Mae meddwl y gair “caws” yn dod â dŵr i’m dannedd, heb sôn am atgofion di-rif. Cefais damaid o Manchego cyn eistedd i gychwyn heno (Graham Greene a Monsignor Quixote sydd ar fai). A minnau’n grwt, uchafbwynt gastronomig fy nhad oedd y caws yn toddi yn y siencyn tê a gaem i dê ambell brynhawn Sadwrn. (Casbeth fy mam oedd te o unrhyw fath, a dim ond ar ei diwrnod siopa hi y ceid y danteithyn hwn.) Darganfod Roquefort (a’r brebis eilliedig a’i cynhyrcha) ar ôl cynhadledd ar welydd celloedd planhigion yn Toulouse oedd un o’r digwyddiadau cyntaf ym mywyd carwriaethol Megan a minnau. Cyfrifoldeb am ddewis cosyn Stilton ar y foment gywir ar gyfer nosweithiau y Gymdeithas Chetwynd (enw parchus ar y clwb yfed) yn nyddiau coleg – er mwyn iddo fod yn barod i’w fwyta â llwy ar y noson. Dim rhy galed, dim rhy feddal. Dairylea – hoff gaws (?) fy nhaid (Deri) ……….. . Braf, felly, oedd darllen ar wefan bioRχiv (Labordy Cold Spring Harbor) y darganfyddiadau hynod am y microbau sydd wrth wraidd y cynnyrch hwn. Mae gwneud caws yn rhan o hanes dynoliaeth ers o leiaf saith mil a hanner o flynyddoedd. Beth sy’n amlwg o ddadansoddiad DNA bacteria caws gan Kevin Bonham a’i dîm o Brifysgol Califfornia San Diego, yw bod dynoliaeth wedi creu cynefinoedd ecolegol newydd yn y broses. Biotechnolegwyr yr oes gerrig, gyda genynnau yn hedfan i bob cyfeiriad. O’r 165 gwahanol rywogaeth o facteria a astudiwyd ‘roedd 130 (sef 80%) wedi cyfnewid genynnau ymysg ei gilydd; dros 5000 o enynnau traws-newid. Yn wir, barn Bonham yw bydd y ffigwr terfynol yn llawer uwch wrth ystyried ffyngoedd y caws yn ogystal. Paham fy niddordeb ? Ystyriwch hanes caws. Ar y cychwyn, hap a damwain oedd yn gyfrifol am ba facteria a ffwng o’r amgylchedd oedd yn tyfu yn y llaeth. Ond wrth i’r gwneuthurwyr arbenigo a defnyddio’r un ogofeydd ac adeiladau crëwyd gerddi cyfyngedig, arbenigol a llosgachaidd (gan gynnwys welydd yr ogofau, lloriau’r llaethdai a’u cyrff eu hunain a chyrff eu teuluoedd ac anifeiliaid) ar gyfer y microbau. Dros y miloedd o flynyddoedd ymfridiodd y rhain (sef y bacteria) ymysg ei gilydd i gynhyrchu’r casgliadau sy’n gyfrifol am nifer o’r cawsiau gorau. Bellach, wrth gwrs, mae’r gwneuthurwyr yn ofalus i ddefnyddio dim ond y microbau “traddodiadol” yn eu llaethdai diheintiedig – heb feddwl am drythyllwch oesol y gerddi Edam a’u hepiliodd.
Tymheredd cyson, tua 6 i 10 gradd drwy gydol y flwyddyn, yn ogofâu Roquefort oedd un o gyfrinachau hanesyddol y caws arbennig hwnnw. Tymheredd daearol ychydig yn uwch a ddaliodd fy sylw yn y New Scientist ddiwedd mis Hydref. Erthygl ydoedd yn sôn am ddatblygiadau diweddaraf gwŷr a gwragedd Gwlad yr Iâ a ddefnyddiai ffynonellau geothermol i gynhyrchu trydan. Yn yr Eidal yn Toscania yn 1904 y gwnaethpwyd hyn am y tro cyntaf, gan y Tywysog Piero Ginori Conti. (Pwy ddywedodd nad oedd gwerth i deuluoedd brenhinol ?) Tan 1958, yr Eidal oedd yr unig wlad i wneud hyn yn fasnachol. Yna yn 1958 cychwynnodd Seland Newydd wneud hyn ac yna yn 1960 yr Unol Daleithiau. Dros y blynyddoedd bu cryn dipyn o ddefnyddio dŵr cynnes i wresogi cartrefi (a channoedd o faddonau sawna) yng Ngwlad yr Iâ; ond yn ddiweddar buddsoddwyd gryn dipyn yno i ddatblygu pwerdai trydan. Flynyddoedd yn ôl ymwelais â safle Krafla yno a gweld cynnau un o’r ffynhonnau a chlywed y sŵn – megis “pressure cooker” Ysbaddaden ! Daw gwres y pwerdai hyn o ddŵr sydd wedi’i gynhesu gan y mynyddoedd tân – neu o leiaf eu holion. Maent megis sosbannau ar blât stôf y gegin. Mae’r dŵr yma yn gymharol fas (llai na 3000 metr) ac o dymheredd o ryw 150 i 400 gradd. Er yn fas, mae gwasgedd y creigiau yn ddigon i gadw’r dŵr ar ffurf hylif nes daw i’r wyneb a throi’n ager a ddefnyddir i droi tyrbinau a chreu trydan. Ffynhonnell gwres “plât y gegin” ddaearegol yw crombil tawdd y ddaear. Y rhan uchaf o hwn yw’r magma sydd weithiau yn torri i’r wyneb mewn echdoriadau folcanig. Gallwn ddiolch bod hwn, fel arfer, yn ddiogel filltiroedd o dan ein traed. Ond mae Gwlad yr Iâ mewn lleoliad lle mae crawen y ddaear yn deneuach na’r arfer. Yno, yn 2009 wrth ymestyn safle Krafla, yn annisgwyl, torrwyd at y magma wrth ddrilio ffynnon geothermol gonfensiynol. Am ychydig pwmpiwyd dŵr i’r ffynnon i brofi faint o egni y byddai modd ei gynhyrchu. Cynhyrchwyd trydan, ond nid oedd modd ei gysylltu â’r grid cyn i natur gyrydol yr halwynau a ddaeth o’r magma ddifrodi’r offer. Ond am y cyfnod byr, hwn oedd o bell ffordd y ffynnon geothermol fwyaf pwerus erioed – yn cynhyrchu 30 MW. (665 MW oedd holl gynnyrch yr ynys yn 2015.) Ym mis Awst eleni cychwynnwyd ar dwll pwrpasol newydd – yr cyntaf o’i fath – yn ne-orllewin y wlad nepell o Reykjavík, y brifddinas, a’r Lagŵn Glas sy’n ffefryn gan yr ymwelwyr. Y gobaith yw cyrraedd dyfnder o ryw 5000 metr erbyn diwedd y flwyddyn. Yno mae’r magma tawdd yn cyfarfod â’r dwr sy’n treiddio o’r wyneb ar dymheredd o 400 i 1000 gradd canradd. Yn ôl y New Scientist, hwn fydd y “twll poethaf yn y byd”. Petai modd manteisio’n llawn arno, dylai hwn gynhyrchu 50 MW, o’i gymharu a 5MW ffynnon geothermol arferol. Eisioes mae cryn ddiddordeb yn y fenter. Un eironi yw y bydd yn defnyddio gwres y ddaear i leihau’r cynhesu byd eang felltith.
Nid hwn oedd yr unig hanes am ddatblygiadau dyfrllyd ymhell o dan ein traed yn ddiweddar. Ym mis Tachwedd, yn Earth and Planetary Science Letters, cyhoeddodd Jon Blundy a’i dîm o brifysgol Bryste eu bod wedi darganfod “llyn” o ddŵr o’r un maint â llynnoedd mawr yr Unol Daleithiau (Superior neu Huron) 15 km o dan un o losgfynyddoedd cwsg yr Andes. Er nad yw’n union yr un fath â disgrifiadau Jules Verne yn ei nofel o 1864, na’r ffilm hyfryd o 1959 gyda James Mason a Pat Boone, ni welwyd ei fath o’r blaen. Gobeithir y bydd modd i’r darganfyddiad esbonio mwy am darddiad echdoriadau – a sut y ffurfiwyd y grawen gyfandirol o dan ein traed. Cymysgedd o tua 10% dŵr mewn craig hanner-tawdd yw’r llyn, ar dymheredd o 950 – 1000 gradd. Mae’n llawer rhy ddwfn i beirianwyr Gwlad yr Iâ fanteisio arno, ond bellach credir bod llynnoedd tebyg i’w cael leded y byd – megis o dan Fynydd St Helens yn Nhalaith Washington a llosgfynyddoedd Taupo yn Seland Newydd.
Gyda’r sôn ar hyn o bryd am i’r Cynulliad yng Nghaerdydd gymryd cyfrifoldeb am ddyfroedd ein cenedl – gobeithio ei fod yn sylweddoli efallai bod llawer mwy ohonynt na’r hyn sy’n syrthio o’r gefnen isel sy’n croesi’r wlad y penwythnos hwn !
Pynciau: Caws, Geothermol, Uturuncu