Barn 106 (Hâf 2017): Gorsaf Ofod / Space X, Wynebau, Cariad, Coluro

Ar adeg pan fo ambell gysgod dros gydweithrediad rhwng gwladwriaethau, da oedd darllen am daith ddiweddar i’r Orsaf Ofod Rhyngwladol – y labordy hynod hwnnw sydd, ers 1998, wedi bod yn cylchdroi o amgylch y ddaear ryw 250 milltir uwch ein pennau. Y tro diwethaf imi ei weld oedd uwchben tŷ cyfyrderes i mi a’i gwr yng Nghaerfyrddin.  Ar y pryd, gwych oedd gweld fod eu merch deunaw oed, o dras Tsieineaidd, a chymaint o chwilfrydedd a diddordeb yn yr olygfa ag yr oedd gennyf i. Pwy sy’n dweud nad oes gan y genhedlaeth honno ddim diddordeb y tu hwnt i’w ffonau ! Roedd sawl agwedd calonogol i’r daith.  Ers 2011 bu gwaharddiad ar NASA, awdurdod gofod yr Unol Daleithiau, cydweithio a llywodraeth Tsieina. Ond y tro hwn, am y tro cyntaf, lansiwyd arbrofion Tsieineaidd i gymryd eu lle ar fwrdd yr Orsaf. Gwnaethpwyd hyn gan mai cwmni annibynnol NanoRacks sy’n darparu gwasanaethau masnachol ar ran Labordy Cenedlaethol yr U.D. Nid oes gwaharddiad arnynt hwy.  Bydd yr arbrawf yn archwilio effeithiau ymbelydredd gofod ar DNA. Agwedd gwych arall o’r daith oedd y ffaith mai hwn oedd y tro cyntaf i gwmni masnachol arall, SpaceX, ail ddefnyddio coden cargo. Gan wneud y broses yn llai gwastraffus. “Dragon” yw enw’r goden, a lansiwyd yn gyntaf yn 2010. Ers 2012 hi, gyda chodenni Soyuz, sydd yn bennaf gyfrifol am  gyflenwi’r Orsaf wedi diwedd oes y Gwenoliaid Ofod yn 2011. Ymwelodd y Ddraig arbennig hon a’r Orsaf am y tro cyntaf yn 2014 gan dod a llwyth yn ôl i’r ddaear yn llwyddiannus. Ar ôl man atgyweirio – a tharian-gwres newydd – dyma hi yn awr wedi ail ymweld â’r Orsaf. Medraf ond sylwi mai blwyddyn y Ddraig yw hi yn Tsieina ar hyn o bryd. Mi roedd dreigiau hefyd i’w gweld yn yr orsaf yn ôl yn 2016 pan wnaeth y gofodwr Tim Peake arbrawf gyda chwain dŵr (Daphnia) a awgrymwyd gan dîm o ddisgyblion o ysgolion Garth Olwg, Tonyrefail ac Aberdâr.

Wrth ddarllen am y cydweithrediad diweddaraf fe’m hatgoffwyd am adroddiad ar Newyddion Deg y BBC ar ddiwedd mis Mai oedd yn datgan ei syndod bod gwyddonwyr a pheirianwyr o Iran a Phalestina yn cymysgu’n fodlon gyda rhai o Israel wrth lansio sefydliad ymchwil rhyngwladol yn yr Iorddonen. Hwn yw peiriant Syncrotron gyntaf y Dwyrain Canol ac fe’i hadeiladwyd trwy gydweithrediad y gwledydd hyn ag eraill – o dan arweiniad ffisegydd blaenllaw o’r enw Syr Chris Llewellyn Smith.  O’m profiad i, nid syndod yw gweld gwyddonwyr yn cydweithio – gan y gwleidyddion mae’r broblem pob tro. Enw’r prosiect yw “Sesame” – pob lwc iddo wrth agor drysau eraill o gydweithio yn y Rhanbarth.

Yn y cylchgrawn Cell ym mis Mehefin cafwyd enghraifft lythrennol o weld y byd trwy lygaid eraill. Llygaid mwncïod macac yn yr achlysur hwn.  Yn eu papur, llwyddodd Doris Tsao a Steven Le Chang o Caltec Califfornia,  esbonio sut y mae ymennydd y mwncïod – a phobol, mae’n debyg – yn canfod delweddau wynebau, a thrwy hynny eu hadnabod a’u cofio. Roedd eisoes yn hysbys fod gan yr ymennydd rhanbarthau o gelloedd bydd yn cynhyrfu wrth i rywun gweld wyneb. Gosododd y niwrolegwyr electrodau mewn tair o’r rhanbarthau hyn yn y mwnciod, gan fesur ymddygiad 205 o gelloedd. Dangoswyd 2000 o luniau wynebau pobol i dri anifail. Darganfuwyd fod modd disgrifio ymateb y celloedd yn ôl hanner cant o briodoleddau holistaidd gwahanol, megis ansawdd croen, linell y gwallt a’r pellter rhwng y llygaid. Trwy hyn mae modd i’r ymennydd canfod rhif diderfyn o wynebau. Esbonia’r awduron bod hyn yn wahanol i ymddygiad y celloedd “Jennifer Aniston” y soniais amdanynt yn y golofn hon yn Barn rhai misoedd yn ôl. Mae’n debyg mai’r celloedd hynny, mewn rhan wahanol o’r ymennydd,  sy’n cadw mewn cof wynebau cyfarwydd sydd eisoes wedi’i “cofnodi” gan y gyfundrefn newydd yma. Pan fydd wyneb “newydd” yn cyfateb i un o’r rhain mi fyddwn yn ei adnabod fel rhywun cyfarwydd. Digwyddiad cyffredin iawn ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol, mae’n debyg ! Un o ryfeddodau’r papur yw y bu modd i’r niwrobiolegwyr ail greu delweddau trwy “ddarllen” gweithgareddau ymenyddiau’r anifeiliaid.  Gweld yr hyn oedd y macac yn ei weld.  Mae’r delweddau yn rhyfeddol o debyg i’r delweddau gwreiddiol.

Ond mi roedd ddatrysiad mwy fyth o gyfrinachau pwysica’r meddwl yn yr arfaeth. Dim llai na sut mae’r ymennydd yn syrthio mewn cariad oedd testun papur cyfredol yn y cylchgrawn Nature. Nid mewn mwncïod y tro hwn, ond llygod y paith (Microtus ochrogaster).  Mae’n debyg bod y creaduriaid bach yma yn anghyffredin wrth fod yn rhai o’r ychydig sy’n pari am fywyd. Aeth Robert Liu a’i dîm o Brifysgol Emory, Atlanta, ati i osod electrodau yn ymenyddiau benywod wrth baru a chyplu yn naturiol. Daethant o hyd i gylchedau o gelloedd sy’n dod yn fyw yn y broses, yn gryfach felly ar ôl cyplu’n gorfforol. Y tro hwn, defnyddiwyd technegau bioleg moleciwlar i addasu genynnau’r celloedd arbennig hyn, fel y bo modd ei bywiogi yn annibynnol o’r prosesau “priodasol” trwy dywynnu goleuni atynt.  Gwnaethpwyd hyn i lygod benyw a oedd yn cydfyw – ond heb eto paru – gyda llygod gwryw.  Yn ddiweddarach cyflwynwyd i’r llygodesau hyn ddewis o wrywod – rhai yr oeddent wedi’i gweld ynghyd a rhai newydd. Dewisodd deg o’r deuddeg y llygod cyfarwydd. Mewn grŵp lle nad oedd yr ymennydd wedi’i oleuo, a’r cylched niwronau heb eu cyflyru, dim ond tri allan o ddeg gwnaeth hyn.  Cred yr awduron eu bod wedi darganfod rhan o’r broses o syrthio mewn cariad mewn pobl hefyd.

Mae’n debyg fod elw’r cwmnïau coluro yn rhywbeth i wneud a’r dyhead am gariad.  Wn i ddim beth oedd effaith coluro ar atgofion trydanol y macac o wynebau, ond mae’n bosibl fod creadur arall – Fwltur yr Aifft – wedi dysgu tric newydd. Yn y cylchgrawn Ecology ym mis Mai gwelwyd adroddiad ohonynt yn ymbincio trwy rwbio eu pennau melyn a gwyn mewn pridd coch. Mae modd gweld yr ymddygiad prin yma ar Figshare ar eich ffôn symudol. Yn Fuerteventura y gwelwyd yr ymddygiad hwn. Tybed a oedd yr adar wedi dysgu’r tric gan y miloedd o ymwelwyr ifanc o Gymru sy’n tyrru yno pob blwyddyn. Mae’n rhyfeddod i mi sut mae’r rhai hynny yn defnyddio ei ffonau symudol fel drych i ymbincio ar y bws i’r ysgol pob bore.  Beth sy’n mynd ymlaen yn eu pennau tybed ?


Pynciau: Gorsaf Ofod / Space X, Wynebau, Cariad, Coluro