Barn 96 (Hâf 2016): Ceffalopodau, Diffyg y lleuad, Plastig, Cen

Bydd y Capten Nemo yn troi yn ei fedd dyfrllyd. Mae’r octopwsiaid a’r ystifflogod yn meddiannu’r cefnforoedd ! Yn ôl Zoë Doubleday a’i thîm o Brifysgol Adelaide yn rhifyn diweddar Current Biology,  mae niferoedd y ceffalopodau (anifeiliaid sydd â’u traed ar eu pennau) wedi cynyddu’n gyson mewn arolygiadau pysgota ledled y byd ers y 1950au. Dadleua Doubleday mai ymateb i newidiadau wedi’u gwneud gan ddyn yw hyn. Un dylanwad yw cynhesu’r cefnforoedd, ond hefyd mae gorbysgota wedi arwain at leihad yn y creaduriaid sy’n bwyta’r ceffalopod.  Ond mae’r perthynas yn un gymhleth.  Ymddengys y bydd y cynnydd yn asidedd y moroedd, yn sgil lefelau deuocsid carbon, yn andwyol iddynt. Hefyd, y mae pysgotwyr wedi ymateb yn barod trwy gynyddu’r helfa octopws ac ystifflog i’r fath raddau nes bod hyn yn cael dylanwad ar eu niferoedd mewn rhai mannau o’r byd.  Ar ôl yr Eisteddfod, mwynhewch eich calamares – ond fel popeth sy’n ymwneud â dylanwad dyn ar ei amgylchedd – bydd yn rhaid sicrhau nad ydynt yn ormod o beth da yn yr amser byr.

Nid dynoliaeth yw’r unig beth sy’n effeithio ar yr amgylchedd ac nid yr ystifflog yw’r unig beth i newid ei liw.   Yn gynnar ar fore Llun Medi 28 cafodd nifer helaeth o drigolion Cymru, a’r rhan fwyaf o wledydd yr Iwerydd, wledd i’r llygad wrth i’r lleuad llawn droi’n goch. Bu cryn ddisgwyl. Am y tro cyntaf ers 1982 bu clip, neu ddiffyg, llawn ar y lleuad yn cyfateb i’w symud yn agosach i’r ddaear na’r arfer yn ei gylchdro rhythmig. Roedd hyn yn fwy na’r arfer felly.  Y tro nesaf y gwelir “swper”-lleuad-gwaed, fel y’i galwyd ym mhenawdau’r wasg, fydd 2033.  Ar y cyfan ‘roedd y tywydd yn ffafriol a neb wedi’i siomi o’r herwydd.  Ond …  Bu teimlad ymhlith y gwybodusion nad oedd pethau fel y dylent fod wedi bod; yr olygfa ychydig yn fwll.  Bellach cadarnhawyd hynny.  Ar ôl yr achlysur, casglodd Richard Keen o Brifysgol Colorado fesuriadau oddi wrth arsyllwyr amatur profiadol o sawl gwlad.  Mewn poster a gyflwynwyd i gynhadledd yn Boulder ym mis Mai, datgelodd i’r sioe nefol fod draean (33%) yn llai llachar na’r disgwyl.  Daw lliw coch y lleuadau gwaed hyn o’r ffaith fod peth goleuni yn cyrraedd eu hwynebau er eu bod yng nghysgod llwyr y ddaear. Mae awyrgylch y ddaear yn plygu goleuni megis prism neu lens. Pen coch y sbectrwm a blygir fwyaf a hwn sy’n cyrraedd y lleuad yn bennaf.  Beth felly oedd wedi digwydd y tro hwn ?  Dadl frwd Keen  yw i losgfynydd Calbuco yn Chile ym mis Ebrill echdorri a thaflu llwch ac asid yn uchel i’r awyrgylch. Parhaodd y cwmwl am fisoedd – a chreodd gysgod yr oedd modd ei ganfod ar y lleuad hyd yn oed.  Dyma’r tro cyntaf i Keen weld effaith o’r fath gan losgfynydd mor fach, er iddo astudio dros 30 o enghreifftiau ers 1960.  Gobeithio y bydd modd trefnu i’r ddaear fod ychydig yn dawelach yn 2033.

Ar ddechrau Fehefin fe’m cyflyrwyd i drydar (mae croeso ichwi fy nilyn ar @Deri_Tomos) gan erthygl yn y cylchgrawn Science am arferion junk food ieuenctid y môr. Nid gloddest MacDonald a Burger King ar draethau Llangrannog y tro hwn, ond adroddiad gan  Oona Lönnstedt a Pter Eklöv o Brifysgol Uppsala yn Sweden am hoffter pysgod ifainc o fwyta plastig; yn fwy na’u bwyd naturiol.   Dyma’r adroddiad diweddaraf am effaith yr wyth miliwn tunnell o blastig sy’n cyrraedd y moroedd yn flynyddol.  Dros amser mae’r darnau mawr yn malurio’n ddarnau mân microsgopig.  Ers blynyddoedd sylweddolir y bydd gwaddod y llwch plastig yma i’w weld am biliynau o flynyddoedd i’r dyfodol yng nghreigiau tywodfaen (neu plastigfaen ?) sy’n ffurfio heddiw. Mae nifer gynyddol o ddaearegwyr yn awgrymu o ddifrif y dylid diffinio epog daearegol newydd – yr Anthroposin – i ddisgrifio’r etifeddiaeth barhaol hon.   Yn y cyfamser mae’r gronynnau yn cronni ym mherfeddion y pysgod. Mewn arbrofion labordy, dangosodd Lönnstedt ac Eklöv effeithiau sylweddol.  Gwelwyd lleihad yn neor wyau – ac yna ‘roedd yr epil yn llai, arafach ac yn fwy tebygol o gael ei fwyta na’i frodyr a’i  chwiorydd di-blastig.  Yn rhyfedd, ymddengys bod rhywbeth am y plastig sy’n ei wneud yn fwy deniadol na’r plancton a roddwyd iddynt i’w fwyta. I’r ecolegwyr dyma ran, o leiaf, o’r rheswm pan fod draenogiaid a phenhwyaid yn diflannu o Fôr y Baltig. Da, felly,  yw cael dweud fod gwrandawiad yn Senedd Gwledydd Prydain, a gynhelir wrth imi ysgrifennu, yn ystyried a ddylem ddilyn yr Unol Daleithiau gan roi terfyn ar ddefnyddio micro-ronynnau plastig mewn cynhyrchion cosmetig.  Bu cryn sôn am rinweddau’r rhain mewn sebonau wyneb a chroen (exfolinant) mewn hysbysebion ar y teledu dros y flwyddyn ddiwethaf.   Ar hyn o bryd, mae’n debyg fod rhwng 16 a 86 tunnell o’r rhain yn mynd i’r dŵr gwastraff bob blwyddyn yng ngwledydd Prydain. Gan eu bod yn rhy fach i’w hidlo gan offer trin dŵr, maent oll yn cyrraedd yr amgylchedd naturiol.

Ond efallai nad drwg i gyd yw neges gwyddoniaeth i’r diwydiant glendid personol y mis hwn.  Mewn erthygl yn Scientific Reports y mis diwethaf cred Zhijue Xu o Brifysgol Shanghai Jiao Tong a’i gydweithwyr eu bod wedi darganfod sail un o felltithion y dyn neu’r ddynes sydd am greu argraff – cen gwallt (dandruff).  Yn 1874 cynigodd y microbiolegydd o Ffrainc, Louis-Charles Malassez mai ffwng, a elwir bellach yn Malassezia restricta, oedd wrth wraidd y broblem.   Bellach, trwy ddadansoddi DNA fflora’r pen, mae Xu wedi dangos fod Malassezia yn gyffredin i bron pawb – boed ganddo gen neu beidio. Ar y llaw arall, roedd gan ddioddefwyr fwy o’r bacteriwm Staphylococcus a llawer llai o’r bacteriwm Propionibacterium na’r holliach.  Tra bo beirniaid yn gofyn beth sy’n dod yn gyntaf – y cen neu ddiffyg cydbwysedd bacteria “da” a “drwg” – mae Xu yn awr yn chwilio am driniaethau gwallt a fydd o gymorth.

Un o’m negeseuon blynyddol i’m myfyrwyr Bioleg, os ydynt am yrfa lwyddiannus sicr, yw gweithio ym myd cosmetig a byd harddwch. Mae yno hen ddigon o heriau gwyddonol difyr –  a chyflenwad dihysbydd o gwsmeriaid !   Mwynhewch yr haf.


Pynciau: Ceffalopodau, Diffyg y lleuad, Plastig, Cen


<olaf nesaf>