeton yn ymchwilio i gymdeithasu mewn cŵn a bleiddiaid. Buont yn mesur ymddygiad tuag at bobl 18 o gŵn a 10 o fleiddiaid a oedd wedi’u magu gan bobol. Nid yn annisgwyl ‘roedd y cŵn yn fwy cymdeithasol na’r bleiddiaid – ond ‘roedd amrywiaeth yn y ddau a oedd yn gysylltiedig â phâr o enynnau (GTF21 a GTF21RD1). Mae’n debyg i ddynoliaeth ddethol bleiddiaid mwy cyfeillgar wrth eu dofi a’u troi yn gŵn. Ond yn rhyfeddol canfuwyd bod yr un genynnau ynom ni. Mae mwtaniadau ynddynt yn gysylltiedig â Syndrom Williams (a enwyd ar ôl doctor o Seland Newydd, a’r enw hyfryd John Cyprian Phipps Williams, a ddiflannodd yn fwriadol yn y 1970au). Yn eironig, felly, mai un nodwedd o’r cyflwr yw gor-gyfeillgarwch.
Un arwydd o or-gyfeillgarwch ein cyndeidiau yw’r ffaith ein bod, o bryd i’w gilydd, wedi “priodi” â’n perthnasau pell, y Neanderthal. Fel y soniais o’r blaen yn y golofn hon, mae olion y paru o hyd i’w gweld yn ein DNA ni heddiw ac yn dadlennu llawer am ein cynhanes. Ar ddechrau Gorffennaf yn Nature Communications gwelwyd y diweddaraf o’r darganfyddiadau hyn. Y gred gyffredinol yw bod ein cyndeidiau Homo sapiens wedi cyrraedd Ewrop o’r Affrig tua 60,000 o flynyddoedd yn ôl. Yn eu disgwyl roedd y Neanderthal a oedd yn eu tro wedi cyrraedd o’r Affrig ryw 300,000 i 200,000 o flynyddoedd ynghynt (cyn ymddangosiad Homo sapiens ar y ddaear). Ond bellach mae rhaid ail ystyried hyn wrth i Cosimo Posth a’i dîm yn Athrofa’r Max Planck yn Leipzig ganfod olion DNA dynion modern mewn ffosil coes Neanderthal sy’n dyddio o 124,000 o flynyddoedd yn ôl. Ymddengys, felly, bod rhai o’n rhywogaeth ni wedi cyrraedd ein cyfandir yn gynnar iawn yn ei hanes. Tybed ymhle mae eu holion ? Yn ogystal â datgelu mwy amdanom ni, mae DNA’r asgwrn clun yn dangos fod llawer mwy am hanes y Neanderthal yn Ewrop i’w ddarganfod. Roeddent yn fwy amrywiol a lluosog nag y tybir, mae’n debyg. Dyma faes sy’n datblygu yn rhyfeddol o sydyn ar hyn o bryd.
Gwych gweld bod ein dirnadaeth am ein cof unigol, a’i ffaeleddau, ac am gof ein hil ill dau yn manteisio ar ddatblygiadau rhyfeddol bioleg foleciwlar y blynyddoedd diwethaf. Peidiwch ag anghofio hynny !
Pynciau: Alzheimer / Bôn gelloedd, Cŵn cyfeillgar, Neanderthal