Barn 102 (Mawrth 2017): Yr Anthroposen, Parasitiaid

Bu cryn dipyn o gyfeirio at epoc daeareg yr Anthroposen dros y blynyddoedd diwethaf ac nid dyma’r tro cyntaf imi gynnwys cyfeiriad ato yn y golofn fisol hon.  Yn ôl y cemegydd Paul Crutzen, mewn erthygl yn Nature yn 2002, mae cyfeiriad mor bell yn ôl â 1873 at yr “oes anthroposoic” yng ngwaith yr offeiriad, y paleontegydd a’r cenedlaetholwr o Eidalwr, Antonio Stoppani.  Cyfeiria’r cysyniad at y ffaith bod gweithgareddau dynoliaeth, bellach yn effeithio ar raddfa ddaearegol ar ein planed. A bod hyn yn haeddu agor pennod newydd yn hanes ein planed. Ym mron pob cyfnod blaenorol y gwrthwyneb sydd wedi digwydd, gyda newidiadau daeareg yn ddylanwad ar fywyd.  Llyfr dylanwadol Rachel Carson, Silent Spring, ar effaith y diwydiant cemeg ar fyd natur a gyhoeddwyd yn 1962, oedd un o brif ysgogiadau poblogeiddio’r ffenomen yn yr 1970au. Tybiaf, hefyd, nad oedd trychineb Aberfan yn 1966 heb ei dylanwad.  Ddwy flynedd yn ddiweddarach, pan ymwelais â’r Unol Daleithiau am y tro cyntaf fe’m cyflwynwyd yn gyson fel un a ddaeth o’r wlad lle “lladdwyd y plant”.  Dois ar draws Adventures in the Anthropocene gan Gaia Vince wedi imi ei brynu ar hap yn siop Palas Print Caernarfon yn ddiweddar. Enillodd yr awdur Wobr Winton y Gymdeithas Frenhinol yn 2015 am y gyfrol. Cyfrol eang iawn ei chynnwys ydww, ac yn rhoi cipolwg hawdd ei ddarllen inni ar y sefyllfa bresennol a’i dylanwad ar ystod eang o drigolion tlawd a chyfoethog ein byd.

Ganol fis Chwefror, cyhoeddwyd yn y cylchgrawn  Nature Ecology and Evolution enghraifft ddiweddar o’r broses. Wrth chwilio am gilfachau tu hwnt i ddylanwad dyn, bu modd i Alan Jamieson a’i dîm o Brifysgol Newcastle yng ngogledd Lloegr lanio robot ar waelod hafn ddyfnaf cefnforoedd y ddaear – sef Hafn Mariana ger ynys Guam. Yno, 10,250 metr dan wyneb y môr, ac mewn naw safle cyfagos, cipiodd y robot gramenogion bychain trwy ddefnyddio abwyd cig macrell mewn trapiau bychain nid annhebyg eu cynllun i rai cimychiaid.  Yn ôl yn y labordy, mesurodd y tîm ddau gemegyn llygredd nodweddiadol yng nghyrff yr anifeiliaid;  sef PCB, cemegyn organoclorin a waharddwyd yn rhyngwladol yn 2001 ond a ddefnyddiwyd yn helaeth cyn hynny mewn offer trydanol ynghyd â chemegyn cyffelyb yn cynnwys bromin a ddefnyddid i warchod celfi meddal a dillad rhag tân. Mewn amgylchedd iach, nid yw lefelau PCB yn cyrraedd un nanogram (biliynfed rhan o gram) am bob gram o gnawd. Yn afonydd mwyaf llygredig y byd – megis y Liao yn Tsieina – gwelir ychydig dros 100 nanogram.  O’i gymharu, ar waelod y Mariana ‘roedd gan y trychfilod 495 nanogram PCB ym mhob gram. Ychydig yn fasach – 8,942 metr i lawr – cynyddodd hyn i 800 nanogram. Ond yn uwch fyth, 7,841 metr o’r wyneb gwelwyd lefelau o 1,900 nanogram !  Beth sy’n gyfrifol am hyn ?  Daw rhan o’r ateb wrth edrych ar gadwyn fwyd y cynefinoedd hyn. Ar wyneb y ddaear ac yn haenau ucha’r mor yr haul, trwy broses ffotosynthesis, sy’n cynnal anifeiliaid wrth iddynt bori ar blanhigion neu ar ei gilydd. Yn ddyfnach mae cynefinoedd, cyfarwydd inni drwy raglenni natur teledu, sy’n ddibynnol ar ymchwydd cemegolion organig dramatig a phoeth o’r creigiau. Ond ni ddarganfuwyd yr un o’r rhain yn ddyfnach na 5,000 metr. Tu hwnt i hynny, yn y tywyllwch llwyr, nid oes ffynhonnell bwyd – ond am y darnau mân o weddillion sy’n gwaddodi o’r wyneb ymhell, bell uwch bennau’r anifeiliaid sy’n trigo yn y dyfnderoedd eithaf.  Unwaith mae’r gweddillion hynny yn cyrraedd y gwaelodion nid ydynt byth yn gadael heb eu treulio’n llwyr. Oherwydd eu natur gymharol anrheuliadwy mae’r PCB a’i chwiorydd brominaidd yn cronni yno’n uwch nag unrhyw le arall yn y gadwyn fwyd. Efallai, hefyd, fod tynged anifeiliaid y Mariana yn waeth oherwydd eu bod yn byw o dan un o drobyllau (Gyre) eang y Môr Tawel sy’n enwog am gasglu plastigion, a’r cemegolion eraill sy’n glynu ynddynt.

Trwy ddefnyddio technoleg mae modd, felly, i ddynoliaeth gyrraedd hyd eithafion y ddaear – a thu hwnt. Yn y Proceedings of the Royal Society B ym mis Ionawr, mae Kelly Weinersmith a’i chydweithwyr ym mhrifysgol Rice yn Huston, Texas yn disgrifio sut mae lindys y gacynen Euderus set yn mordwyo eu cynefin hwythau. Maent yn deor yn ddwfn o dan risgl derwen fytholwyrdd sy’n tyfu ar hyd yr arfordir trofannol. Ond gan nad oes ganddynt safnau cryfion i dyllu’r pren sut y gallant ddianc ohono. Roedd Weinersmith yn astudio ymddygiad cacynen arall, mwy ei maint, sy’n dodwy ei hwyau o dan risgl yr un goeden. Un o driciau honno yw rheoli genynnau’r dderwen i greu lloches  i’w lindys – megis “afal” derw – o dan wyneb y bonyn. Mae’r lindys yn deor a thyfu’n gacwn am fisoedd yn y pren gan ddisgwyl am y gwanwyn. Yna byddant yn cnoi eu ffordd allan i’r awyr i gwblhau eu cylch bywyd. Roedd y biolegwyr wedi sylwi bod ambell anifail yn dechrau’r daith fisoedd yn gynnar. Ond wrth iddynt gyrraedd yr wyneb ‘roeddynt yn marw – gan adael eu pennau’n blocio’u twnnel dianc.  O edrych yn fanwl ar y cyrff – sylwyd fod pob un yn lletya nifer o lindys neu chwilerod y gacynen fechan Euderus. Y dyfarniad yw bod mam y rhain yn dodwy ei hwyau yng nghorff, neu’n agos at wyau’r gacynen fwy. Wrth ddeor maent hwythau yn rheoli genynnau eu llety parasitig fel bod y gacynen fawr yn cychwyn yn gynnar ar ei thaith i’r wyneb – ond yn marw, megis Zombi,  wrth gyrraedd. Gyda’i safn ysgafn mae’r Ederus yn bwyta trwy gnawd meddal y pen ac yn dianc o’r pren.  Y cacwn mawr yn rheoli meinwe’r dderwen ond yn eu tro’n ysglyfaeth i Ederus set yn eu rheoli hwy. Yn Saesneg y term am hyn yw “hyper-manipulator”; meistr ar feistr Mostyn. Daw’r enw gwyddonol “set” o enw duw yn yr hen Aifft a laddodd ac ysbeiliodd gorff ei frawd Osiris.  Mae hyn yn peri i ddyn feddwl efallai eu bod wedi bod yn edrych ar ormod o benodau o Byw Celwydd !


Pynciau: Yr Anthroposen, Parasitiaid