Barn 99 (Tachwedd 2016): Gwenyn, Ceropegia, Epaod yn y sinema

Yn flynyddol,  wrth gynaeafu’r mêl, fe deimlaf gryn euogrwydd fy mod yn ysbeilio yr hyn y mae’r gwenyn druan wedi bod yn gweithio’n ddygn yn ei gasglu drwy‘r gwanwyn a’r haf.  A daw deigryn o gydymdeimlad tebyg  i’r llygad bob tro wrth wrando ar Dafydd Iwan yn canu Cân y Medd. (Hoff gân y peiriannydd Lewis Roberts, tad Al Lewis, gyda llaw.)  Tydi rhoi kilo neu ddau o Silver Spoon neu Tate & Lyle iddynt yn lle’r mêl ddim yn llwyr ddileu’r teimlad.  Sioc ychwanegol, felly, oedd darllen erthygl yn Science ym mis Medi yn dadlennu bod y trychfilod bychain yn teimlo emosiwn. Fy unig obaith yw mai ar y Bili Bompen (neu’r Cachgi Bwm, cymerwch eich dewis) y gwnaethpwyd y gwaith ymchwil gan Clint Perry a’i dîm ym Mhrifysgol y Frenhines Mari yn Llundain.  Y prawf oedd gweld pa mor barod oedd 24 o’r creaduriaid i archwilio safle bwydo amwys ei gynnwys. Cafodd hanner ohonynt ddogn fechan o siwgr cyn cychwn ar eu taith –  a darganfuwyd bod y rhain yn sylweddol mwy awyddus i archwilio a mentro na’r rhai nad oedd wedi cael y siwgr. Un esboniad posibl oedd bod gan y gwenyn yma fwy o egni i fynd ati – ond dadbrofwyd hyn drwy roddi iddynt hefyd y cemegyn fluphenazine sy’n atal effeithiolrwydd yr hormon dopamin. Darfu’r effaith.  Mae lefelau dopamin yn cael dylanwad sylweddol ar hwyliau pobl ac ymddengys mai’r un adwaith sydd wrth wraidd ymddygiad y gwenyn.  Mewn ail arbrawf mesurwyd pa mor hir y bu i’r anifeiliaid ymdawelu ar ôl “ffug” ymosodiad.  Y dehongliad, felly, yw bod ymddygiad y gwenyn yn dibynnu ar eu hwyliau – yn  union yr un fath â ni. Ofnaf mai cwch o wenyn diflas eu hwyl sydd gennyf ar hyn o bryd. Fe fydd yn rhaid cofio diolch yn arbennig iddyn nhw wrth sgwrsio a llenwi eu hosanau bach ar ddydd Nadolig eleni.

Caf wefr wrth ddarllen am arbrofion ar ymddygiad anifeiliaid o’r fath yma. Ond da hefyd sylwi bod planhigion yr un mor ddyfeisgar. Mewn hanesyn yn rhifyn Current Biology dechrau Hydref, hefyd yn ymwneud â gwenyn, disgrifiwyd sut mae blodau Ceropegia sandersonii yn denu peillwyr – gwenyn a gwybed yn eu plith.  Mae’r blodyn hwn, sy’n gynhenid i o Ddeheubarth Affrica, yn dal ac yn caethiwo’r pryfed am ddiwrnod cyfan cyn eu rhyddhau yn drwmlwythog â phaill.  Weithiau, ysywaeth, fe fwyteir y gwenyn yn eu carchar dros dro gan bryfed cop sy’n aros yno amdanynt, gan ryddhau hylifau sydd, yn eu tro, yn fwyd i wybed. Arbrawf Stefan Dötterl o brifysgol Salzburg oedd y cyntaf i bryfocio gwenyn i weld pa gemegolion amddiffyn yr oeddent yn eu rhyddhau. Yna dangosodd nid yn unig fod y Ceropegia yn cynhyrchu cemegolion tebyg, ond eu bod yn ddeniadol i’r gwybed.  Y dehongliad yw bod y planhigyn yn cynhyrchu neges arswyd y wenynen i adynnu’r pryfed wrth iddynt (y pryfed) synhwyro fod gwenyn ar fin cael eu lladd a rhyddhau bwyd iddynt. Yn y cyfamser bydd y planhigyn yn manteisio ar y gwybed i’w peillio yn absenoldeb y gwenyn. Theatr yw bywyd.

Ond di-fudd yw meddwl bod gwenyn a blodau yn ymateb a chynllunio yn yr un modd â ni. Mae anghenion ac amgylchiadau goroesi yn bur wahanol iddynt.  Ar y llaw arall, mae’r Bonobo, Tsimpansî ac Oranguntan  yn llawer agosach. A phrofwyd hyn unwaith eto mewn papur arall yn Science  ddechrau Hydref. Un o’r nodweddion a ystyrid yn unigryw i ddynoliaeth yw’r modd y medrwn ddyfalu beth y mae rhywun arall yn ei feddwl amdano – hyd yn oed os ydym yn gwybod bod y meddyliau hyn yn wallus. Mewn pobl, fel arfer, mae’r ddawn yma wedi ymddangos erbyn iddynt gyrraedd eu pumed penblwydd. Mae gan seicolegwyr enw i’r ffenomen – Theori’r Meddwl. Gwelir symptomau Awtistiaeth pan nad ydy’r broses hon yn datblygu yn y modd arferol. Yn yr erthygl yn Science, dangosa gwyddonwyr o brifysgolion Duke, Kyoto a St Andrew’s – ynghyd ag Athrofa Max Planck – bod hyn hefyd i’w ganfod mewn epaod.  I ddangos hyn aeth yr epaod, 40 ohonynt, i’r sinema.  Yno gwelsant ffilmiau o actorion dynol – un ohonynt wedi’i wisgo mewn siwt King Kong – yn ymwneud â’i gilydd.   (Mae modd gweld y ffilmiau – sy’n hynod o debyg i’r Keystone Cops – ar wefan y Max-Plank-Gesellschaft.)  Mewn un ffilm gwelir “King Kong” yn taro’r dyn arall ac yna yn cuddio mewn un o ddau fwdwl gwair. Mae’r dyn yn gadael yr olygfa cyn dychwelyd gyda phastwn a churo un mwdwl neu’r llall. Ond yn ei absenoldeb mae’r King Kong wedi dianc.  Yn y sinema, mae modd i’r gwyddonwyr wybod yn union lle mae sylw’r cynulleidfa. O’r 40 gwyliwr blewog, wrth i’r dyn ailymddangos, canolbwyntiodd 30 ar y mydylau – gyda dau draean yn dewis y mwdwl lle cuddiodd y dyn yn y siwt.  Hyn, er eu bod yn “gwybod” nad oedd bellach yno. Hynny yw,  ‘roeddynt yn ymwybodol o feddwl tebygol y dyn â’r pastwn, ac am weld beth y byddai’n ei wneud  – er eu bod yn gwybod bod y dyn ar fin gwneud camgymeriad.  Bu nifer eraill o ddramâu bychain eraill yn rhan o’r arbrawf ac O’R CWBL ymddengys lefel Theori’r Meddwl sy’n cyfateb i blentyn ychydig llai na dwyflwydd oed. Dyma’r tro cyntaf i unrhyw anifail (oni bai am ddyn) ddangos ymwybyddiaeth o gam-ddeall mewn anifail arall. Yn rhyfedd, ac yn ddadlennol, ‘roedd epaod mewn arbrofion cynt wedi methu profion eraill i ddangos yr un ffenomenon. Mae mwy eto i’w ddysgu amdanynt.  Da oedd darllen sylw gan Christopher Krupeneye, awdur cyntaf y papur, ei fod yn meddwl bod yr epaod wedi cael gwir fwynhad o’u troeon i’r sinema. Fe wnaeth hyn imi feddwl tybed a oes marchnad i gynulleidfa newydd (flewog) yn sinema Theatr Colwyn – wedi’r cyfan mae digon o tsimpansîod ym mhen arall y dref, yn y Sŵ Mynydd. Pa ffilmiau y byddech yn eu hawgrymu tybed ? Planet of the Apes efallai ?


Pynciau:  Gwenyn, Ceropegia, Epaod yn y sinema


<olaf nesaf>