Barn 97 (Medi 2016): Siarc yr Ynys Werdd, Cwsg, Adar yn cysgu

Sut oedd Methwsela yn gwybod ei fod yn 969 mlwydd oed ? Neu, yn fwy ymarferol, sut oedd ei ŵyr, Noa – heb sôn am Sem, Cham a Jaffeth –  yn gwybod hynny ?  Yn ddiweddar bu farw tad fy myfyriwr PhD o Fiaffra.  Roedd yn hen, esboniodd; ond yr unig dystiolaeth o ba mor hen ydoedd oedd ei dystysgrif bedydd o 1912. Ni chofiai neb ei oedran pan y’i bedyddiwyd. Wrth gwrs, nid oes gan y rhan fwyaf o anifeiliaid gwylltion gofnod o’r fath. Ond yn aml mae iddynt dystiolaeth fewnol guddiedig.   Yn 2007 cyhoeddodd grŵp o fiolegwyr o Ysgol Eigioneg Bangor eu bod wedi darganfod cragen fôr 405 mlwydd oed. Yr anifail hysbys hynaf. Yn anffodus, lladdwyd “Ming”, fel y’i bedyddiwyd wedi hynny (ar ôl y cyfnod yn hanes Tsieina), cyn sylweddoli pa mor hanesyddol ydoedd.  Erbyn 2013, roedd y tîm wedi mesur yn fanylach nifer y cylchoedd a nodai pob blwyddyn yn ei chragen, a darganfod dim llai na 103 ychwanegol. Fe’i ganwyd, felly, yn 1499 ac erys yr anifail hynaf yn swyddogol. (Yn ffodus nid oedd rhaid newid ei henw o’r herwydd; cychwynnodd ymerodraeth Ming yn 1368.)   Ym mis Awst, yn nhudalennau Science, daeth cystadleuydd iddi.  O’r cefnfor ger Gwlad yr Ia y daeth Ming ac o ddyfroedd yr Ynys Werdd (Kalaallit Nunaat, yn yr iaith frodorol) nepell oddi yno y daw siarcod arbennig yr ynys oer honno (Somniosus microcephalus). Dyma’r Kæstur hákarl y dywedir bod trigolion Gwlad yr Ia yn hoff o’u bwyta. (Rhaid dweud, nad dyna f’ymateb i rai blynyddoedd yn ôl pan gefais y cyfle i’w profi !!)   Gallant dyfu i fod yn 5 metr o hyd, ond yn y 1930au sylweddolwyd mai tua 1 centimedr y flwyddyn yn unig oedd y gyfradd.  Mae’r rhai mwyaf, felly, yn hen – ond pa mor hen ?  I gychwyn ceisiodd John Steffensen, Prifysgol Copenhagen, chwilio am gylchoedd oed yn esgyrn cefn siarcod oedd wedi’u dal ar ddamwain. Ond mae cnawd ac esgyrn yr anifeiliaid mor ddyfrllyd fel nad oedd dim i’w weld. Felly aethpwyd ati i geisio defnyddio techneg gydnabyddedig mewn archaeoleg sef, mesur canran isotop 14 carbon (dyddio 14C). Ond mae gwahaniaeth mawr rhwng y ddau gymhwysiad. Egwyddor y dechneg yw fod cymhareb cyson rhwng yr isotop (prin) ymbelydrol 14C a’r isotop (cyffredin) sefydlog 12C yn neuocsid carbon yr awyr – ac felly, trwy ffotosynthesis, ym meinweoedd popeth byw. Mae’r 14C yn dadelfennu ar raddfa gyson, fel cloc, ond yn hanesyddol cedwir y cymhareb yn yr awyrgylch trwy adweithiau cosmig creu 14C newydd ymhell uwch ein pennau. Ar ôl marwolaeth (asgwrn neu bren) ni adnewyddir 14C y meinweoedd, ac mae modd defnyddio ei ddiflaniad i ddyddio’r marwolaeth. Ond beth am y siarcod ? Eu hoedran cyn marw yw’r nod.  Adnewyddir swmp cyrff byw anifeiliaid yn gyson.  Ond darganfuwyd mai defnydd lens y llygad oedd y darn mwyaf sefydlog. I brofi pa mor sefydlog ydoedd bu rhaid defnyddio un digwyddiad hanesyddol arall – sef ffrwydradau bomiau atomig y 1940au a’r 1950au. Creodd y rhain bwls ychwanegol sylweddol 14C, y bydd modd ei ganfod am ddegau o filoedd o flynyddoedd i’r dyfodol. Roedd gan Steffensen a’i griw dri siarc “ifanc” yr oeddynt yn weddol sicr o’u hoedran a bu modd iddynt ddefnyddio’r pwls atomig i brofi bod defnydd crisialog canol lens y llygad yn ddigyfnewid. Cymharol hawdd, wedyn, oedd dehongli dull yr archeolegydd ar lygaid casgliad o siarcod mawr a oedd wedi’u dal ar gam.   Yr hynaf oedd siarces rhwng 272 a 512 blwydd oed. O dderbyn 400 mlynedd fel ei hoed tebygol, hi oedd o bell ffordd yr anifail asgwrn cefn hysbys hynaf (pan gafodd ei dal), os anwybyddwn Methwsela a sawl un o’i dylwyth. Un darganfyddiad arall yw nad ydynt yn ddigon aeddfed i gael teulu nes eu bod yn 150.  A dyna ni yn cwyno am epil yn ei ugeiniau yn dal yn ddibynnol ar eu rhieni !

Bu dinas Copenhagen hefyd yn y penawdau gwyddonol diweddar am reswm arall.  Am gwsg y tro hwn.  Yn wir, byddai “siarc pen bach cysglyd”, yn gyfieithiad ar gyfer Somniosus microcephalus. Ond cwsg dynol (neu o leiaf gwsg llygod arbrawf) oedd testun Giulio Tononi o Brifysgol Wisconsin-Madison, yng nghynhadledd Ffederasiwn Cymdeithasau Niwrobioleg Ewrop ym mhrifddinas Denmarc ym mis Gorffennaf.  Bu gofyn mawr ers canrifoedd am esboniad ar ein hangen amlwg am gwsg.  Heb gwsg am ychydig ddiwrnodau bydd pobl yn dechrau gweld drychiolaethau. Hebddo am fis, bydd llygod mawr y labordy yn marw. Clirio’r meddwl ar gyfer atgofion a meddyliau drennydd yw un damcaniaeth poblogaidd. A dyma’n union yr hyn mae canlyniadau Tononi a’i dîm yn ei awgrymu. Mae recordydd CD y cof yn gweithio trwy greu cysylltiadau cemegol rhwng celloedd unigol yr ymennydd. Cannoedd o filoedd ohonynt bob dydd. Casglodd y niwrobiolegwyr darnau ymennydd 12 o lygod a fu naill ai ar ddi-hun neu yn cysgu pan eu lladdwyd (offrymwyd yw’r term technegol). Trwy eu torri’n haenau tenau a’u mesur drwy ficrosgop bu modd lleoli a mesur dosbarthiad 7000 o’r cysylltiadau hyn (a elwir yn synapsau). Gwaith pedair blynedd i saith ymchwilydd. Roedd yr ateb yn glir. Tros nos, roedd y cysylltiadau’n teneuo’n sylweddol; o bron i 20%. Y dehongliad yw y cliriwyd yr atgofion di-nod er mwyn rhoi lle i rai newydd. Arhosodd tua 20% yn ddigyfnewid – atgofion o bwys mae’n debyg. Un wers o’r gwaith yw fod angen noson dda o gwsg nid cyn arholiad coleg neu ysgol, ond cyn dod i’r ddarlith neu wers yn y lle cyntaf. Yn ystod cyfnod cwsg dwfn rhythm y nos y bydd hyn ar ei orau, felly bydd natur y cwsg, hefyd , o bwys.

Mewn hanesyn cysylltiedig yn Nature mis Awst, datgelwyd, trwy ddefnyddio dyfeisiadau y gallai adar eu gwisgo, nad oeddent hwy yn eithriad i’r angen am gwsg; hyd yn oed wrth hedfan pellteroedd wrth fudo. Un ateb yw i un hanner eu ymennydd gysgu ar y tro. Prif wrthrych y gwaith oedd adar ffrigad. Nid ydynt yn medru arnofio ac felly rhaid iddynt hedfan yn ddi-stop am hyd at ddau fis.  Weithiau mae’r ymennydd cyfan yn cysgu – ond dim ond ar adegau pan y gwelwyd yr adar yn codi ar gerrynt  cynnes, heb symud eu hadenydd.

Tybed sut mae cof y siarc pen bach cysglyd ? Da iawn o bosib, mae ganddo gryn dipyn o gofio i’w wneud dros 400 mlynedd. Ond beth am Ming druan ? Does ganddo ddim ymennydd o gwbl i wneud y cofio – dim ond symud yn ddigyffro trwy hanes cyn cyfarfod â’i nemesis yn nwylo gwyddonwyr Bangor.  Rhyfedd y’n gwnaed.


Pynciau: Siarc yr Ynys Werdd, Cwsg, Adar yn cysgu


<olaf nesaf>