Barn 101 (Chwefror 2017): Andomeda, Procsima centawri, Maes magned y ddaear

Braf cofio o bryd i’w gilydd nad oes diwedd i ryfeddu. Y noson o’r blaen fe welais ogoniant galaeth Andromeda â’m llygad fy hun am y tro cyntaf.  Mae’r perlesmair ynof o hyd !  Gwefr bersonol, wrth gwrs. Fe’i gwelwyd gan ein cyndadau ers miloedd o flynyddoedd, mae’n debyg. Gwyn eu byd y rhai a anwyd cyn inni lygru wybren y nos â goleuni.  Yn ôl Ihsan Hafez yn ei draethawd PhD o Brifysgol James Cook yn 2010, y disgrifiad cynharaf ohoni ar glawr yw un Abd a-Rahman al Sufi, yn Isffahân, o‘r flwyddyn 964.  Â’i lygad noeth y gwelodd yntau’r un “cwmwl bychan” ag a welais i gyda’m telesgop wyth modfedd. Wn i ddim pam nad wyf wedi’i gweld o’r blaen – bûm yn edrych ar y sêr ers fy mhlentyndod. Ond ‘roedd y noson yn arbennig o glir, y mab newydd weld pelen dân ar ei ffordd adref o Sir Fôn (cyfnod sêr gwib y Cwadrant oedd hi) a minnau’n benderfynol o weld rhywbeth newydd.  A dyna oedd hi – nid yn unig nifwl crwn y craidd – megis melynwy wŷ wedi’i ffrio, ond yr holl “wynwy” sbiral hefyd. Ers 20au’r ganrif ddiwethaf sylweddolwyd mai galaeth annibynnol i’n galaeth ni – Y Llwybr Llaethog – yw Andromeda. Gwefr Andromeda yw mai hi yw’r gwrthrych pellaf y mae modd ei weld o’r ddaear heb delesgop. Yn bellach o lawer na’r holl sêr gweladwy eraill. Fe wyddom ei bod yn symud tuag atom – gyda gwrthdrawiad i’w ddisgwyl ymhen 4.5 biliwn o flynyddoedd. Ond ar hyn o bryd gorwedd yn ddiogel 2.54 miliwn blwyddyn goleuni oddi wrthym (h.y. cymer 2.54 miliwn o flynyddoedd i oleuni ein cyrraedd.).

Llawer agosach yw teulu alffa-Centauri y soniais amdanynt yn y golofn hon ym mis Hydref. Ar y pryd y cynnwrf oedd darganfod planed rhywbeth tebyg i’r ddaear, yn troi o amgylch y lleiaf o’r tair seren, procsima-Centauri. Hon yw’r seren agosaf i’r ddaear – cwta 4.25 blwyddyn goleuni i ffwrdd. Bellach, yn y cylchgrawn ar-lein Arxiv, sicrhawyd ffaith newydd amdani gan Pierre Kervella (enw Llydaweg, gyda llaw) o Arsyllfa Paris. Ers 1915 bu’r awgrym ei bod yn troi o amgylch y ddwy seren arall (alffa-Centauri A a B). Ond dim ond yn awr y profwyd hyn.  Bydd pob disgybl o’r gyfres ffilmiau Star Wars yn sylweddoli bod hyn yn rhagori hyd yn oed ar ei hoff blaned, Tatooine. Dim ond o amgylch dwy seren y mae honno’n  ymdroi ! Dim rhyfedd i NASA gyhoeddi fis Tachwedd ei bod ar y rhestr o blanedau y bydd telesgop ofod Hubble yn edrych arni wrth ddethol prosiectau ar gyfer telesgop gofod James Webb y gobeithir ei lansio yn 2018. Drych yn cyfateb i 6.5 metr o led fydd gan Webb, o’i gymharu â 2.4 metr Hubble. Mae cryn gystadlu eisoes am amser arno ! Parhau fydd y rhyfeddu.

Hawdd anghofio ein bod yn aml yn deall mwy am y sêr a’r galaethau pellennig hyn nag ydym am y ddaear o dan ein traed.  Nid y pellter yw’r broblem ond y ffaith ei bod yn anodd gweld a synhwyro  trwy’r pridd a’r creigiau.  (Ar raddfa llawer llai, yn fy maes fy hun, bioffiseg planhigion, mae ein gwybodaeth am ddail, blodau a bonion gryn lawer ar y blaen i’n gwybodaeth am wreiddiau am yr un rheswm.) Un enghraifft yw natur y maes magnetig sydd yn cynnal y darian drydanol sydd yn ei thro yn ein gwarchod rhag y corwynt o ronynnau a ddaw tuag atom o’r haul.  Bydd ffurf boliog y maes hwn yn gyfarwydd i unrhyw un sydd wedi chwarae â magned, darn o bapur a naddion haearn. Ond beth yn union yw’r “magned” yng nghrombil y ddaear ? Trwy anfon a mesur sŵn trwy drwch y ddaear bu modd dyfalu natur ei graidd.  Mae’r ddaear yn hynod debyg i nionyn haenog fymryn llai na 8000 milltir ar ei thraws.  Tua 1800 milltir o dan ein traed mae craidd tawdd ar dymheredd o ryw 4000 gradd canradd. Yn 1936 darganfuwyd craidd ag iddo briodoleddau soled 1500 milltir yn ddyfnach. Y craidd tawdd, hylifus yw tarddiad y magned. Credir mai o haearn a nicel y’i gwnaed yn bennaf.  Yn ddiweddar clywyd llawer am y “jetlif” uwch ein pennau yn dylanwadu ar ein tywydd. Sail y jetlif yw’r ffaith bod y ddaear yn troi ar ei hechel. Digwydd rhywbeth tebyg yn y craidd allanol tawdd. Roedd yn hysbys i wyddonwyr daear bod symudiadau cynhyrfus yno, ond yn Nature Geoscience mis Rhagfyr, mae Philip Livermore o Brifysgol Leeds a’i gydweithwyr yn dangos bod yno hefyd jet byd eang, tua 260 milltir ar ei draws.  Defnyddiwyd data Swarm, triawd o loerennau a lansiwyd gan Asiantaeth Gofod Ewrop yn 2013. Trwy fesur yn dra-chywir linellau maes magnetig yn y gofod roedd modd eu holrhain yn fanwl yn ôl i’r craidd. Wrth i’r jetlif yma lifo dros y craidd soled mewnol crëir fortecs – nid annhebyg i does yn troi’n silindr rhwng llaw pobydd a’i fwrdd.  Rhed y fortecs mewn cyfeiriad de-gogledd. Mae sawl fortecs yn ffurfio o amgylch y craidd – ffurfiant hynod o debyg i rolferyn (cylinder bearing) sydd mewn nifer helaeth o beiriannau a theclynnau tŷ. Y bwndel silindrau cyfochrog troellog yma yw’r magned (neu’r magnedau) holl bwysig. Ond yn wahanol iawn i’r beryn sy’n cynnal olwynion eich car, mae’r bwndel hylifus daearol yn corddi megis uwd mewn crochan. Y darganfyddiad annisgwyl oedd bod llif y jet yn cyflymu – ac wedi treblu ers y flwyddyn 2000.  Ar hyn o bryd llifa ar 26 milltir y flwyddyn – nid yw hynny’n ymddangos yn gyflym i ni, efallai, ond ystyriwch effaith symud Ynys Môn yn llwyr o’i lle bob deuddeg mis ! Paham fod deall symudiadau’r craidd o bwys i ni ?  Rydym ni, a phob math o bethau byw – o anifeiliaid ac adar i facteria – yn defnyddio cwmpawdau magnetig i fordwyo. Bu’n hysbys ers canrifoedd bod y pegynau magnetig yn symud. Yn ystod yr ugeinfed ganrif, mudodd un y gogledd 700 milltir ar draws yr Arctig. Mae’r mudo yma yn cynyddu’n sylweddol. Yn 1970 y symudedd oedd 6 milltir y flwyddyn, bellach mae dros 30.  A oes cysylltiad â newid cyflymder y jet ? Hefyd, fe wyddom fod y maes magnetig yn fflipio’n llwyr bob hyn a hyn – gyda’r de yn dod yn ogledd. (Ar hyn o bryd, y “de” magnetig sydd i’r gogledd daearegol). Nid oes patrwm i’r digwyddiadau hyn. Yn hanesyddol bu’r ysbeidiau rhyngddynt yn para rhwng can mil  a miliwn o flynyddoedd.  Bu’r diweddaraf – cildroad Brunhes-Matuyama – 780,000 o flynyddoedd yn ôl. Credir i hynny ddigwydd o fewn hyd oes dyn. Tybed os ydym ar fin profi digwyddiad tebyg yn ein hoes ni ?  Ar ôl Brecsit a Trump – efallai na fyddai hynny gymaint o syndod ! Roedd mam yn dweud o hyd bod pethau drwg yn digwydd mewn trioedd.


Pynciau: Andomeda, Procsima centawri, Maes magned y Ddaear


<olaf nesaf>