Ers eu cychwyn, ‘rwyf wedi bod yn disgrifio technegau GM peirianneg genynnau fel fersiwn fodern o drawsblanni ac impio organau. Mae gosod genyn newydd mewn cell megis ail osod aren neu galon mewn corff sâl. Un gwahaniaeth mawr, wrth gwrs, yw ei fod yn anghyffredin i osod sawl calon neu aren ychwanegol mewn corff ! O ddarllen papur diweddar yn PNAS gan Pal Miliga o Brifysgol Rutgers, sylweddolaf nad oeddwn mor bell ohoni wedi’r cyfan. Y papur yw’r diweddaraf i ddangos fod genynnau yn croesi’r ffin rhwng y ddau ddarn wrth impio un darn o blanhigyn i un arall. Mae’r dechneg hon yn gyfarwydd i arddwyr, yn arbennig wrth dyfu rhosynnod a choed ffrwythau. Y nod, fel arfer, yw gosod canghennau math neu fathau ffrwythlon a chynhyrchiol ar fonyn sy’n gwreiddio’n gryf. Mae’r holl rododendron “gwyllt” sy’n gymaint o bla i awdurdodau Parc Cenedlaethol Eryri yn deillio o’r bonau cryfion hyn a ddefnyddiwyd i gynnal yr amrywiaeth eang o flodau hardd – ond gwantan – a oedd mor hoff gan gyn-perchnogion plastai’r ardal. Mae’n debyg i’r dechneg hon cychwyn ryw dair mil o flynyddoedd yn ôl. (Mae’r arfer o blanni doriadau coed, megis ffigys ac olewydd, yn mynd yn ôl yn llawer bellach; i’r bedwerydd mileniwm cyn Crist.) Yn 2009, dangosodd Ralph Bock o Athrofa Ffisioleg Moleciwlar Planhigion Max Planck ym Mhotsdam (nepell o leoliad y ffilm ddiweddar – Bridge of Spies – am ffeirio ysbiwyr yn ystod y rhyfel oer) bod cloroplastau yn cyfnewid ar draws “bont” impiad. Cloroplastau yw’r organynnau sy’n gyfrifol am ffotosynthesis – ac mae iddynt eu genynnau eu hunain. Yn 2014, profodd Bock fod cnewyllynnau celloedd hefyd yn croesi’r bont ac yn cymysgu a chelloedd yr ochr draw. Yn y cnewyllyn mae’r rhan fwyaf o’r DNA – sef genynnau’r planhigion. Bellach mae’r tîm o America wedi dangos yr un peth am fitocondria – y casgliad olaf o enynnau sy’n gyfrifol am ymddygiad planhigion. Trwy brofi fod modd cyflwyno genynnau o un planhigyn i un arall trwy impio – mae’r biolegwyr wedi dangos fod y broses o greu cnydau GM yn un hen, hen iawn. Dywed Maliga a Bock ei fod yn debygol iawn bod ffermwyr wedi manteisio ar y ffenomen hon yn ddiarwybod dros y canrifoedd – ac ein bod wedi mwynhau eu cynnyrch ers cyn cof. Ond mae gwedd arall i’r darganfyddiad diweddaraf. Er bod technegau GM cyffredin ar gael ar gyfer y cnewyllyn a’r cloroplast, ar hyn o bryd nid oes modd gwneud yr un peth ar gyfer mitocondria. Mae hyn yn bwysig oherwydd yn y mitocondrion mae nifer o briodoleddau sy’n ymwneud a iechyd a chynnyrch cnydau. Yn bresennol maent y tu hwnt i’r dechnoleg. Mae’r GM “naturiol” yma yn cynnig modd i gyflwyno mitocondria a’u genynnau wedi’u haddasu i blanhigion.
Daeth hanes arall yn ddiweddar i gynhyrfu’r rhai hynny sy’n poeni am effeithiau dynoliaeth ar natur. O Awstralia y tro hwn. Pechwyd yn wreiddiol trwy gyflwyno pysgod carp yno o Ewrop yn 1859. Roeddent wrth eu boddau, ond yn fuan iawn ‘roeddent yn tarfu ar eu Cymdogion. Yn nalgylch y Murray-Darling – sy’n dyfrhau dros 10% o holl diroedd y cyfandir, er enghraifft, cynrychiolant 80% o holl bysgod yr afonydd. Mae’n hanes tebyg i hwnnw am ryddhâi cwningod – hefyd, trwy gyd-ddigwyddiad, yn 1859. Yn y 1950au cyflwynwyd mycsomatosis i geisio rheoli’r rhai hynny. Ers saith mlynedd mae’r CSIRO, asiantaeth ymchwil cenedlaethol Awstralia, wedi cynllunio ymateb tebyg ar gyfer y carp. Y dewis yw’r firws Herpes. Mae math ohono, herpes y carp, yn heintio’r pysgodyn yn unig. Bydd llywodraeth Awstralia yn dechrau rhyddhau’r firws i ddyfroedd y Murray-Darling ar ddiwedd 2018. Cost yr ymgyrch fydd A$15 miliwn – yn bennaf i waredu’r miliynau o dunelli o gyrff marw’r pysgod y disgwylir o’r dyfroedd. Yn unol â phroblem gwrthiant antibiotigion, ac yn wir i fycsomatosis ymhlith cwningod – disgwylir i effaith yr herpes gwanhau ar ôl ryw bedair blynedd. Y gobaith yw y bydd modd rheoli’r carp sy’n goroesi trwy foddau eraill cyn i hynny ddigwydd. Mae’r wasg ledled y byd wedi bedyddio’r prosiect yn “Carpageddon” ! Os ydych yn hoff o bysgota, gwell bwcio eich taith i Awstralia cyn 2018 !
Ond i aros ym myd “natur v natur”. Yn rhifyn mis Mawrth o’r cylchgrawn Ibis mae disgrifiad o aderyn yn cloddio, neu amaethu, coeden am fwyd. Mewn hanes sy’n atgofus o Foses yn yr anialwch, mae nifer o adar Awstralia yn ddibynnol ar y manna sy’n syrthio o’r coed Eucalyptus. Ond mae un rhywogaeth – y Pardalote Deugain Smotyn – yn mynd ymhellach nag aros i’r Goruwchnaturiol. Mae’n torri’r coed yn fwriadol er mwyn cynyddu’r cynhaeaf. Gwelodd Samuel Case ac Amanda Edworthy o’r Brifysgol yn Canberra yr adar yn sgraffinio bonion y dail ac yna aros hyd at ryw dridiau i’r manna ychwanegol ymddangos. Dyma’r enghraifft gyntaf yn Awstralia o’r ymddygiad yma – sy’n anghyffredin yng ngweddill y byd hefyd. Ymddengys mai hwn yw brif fwyd cywion yr adar yma, sydd o dan fygythiad. Mae adar eraill – y porwyr mêl, yn ogystal ag anifeiliaid megis y llithrydd siwgr (sugar-glider) yn manteisio ar waith yr aderyn smotiog. Un math o Eucalyptus yn unig sy’n gwneud hyn. Mae Case ac Edworthy yn pwysleisio pwysigrwydd ei choedwigoedd wrth gynllunio cadwraeth y Pardalote. Tybed a fyddai modd impio canghennau Eucalyptus viminalis wrth goeden fwy cyffredin ? Beth fuasai gan Moses i’w ddweud ?