Barn 104 (Mai 2017): Breuddwydion, Cyfieithu, Marwolaeth

Beth oedd yn eich breuddwydion neithiwr, tybed ? Cwestiwn cyffredin sy’n siŵr o ennyn ymateb cymysg iawn. Honna ambell un nad ydyw’n breuddwydio o gwbl. Yn 1952 darganfu Eugene Aserinsky, a’i gydweithwyr ym Mhrifysgol Chicago, gysylltiad rhwng breuddwydio a chyfnod o gwsg pan fydd y llygaid yn symud fel petaent yn dilyn golygfeydd – cwsg “REM” (rapid eye movement). Rhannwn yr ymddygiad hwn gyda mamaliaid eraill – a pheth annwyl yw gweld ci bach yn ei fasged yn breuddwydio felly.  Gwnaed camau breision ers y 50au wrth ymchwilio i weithgaredd yr ymennydd ond erys y rheidrwydd i ddihuno cysgadur a’i holi am yr hyn yr oedd yn ei freuddwydio. Canlyniadau arbrofion felly a gyhoeddwyd yn ddiweddar yn Nature Neuroscience gan Francesca Siclari a’i thîm o Brifysgol Wisconsin. Bu iddynt ddarganfod bod y tonnau araf o actifedd sy’n nodweddu’r holl ymennydd mewn cwsg yn gwanio mewn un man arbennig yng nghefn y pen wrth inni freuddwydio. Yn lle hynny ceir yno fwy o donnau cyflym yr ymennydd effro. Prawf newydd i ganfod breuddwydio – a phrawf mai’r darn yma o’r ymennydd yn unig sydd ei angen i gynnal breuddwydion.  Gwelwyd bod breuddwydion REM hefyd yn gysylltiedig â’r rhannau eraill o’r ymennydd a fyddai’n fywiog pe bae’r digwyddiadau yn digwydd go iawn – rhywbeth a oedd yn hysbys eisoes. Ond cwbl newydd oedd yr arsylliad bod ambell freuddwyd yn cynnwys gweithgaredd ym mlaen y pen. Man a gysylltir â’r cof. Dyma’r breuddwydion y cofiwn amdanynt ar ôl deffro. Nid yr un rhan o’r ymennydd, felly, sy’n gyfrifol am greu ac am gofio breuddwyd. Ac os meddyliwch nad ydych yn breuddwydio ?  Cadarnhaodd gwaith Siclari fod ei gwirfoddolwyr yn breuddwydio nid yn unig am 95% o’u cyfnod REM, ond hefyd am 71% o weddill eu hamser yn cysgu.  Yn ôl cyfweliad am y gwaith i’r New Scientist, esboniodd Christoph Niessen o Bern yn y Swistir, fod yr ymchwil yma yn agor posibiliadau newydd  i drin cyflyrau insomnia a hunllefau PTSD (anhwylder straen ôl-drawmatig).

Mae Manon Jones, Ysgol Seicoleg Prifysgol Bangor, yn defnyddio technegau cyffelyb. Ar ôl dilyn peth o’i gwaith ymchwil i sgiliau iaith a darllen yr ymennydd ynghyd â gwaith Dewi Bryn Jones ar dechnoleg cyfieithu yng Nghanolfan Bedwyr yr un sefydliad, diddorol i mi oedd darllen am weithgaredd diweddaraf Gŵgl yn y maes hwn. Mae cryn ddefnydd o wasanaethau, megis Google Translate, sy’n trosi testun o un iaith i un arall. Llai datblygedig o safbwynt y Gymraeg yw’r cam o drosi llais i destun, er bod Dewi a’i gydweithwyr wedi cyflwyno Macsen  (y Siri Cymraeg ?) i’r byd er mwyn gwneud hyn yn ddiweddar. Os yw hyn yn sialens i’r Gymraeg – amhosibl ydyw yn achos y rhan fwyaf o ieithoedd lleiafrifol y byd. Dyma lle daw Gŵgl (a’i adran ymchwil Google Brain) i’r fei. Ei nod yw trosi’n syth o’r llafar mewn un iaith i destun printiedig yn un o’r ieithoedd mwyafrifol.  Byddai hyn yn osgoi unrhyw wallau wrth drosi o lais i destun. Maent yn defnyddio’r un fath o rwydweithiau niwral ag a ddefnyddir wrth drosi testun printiedig. Os ydych wedi defnyddio Google Translate byddwch wedi sylwi nad geiriau, neu hyd yn oed gymalau, a drosir ond patrymau geiriau a all fod yn eithaf cymhleth a hir. Nid bwriad y rhaglen yw “deall” y testun ond ei throsi’n llwyddiannus. Yn wir, wrth i’r systemau wella, mae’r sefyllfa wedi cyrraedd pwynt lle nad yw awduron y meddalwedd eu hunain yn gwybod ar ba sail y mae’r peiriant yn gwneud ei benderfyniadau.  Mae’r adroddiad diweddar ar safle Arχiv yn disgrifio sut y bu i Gŵgl hyfforddi ei system i ganfod patrymau awdio mewn Sbaeneg a’u cysylltu â phatrymau testun Saesneg yn uniongyrchol.  Mewn cyfweliad i’r New Scientist, mae Sharon Goldwater o Brifysgol Caeredin yn esbonio pa mor bwysig yw hyn ym maes ymateb yn sydyn i drychinebau. Cyfeiriodd at absenoldeb meddalwedd cyfieithu o iaith Creol Haiti wrth ymateb i ddaeargryn 2010.  Ar hyn o bryd, mae Goldwater yn defnyddio trefn debyg i drosi i’r Saesneg leferydd tylwyth yr Arapaho (iaith a siaredir gan ryw fil o frodorion yr Amerig yn unig) a’r Ainu (yr unig iaith sydd wedi goroesi o deulu cyfan a siaradwyd yng ngogledd Siapan ar ddechrau’r ugeinfed ganrif.  Dim ond rhyw ddeg o siaradwyr mamiaith ohoni sydd ar ôl.) Mae’n hollol hanfodol nad ydy’r Gymraeg yn methu yn y maes hwn o gyfieithu trwy beiriant. Oni bai am hyn mi fydd yn gam sicr ar y llwybr at “farwolaeth ddigidol” – sef diflannu o’r cyfryngau digidol.

Canlyniadau marwolaeth o fath arall – un llythrennol y tro hwn – a ddaliodd fy sylw ar dudalennau Scientific Reports ym mis Mawrth. (Mae’n debyg mai hwn yw’r cylchgrawn academaidd ar y we fwyaf yn y byd erbyn hyn.  Fe’i cyhoeddir gan Grŵp Cyhoeddiadau Nature.) Wrth astudio tsimpansïaid yng nghartref amddifaid Chimfunshi yn Zambia sylwodd Edwin van Leeuwen o Brifysgol St Andrews fod gwryw ifanc wedi marw. Am gyfnod bu nifer o’r anifeiliaid yn ymwneud â’r corff – ac o un i un yn ei adael. Arhosodd un,  y fenyw a fabwysiadodd yr un a fu farw.  Roedd wedi dewis coesyn o wair ac yn ei ddefnyddio i lanhau dannedd y corff. Dyma’r tro cyntaf y gwelwyd anifail yn ymddwyn yn y fath fodd i ymgeleddu corff marw.  Cred van Leeuwen bod yma dystiolaeth am sut y datblygodd ein hymddygiad ni o barchu a thosturio wrth y meirw.  Priodol, felly, yw fy mod wedi cyrraedd y pwynt yma yn y golofn toc wedi tri ar Ddydd Gwener y Groglith. Tawaf.


Pynciau: Breuddwydion, Cyfieithu, Marwolaeth