Barn 98 (Hydref 2016): Origami DNA, Philae, Proxima Centauri

Mae hi’n dal yn fyw yn y cof ers yn union hanner can mlynedd, ac wedi codi o dro i dro yn fy narlithoedd coleg yn y cyfamser. Nid oherwydd rhan ddramatig Raquel Welch mewn jumpsuit tynn – ond oherwydd yr olygfa ar y diwedd lle (rhybudd difetha) y llyncir Donald Pleasance gan gell gwaed wen. (Rhywsut daw Pleasance yn ôl yn fyw i chwarae rhan Blofeld yn You only live Twice (1967); ond dyna’r sinema ichi.) Sôn wyf, wrth gwrs, am y ffilm Hollywood Fantastic Voyage (1966). Yn y ffilm chwistrellir tîm o ddoctoriaid mewn llong danfor, y Protews,  wedi’u lleihau yn sylweddol, i mewn i ymennydd claf pwysig er mwyn ceisio ei wella.  Enillodd Osgar am ei heffeithiau arbennig.

Ond yn ein hoes technoleg garlamus, ni fydd yn hir cyn i’r gwir oddiweddyd y dychymyg. Perthyn  peiriannau microsgopig, maint celloedd gwaed gwyn a llai, i’r hyn a elwir yn nanodechnoleg.  Hyn oherwydd bod modd eu mesur mewn nanomedrau. (Nanomedr (nm) yw un mil miliynfed (biliynfed) rhan o fetr. Byddai deg atom gefn wrth gefn yn creu llinell tua un nm o hyd.)  Mae molecylau biolegol – megis haemoglobin, lliw coch y gwaed – yn glystyrau o rai cannoedd neu filoedd o atomau ac yn mesur rhai nanomedrau ar eu traws.  Peiriannau electro-fecanyddol yw ensymau a’r holl deulu o folecylau  sydd wrth wraidd bywyd ac mae enghreifftiau ohonynt yn symud – a hyd yn oed yn troelli fel modur. Yn holl bwysig, mae modd eu rheoli gan weddill y corff.  Nid syndod, felly, yw bod meddygon yn edrych at y rhain am ysbrydoliaeth i greu robotiaid bychain i’w chwistrellu i’r gwaed i ailadrodd campau criw’r Protews. Pwysleisiodd dau bapur diweddar pa mor agos y maent i wireddu hyn.  Ers rhyw ddeng mlynedd bu modd defnyddio’r ddawn i “ysgrifennu” DNA, moleciwl hanfodol geneteg, i greu “carthenni” nanosgopig (DNA yn lle edau wlân). Yna eu cau – megis cwd cysgu – a’u hagor ar gyfer derbyn neges.   Gelwir hyn yn Origami DNA ac fe’i dyfeisiwyd gan Paul Rothemund, o Caltech, yn 2006. I’w defnyddio, gellir amgáu cyffuriau neu gemegolion gwenwynig eraill yn y cwd a chwistrellu biliynau ohonynt i wythïen sy’n eu cludo i bob rhan o’r corff. Hyd yn hyn, dim ond mewn anifeiliaid arbrofol y gwnaed hyn. Cynllunnir pob nanobot i gynnwys synhwyrydd – er enghraifft protein sy’n adnabod math arbennig o gell. Un gobaith yw medru adnabod celloedd cancr fel hyn.  Wrth i’r nanobot agoshau at gelloedd targed, mae’r synhwyrydd yn peri i’r cwdyn agor a rhyddhau’r cyffur yn yr union fan i effeithio (neu ladd) y celloedd. Mae’n ddyddiau cynnar, ond eisioes gwnaethpwyd hyn i dargedu celloedd mewn anifeiliaid megis chwilod du.

Mae potensial y driniaeth wedi esgor ar ymchwil byd eang. Yn y cylchgrawn PLoS ym mis Medi cyhoeddodd Ida Bachelet a’i dîm yn Israel ddisgrifiad rhyfeddol o arbrofion lle rheolwyd nanobotau trwy’r meddwl. Yn lle synhwyrydd, clo wedi’i wneud o nano-ronynau haearn ocsid oedd yn cau’r sachau DNA. Trwy anfon signal electromagnetig ato roedd modd eu hagor – a rhyddhau’r cynnwys yn ôl yr angen. Ond nid switsh cyffredin a ddefnyddiwyd gan yr arbrofwr, ond cap (EEG) arbennig oedd yn synhwyro pa mor weithgar oedd ei feddwl.  Wrth iddo ddechrau gwneud campau mathemategol (byddai Gareth Ff. Roberts, a’i Bosau Pum Munud, wrth ei fodd) anfonwyd signal i gawell y chwilod a rhyddhawyd y cyffur.  Pwrpas yr arbrawf oedd profi’r modd y byddai’r dechneg yn gallu trin cyflyrau megis ADHD a schizophrenia mewn pobol trwy ymateb yn uniongyrchol i’w stad o feddwl.

Maes arall lle mae’r gwir yn prysur gyfateb i Hollywood yw mordwyo’r gofod. Er bod campau’r gofodwyr dynol yn dal i ddigwydd yn agos i’r ddaear mae robotiaid eisioes yn “mentro’n fentrus lle nad aeth yr un dyn o’u blaen”.  Ar ddechrau Medi, hiraethus braf oedd gweld llun Philae druan a’i choes yn gam yn yr “awyr” wrth waelod clogwyn ar y gomed 67P/Churyumov-Gerasimenko. Fe gofiwch i Asiantaeth Gofod Ewrop geisio ei glanio yn ofalus ar wyneb y gomed yn ôl yn Nhachwedd 2014 – ond adlamodd (megis y peilot   yn Hwyl ers talwm) dros y gorwel i ebargofiant, gyda dim ond un wich drist ym mis Mehefin 2015. Bu’r fam loeren, Rosetta, yn troelli’r gomed fyth ers hynny gan wneud arbrofion – ac yn awr fis yn unig cyn y bydd  hithau hefyd yn trigo ymddangosodd ei chyw bach melyn, maint set teledu,  ar lun a dynnwyd bron 700 miliwn cilomedr o’r ddaear.

Ond Stori Fawr seryddiaeth y mis hwn oedd darganfod planed yn troelli o amgylch y seren agosaf i’r ddaear. Seren fwyaf llachar cytser Centaurus, sydd i’w gweld nesaf i Groes y De (nid o Gymru yn anffodus), yw alffa-Centauri – a ddisgrifiwyd yn gyntaf gan Ewropead yn 1592. Mae iddi hanes diddorol. Yn 1689 sylweddolwyd mai par o efeilliaid A a B yw, ac yn 1833 llwyddodd Manuel John Johnson (mab ryw John William Roberts o Gwmni India’r Dwyrain – tybed ai Cymro oedd hwn ?) i fesur ei phellter. Y tro cyntaf i hyn ddigwydd i unrhyw seren.  Yn anffodus bu ychydig oedi cyn cyhoeddi’r canlyniad (gan ei bod yn ymddangos yn sylweddol agosach na’r disgwyl) – ac o’r herwydd collodd y flaenoriaeth i seren arall a disgrifir hwn fel yr ail fesuriad gan y llyfrau hanes. Ond roedd llawer mwy i ddod. Yn 1915 darganfu’r Albanwr Robert Innes bod trydedd elfen – seren fechan arall, mor agos i alffa-Centauri A a B fel y’i hystyriwyd yn dripled iddynt. Awgrymodd yr enw Proxima Centaurus – ond dim ond ar yr 21ain o Awst eleni y derbyniwyd yr enw Proxima Centauri yn swyddogol gan yr Undeb Seryddol Rhyngwladol. Ni wyddys i sicrwydd a yw  Proxima yn troelli A & B, ond os yw, mae’n cymryd mwy na 500,000 o flynyddoedd i wneud hynny. Os nad yw, cyd-ddigwyddiad yw’r ffaith eu bod mor agos ar hyn o bryd. Beth bynnag am hynny, dyma’r seren agosaf i’r haul, 4.25 blwyddyn goleuni oddi wrthym.

Dros y degawd diwethaf bu cryn gynnwrf wrth i gannoedd o blanedau tu hwnt i gyfundrefn yr haul ymddangos – yn bennaf yn ffrwyth ymgyrch telesgop gofod Kepler.  Yn 2012 cyhoeddwyd bod i alffa-Centauri B ei phlaned.  Bu cryn drafodaeth, ond bellach ymddengys mai camgymeriad oedd hyn. Felly, cymerodd y tîm rhyngwladol diweddaraf eu hamser i sicrhau gwirionedd y data o Proxima. Er bod y blaned yn eithaf agos at y seren, mae’r seren ei hun yn gymharol wan – corach coch. Felly nid yw’n amhosibl i ddŵr ar ffurf hylif – un o angenrheidion bywyd – fodoli arni.  Oherwydd mai hon fydd y blaned agosaf atom sy’n debygol o fod yn blaned ddyfrol, neidiodd y wasg ar y posibilrwydd o drefnu taith ati i chwilio am fywyd yno; ac mae biliwnydd o Rwsia, Yuri Milner, eisioes wedi cynnig $100 miliwn i’r fenter. Ond gwell iddynt bwyllo. Mewn erthygl ym mis Medi ar Arxiv.org mae James Davenport a’i dîm o Brifysgol Gorllewin Washingon yn dangos bod ffrwydradau solar, sy’n fwy na’r un a welwyd o’n haul ni, yn taro’r blaned bob ugain munud ! Fe fyddai hynny yn bendant yn destun ffilm Hollywood.


Pynciau: Origami DNA, Philae, Proxima Centauri


<olaf nesaf>