Barn 94 (Mai 2016): Y Côf, Drych, Bwyd sothach

Hoffech chi gofio popeth ?  Nid dim ond enwau, rhifau ffôn a phenblwyddi – ond popeth; fel petaech wedi gwneud fideo a mwy o’ch bywyd cyfan. Bellach, wrth gwrs, mae rhai’n ceisio gwneud hyn yn rhannol gyda’u camerâu personol. Ond, i ryw 50 o bobl y gwyddom amdanynt, mae pob moment o ddarnau helaeth o’u bywydau ar gof yn barod. Pob llun a theimlad – gan gynnwys, eu hwyliau a’r tywydd a hyd yn oed pa mor dynn oedd eu dillad.  Enw’r cyflwr yw Hyperthymesia. Dim ond ar ddechrau’r degawd diwethaf y darganfuwyd yr enghraifft gyntaf. Gwraig o’r Unol Daleithiau o’r enw Jill Price.  Oherwydd y cyhoeddusrwydd iddi yn y wasg – cyfaddefodd nifer o rai eraill bod ganddynt yr un cyflwr a chychwynnodd ymchwil go iawn iddo. Erbyn heddiw, mae James McGaugh ym Mhrifysgol Califfornia, Irvine, yn astudio deg ar hugain enghraifft.  Mewn erthygl yn rhifyn Mawrth o Memory mae McGaugh a’i dîm yn datgelu nad yw eu dawn creu atgofion yn arbennig. Maent yn cofio wynebau a swyddi pobl, er enghraifft, yn debyg i’r rhelyw ohonom. Yn wir, wrth gofio digwyddiadau’r wythnos gynt nid oes gymaint â hynny o wahaniaeth. Ond erys manylder yr atgofion heb bylu am fis, blwyddyn a hyd yn oed ddeng mlynedd i’r rhai hynny sydd ag Hyperthymesia. Dehongliad McGaugh yw bod eu hymennydd yn ddiarwybod a diysgog yn ymarfer yr atgofion yn barhaus – fel rhyw fath o obsesiwn, OCD. Yn wir, nid yw’n anghyffredin iddynt arddangos ambell symptom arall felly. Ond nid yw’r cyflwr ei hun yn “glefyd” ac nid yw’n broblem i’r rhai hynny sy’n ei feddu, heblaw am y ffaith nad ydynt yn anghofio ambell ddigwyddiad y byddai’n well ganddynt, efallai, ei anghofio.   Un gobaith yw, wrth ddeall sut mae’r broses yn gweithio, y bydd modd cynorthwyo’r rhai hynny sy’n dioddef y gwrthwyneb, sef cof gwael yn arwain at iselder a phryder patholegol – sefyllfa nid anghyffredin.

Wrth gwrs, wrth ei gofio,  peth defnyddiol yw adnabod yr hyn yr ydych yn ei weld. Delwedd ohonoch eich hunan mewn drych, er enghraifft. Daw ysgytwad sawl golygfa ffilm arswyd wrth sylweddoli nad ydy’r adlewyrchiad yn ymddwyn yn yr un ffordd â’r gwrthrych ! Hyd y gŵyr gwyddonwyr ymddygiad, anghyffredin iawn yw’r ddawn i adnabod eich hun mewn drych ymhlith anifeiliaid. Y dehongliad yw nad yw gweddill yr anifeiliaid yn ymwybodol o’r “hunan” – ffactor bwysig wrth asesu deallusrwydd.  Yn 1970 datblygodd Gordon Gallup, o Brifysgol Albany, Efrog Newydd, brawf am hyn. Ymateb naturiol y rhan fwyaf o greaduriaid uwch yw ymosod ar adlewyrchiad ohonynt eu hunain, gan ei weld fel anifail bygythiol. Yna ar ôl deall nad yw’n beryglus, colli diddordeb ynddo. Ond i weld a oedd anifail yn sylweddoli mai delwedd o’i hunan ydoedd, fe baentiodd smotyn o baent coch ar ei dalcen, ac yna’i gyflwyno eto i’r drych. Dim ond trwy’r drych ‘roedd modd iddo weld y paent. Ymateb naturiol person, wrth gwrs, fyddai rhoi ei fys ar y smotyn ar ei wyneb ei hun (nid y drych) – gan ei fod yn sylweddoli mai ef yw. Darganfu Gallup mai grŵp dethol iawn sy’n ymateb fel hyn – sef ein perthnasau agosaf, y Tsimpansi a’r Orangwtan, gydag ychydig o dystiolaeth ar gyfer dolffinod, piod Ewrop, mwncïiod rhesws ac un Eliffant o Asia. (Roedd angen drych arbennig o fawr ar gyfer hwnnw.)  Efallai nad yw’n syndod nad yw cathod cŵl yn meddu’r ddawn hon – na chŵn ychwaith.  Ond bellach ymddengys bod aelod arall o’r clwb – y Cawr Forgath (Giant Manta Ray). Wrth gwrs, does dim bysedd gan bysgodyn i archwilio smotiau paent, ond mewn erthygl yn y rhifyn diweddaraf o’r Journal of Ethology, mae Csilla Ari o Brifysgol De Fflorida yn disgrifio beth ddigwyddodd wrth iddi osod drych mewn tanc o’r pysgod. I gychwyn nid oedd llawer o ymateb, heb yr un arwydd eu bod yn cydnabod pysgodyn arall. Yna dechreuasant ysgwyd eu hesgyll a symud o ochr i ochr o flaen y drych yn fwy nag arfer. Yn olaf, dechreusant chwythu swigod o flaen y drych. Rhywbeth nad ydynt yn ei wneud fel arfer. Mewn cyfweliad i’r New Scientist, nid  yw Gallup yn sicr a yw hyn yn dystiolaeth bendant bod y Manta yn hunan ymwybodol – ond cred Marc Bekoff, ymchwilydd arall yn y maes, bod y canlyniadau yn arwyddocaol a bod angen mesuriadau mwy gwrthrychol – megis sganiau niwrolegol wrth i’r anifeiliaid weld yr adlewyrchiadau.

Da gweld bod tystiolaeth wrthrychol yn cael effaith ar adroddiadau Rhaglen Ymchwil Newid Byd yr Unol Daleithiau (USGCRP). Corff yw hwn sy’n cydlynu ac integreiddio ymchwil tair ar ddeg o adrannau ac asiantaethau’r llywodraeth. Honnir mai hwn yw buddsoddwr mwyaf y byd yng ngwyddoniaeth newid hinsawdd a’i oblygiadau i gymdeithas.  Yn ei adroddiad blynyddol, Our Changing Planet, eleni cynhwysir sylw sy’n agos iawn at fy nghalon – a’m maes ymchwil. Un ddadl a ddefnyddir gan y rhai sy’n ceisio esgusodi ein dylanwad ar yr hinsawdd yw y bydd rhagor o ddeuocsid carbon yn yr awyr yn cynyddu tyfiant cnydau – ac yn arwain at fwy o fwyd i’r boblogaeth gynyddol. Wedi’r cwbl, deuocsid carbon, trwy ffotosynthesis, yw “bwyd” y planhigion hyn. Ar ôl llawer o ymchwil, ymddengys bod peth gwirionedd yn yr honiad. Mae cynhaeaf cnydau holl bwysig megis gwenith, reis a thatws yn cynyddu o’r herwydd. Ond, mewn stori sy’n ddrych i un arall o broblemau’r ddynoliaeth – carbohydradau, ac nid proteinau a fitaminau sy’n cynyddu. Mwy, efallai, ond “junk food”, llawn o garbohydrad a siwgr, ydy’r cynnydd.  Ac mae tro arall yng nghynffon yr hanes.  Wrth i ddeuocsid carbon gynyddu, mae planhigion yn cau’r mân-dyllau yn eu dail, y stomata, sy’n gyfrifol am ymgorffori’r nwy. Adwaith greiddiol yw hyn i leihau yr angen am ddŵr arnynt. Fe gollir dŵr trwy’r un fân-dyllau. Peth da i oroesiad y planhigyn, efallai, ond y llifeiriant dŵr hwn sy’n tynnu’r mineralau o’r pridd i’r cnydau. Mae defnyddio llai o ddŵr yn creu cnydau tlotach yn yr elfennau hyn sydd mor bwysig i’n hiechyd ni  – ac yn troi ein bwydydd, gan gynnwys saladau a grawnfwyd, yn fwy fyth o “sothach” – boed yn organig neu beidio. Atgof, os oes unrhyw berygl anghofio hynny, bod popeth yn y byd hwn yn gyd-gysylltiedig.


Pynciau: Y Côf, Drych, Bwyd sothach


<olaf nesaf>