Ar y cyntaf o Chwefror 1871, o’i gartref yn Down House yn swydd Caint ar gyrion Llundain, ysgrifennodd Charles Darwin lythyr at ei gyfaill Joseph Hooker. Yn y llythyr hwn cyflwynwyd un o eiconau hanes bioleg – y “pwll bach cynnes”, mangre’r proteinau a chychwyn bywyd y ddaear. Sonia Darwin am amonia, halwynau ffosfforws a thrydan – manylion sydd o hyd yn berthnasol. Ond breuddwyd oedd y gweddill iddo, gan gynnwys beth oedd pwrpas proteinau. Tybed beth a feddyliai am ddarganfyddiadau’r ugain mlynedd diwethaf sydd yn ein prysur dywys at lan y pwll hwnnw ? Un ffactor hollbwysig yw pryd yn union yr oedd oes y pwll bach a’i gampau creadigol. Erbyn marwolaeth Darwin, ystyriwyd yr haul a’r ddaear i fod rhwng 20 a 100 miliwn blwydd oed. Cyfnod hir i ddyn, efallai, ond un a achosai benbleth i wyddonwyr cynnar esblygiad. Y farn oedd nad oedd yn ddigon i ganiatáu i’r prosesau (amrywiaeth a dethol) y dibynnai’u Damcaniaeth Fawr arnynt. Erbyn 20au’r ganrif ddiwethaf sylweddolwyd nad degau ond miloedd o filiynau o flynyddoedd oedd yr ateb. Yn 1956 cyhoeddwyd ffigwr o 4.55 mil miliwn blwyddyn, dyddiad agos iawn i’r un a dderbynnir heddiw.
Cyn mynd ymhellach, yn ddiweddar wrth siarad â dau gyfaill o wyddonydd, sylweddolais fod o hyd gryn amwysedd am yr uned fathemategol “biliwn”. Pan oeddwn yn ifanc, ystyr hwn yng ngwledydd Prydain oedd miliwn miliwn. Ond yn yr Unol Daleithiau ei ystyr oedd mil miliwn yn unig. (Hyd yn oed heddiw ni fyddai modd cael biliwnydd doleri na phunnoedd yn yr hen drefn Brydeinig.) Oherwydd dylanwad y Wlad Fawr, yn 1974 datganodd y Prif Weinidog, Harold Wilson, mai’r defnydd Americanaidd fyddai’n swyddogol o hynny allan. Mewn gwyddoniaeth a thechnoleg ryngwladol, felly, dyma ei werth. Erys anhawster arbennig i ni gan fod “biliwn” a “miliwn” fel ei gilydd yn treiglo’n feddal i’r un “filiwn” yn y Gymraeg. (Cafodd Cysill drafferth â’r uchod.) Ond awn ymlaen !
Felly, mae pen-blwydd 4.6 biliwn y byd yn agosáu – hen ddigon o amser i’r pwll bach cynnes wneud ei waith. Ond mae rhai o ddarganfyddiadau mwyaf diddorol y blynyddoedd diwethaf wedi cynhyrfu pethau eto. Ymddengys i fywyd ymddangos ac esblygu yn rhyfeddol o sydyn yn hanes y ddaear. Bu rhaid imi newid fy narlithoedd prifysgol ar y pwnc bron yn flynyddol yn ddiweddar. Yn wir, bu sawl adroddiad perthnasol yn yr wythnosau diwethaf. Yn gyntaf, ar Ddydd Gŵyl Dewi, yn Nature, cyhoeddodd Matthew Dodd a’i gydweithwyr yng Ngholeg Prifysgol Llundain iddynt ddod o hyd i ffosilau meicrobau o leiaf 3.75 biliwn o flynyddoedd oed mewn gwaddodion sy’n ymestyn, yn ôl rhai, 4.2 biliwn o flynyddoedd i’r gorffennol. Gan fod symudiadau tectonig yn gyson adnewyddu wyneb y ddaear, prin iawn yw’r llecynnau sy’n dyddio i’r cyfnod hwn ychydig gannoedd o filiynau o flynyddoedd yn unig ar ôl ffurfio’r ddaear. Safle yng Ngorllewin Awstralia oedd piau’r “record” gynt, ond daw’r canlyniadau diweddaraf o lan Bae Hudson yng Nghanada. Mae enw’r creigiau – y Nuvvuagittuq – ynddo’i hun yn dangos sut mae daeareg wedi esblygu ers dyddiau Darwin pan fu enwau Lladin o Gymru yn llenwi’r gwerslyfrau. Un agwedd allweddol yw mai gwaddodion o ddyfnderoedd y cefnfor yw’r rhain – nid gwaddodion tywodlyd bas, fel a geir yn Awstralia. Pam yr arwyddocâd arbennig ? Oherwydd mai ymyl simneiau o ddyfroedd poeth iawn yn nyfnderoedd y môr yw’r lle mwyaf tebygol am darddiad bywyd. “Cynnes” oedd y gair mwyaf addas gan Darwin, efallai.
Mae hyn oll yn codi’r cwestiwn pa mor hir y bu hi cyn i’r ddaear dyfu’n addas ar gyfer bywyd. Wedi’r cyfan, onid oedd yn belen o nwyon a llwch chwilboeth i ddechrau ? Daw peth o’r ateb o bapur a ymddangosodd bythefnos ynghynt yn Science. Ffurfiodd y ddaear, ar y cyd â’r haul a gweddill cyfundrefn yr haul, o ddisg llwch a nwyon tua 4.6 biliwn o flynyddoedd yn ôl. Edrychodd Ben Weiss a’i dîm o MIT yn Boston ar gyfansoddiad tri gwibfaen hynafol. Fe’i dyddiwyd yn ôl i 3.8 miliwn o flynyddoedd yn unig ar ôl ffurfio’r haul (megis amrantiad yn hanes y ddaear). Wrth ffurfio, roedd mineralau haearn y gwibfeini wedi cadw cofnod o faes magnetig y disg llwch o’u hamgylch. Ei neges oedd bod maes magnetig grymus y disg cynnar eisioes wedi pyllu – a’r cyfan ar ei ffordd i ffurfio’r planedau yn llawer cynt nag yr ystyriwyd o’r blaen.
Wrth ganolbwyntio ar yr ychydig gannoedd o filiynau o flynyddoedd rhwng y ddau hanes, mae mwy a mwy o ddiddordeb yn fy hoff foleciwl – dŵr. Rhaid wrth ddŵr hylif i gynnal, ac mae’n debyg, gychwyn bywyd. Yn wahanol i’r ddaear a’i hanes tectonig, mae tirwedd y blaned Mawrth yn dyddio yn ôl biliynau o flynyddoedd. Ar ôl canrifoedd o ansicrwydd, bellach gwelir bod dŵr sylweddol wedi llifo yno rhwng 3.5 a 4 biliwn o flynyddoedd yn ôl. Erys ei olion. Ar hyn o bryd, nid oes gan wyddonwyr syniad sut y bu i hyn ddigwydd yn oerfel eithriadol y blaned goch – fel y datgenir gan Thomas Bristow a’i dim o NASA mewn erthygl yn PNAS ym mis Chwefror. Arwyddocâd hyn yw y bu cynefin ar Fawrth nid annhebyg i’r hyn a welir yng nghreigiau Nuvvuagittuq ar yn un foment yn ein hanes. Gan fod olion bywyd ar y ddaear – efallai bod olion bywyd hefyd ar y blaned Mawrth. Hyd yn ddiweddar sylw diffrwyth fyddai hyn – ond bellach, ers degawdau, bu robotiaid yn crwydro creigiau’r blaned honno. Nid ffug wyddoniaeth yw rhedeg arbrofion i chwilio am ffosilau. Y “wobr” greiddiol o ddarganfod olion bywyd ar Fawrth fyddai cynyddu’n sylweddol y tebygolrwydd bod y bydysawd yn llawn o olion bywyd.
Cwestiwn arall yw a oes bywyd o hyd ar Fawrth. Ond mae’r cynnwrf wedi tanio NASA i gynllunio i anfon robotiaid i Europa, un o leuadau’r blaned Iau lle, o bosib, y mae heddiw rai eraill o “byllau bach cynnes” Darwin. Yno, fel ar Enceladus, un o leuadau Sadwrn, efallai bod proteinau yn disgwyl eu cyfle hwythau i ddilyn eu ffawd a datblygu’n rhywbeth amgenach. Roeddwn yn arfer gobeithio fod port-holes yn y nefoedd er mwyn gweld darganfyddiadau’r dyfodol. Yn y maes hwn, rwy’n dechrau teimlo na fydd rhaid aros cyn hired â hynny !
Pynciau: Pwll bach cynnes, Biliwn, Ffosiliau, Meteorau hynafol