Ar ddechrau Mai treuliais, gyda Megan, wythnos braf ar fordaith o gwmpas ynys Muile (Moel, Mull) oddi ar arfordir gorllewinol Ystrad Clud yn yr Alban. Un o ddibenion y daith oedd cael cip ar fywyd gwyllt Ynysoedd Heledd. Ni’m siomwyd gan y dolffiniaid, eryrod ac adar eraill (gan gynnwys Rhegen yr ŷd brin) yr ynysoedd. (Y peth prinnaf oedd unrhyw arwydd bod yr iaith Aeleg yn ffynnu yno, ond pwnc colofn arall yw hynny.)
Y rhyfeddod naturiol pennaf i mi oedd olion daeareg y llosgfynyddoedd sy’n britho’r ardal. Roeddwn wedi disgwyl rhyfeddod Ynys Stafa a cholofnau basalt Ogof “Ffingal” (o barchus goffadwriaeth i Mendelssohn a Jules Verne) , ond heb ddisgwyl y criw o losgfynyddoedd cymharol ddiweddar o’i chwmpas. I roi fy ryfeddod yn ei gyd-destun: athro daeareg oedd fy nhad ac felly bu gennyf diddordeb mewn creigiau ers yn blentyn. Wrth dyfu, fe raddiais o ddaeareg gymharol drefnus y de- ddwyrain fy mhlentyndod i gymhlethdod daeareg Eryri a Môn. Llosgfynyddoedd ffurfiodd greigiau y mynyddoedd yn nyffrynnoedd Ogwen a Llanberis. Yr anhawster i amatur fel fi, yw mai rhyw bum can miliwn o flynyddoedd yn ôl (yn yr oes Ordofisiaidd – a enwyd ar ôl trigolion Celtaidd Gwynedd cyfnod y Rhufeiniad) oedd oes y tanau hyn. Bu cryn newid, plygu a naddu yn y creigiau ers hynny. Er waethaf disgrifiadau da, megis Geology of Snowdonia yr Athro Matthew Bennett, ni chefais lawer o lwyddiant wrth geisio deall y berthynas rhwng y gwahanol elfennau.
Ond ar ôl fy nhaith i’r Alban gobeithio bod pethau wedi newid. Os bu i Eryri gyfrannu at astudiaethau daeareg cyffredinol yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, o’r Alban y daeth yr oleuedigaeth am natur folcanig wyneb y ddaear. Yn arbennig, felly, ynysoedd Sgiathanach (Skye), Rùm, Eige (Eigg), Chanaigh (Canna), Muile, Arainn (Arran), Creag Ealasaid (Ailsa Craig) a Hiort (St Kilda). Nid yw’r craterau a chonau megis Fuji neu Vesuvius wedi goroesi’r 60 miliwn o flynyddoedd o erydiad – a sawl oes ia – ers iddynt boeri tân am y tro olaf, ond mae perfeddion a siamberi magma y cewri folcanig i’w gweld yn glir, megis pothelli ar droed rhedwr marathon. Mae hyn yn arbennig o glir ar lun lloeren Gŵgl o drwyn penrhyn godidog Àird nam Murchan (safle mwyaf gorllewinol tir mawr Ynys Prydain). I wyddonwyr y ddeunawfed a’r bedwaredd ganrif ar bymtheg – megis yr Albanwyr James Hutton (cydoeswr â Phantycelyn) ac Archibald Geikie (banciwr a drôdd yn ddaearegydd) – dyma’r allwedd i orffennol y ddaear. Yn wir, hyd yn oed heddiw, nid oes modd i wyddonwyr gyrraedd crombil mynydd tân byw i’w astudio yn y fath modd. Yn gliriach fyth o’r môr yw’r haen ar ôl haen o lwch ac olion lafa megis pentwr o gylchgronau o lyfrgell cawr ar hyd y lle. Enghraifft eithafol o’r ffenomen yw colofnau basalt geometrig Ogof Ffingal. Mae olion ffosil dail derw, Ginko a choed eraill o dan bob haen yn dystiolaeth i’r fforestydd a dyfodd yn ystod y cyfnodau tawel. Yng nghlogwyni ynys Muile gwelir olion boncyff 40 troedfedd o uchder a 6 troedfedd o led a ddarganfu John MacCulloch yn 1819 – olion coeden a foddwyd gan arllwysiad lafa. O’i hamgylch mae’r colofnau basalt yn dynwared y canghennau gwreiddiol.
Ond erys un cwestiwn o hyd am ucheldir ac ynysoedd yr Alban. Gwyddom heddiw eu bod yn gorwedd ar haen weddol denau o gramen y ddaear. Disgwylid i lefydd felly orwedd yn ddwfn yn y môr. Lle tebyg yw Ynys yr Ia. Cynigiwyd esboniad am darddiad yr Ynys honno, ynghyd ag Ynysoedd Hawaii yn y Môr Tawel, gan W. Jason Morgan o Brifysgol Princeton yn 1971. Rhan yw o ddamcaniaeth helaethach tectoneg platiau. Wrth i blatiau cramen y ddaear arnofio a symud o le i le ar wyneb y fantell hylif oddi tanynt teithiant ar draws llecynnau sefydlog poeth – megis cannwyll o dan blât. Yn ogystal â chreu llosgfynyddoedd, megis Eyjafjallajökull a ymyrrodd ar deithiau awyr Ewrop yn 2010, mae’r ymchwydd a ddaw gyda’r gwres yn codi lefel y gramen uwch ben. Felly ynys uwchben gwastad y môr yw Gwlad yr Ia. Ond mewn papur yn Earth and Planetary Science Letters ym mis Ebrill dengys Nicky White a’i chydweithwyr yng Nghaergrawnt ac Ystrad Clud nad un “fflam” sydd i’r “gannwyll” arbennig hon, ond pum tafod, megis llaw chwilboeth yn ymestyn o dan y gramen ar ddyfnder o 100 cilomedr. Mae’r hirfys yn ymestyn mor bell â Norwy, tra bo bys yr uwd yn cyrraedd Gorllewin yr Alban. Ac i’r llaw hon a’i bysedd mae’r diolch am gael rhywbeth mwy na môr i’w fwynhau ar wyliau yn mordeithio ffiordau Norwy ac ynysoedd Heledd (lle, wrth gwrs, roedd yr uwd yn wych!!)
Tra’r oeddwn yn rhyfeddu at greigiau’r Alban, cyhoeddwyd papur dadleuol yn Nature yn trafod darganfod cerrig arbennig yng Nghaliffornia. Os yw hyn yn wir, bydd y papur hwn yn ailysgrifennu hanes dyn yn America. Dadleua Steven Holen a’i gydweithwyr mai arfau bwtsera cig Mastodon, math a famoth diflanedig, yw’r cerrig. Daw’r cynnwrf oherwydd oedran honedig eu defnyddio – 130,000 o flynyddoedd yn ôl. Dyma oes y Neanderthal a’r Denisofiad – dros gan mil o flynyddoedd cyn y dystiolaeth uniongyrchol gyntaf am ddyn yng nghyfandiroedd yr Amerig. Tybed beth a ddaw o’r hanes hwn ?
Beth bynnag am hynny, bu’n fis anhygoel yn hanes archaeoleg dyn o ben arall i’r byd. Ardal Gauteng (enwog am ei rygbi) yn Ne’r Affrig y tro hwn. Yn 2013 darganfu par o anturiaethwyr nifer o sgerbydau’n ddwfn mewn ogof yno. Erbyn 2015 roedd y nifer wedi codi i dros 15. Cynrychiolant rywogaeth newydd, ac yn y flwyddyn honno fe’i galwyd yn Homo naledi (“seren” yn soSotho, ar ôl enw Saesneg yr ogof). Yr hyn a oedd yn anghyffredin oedd pa mor gyfan oedd y sgerbydau er yr ymddengys eu bod yn ddwy filiwn o flynyddoedd oed. Ond cwbl chwyldroadol oedd yr awgrym bod y cyrff wedi’u gosod yn fwriadol yn fuan ar ôl marwolaeth mewn lle arbennig o anhygyrch yn ddwfn yng nghrombil y ddaear. Anodd iawn yw cyrraedd y siambr, sydd bron yn gan troedfedd o’r wyneb ar hyd cilfachau culion iawn. Dangosai hyn dystiolaeth o ddefod. O’r diwedd, ar ddechrau mis Mai mewn papur yn eLife gan Lee Berger a’i dîm o Brifysgol Witwatersrand, cafwyd dyddiad i’r esgyrn. Nid y miliynau tybiedig gwreiddiol, ond oedran bron yr un mor chwyldroadol. Rhwng 236,000 a 335,000 o flynyddoedd. Mae un o’r sgerbydau mor gyfan nes iddo gael ei enwi – Neo. Mae iddo briodoleddau cyntefig, megis ymennydd bychan, ysgwyddau a phelfis fel epa ond yr un pryd ddwylo tebyg i ddyn modern. Byddai wedi bod modd defnyddio’r dwylo hyn i wneud offer. Yn anffodus, oherwydd eu hoedran, nid oes llawer o obaith cael DNA o’r olion i ddeall yn well eu perthynas â ni. Erbyn cyfnod y sgerbydau roedd Homo sapiens ar fin ymddangos o gyndadau eraill. Go brin fod Neo yn un o’r rhai hynny. Y ddealltwriaeth newydd, felly, yw bod sawl llinach o ddyn yn cydoesi, os nad yn cydfyw, yn ne’r Affrig am gyfnodau maith. Ond i’r rhan fwyaf ohonom, y dirgelwch mwyaf yw a oedd gan H. naledi ymdeimlad o anfeidredd wrth iddo lusgo cyrff y meirw i ddiogelwch cul dyfnderoedd y graig. Fe gofiwch imi drafod arlliw o hyn ym myd y Tsimpansî’r mis diwethaf. Mae hyn oll yn codi nifer o gwestiynau am beth yw ystyr bod yn ddynol. Bu’n wir yn fis cynhyrfus i anthropolegwyr.
Pynciau: Llosgfynyddoedd yr Alban, Cerrig Califfornia, Homo naledi